A B

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Enwau a drafodir yma

Afon Ddôl Bowls   Bodesi   Braichmelyn   Braichtalog Bryn BELA   Bryn Cul  Bryn Llys  BrynTwrw  Bwlch Molchi

Afon Ddôl

Dydy hi fawr o afon; rhyw bwtan bach, cwta ganllath o hyd, yn ymddangos fel pe o le’n byd un ochr i’r  ffordd rhwng Grisiau Cochion a Thyn Twr, ger ceg y llwybr i’r parc, gan lifo i ymuno efo Ogwen rhyw ganllath yn is na Phont y Twr. Mae mor fychan fel nad oes fawr neb o drigolion yr ardal heddiw yn gwybod ei henw, na, hyd yn oed, yn gwybod fod ganddi enw. Ond mae ganddi un, ac mae ganddi hanes, ac mae ganddi ei grym. Ar dywydd gwlyb iawn, mae’n gorlifo ei glannau yn rheolaidd, ac yn troi’n afon go iawn. Ac mae’n sicrhau yr ardal o’i chwmpas bob amser yn oerach na’r ardal o’i chwmpas.

Afon Ddôl ydy hon, ac mae hi wedi dioddef oherwydd Chwarel Cae Braich y Cafn, oherwydd mae hi, a Llyn Meurig gerllaw,( oedd yn llyn gydag arwynebedd o wyth acer), wedi diflannu o dan domen y chwarel ers ymhell dros ganrif. Diflannu hefyd wnaeth afon Meurig, a lifai o’r llyn i afon Ddôl. Chwydodd y chwarel ei gwastraff i lenwi’r llyn a’r afonydd, ond ni lwyddodd i’w dileu; dim ond eu cuddio y mae’r domen; mae’r llifogydd rheolaidd ar y lôn gefn ger Bryn Meurig yn dystiolaeth fod dyfroedd y llyn, a lli’r afonydd, yn parhau yn rym nas gorchfygwyd, ac mae’r pwt o afon bresennol sy’n llifo o berfedd y domen, yn dangos hynny’n glir, hefyd.

Pam afon Ddôl? Yn aml iawn, mae afonydd, yn enwedig rhai llai, yn cymryd arnynt enw’r tir y rhedant trwyddo; yn aml, hefyd, maent yn colli eu henw gwreiddiol, ac yn cymryd arnynt enw’r tir hwnnw. Dyna ichi afon Llan, sy’n rhedeg trwy Lanllechid, fel un enghraifft lleol. Cymryd ei henw o’r tir y rhed trwyddo wnaeth afon Ddôl, hefyd. Ym 1768 yr oedd dwy fferm fechan o’r enw Dôl y Parc, un yn 14 acer, a’r llall yn 22 acer. Roeddynt yn amlwg unwaith yn un fferm, ac yn ffinio gydag Ogwen. Diddorol fyddai gwybod lleoliad y parc sydd yn yr enw, sef yr un parc ag sydd yn enw’r daliad cyfagos Coed y Parc. Roedd daliadau Brynllys, castell, a Bryn Byrddau gerllaw, sy’n awgrym pryfoclyd o fodolaeth ty rhyw uchelwr ar un adeg, a gallai’r parc fod yn gysylltiedig â hynny. Beth bynnag, fe geid Coed y Ddôl, hefyd, ble mae rhan o Barc Meurig heddiw, gyda’r gweddill o dan y domen. Yn 1851 nodir, am Goed y Ddôl ‘ rent reduced 20 shilling a year for land covered with rubbish’ ( sef y domen ). A dyna fu hanes ffermydd Ddôl, y rhan fwyaf o’r coed, a’r rhan helaethaf o’r afon a redai trwy eu tir, diflannu o dan domen Chwarel Cae.

Ond mae hi’n dal yno, yn dal i lifo o’i chaethiwed dan y domen, ac allan ohoni i’w rhyddid o ganllath, gan ein hatgoffa o rym ei lli’.

Trueni fod cyn lleied o drigolion yr ardal yn cofio ei henw heddiw.

Bodesi

Fferm fynyddig sylweddol yn Nant y Benglog yw Bodesi. Trafodir yr enw ‘bod’ mewn enwau lleoedd yn fanwl gan Syr Ifor Williams, Yr Athro Melville Richards, ac eraill, a nodant ei fod   a) yn gyffredinol yn enw hen   b) a) yn golygu ‘lle mae rhywun yn byw.      Yn debyg iawn i’r gair ‘tref’ roedd yn dynodi tir yn perthyn i benteulu penodol, a chartref hwnnw a’i deulu. Dyna sy’n gyfrifol am y ffaith mai enw personol sy’n dilyn y ‘bod’ yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, er, ambell dro, gallai lleoliad, neu nodwedd arbennig ddilyn y Bod, megis yn Bodafon ( ond nid yr un ger Llannerchymedd ), a Bodysgallen. Erbyn heddiw, mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn ffermydd, a, chan amlaf, yn ffermydd sylweddol. Fodd bynnag, noda’r arbenigwyr fod ‘bod’ weithiau gyda cysylltiad crefyddol iddo , efallai yn cyfeirio at eglwys neu sefydliad crefyddol, a chyfeirir at enghreifftiau megis Bordedern, Botwnnog, Boduan, ac eraill. Mae’n arwyddocaol mai enwau ar bentrefi, neu gymunedau yw’r rhain, ac nid enwau ar ffermydd unigol.

O safbwynt hynafiaeth, at ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o’r enwau ‘Bod’ yn perthyn i ganrifoedd cynnar y Canol Oesoedd; mae llawer iawn ohonynt ym Môn, sy’n adlewyrchu patrwm poblogaeth y cyfnod. Nid yw pob un, fodd bynnag, yn hen; cymrwch Bodforus, ym Mraichmelyn, a adeiladwyd yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif, ac a gymerodd enw cyntaf ei berchenmnog, sef Morris Jones, ‘Yr Hen Broffwyd’.

O safbwynt Bodesi, mae’n debyg mai enw person ‘Esi’, neu’r enw Beiblaidd ‘Eseia’ sydd yn yr enw, ac ,felly’n golygu ‘ Cartref Esi/ Eseia’

Bowls

Mae’r enw ger y fynedfa heddiw yn adlewyrchu yr ynganiad lleol, sy’n cyfateb i’r Saesneg am luosog ‘pêl’, neu’r gem hynod o boblogaidd a chwaraeir ar lawntiau hyd a lled y wlad, gan gynnwys Bethesda. Anodd gweld fod gan yr un o’r ystyron hynny fawr i’w wneud gyda’r tyddyn 10 acer yn Llanllechid. Yn 1768 yr enw oedd Powls, sy’n dod â ni ychydig yn nes at yr ystyr gwreiddiol.

Yr hyn y gallwn ei ddweud i sicrwydd am yr enw yw nad yw yn air cynhenid Cymraeg, gan nad yw’r cyfuniad LS ar ddiwedd gair yn bod mewn unrhyw air o’r iaith. Yr unig air mewn geiriadur sy’n gorffen gyda’r cyfuniad hwnnw yw ‘ffals’, ac mae hwnnw’n fenthyciad uniongyrchol o’r Saesneg. Mae tri chyfuniad cyffredin LS ar derfyn gair yn y Saesneg, sef lluosog gair sy’n diweddu efo L / LL ( e.e.  mills, frills, ac ati ), trydydd person unigol berf ( e.e. he fills, she calls) a rhagenw meddiannol ( e.e. the mill’s owner, the will’s writer). Gallwn ddiystyru’r ail mewn enw lle, felly gallai Powls ddod o’r un o’r ddau arall.

Y cynnig sydd wedi ei wneud yw fod enw Powls wedi dod o’r Saesneg St Paul’s, sef yr eglwys enwog yn Llundain. Yn ôl y sôn fe adeiladwyd yr eglwys wreiddiol ddechrau’r 7fed ganrif, a hi, trwy’r Canol Oesoedd, oedd canolbwynt y ddinas. Fe’i difrodwyd gan Dân Mawr Llundain yn 1666, a chynlluniwyd, ac adeiladwyd, yr eglwys gadeiriol bresennol hardd gan Christopher Wren yn negawdau olaf y ganrif honno. Yr awgrym ydyw fod y daliad Bowls, wedi ei enwi, neu, efallai, ei flasenwi, yn lleol yn St Pauls. Gallai hyn fod yn rhan o’r arfer o enwi llefyd ar ôl llefydd pell, megis Boston House, ym Methesda, Caifornia ar Ynys Môn, neu beth am America yn enw ar dy ym Mrynsiencyn? Ar y llaw arall, ac yn fwy tebyg, gallai fod yn perthyn i’r nifer o enwau difrïol ar roddid ar dai, enwau megis Nyth Cacwn, neu’r anfarwol City Dulas am ddyrnaid o dai ym Môn. Efallai fod rhyw breswylydd rhyw oes yn meddwl fod ei gartref yn fwy crand nag ydoedd, a bod ei gymdogion wedi dweud ei fod yn meddwl ei fod yn byw yn eglwys Sant Powls. Pwy a wyr?

Braichmelyn        Braichtalog  

Mae defnyddio enwau rhannau o’r corff i ddisgrifio gwahanol rannau o’r tirwedd yn gyffredin iawn yn y Gymraeg. Mewn oes pan oedd pobl yn sylwi yn llawer mwy manwl ar y byd o’u cwmpas, ac yn gwahaniaethu’n fanwl rhwng gwahanol fathau o dirwedd, roedd gan bob rhan o’r tir o amgylch, a bob ffurf ar dirwedd ei enw, gyda’r enw ar bob ffurf yn cyfleu yn glir sur fath o dirwedd ydoedd. Yn aml defnyddid geiriau cyffredin am rannau o’r corff i i gyfleu math arbennig o le, neu dirwedd. Rydym yn sôn am droed mynydd, am dalcen ty, am lygad y ffynnon, am ‘ysgwydd bell y bryn’, ‘ am ‘fron’ a ‘bronnydd’ ( a’r gwrywaidd ‘bryn’, ‘bryniau’), ac mae ‘esgair’, sef gair arall am ‘goes’, neu ‘aelod o’r corff’, yn gyffredin mewn enwau llefydd e.e. Esgair Llyn, yng nghân Dafydd Iwan, Esgair Ceiliog, pentref ger Machynlleth, Esgair Felen ar yr Elidir Fawr, ac yn y blaen.

Un o’r rhain yw braich, sef rhan o’r mynydd sy’n ymestyn allan o’i brif gorff.

Yn achos Braichmelyn mae’n debyg fod y  ‘melyn’ yn disgrifio lliw cyffredinol oherwydd rhyw dyfiant oedd yn gorchuddio llawer ohono. Mae’n bosibl, hefyd, ond yn llai tebygol, y gallai’r ‘melyn’ gyfleu’r ffaith fod y bryn yn llygad yr haul am y rhan fwyaf o’r dydd; llai tebygol oherwydd mai ‘gwyn’ neu ‘golau’ a ddefnyddir amlaf am dir sydd yn llygad yr haul.

Mae Braichtalog, wedyn, yn cynnwys, nid un, ond dwy o’r nodweddion corfforol hyn o ddisgrifio tir. Nid yn unig mae’r tir yn ymestyn o’r mynydd fel braich o’r corff, mae rhan ohono, hefyd, yn ymdebygu i ‘dalcen’  sgwâr ( tal > talog ), yn taflu allan, felly mae’r enw yn golygu‘y rhan o fraich o fynydd sy’n taflu allan fel talcen [sgwâr]

Yn 1768, mae ‘braichmelyn’ yn ymddangos ar arolwg o diroedd y Penrhyn, fel  darn o dir 30 acer oedd yn rhan o fferm sylweddol Tyn Twr. Erbyn 1841 roedd 55 ty o’r enw Braichmelyn yn yr ardal, gyda 350 o bobl yn byw ynddynt, sy’n rhoi cyfartaledd o 7 person ym mhob ty. Mae natur y tai presennol, ynghyd â’u hagosrwydd at y Chwarel, yn dangos eu bod ymhlith y tai moel cyntaf yn y dyffryn. Efallai mai am y tai hyn, neu, yn sicr, am dai cyffelyb, y soniodd Gwallter Mechain yn 1815

When the late Lord Penrhyn became possessed of his Caernarfonshire estate, the number of workmen did not exceed 60  …. But the number at length increased upwards 400. To accommodate this surplus of families, 40 cottages were built on the spot 1790-1800, containing 63 dwellings, many having double apartments

 Fel petaent yn balasau, gyda’u dwy ystafell. Eto, mae’n sicr eu bod, o’u cymharu gyda thai arferol gweithwyr y cyfnod.

One smoky hearth … and one damp litter cell, for it cannot be called a bedroom, are frequently all the space allotted to a labourer, his wife, and four or five children 

Am Braichtalog, does dim cyfeiriad ato, nail ai fel daliad amaethyddol, nac fel rhan o un. Erbyn 1841 roedd 14 ty yno.

Bryn Bela

Ardal fechan yw Bryn Bela, o gwmpas y groesffordd ble mae’r ffyrdd o Dregarth a Rachub yn ymuno gyda’r A5. Heddiw y cyfan sydd o gwmpas y groesffordd yw 3 thy moel, fferm Coetmor, yr hen felin, pedwar o dai Parc y Moch rhyw ganllath i lawr y ffordd, a dau dy Tan y Bryn ychydig ymhellach i lawr tuag at Bont y Pandy. Fodd bynnag, ar un adeg, bu gobeithion mawr y byddai pentref yn datblygu yn y fan hon, a hynny oherwydd ei safle ar y groesffordd, ynghyd â’r gobeithion am lwyddiant chwilio am gopr yn agos ar lan Ogwen  a llechi yn Nolgoch, oedd gerllaw. Yr oedd treialon am gopr wedi digwydd y ddwy ochr i Ogwen, ychydig yn is i lawr yr afon na Phont Coetmor, mor gynnar â’r blynyddoedd 1760-70, gyda mwynwyr o Gernyw yn gweithio yno, a dywed Hugh Derfel Hughes na ‘ddiffoddid canhwyllau yno nos na dydd am saith mlynedd’. Fodd bynnag, daeth y gweithio i ben oherwydd ymrafael gyda Stâd Coetmor, oedd biau un glan i’r afon. Yn ôl Cyfrifiad 1841 pedwar ty oedd yno, dau gyda’r enw Coetmor, a dau o’r enw Bryn Bela, ac mae’n arwyddocaol, o gofio’r cloddio am gopr oedd yn ymyl, mai mwynwr o’r enw Godfrey Marton, a’i deulu, oedd yn byw yn un ohonynt. Roedd dau dy ym Mharc y Moch, a thafarn, y Coetmor Arms, ar y groesffordd. Erbyn 1851, roedd 4 Coetmor Cottage, 2 Fryntirion, Brynbela ( gyda George Twigge yn byw yno efo’i deulu), a chyn bo hir, cafwyd capel bychan heb fod ymhell. Erbyn 1861 roedd 7 ty ym Mharc y Moch, ac roedd Ty Mwyn ( a ymddangosodd fel Ty Moon yn 1871!) yno hefyd. Fodd bynnag, ni wireddwyd y breuddwydion am y copr na’r llechi, nac am ddyfodol y pentref newydd. Symudwyd y capel i Dregarth, i fod yn gapel Penygroes; yn ôl traddodiad lleol symudwyd Ty Mwyn, garreg wrth garreg, i’w ail-godi yng Nghae’r Groes, Rachub; caewyd y Coetmor Arms ( a ddaeth yn Ty Coetmor), ac, yn 1884, agorwyd y rheilffordd o Fangor i Fethesda, gan fynd yn syth trwy’r dreflan, a chwalu tri bwthyn oedd yn ei llwybr. A dyna ddiwedd ar ddatblygiad treflan Bryn Bela

O safwynt yr enw, mae’n un eithaf cyffredin trwy Ogledd Cymru; ceir Bryn Bella ( gyda’r LL ), yn Llanfaes ( Môn), Chwitffordd ( Fflint), Llandyrnog ( Dinbych ) , a Chricieth, ac mae Bryn Bela ( efo L ) ym Mrynsiencyn a Rhoscolyn ( Môn ).

Gellir cael tri ystyr iddo

Yr un lleiaf tebygol yw mai enw merch, Isabella, sydd yma. Roedd Tyddyn Sabel yn y dyffryn, yn ogystal ag yn Llanrug, a Chae Sabel ym Marchwiail, a Llanfaelrhys, ac mae Bella, Isabel, a Sabel  yn enw oedd yn  bodoli.

Ychydig bach mwy tebygol yw mai ‘bele goed’ (pine marten) sydd yn yr enw, a bod yr ardal yn gartref i nifer o’r creaduriaid, neu, efallai, i un bele arbennig. Fodd bynnag, er fod y bele yn greadur hynod o brin erbyn heddiw, diolch, yn bennaf, i giperiaid y stadau mawrion yn Oes y Fictoria, a fynnai ladd pob anifail ac aderyn ysglyfaethus oedd yn peryglu’r ‘gêm’, nid felly’r oedd hi. Roedd y bele yn hynod gyffredin, ac ni fyddai wedi ei gyfyngu i un bryn yn yr ardal. Ffansïol, hefyd, mae’n fwy na thebyg, yw’r esboniad a glywais mai dyma fan lladd y bele olaf yn yr ardal.

Bele goed

Y Bele Goed

Yn drydydd, mae eglurhad llawer mwy syml, ac, yn amlach na heb, yr eglurhad syml yw’r un cywir; fel arfer, ein chwilfrydedd sy’n chwilio am ystyr cymhleth i enw

Yn ôl GPC ‘Bela, bele, belau’ yw

Planhigyn Ewrasiaidd cwrs a gwenwynig o deulu’r codwarth (ac iddo aroglau annymunol) yn dwyn dail blewog gludiog, ffa’r moch, llewyg yr iâr, Hyoscyamus niger:

Saes: henbane.

Bela

Bela

Ac yn y fan honno, mae’n fwy na thebyg, y gorwedd ystyr Bryn Bela, sef bryn ble mae llawer o’r planhigyn bela yn tyfu. Byddai’n bwysig,mewn oes a fu, gwybod ble byddai’r planhigyn hwn, sydd heddiw’n hynod o brin yng Ngogledd Ewrop,  yn tyfu, a hynny oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn sawl meddyginaeth draddodiadol. Roedd iddo rinweddau lladd poen, a defnyddid ef i leddfu poen yn yr esgyrn, crud y cymalau, y ddannodd, peswch,afiechydon nerfol, a phoen yn y coluddion, Oherwydd ei amryfal rinweddau roedd yn blanhigyn hynod o bwysig ar gyfer meddyginiaethau, mor bwysig fel yr aed ag ef i’r America gyda’r mudwyr, ac mae’n fwy cyffredin yno erbyn hynnag yw yma. Roedd mor bwysig fel ei bod yn hanfodol gwybod ble’r oedd digon ohono i’w gael, ac roedd Bryn Bela yn un o’r llefydd hynny. Eto byddai rheswm arall pam y byddai’n bwysig nodi lleoliad y bela; yr oedd, ac y mae,  yn wenwyn i geffylau, a byddai angen i anifeiliaid osgoi’r lle tyfai.

 Bryn Cul

Annedd yn Nhregarth; yn 1768, roedd yn ddaliad o 36 acer, a hwnnw, at ei gilydd, yn ôl enwau nifer o’r caeau, yn dir pur wael – Cae rhedyn, Clwt carregog, Pant y rhedyn, Cae coediog, Yr Allt, Cae coediog isaf, Gors, a Cae eithin. Roedd y rhain yn cymryd dros 15 acer o’r daliad. Yn ogystal, roedd na sawl ‘llain’ yma – cae bychan, cul yw ‘llain’. Gyda llaw, un o’r lleiniau hyn oedd Llain y Talgae, lle’r adeiladwyd y tai o’r un enw yn y ganrif ddilynol. ( ystyr ‘talgae’ yw’r ‘cae pen’ – am ‘tal’ gweler Talysarn)

Dim ond dau le, ac un cae, yng Nghymru sydd gyda’r enw Bryn Cul; mae’r llall yn Aberdâr, ym mhlwyf Ystradfellte. Mae’r cae ar Fynydd Llwydiarth ym Mhentraeth

Am yr ystyr, mae’n hollol ddibynnol ar ynganiad yr ail elfen ‘cul’.Os mai ‘cul’ , gyda llafariad hir, ydyw, yna mae’n cymryd ystyr llafar yr ardal i’r gair, sef ‘cybyddlyd’, ‘crintachlyd’, ‘rhoi dim’, ac yn golygu ‘bryn sy’n rhoi dim cynnyrch’. Byddai hyn yn gweddu gyda natur y tir, fel y soniwyd.

Fodd bynnag, os yw’r llafariad yn hir, a bod y ‘cul’ yn odli efo ‘hill’ Saesneg, byddai ystyr wahanol iddo. Mae ‘cul’ efo lafariad fer, yn golygu ‘’ Bwthyn bychan, cwt, twlc; corlan, odyn’. Efallai ichi gofio i Culhwch, yn y chwedl, gael ei enw oherwydd iddo gael ei eni mewn twlc mochyn ( ‘cil hwch’) am i’w fam golli ei phwyll pan yn feichiog. Gyda’r ystyr hwn, ‘bryn efo un o’r adeiladau hyn uchod arno’ fyddai’r ystyr.

Yr ynganiad lleol, gan drigolion cynhenid yr ardal, yn ddieithriad yw’r ail, sef gyda llafariad fer, sy’n awgrymu’n gryf iawn mai’r ail ystyr sydd i’r enw

Brynllys

Ty moel ger Ysgol Penybryn yng nghanol Bethesda yw Brynllys heddiw, fodd bynnag mae’n cadw hen enw yn yr ardal mewn cof.

Yn 1765 yr oedd Brynllys yn ddaliad bychan 37 acer, gyda’i hanner yn goed. Yn ôl Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid  

Y mae yn sefyll rhwng Afon Ogwen a Choed y Parc, a chredir gan Hynafiaethwyr ei fod o gryn henafiaeth. Wrth dorri sylfeini taiyn y lle, o fewn cof gwr, fe gloddiwyd i fyny lawer o gerrig nadd ….  ac ymddangosent fel pe buasent wedi bod yn fwâu uwchben y drysau, neu y cloerau, a arferid yn lle ffenestri gynt, a chan mai tywodfaen yw y creiglawr, tybir iddynt gael eu dwyn yno rhyw oes o Fôn neu’r Faenol.

Mae HDH yn cyfeirio at adeiladu tai ar y tir; erbyn 1841 yr oedd 8 ty ar y tir, felly hefyd Gyfrifiad hanner canrif yn ddiweddarach. Mae’r Cyfrifiad hwnnw – 1891 – yn gosod y tai nesat at Grisiau Cochion. Canlyniad anochel eu lleoliad oedd iddynt ddiflannu o dan domen y chwarel.

Mae’r enw yn ddiddorol, oherwydd y ‘llys’ ynddo. Mae sawl awgrym fod neuadd, neu lys canoloesol yn yr ardal yma yn rhywle. Ysgrifennais erthygl am Bryn Byrddau yn y wefan Hanes Dyffryn Ogwen, sy’n ceisio cysylltu un o blasdai Tuduriaid Penmynydd efo’r adal hon, oherwydd fod Cae Bryn y Byrddau ar dir cyfagos Ty Hen, ac mai enw’r eglwys wreiddiol, sydd o dan y domen, oedd Eglwys Bryn y Byrddau. Noda HDH fod llys ger Llyn Meurig, ac roedd Ciltreflys ar lethrau Gerlan. Mae rhywbeth yma, ond nis darganfyddir bellach, ac ni ellir profi dim oherwydd fod tomen anferth Chwarel Cae wedi gorchuddio Brynllys a’i chaeau. Eto mae’r enw’ndal yn fyw yn yr ardal, ond does fawr neb yn gwybod pam

Bryn Twrw

Annedd ar Lôn y Wern, Tregarth ay’n enwog, yn benodol, am y llechi addurniedig o waith Arfonwyson sy’n darlunio patrymau seryddol cymhleth. Yn 1768 roedd yn ddaliad 14 acer yn naw o gaeau bychain. Mae’n ddiddorol nodi mai enw un o’r caeau oedd Cae Bryn Twrw, sy’n awgrymu mai’r cae hwn roed enw i’r holl dyddyn.

Mae enwau sy’n cynnwys yr elfennau tebyg, ‘twrw’, ‘ymryson’, a ‘dwndwr’ yn digwydd sawl yn y Gymraeg. Mae na Ben Bryn Twrw yn Llanbedr y Cennin, Cae Ymryson yng Nghaernarfon, a Dwndwr ym Mhenfro. Neu beth am Trehwbwb a Cwmhwbwb ( o’r Saesneg ‘hubbub’), enu Gae Sgandal yn y De. Nid golygu fod swn yno mae’r enw; yn hytrach nodi fod rhyw anghytundeb am berchnogaeth y tir wedi bod rhyw dro, fod ‘twrw’, nwu ‘ddwndwr’, neu ‘ymryson’  wedi bod amdano. Gallai’r ymrafael fod yn gyfreithiol, neu dim ond yn ddadlau lleol rhwng dau berson, neu ddau deulu. Does gennym ddim syniad erbyn heddiw beth oedd achos yr ymrafael am Fryn Twrw, na’r canlyniad, ond gwyddom mai dyna pam y cafodd yr enw.

Bwlch Molchi

Ymddangosodd y sylwadau hyn gyntaf yn y wefan Hanes Dyffryn Ogwen

created by dji camera

Bwlch Molchi yw’r ffawt daearegol amlwg sydd rhwng Moel Faban a Moel Wnion. Mae’n ffawt rhyfeddol, gan ei fod, yn enwedig o hirbell, yn ymddangos fel petai’n waith dyn, ond, o agos, mae’n amlwg mai Oes yr Ia a fu’n gyfrifol am ei ffurfio. Roedd y gred iddo gael ei ffurfio gan ddyn mewn enw arall a gofnodwyd arno gan William Williams, Llandygai, yn 1802, sef Ffos y Rhufeiniaid. Pam y byddent yn mynd i’r drafferth i’w agor, ni ellir dirnad, ac mae Williams yn gwrthod yr enw, nid ar sail pwrpas, ond ar sail y ffaith nad oes tomenni o bridd yn ei ymyl yn dangos y cloddio.

Mae’r enw yn un rhyfedd. Clywais eglurhad lleol iddo gael yr enw oherwydd fod defaid yn cael eu golchi yno. Mae dau beth yn milwrio yn erbyn hynny. Yn gyntaf, does dim dwr yn rhedeg drwy’r bwlch, lle gellid cronni dwr, a does dim llyn na phwll o unrhyw faint yn ymyl, dim mwy o ddwr nag a geir ar unrhyw ran o’r mynydd ar dywydd gwlyb. Yn ail, mae’r Gymraeg yn gwahaniaethu’n glir rhwng geiriau megis ‘golchi’ ac ymolchi’, ‘gweld’ ac ‘ymweld’, ac ati. Ymolchi yw ‘golchi eich hun’. Does dim lle i ymolchi yn nes i’r bwlch na stafell ymolchi tai gweddol gyfagos iddo!

Ar fapiau OS, ceir yr enw ‘Bwlch ym Mhwll Le’, a chlywais yr esboniad hwnnw yn lleol hefyd. Ar wahan i’r ffaith nad oes pwll yn agos i’r bwlch, nac arwydd daearyddol i un fod yno yn y milflwydd diwethaf, ychwaith, edrychwch ar yr enw. Welsoch chi erioed y fath erthyl clogyrnaidd erioed? Fyddai’r Gymraeg fyth yn derbyn ‘ym mhwll le’ yn naturiol, sy’n gwneud i rywun feddwl mai geiriau wedi eu gorfodi yn sgrechian i gaethiwd ffurf annaturiol i ‘egluro’ Bwlch Molchi ydynt.

O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonell,  fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, is-asiant y Penrhyn 1782-1802, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn  y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

 

At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.

 

Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.