Enwau Llefydd A B

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Enwau a drafodir yma

Afon Ddôl Bala Deulyn Bowls   Bodesi   Braichmelyn   Braichtalog Bronnydd/Pennau’r Bronnydd Bryn BELA   Bryn Cul  Bryn Derwen Bryn Llys  Bryn Poeth BrynTwrw  Bwlch goleuni Bwlch Molchi

Afon Ddôl

Dydy hi fawr o afon; rhyw bwtan bach, cwta ganllath o hyd, yn ymddangos fel pe o le’n byd un ochr i’r  ffordd rhwng Grisiau Cochion a Thyn Twr, ger ceg y llwybr i’r parc, gan lifo i ymuno efo Ogwen rhyw ganllath yn is na Phont y Twr. Mae mor fychan fel nad oes fawr neb o drigolion yr ardal heddiw yn gwybod ei henw, na, hyd yn oed, yn gwybod fod ganddi enw. Ond mae ganddi un, ac mae ganddi hanes, ac mae ganddi ei grym. Ar dywydd gwlyb iawn, mae’n gorlifo ei glannau yn rheolaidd, ac yn troi’n afon go iawn. Ac mae’n sicrhau yr ardal o’i chwmpas bob amser yn oerach na’r ardal o’i chwmpas.

Afon Ddôl ydy hon, ac mae hi wedi dioddef oherwydd Chwarel Cae Braich y Cafn, oherwydd mae hi, a Llyn Meurig gerllaw,( oedd yn llyn gydag arwynebedd o wyth acer), wedi diflannu o dan domen y chwarel ers ymhell dros ganrif. Diflannu hefyd wnaeth afon Meurig, a lifai, yn ôl map Arolwg 1768, o’r llyn i afon Ddôl. Fodd bynnag, mae map diweddarach Arolwg Degwm 1838-40 ond yn dangos yr un afon yn llifo o’r llyn i Ogwen, ond mae’n amhosibl dweud heddiw ai un ai dwy afon sydd yma. Gall mai Afon Meurig yw enw arall arni. Chwydodd y chwarel ei gwastraff i lenwi’r llyn a’r afon(ydd), ond ni lwyddodd i’w dileu; dim ond eu cuddio y mae’r domen; mae’r llifogydd rheolaidd ar y lôn gefn ger Bryn Meurig yn dystiolaeth fod dyfroedd y llyn, a lli’r afonydd, yn parhau yn rym nas gorchfygwyd, ac mae’r pwt o afon bresennol sy’n llifo o berfedd y domen, yn dangos hynny’n glir, hefyd.

Pam afon Ddôl? Yn aml iawn, mae afonydd, yn enwedig rhai llai, yn cymryd arnynt enw’r tir y rhedant trwyddo; yn aml, hefyd, maent yn colli eu henw gwreiddiol, ac yn cymryd arnynt enw’r tir hwnnw. Dyna ichi afon Llan, sy’n rhedeg trwy Lanllechid, fel un enghraifft lleol. Cymryd ei henw o’r tir y rhed trwyddo wnaeth afon Ddôl, hefyd. Ym 1768 yr oedd dwy fferm fechan o’r enw Dôl y Parc, un yn 14 acer, a’r llall yn 22 acer. Roeddynt yn amlwg unwaith yn un fferm, ac yn ffinio gydag Ogwen, yn yr ardal ble mae rhan ogleddol tomen y chwarel heddiw. Diddorol fyddai gwybod lleoliad y parc sydd yn yr enw, sef yr un parc ag sydd yn enw’r daliad cyfagos Coed y Parc. Roedd daliadau Brynllys, Castell, a chae Bryn Byrddau yn bodoli gerllaw, sy’n awgrym pryfoclyd o fodolaeth ty rhyw uchelwr ar un adeg, a gallai’r parc fod yn gysylltiedig â hynny. Ond, eto, mae ‘parc’ yn air cyffredin iawn am gae yn Nyffryn Ogwen, ac mae llawer ohonynt, gan gynnwys tai Hen Barc a thyddyn Parc Newydd. Beth bynnag, fe geid Coed y Ddôl, hefyd, ble mae rhan o Barc Meurig heddiw, gyda’r gweddill o dan y domen. Yn 1851 nodir, am Goed y Ddôl ‘ rent reduced 20 shilling a year for land covered with rubbish’ ( sef y domen ). A dyna fu hanes ffermydd Ddôl, y rhan fwyaf o’r coed, a’r rhan helaethaf o’r afon a redai trwy eu tir, diflannu o dan domen Chwarel Cae Braich y Cafn.

Ond mae hi’n dal yno, yn dal i lifo o’i chaethiwed dan y domen, ac allan ohoni i’w rhyddid o ganllath, gan ein hatgoffa o rym ei lli’.

Trueni fod cyn lleied o drigolion yr ardal yn cofio ei henw heddiw.

Bala Deulyn

Cae 9 acer yn 1786 ar dir Tyddyn Capel Curig. Tyddyn Capel Curig, oedd y daliad hwnnw o 549 acer oedd ym mhen eithaf Nant Ffrancon ym mhlwyf Llandygai, ac wedi ei leoli yn y gornel honno rhwng Llynnau Mymbyr a chymer yr afon o’r llynnoedd gyda Llugwy. Heddiw lleolir y rhan rhan o bentref Capel Curig ar yr hen dyddyn.

Rydym i gyd yn gyfarwydd  â’r Bala, y dref adnabyddus ym Meirionnydd, mae’r dref honno ar lan y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid, ac mae esboniad enw’r dref yn y lleoliad hwnnw. Yn ôl GPC, prif ystyr yr enw cyffredin’bala’ yw ‘goferiad afon o lyn’, sef cychwyn afon sy’n tarddu o lyn, fel gofer ffynnon yn llifo allan o ffynnon. Ymhellach, mae GPC yn egluro’r gair ‘

[?< Clt. *balago-, o’r gwr. IE. *gel– (< *gelə-) ‘diferu, ffrydio’, cf. Gwydd. C. balchad ‘?gwlychiad’,

Yn achos tref y Bala, cafodd ei henw o’i lleoliad yn ymyl ble rhed y Ddyfrdwy allan o Lyn Tegid. Sylwer, hefyd, mai ‘y Bala’ a nodais; mae rhai enwau llefydd yn cymryd y fannod o’u blaenau, tra na feddyliem am eiliad doi bannod o flaen eraill, er enghraifft, fe ddywedir Y Rhyl, yr Wyddgrug, y Borth, ac ati, ond fydden ni fyth yn dweud Y Bangor, Y Rhuthun, Y Dinbych. Dyma sydd gan Syr Ifor Williams i’w ddweud am y mater

Os gwelwch fannod, ‘yr’ neu ‘y’, o flaen enw lle, nid gwir enw priod yw,ond enw cyffredin wedi ei wneud yn arbennig.’ ( Enwau Lleoedd t 14)

Dyna sy’n gyfrifol am Y Bala, sef nodi arbenigrwydd un bala penodol, sef yr un ger llif Dyfrdwy o Degid. Felly hefyd Y Borth, ond pan fo’r ‘borth’ yn rhan o’r enw arbennig, penodol Porthaethwy, chlywch chi fyth neb yn dweud Y Porthaethwy. Mae’r un peth yr un  mor wir pan droir enw arbennig yn enw cyffredin, sef pan dalfyrrir enw penodol i’w ffurf gyffredin, er enghraifft, chewch chi fyth y Llannerchymedd, ond fe gewch chi ‘y Llan’, felly, hefyd, ‘i’r Bryn, ond byth ‘ i’r Brynsiencyn’. I grwydro ymhellach fyth o’n enw gwreiddiol, mae ambell enw ble mae’r fannod yno am reswm arall; meddyliwch am Y Bermo ac Y Berffro, nid enwau cyffredin mo ‘bermo’, na ‘berffro’. Yn hytrach, yr hyn sydd wedi digwydd yn y ddau enw yw mai elfen gyntaf yr enwau gwreiddiol yw ‘aber’, a bod yr ‘a’ wedi mynd, ar lafar, yn ‘y’, gan droi Abermaw, Aberffraw yn Y Bermo, Y Berffro. Nid yw hyn yn digwydd ond mewn amgylchiadau ieithyddol penodol, sef pan pan fo’r enw yn dri sillaf, dyna pam na cheir Y Berystwyth, Y Bergele, Y Bertawe, ac ati, gyda’r tri hynny yn bedwar sill.

Beth bynnag, yn ôl at y cae ar dir Tyddyn Capel Curig, Bala Deulyn; mae’n amlwg ei fod yn cyfeirio at ddwr sy’n goferu allan o’r ddau lyn Mymbyr. Mae’r ddau lyn yma’n arbennig, gan fod y ddau yn cael eu cysylltu gan afon, neu’n fwy cywir, sianel o ddŵr, a hwn ydy’r Bala Deulyn,  tir o gwmpas y sianel hwn yw Bala Deulyn.

Cyn gadael, mae llawer ohonom yn cofio llinell R Williams Parry yn ei soned enwog i’w ardal enedigol Dyffryn Nantlle

‘Nid oes ond un llyn ym Mala Deulyn mwy’

Yr un enw, a’r un math o ddaearyddiaeth. Er mai ond un llyn sydd yno bellach, sef Llyn Nantlle, yr oedd yno ddau, gyda’r ‘bala deulyn’ yn eu cysylltu. Fe sychwyd yr isaf o’r ddau Lyn Nantlle i hwyluso’r diwydiant llechi.

i’r cychwyn

Bodesi

Fferm fynyddig sylweddol yn Nant y Benglog yw Bodesi. Trafodir yr enw ‘bod’ mewn enwau lleoedd yn fanwl gan Syr Ifor Williams, Yr Athro Melville Richards, ac eraill, a nodant ei fod   a) yn gyffredinol yn enw hen   yn golygu ‘lle mae rhywun yn byw’.      Yn debyg iawn i’r gair ‘tref’ roedd yn dynodi tir yn perthyn i benteulu penodol, a chartref hwnnw a’i deulu. Dyna sy’n gyfrifol am y ffaith mai enw personol sy’n dilyn y ‘bod’ yn y rhan fwyaf o enghreifftiau, er, ambell dro, gallai lleoliad, neu nodwedd arbennig ddilyn y Bod, megis yn Bodafon ( ond nid yr un ger Llannerchymedd ), a Bodysgallen. Erbyn heddiw, mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn ffermydd, a, chan amlaf, yn ffermydd sylweddol. Fodd bynnag, noda’r arbenigwyr fod ‘bod’ weithiau gyda cysylltiad crefyddol iddo , efallai yn cyfeirio at eglwys neu sefydliad crefyddol, a chyfeirir at enghreifftiau megis Bodedern, Botwnnog, Boduan, ac eraill. Mae’n arwyddocaol mai enwau ar bentrefi, neu gymunedau yw’r rhain, ac nid enwau ar ffermydd unigol.

O safbwynt hynafiaeth, at ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o’r enwau ‘Bod’ yn perthyn i ganrifoedd cynnar y Canol Oesoedd ( yn enwedig yr 11eg a’r 12fed); mae llawer iawn ohonynt ym Môn, sy’n adlewyrchu patrwm poblogaeth y cyfnod. Nid yw pob un, fodd bynnag, yn hen; cymrwch Bodforus, ym Mraichmelyn, a adeiladwyd yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif, ac a gymerodd enw cyntaf ei berchenmnog, sef Morris Jones, ‘Yr Hen Broffwyd’.

O safbwynt Bodesi, mae’n debyg mai enw person ‘Esi’, neu’r enw Beiblaidd ‘Eseia’ sydd yn yr enw, ac , felly’n golygu ‘ Cartref Esi/ Eseia’

Bowls

Mae’r enw ger y fynedfa heddiw yn adlewyrchu yr ynganiad lleol, sy’n cyfateb i’r Saesneg am luosog ‘pêl’, neu’r gem hynod o boblogaidd a chwaraeir ar lawntiau hyd a lled y wlad, gan gynnwys Bethesda. Anodd gweld fod gan yr un o’r ystyron hynny fawr i’w wneud gyda’r tyddyn 10 acer yn Llanllechid. Yn 1768 yr enw oedd ‘Powls’, sy’n dod â ni ychydig yn nes at yr ystyr gwreiddiol.

Yr hyn y gallwn ei ddweud i sicrwydd am yr enw yw nad yw yn air cynhenid Cymraeg, gan nad yw’r cyfuniad LS ar ddiwedd gair yn bod mewn unrhyw air o’r iaith. Yr unig air mewn geiriadur sy’n gorffen gyda’r cyfuniad hwnnw yw ‘ffals’, ac mae hwnnw’n fenthyciad uniongyrchol o’r Saesneg. Mae tri chyfuniad cyffredin LS ar derfyn gair yn y Saesneg, sef lluosog gair sy’n diweddu efo L / LL ( e.e.  mills, frills, ac ati ), trydydd person unigol berf ( e.e. he fills, she calls) a rhagenw meddiannol ( e.e. the mill’s owner, the will’s writer). Gallwn ddiystyru’r ail mewn enw lle, felly gallai Powls ddod o’r un o’r ddau arall.

Y cynnig sydd wedi ei wneud yw fod enw Powls wedi dod o’r Saesneg St Paul’s, sef yr eglwys enwog yn Llundain. Yn ôl y sôn fe adeiladwyd yr eglwys wreiddiol ddechrau’r 7fed ganrif, a hi, trwy’r Canol Oesoedd, oedd canolbwynt y ddinas. Fe’i difrodwyd gan Dân Mawr Llundain yn 1666, a chynlluniwyd, ac adeiladwyd, yr eglwys gadeiriol bresennol hardd gan Christopher Wren yn negawdau olaf y ganrif honno. Yr awgrym ydyw fod y daliad Bowls, wedi ei enwi, neu, efallai, ei flasenwi, yn lleol yn St Pauls. Gallai hyn fod yn rhan o’r arfer o enwi llefyd ar ôl llefydd pell, megis Boston House, ym Methesda, Caifornia ar Ynys Môn, neu beth am ‘America’ yn enw ar dy ym Mrynsiencyn? Ar y llaw arall, ac yn fwy tebyg, gallai fod yn perthyn i’r nifer o enwau difrïol ar roddid ar dai, enwau megis Nyth Cacwn, neu’r anfarwol City Dulas am ddyrnaid o dai ym Môn. Efallai fod rhyw breswylydd rhyw oes yn meddwl fod ei gartref yn fwy crand nag ydoedd, a bod ei gymdogion wedi dweud ei fod yn meddwl ei fod yn byw yn eglwys Sant Powls. Efallai, hefyd, ei bod yn arwyddocaol fod Bowls o fewn tafliad carreg i fferm Plas Uchaf ( am ‘plas’gweler Plas Hwfa ), ac mai ymdrech fwriadol gan rhyw denant, rywdro,i gael enw i gystadlu sydd yn Bowls. Pwy a wyr?

O safbwynt yr enw, mae enghreifftiau o weithiau Beirdd yr Uchelwyr yn dangos fod yr eglwys yn gyfarwydd yng Nghymru’r Oesoedd Canol, o safbwynt yr enw a’r cynodiad o adeilad sylweddol, urddasol, Cristnogol. Dywed Guro’r Glyn am Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen ‘ Plas y Groes, Powlys i Gred‘ ( Mae plasdy Glyn y Groes fel eglwys St Paul’s i’r byd Cristnogol), tra dywed Gutun Owain, yn ei farwnad i’w noddwr, Sion Edwart o’r Waun ‘ Ei blas ef, ail i Bowls oedd‘ . Diolchaf i Ieuan Wyn, hefyd, am dynnu fy sylw at y llinell ‘Powls iawn yw y Plas Newydd’ gan Rhydderch ap Rhisiart ( Y Canu Mawl i deulu’r Chwaen Uchaf gan Dafydd Wyn William)

Braichmelyn        Braichtalog  

Mae defnyddio enwau rhannau o’r corff i ddisgrifio gwahanol rannau o’r tirwedd yn gyffredin iawn yn y Gymraeg. Mewn oes pan oedd pobl yn sylwi yn llawer mwy manwl ar y byd o’u cwmpas, ac yn gwahaniaethu’n fanwl rhwng gwahanol fathau o dirwedd, roedd gan bob rhan o’r tir o amgylch, a bob ffurf ar dirwedd ei enw, gyda’r enw ar bob ffurf yn cyfleu yn glir sut fath o dirwedd ydoedd. Yn aml defnyddid geiriau cyffredin am rannau o’r corff i i gyfleu math arbennig o le, neu dirwedd. Rydym yn sôn am droed mynydd, am dalcen ty, am lygad y ffynnon, am ‘ysgwydd bell y bryn’, ‘ am ‘fron’ a ‘bronnydd’ ( a’r gwrywaidd ‘bryn’, ‘bryniau’), ac mae ‘esgair’, sef gair arall am ‘goes’, neu ‘aelod o’r corff’, yn gyffredin mewn enwau llefydd e.e. Esgair Llyn, yng nghân Dafydd Iwan, Esgair Ceiliog, pentref ger Machynlleth, Esgair Felen ar yr Elidir Fawr, ac yn y blaen.

Un o’r rhain yw braich, sef rhan o’r mynydd sy’n ymestyn allan o’i brif gorff.

Yn achos Braichmelyn mae’n debyg fod y  ‘melyn’ yn disgrifio lliw cyffredinol oherwydd rhyw dyfiant oedd yn gorchuddio llawer ohono. Mae’n bosibl, hefyd, ond yn llai tebygol, y gallai’r ‘melyn’ gyfleu’r ffaith fod y bryn yn llygad yr haul am y rhan fwyaf o’r dydd; llai tebygol oherwydd mai ‘gwyn’ neu ‘golau’ a ddefnyddir amlaf am dir sydd yn llygad yr haul.

Mae Braichtalog, wedyn, yn cynnwys, nid un, ond dwy o’r nodweddion corfforol hyn o ddisgrifio tir. Nid yn unig mae’r tir yn ymestyn o’r mynydd fel braich o’r corff, mae rhan ohono, hefyd, yn ymdebygu i ‘dalcen’  sgwâr ( tal > talog ), yn taflu allan, felly mae’r enw yn golygu‘y rhan o fraich o fynydd sy’n taflu allan fel talcen [sgwâr]

Yn 1768, mae ‘braichmelyn’ yn ymddangos ar arolwg o diroedd y Penrhyn, fel  darn o dir 30 acer oedd yn rhan o fferm sylweddol Tyn Twr. Erbyn 1841 roedd 55 ty o’r enw Braichmelyn yn yr ardal, gyda 350 o bobl yn byw ynddynt, sy’n rhoi cyfartaledd o 7 person ym mhob ty. Mae gan Dr John Llywelyn Williams, ar ei safle ardderchog Hanes Dyffryn Ogwen, ysgrif yn disgrifio hanes datblygu Braichmelyn yn fanwl. Mae’n sicr fod y tai ar gynllun y tai gwreiddiol a godwyd gyntaf yn yr ardal ar gyfer y teuluoedd oedd yn ymudo yma i weithio i’r chwarel newydd, fel y nodir gan Gwallter Mechain, er rhaid cofio nad tai Braichmelyn yr oedd yn eu disgrifio

When the late Lord Penrhyn became possessed of his Caernarfonshire estate, the number of workmen did not exceed 60  …. But the number at length increased upwards 400. To accommodate this surplus of families, 40 cottages were built on the spot 1790-1800, containing 63 dwellings, many having double apartments

 Fel petaent yn balasau, gyda’u dwy ystafell. Eto, mae’n sicr eu bod, o’u cymharu gyda thai arferol gweithwyr y cyfnod.

One smoky hearth … and one damp litter cell, for it cannot be called a bedroom, are frequently all the space allotted to a labourer, his wife, and four or five children 

Am Braichtalog, does dim cyfeiriad ato, nail ai fel daliad amaethyddol, nac fel rhan o un; yn hytrach, yn ôl Arolwg Degwm 1838-40, rhan ydoedd o ddaliad amaethyddol Tre’rgarth. Erbyn 1841 roedd 14 ty yno, pob un yn dwyn yr enw Tregarth, fel oedd yn arfer pan godid tai ar dir penodol; dim ond y nes ymlaen, pan oedd angen gwahaniaethu tai penodol, ar gyfer pwrpasau biwrocrataidd, trethu, a llythyru, y daethpwyd i nodi rhifau, neu enwau, i dai unigol.

i’r cychwyn

Bronnydd / Pennau’r Bronnydd

Er ei bod yn glir mai benywaidd ‘bryn’ yw ‘bron’ nid yw pethau mor syml â hynny, gan fod ‘bron’ yn tueddu i fod yn disgrifio ochr ‘bryn’ tra bod y ‘bryn’ ei hun y disgrifio’r ffurf cyfan. Roedd y Bronnydd yn fferm ar lethrau Moel Wnion, heddiw Bronnydd Uchaf, roedd ‘bronnydd’ yn enwau ar gaeau 51, 49, a 17 acer ar dir Tai’r Meibion, tra’r oedd Pen Bronnydd yn ddau dyddyn, 9 ac 16 acer ym mhlwyf Llandygai. Felly daliadau, neu diroedd, ar y llethrau oedd y rhai gyda’r gair ‘bronnydd’ yn eu henwau.

( i’r cychwyn )

Bryn Bela

Ardal fechan yw Bryn Bela, o gwmpas y groesffordd ble mae’r ffyrdd o Dregarth a Rachub yn ymuno gyda’r A5. Heddiw y cyfan sydd o gwmpas y groesffordd yw 3 thy moel, fferm Coetmor, yr hen felin, pedwar o dai Parc y Moch rhyw ganllath i lawr y ffordd, a dau dy Tan y Bryn ychydig ymhellach i lawr tuag at Bont y Pandy. Fodd bynnag, ar un adeg, bu gobeithion mawr y byddai pentref yn datblygu yn y fan hon, a hynny oherwydd ei safle ar y groesffordd, ynghyd â’r gobeithion am lwyddiant ( byr, rhaid cyfaddef ) chwilio am gopr yn agos ar lan Ogwen  a llechi yn Nolgoch, ( eto am gyfnod byr ) oedd gerllaw. Yr oedd treialon am gopr wedi digwydd y ddwy ochr i Ogwen, ychydig yn is i lawr yr afon na Phont Coetmor, mor gynnar â’r blynyddoedd 1760-70, gyda mwynwyr o Gernyw yn gweithio yno, a dywed Hugh Derfel Hughes na ‘ddiffoddid canhwyllau yno nos na dydd am saith mlynedd‘. Fodd bynnag, daeth y gweithio i ben oherwydd ymrafael gyda Stâd Coetmor, oedd biau un glan i’r afon. Yn ôl Cyfrifiad 1841 pedwar ty oedd yno, dau gyda’r enw Coetmor, a dau o’r enw Bryn Bela, ac mae’n arwyddocaol, o gofio’r cloddio am gopr oedd yn ymyl, mai mwynwr o’r enw Godfrey Marton, a’i deulu, oedd yn byw yn un ohonynt. Roedd dau dy ym Mharc y Moch, a thafarn, y Coetmor Arms, ar y groesffordd. Erbyn 1851, roedd 4 Coetmor Cottage, 2 Fryntirion, Brynbela ( gyda George Twigge yn byw yno efo’i deulu), a chyn bo hir, cafwyd capel bychan heb fod ymhell. Erbyn 1861 roedd 7 ty ym Mharc y Moch, ac roedd Ty Mwyn ( a ymddangosodd fel Ty Moon yn 1871!) yno hefyd. Fodd bynnag, ni wireddwyd y breuddwydion am y copr na’r llechi, nac am ddyfodol y pentref newydd. Symudwyd y capel i Dregarth, i fod yn gapel Penygroes; yn ôl traddodiad lleol, symudwyd enw Ty Mwyn, a’i roi ar dŷ yng Nghaellwyngrydd, lle’r erys hyd heddiw; caewyd y Coetmor Arms ( a ddaeth yn Ty Coetmor), ac, yn 1884, agorwyd y rheilffordd o Fangor i Fethesda, gan fynd yn syth trwy’r dreflan, a chwalu tri bwthyn oedd yn ei llwybr. A dyna ddiwedd ar ddatblygiad treflan Bryn Bela

Ardal Bryn Bela yn 1855 ( PENRA 2218 Archifdy Prifysgol Bangor )

O safwynt yr enw, mae’n un eithaf cyffredin trwy Ogledd Cymru; ceir fferm o’r enw Bryn Bella ( gyda’r LL ), yn Llanfaes ( Môn), ar y ffordd o Fiwmares i Landdona, yn ogystal ag yn y Chwitffordd ( Fflint), Llandyrnog ( Dinbych ) , a Chricieth, ac mae Bryn Bela ( efo L ) ym Mrynsiencyn a Rhoscolyn ( Môn ).

Gellir cael tri ystyr iddo

Yr un lleiaf tebygol yw mai enw merch, Isabella, sydd yma. Roedd Tyddyn Sabel yn y dyffryn, yn ogystal ag yn Llanrug, a Chae Sabel ym Marchwiail, a Llanfaelrhys, ac mae Bella, Isabel, a Sabel  yn enw oedd yn  bodoli.

Tipyn mwy tebygol yw mai ‘bele goed’ (pine marten) sydd yn yr enw, a bod yr ardal yn gartref i nifer o’r creaduriaid, neu, efallai, i un bele arbennig. Fodd bynnag, er fod y bele yn greadur hynod o brin erbyn heddiw, diolch, yn bennaf, i giperiaid y stadau mawrion yn Oes y Fictoria, a fynnai ladd pob anifail ac aderyn ysglyfaethus oedd yn peryglu’r ‘gêm’, nid felly’r oedd hi. Roedd y bele yn hynod gyffredin, ac ni fyddai wedi ei gyfyngu i un bryn yn yr ardal. Ffansïol mae’n bur sicr, yw’r esboniad a glywais mai dyma fan lladd y bele olaf yn yr ardal. Mae’r syniad i’r enw ddod o fele penodol yn annhebygol yn bennaf oherwydd fod yr enw ar gael mewn cymaint ardaloedd eraill, ond gallai ddod o enw’r anifail am ryw reswm, megis amlder. Mae Glenda Carr ‘Hen Enwau o Arfon, Llyn, ac Eifionydd’, yn derbyn hynny, ac yn dweud mai enw’r anifail sydd yn yr enwau sy’n cynnwys yr elfen ‘bele’.

Bele goed
Y Bele Goed

Yn drydydd, hoffwn gynnig eglurhad llawer mwy syml, ac, yn amlach na heb, yr eglurhad syml yw’r un cywir; fel arfer, ein chwilfrydedd sy’n chwilio am ystyr cymhleth i enw

Yn ôl GPC ‘Bela, bele, belau’ yw

Planhigyn Ewrasiaidd cwrs a gwenwynig o deulu’r codwarth (ac iddo aroglau annymunol) yn dwyn dail blewog gludiog, ffa’r moch, llewyg yr iâr, Hyoscyamus niger:

Saes: henbane.

Bela
Bela

Ac yn y fan honno, hoffwn awgrymu, y gorwedd ystyr Bryn Bela, sef bryn ble mae llawer o’r planhigyn bela yn tyfu. Byddai’n bwysig,mewn oes a fu, gwybod ble byddai’r planhigyn hwn, sydd heddiw’n hynod o brin yng Ngogledd Ewrop,  yn tyfu, a hynny oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn sawl meddyginaeth draddodiadol. Roedd iddo rinweddau lladd poen, a defnyddid ef i leddfu poen yn yr esgyrn, crud y cymalau, y ddannodd, peswch,afiechydon nerfol, a phoen yn y coluddion, Oherwydd ei amryfal rinweddau roedd yn blanhigyn hynod o bwysig ar gyfer meddyginiaethau, mor bwysig fel yr aed ag ef i’r America gyda’r mudwyr, ac mae’n fwy cyffredin yno erbyn hynnag yw yma. Roedd mor bwysig fel ei bod yn hanfodol gwybod ble’r oedd digon ohono i’w gael, ac efallai bod Bryn Bela yn un o’r llefydd hynny. Eto byddai rheswm arall pam y byddai’n bwysig nodi lleoliad y bela; yr oedd, ac y mae,  yn wenwyn i geffylau, yn benodol, yn ogystal ag anifeiliaid eraill, a byddai angen i anifeiliaid osgoi’r lle tyfai. Fodd bynnag, yn ôl arbenigwyr, prin iawn yw’r achosion o anifeiliaid yn cael eu gwenwyno gan y planhigyn, gan fod iddo arogl cryf, sy’n rhybuddio’r anifail o’i wenwyn, ac yn peri iddynt gadw draw. Wn i ddim ai dadl o blaid, neu yn erbyn, yr awgrym hwn am yr eglurhâd o’r enw, yw’r ffaith fod y planhigyn yn wenwynig i foch, a bod Bryn Bela a Pharc y Moch yn yr un ardal yn union. Cyn gadael yr enw, rhyfedd iawn i mi, o ystyried ei fod yn wenwyn, mai un o’r enwau ar y planhigyn yw ‘ffa’r moch’, sydd, mae’n debyg, yn gyfieithiad o’r enw Saesneg ‘hog’s bean’. Mae’n bur debygol fod Parc y Moch a Bryn Bela o fewn llathenni i’w gilydd ( yn wir, gallai Bryn Bela, yn wreiddiol, fod yn rhan o Barc y Moch ) yn clensio’r ddadl mai’r planhigyn ‘bela’ sydd yn yr enw.

 Bryn Cul

Annedd yn Nhregarth; yn 1768, roedd yn ddaliad o 36 acer, a hwnnw, at ei gilydd, yn ôl enwau nifer o’r caeau, yn dir pur wael – Cae rhedyn, Clwt carregog, Pant y rhedyn, Cae coediog, Yr Allt, Cae coediog isaf, Gors, a Cae eithin. Roedd y rhain yn cymryd dros 15 acer o’r daliad. Yn ogystal, roedd na sawl ‘llain’ yma – cae bychan, cul yw ‘llain’. Gyda llaw, un o’r lleiniau hyn oedd Llain y Talgae, lle’r adeiladwyd y tai o’r un enw yn y ganrif ddilynol. ( ystyr ‘talgae’ yw’r ‘cae pen’ – am ‘tal’ gweler Talysarn)

Dim ond dau le, ac un cae, yng Nghymru sydd gyda’r enw Bryn Cul; mae’r llall yn Aberdâr, ym mhlwyf Ystradfellte, tra bod y cae ar Fynydd Llwydiarth ym Mhentraeth

Am yr ystyr, mae’n hollol ddibynnol ar ynganiad yr ail elfen ‘cul’.Os mai ‘cul’ , gyda llafariad hir, ydyw, yna mae’n cymryd ystyr llafar yr ardal i’r gair, sef ‘cybyddlyd’, ‘crintachlyd’, ‘rhoi dim’, ac yn golygu ‘bryn sy’n rhoi dim cynnyrch’. Byddai hyn yn gweddu gyda natur y tir, fel y soniwyd.

Fodd bynnag, os yw’r llafariad yn hir, a bod y ‘cul’ yn odli efo ‘hill’ Saesneg, byddai ystyr wahanol iddo. Mae ‘cul’ efo lafariad fer, yn golygu ‘’ Bwthyn bychan, cwt, twlc; corlan, odyn’. Efallai ichi gofio i Culhwch, yn y chwedl, gael ei enw oherwydd iddo gael ei eni mewn twlc mochyn ( ‘cil hwch’) am i’w fam golli ei phwyll pan yn feichiog. Gyda’r ystyr hwn, ‘bryn efo un o’r adeiladau hyn arno’ fyddai’r ystyr.

Yr ynganiad lleol, gan drigolion cynhenid yr ardal, yn ddieithriad yw’r ail, sef gyda llafariad fer, sy’n awgrymu’n gryf iawn mai’r ail ystyr sydd i’r enw

Bryn Derwen

Mae Bryn Derwen yn dy sylweddol iawn ar lan Llandygai i Ogwan, heb fod ymhell o’r chwarel ac mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y cyfan o rannau gwahanol y frawddeg hon, gan fod ei faint a’i leoliad yn ddibynnol ar Chwarel Cae Braich y Cafn.

Gallwn ddyddio’r adeilad a’r enw i’r 12fed o Fai, 1803, oherwydd dyma ddyddiad cytundeb rhwng y Penrhyn a James Greenfield i godi ty a chreu ffarm ar ran o dir fferm Coed y Parc, ‘ to be called Bryn Derwen. Mab yng nghyfraith Prif Asiant y Penrhyn, Benjamin Wyatt, oedd James Greenfield, ac ef a benodwyd yn Rheolwr Chwarel Cae yn 1803, yn dilyn penderfyniad Richard Pennant i orfodi William William, Llandygai, ymddeol, ond ar gyflog llawn, fel gwobr am ei waith sylweddol dros y blynyddoedd. Roedd y ty, felly, i fod yn agos i’r chwarel, er fod Williams wedi llwyddo i’w rheoli o bentref Llandygai ( efallai fod y ffaith ei bod yn tyfu’n gyflym yn golygu fod yn rhaid i’r Rheolwr fod ar y safle, ac nid, fel Williams, yn gallu rheoli o bell trwy weision), ac roedd yn fawr ac urddasol i adlewyrchu statws Rheolwr gwaith mor bwysig. Er gwaethaf y cytundeb gyda Greenfield, mae’n amlwg fod y Penrhyn yn cadw gafael yn y lle, oherwydd fe welir fod Bryn Derwen, trwy’r 19eg ganrif, yn gartref i Reolwr y Chwarel, oherwydd William Francis, Quarry Agent, a’i deulu oedd yno  ym mhob Cyfrifiad o 1841 i 1871, tra mai John I Evans, Slate Quarry Manager, a’i deulu oedd yno yn 1881, gyda David Pritchard, Quarry Manager, a’i deulu yno yn 1891. Erbyn 1841 roedd ty arall ar y tir, gan ddilyn yr arfer o gario enw’r tir y safai arno, gyda chwarelwr a’i deulu yn byw ynddo; erbyn 1851 aeth hwn yn Bryn Derwen Bach. Gyda llaw, roedd cadw gafael ar dai swyddogion y Penrhyn yn un o arferion y stad, fe wnaed yr un peth gyda Lime Grove, cartref y Prif Asiant, treulu’r Wyatt, a Phenylan, a addaswyd i Samuel Worthington yn nechrau’r 19eg ganrif. Yn wir, llosgwyd Lime Grove gan yr Hen Lord ar ymddeoliad James Wyatt yn 1860, a chodwyd Plas y Coed yn ei le.

O safbwynt yr ystyr, enw gwneud ydyw, yn adlewyrchu’r coed niferus sydd yn y cyffiniau, ond nid yw’r ty ar fryn o gwbl, sy’n ddigon anghyffredin mewn ardal fynyddig.

Brynllys

Ty moel ger Ysgol Penybryn yng nghanol Bethesda yw Brynllys heddiw, fodd bynnag mae’n cadw hen enw yn yr ardal mewn cof.

Yn 1765 yr oedd Brynllys yn ddaliad bychan 37 acer, gyda’i hanner yn goed. Yn ôl Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid  

                    Y mae yn sefyll rhwng Afon Ogwen a Choed y Parc, a chredir gan Hynafiaethwyr ei fod o 
                    gryn henafiaeth. Wrth dorri sylfeini taiyn y lle, o fewn cof gwr, fe gloddiwyd i fyny 
                   lawer o gerrig nadd ....  ac ymddangosent fel pe buasent wedi bod yn fwâu uwchben y 
                   drysau, neu y cloerau, a arferid yn lle ffenestri gynt, a chan mai tywodfaen yw y 
                   creiglawr, tybir iddynt gael eu dwyn yno rhyw oes o Fôn neu'r Faenol.

Yr unig broblem gyda damcaniawth HDH yw nad yr un yn union yw’r Brynllys y mae ef yn ei hadnabod a’r Brynllys gwreiddiol, neu’n sicr y Brynllys oedd yn bodoli yn 1768. Yn bennaf, roedd Brynllys 1838 wedi colli 22 acer o dir, ac mae lleoliad yn wahanol. Ble mae Map Arolwg Degwm 1838-40 yn dangos un daliad cryno o 15 acer, mae map Arowg 1768 yn dangos daliad o 37 acer a hynny, yn nodweddiadol o lawer o ddaliadau Llandygai a Llanllechid yn y cyfnod hwnnw, heb fod yn uned hylaw. Mae Arolwg 1768 yn dangos fod caeau daliadau gwahanol blith draphlith drwy’i gilydd, ac felly Brynllys. ( Trafodir y nodwedd hon, a’r rhesymau posib, yn y wefan Ffermio yn Llanllechid ). Yn 1758 roedd 37 acer Brynllys mewn 5 rhan gwahanol; roedd 4 ‘cae’, yn 24 acer, gyda 18 o’r rheiny yn goed, yn terfynu ar Ogwen, tua’r lle mae rhan ddeheuol y Bryn Meurig presennol, tra’r oedd 4 cae, yn gyfanswm o 7 acer, gryn bellter i ffwrdd ar y llethrau. Un o’r caeau hyn oedd cae gyda’r enw diddorol Cae’r Batin. Roedd ty Brynllys, ac un cae bychan, wedyn, rhwng y ddau barsel yma o dir, ond heb gyswllt â’r un o’r ddau; yn hytrach, mae’r ty yng nghanol tiroedd daliadau eraill, megis Ty Du. Ymhellach, Buarth Hir ( yn acer a hanner ) a Gardd Cae’r Lloiau ar wahan, yng nghanol tiroedd daliadau eraill – Ty Hen, efallai! Mae’n debyg fod y tir wedi ei gysoni erbyn 1838, gan fod mapiau’r Arolwg degwm yn dangos i sawl newid ddigwydd i ddaliadau oedd yn agos i’r chware. Mae HDH yn cyfeirio at adeiladu tai ar y tir; erbyn 1841 yr oedd 8 ty ar y tir, felly hefyd Gyfrifiad hanner canrif yn ddiweddarach. Mae’r Cyfrifiad hwnnw – 1891 – yn gosod y tai nesat at Grisiau Cochion. Canlyniad anochel eu lleoliad oedd iddynt ddiflannu o dan domen y chwarel. Mae map OS 1887-8 yn dangos Brynllys yn glir; mae ei dir y tu ôl i dai Grisiau Cochion, ac mae’r map yn dangos yn glir fod y domen wedi dechrau claddu tir y fferm, ac yn bygwth gweddill y tir, er ei bod yn debyg fod y ty yn dal heb ddiflannu

Bryn Llys

Mae’r enw yn ddiddorol, oherwydd y ‘llys’ ynddo. Mae sawl awgrym fod neuadd, neu lys canoloesol yn yr ardal yma yn rhywle. Ysgrifennais erthygl am Bryn Byrddau yn y wefan Hanes Dyffryn Ogwen, sy’n ceisio cysylltu un o blasdai Tuduriaid Penmynydd efo’r adal hon, oherwydd fod Cae Bryn y Byrddau ar dir cyfagos Ty Hen, ac mai enw’r eglwys wreiddiol, sydd o dan y domen, oedd Eglwys Bryn y Byrddau. Noda HDH fod llys ger Llyn Meurig, ac roedd Ciltreflys ar lethrau Gerlan. Mae rhywbeth yma, ond nis darganfyddir bellach, ac ni ellir profi dim oherwydd fod tomen anferth Chwarel Cae wedi gorchuddio Brynllys a’i chaeau. Eto mae’r enw’n dal yn fyw yn yr ardal, ond does fawr neb yn gwybod pam.

Bryn Poeth

Enw ar dy unigol yn Nhregarth. Ty moel ydyw, yn rhan o’r datblygiad yn sgil twf y chwarel yn y 19eg ganrif.  Nid oes sicrwydd ai enw gwreiddiol y ty ydyw, neu enw newydd gan berchennog rywdro, ai enw benthyg o ardal arall a ddaeth gyda pherchennog, ynteu a oedd yn enw ar y tir lle codwyd y ty. Bid a fo am hynny, yr hyn sy’n ein diddori yw’r ‘poeth’ yn yr enw. Gellid dychmygu fod y ‘poeth’ yn disgrifio ardal yn llygaid yr haul, ond nid dyna yw, fel arfer. Yr ansoddair arferol am dir sy’n sychu yw ‘crin’, ac mae Archif Melville Richards yn nodi sawl enghraifft o Cae Crin yng Nghymru; er fod y mwyafrif ym Môn, ceir yr enw, hefyd yng Ngheredigion a Maesyfed. Fodd bynnag, pan fo ‘poeth’ mewn enw, yn enwedig gydag enw adeilad yn gysylltiedig, mae, bron yn sicr, yn golygu fod y lle wedi mynd ar dân rywdro. Rhaid cofio, mewn amseroedd a fu, fod adeiladau yn llosgi’n ulw yn rhywbeth llawer mwy cyffredin nag yw heddiw, a hynny oherwydd natur y tai, deunydd adeiladu a thoi, ynghyd â’r tân agored na fyddai fyth yn cael ei adael i ddiffodd.

Mae GPC yn nodi’r enghreifftiau canlynol i gyfleu llosgi

14g. BB 196, yny yttoed y dref yn boeth kyn y dyd drannoeth.

14g. WM 5530-1, A fan welas uranwen y mab yn boeth yny tan.

1588 Lef iii. 5, offrwm poeth.

1657 RE: CDd 115, Pan fo ty yn myned yn boeth ar hanner nôs mewn tref pa lefain ofnadwy a wneir yno.

Ac nad anghofier y llinell ‘Och, heffrod y poethoffrwm’

Mae Archif Melville Richards yn nodi 5 Cae Poeth, 1 Merddyn Poeth, 3 Ty Poeth, ( ac un y gwn i amdano ym Mrynsiencyn, sydd heb ei nodi), a 6 Bryn Poeth. Rhaid inni, yn sicr, beidio anghofio’r ddau bentref, Coedpoeth, ger Wrecsam, a Treboeth, ger Abertawe, y ddau mewn ardaloedd diwydiannol ble’r oedd tannau ffwrneisiau ym mhobman.

Felly, bryncyn sydd wedi mynd ar dân rywdro, mae’n weddol sicr, yw gwraidd yr enw, o ble bynnag y daeth hwnnw i Dregarth, boed yn wreiddiol i’r ardal neu beidio.

i’r cychwyn

Bryn Twrw

Annedd ar Lôn y Wern, Tregarth sy’n enwog, yn benodol, am y llechi addurniedig o waith Arfonwyson sy’n darlunio patrymau seryddol cymhleth. Yn 1768 roedd yn ddaliad 14 acer yn naw o gaeau bychain. Mae’n ddiddorol nodi mai enw un o’r caeau oedd Cae Bryn Twrw, sy’n awgrymu mai’r cae hwn roes ei enw i’r holl dyddyn.

Mae enwau sy’n cynnwys yr elfennau tebyg, ‘twrw’, ‘ymryson’, a ‘dwndwr’ yn digwydd sawl yn y Gymraeg. Mae na Ben Bryn Twrw yn Llanbedr y Cennin, Cae Ymryson yng Nghaernarfon, a Dwndwr ym Mhenfro. Neu beth am Trehwbwb a Cwmhwbwb ( o’r Saesneg ‘hubbub’), neu Gae Sgandal yn y De. Nid golygu fod swn yno mae’r enw; yn hytrach nodi fod rhyw anghytundeb am berchnogaeth y tir wedi bod rhyw dro, fod ‘twrw’, nwu ‘ddwndwr’, neu ‘ymryson’  wedi bod amdano. Gallai’r ymrafael fod yn gyfreithiol, neu dim ond yn ddadlau lleol rhwng dau berson, neu ddau deulu. Does gennym ddim syniad erbyn heddiw beth oedd achos yr ymrafael am Fryn Twrw, na’r canlyniad, ond gwyddom mai dyna pam y cafodd yr enw.

i’r cychwyn

Bwlch Goleuni

Mae’r mapiau OS 1:5000 yn dangos Bwlch Goleuni rhwng Gallt yr Ogof a Cefn y Capel yn rhan ddwyreiniol gwaelod Nant y Benglog. Yn ôl Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768, nodir yr enw fel caeau ar dri daliad cyffiniol, gyda 227 acer yn cario’r enw ar un Gellimynach, 227 arall ar Dyddyn Capel Cruig, a 9 ar y Gellimynach arall. Y mae afon fechan, ffrwd Bwlch Goleuni, yn rhedeg o’r bwlch i ymuno â Llugwy. Ni ellir bod yn hollol sicr am darddiad yr enw, ond mae’n arwyddocaol ei fod, o gyfeiriad Nant y Benglog, yn wynebu’r dwyrain, a chodiad haul. Mae’n dilyn, felly mai trwy’r bwlch hwn y deuai golau cyntaf y wawr. Efallai mai dyfalu ffansïol yw hyn, ond mae eglurhâd syml, wrth egluro enwau llefydd, ambell dro, yn nes at y gwir nag eglurhâd cymhleth.

i’r cychwyn

Bwlch Molchi

Ymddangosodd y sylwadau hyn gyntaf yn y wefan Hanes Dyffryn Ogwen

created by dji camera

Bwlch Molchi yw’r ffawt daearegol amlwg sydd rhwng Moel Faban a Moel Wnion. Mae’n ffawt rhyfeddol, gan ei fod, yn enwedig o hirbell, yn ymddangos fel petai’n waith dyn, ond, o agos, mae’n amlwg mai Oes yr Ia a fu’n gyfrifol am ei ffurfio. Roedd y gred iddo gael ei ffurfio gan ddyn mewn enw arall a gofnodwyd arno gan William Williams, Llandygai, yn 1802, sef Ffos y Rhufeiniaid. Pam y byddent yn mynd i’r drafferth i’w agor, ni ellir dirnad, ac mae Williams yn gwrthod yr enw, nid ar sail pwrpas, ond ar sail y ffaith nad oes tomenni o bridd yn ei ymyl yn dangos olion y cloddio.

Mae’r enw yn un rhyfedd. Clywais eglurhad lleol iddo gael yr enw oherwydd fod defaid yn cael eu golchi yno. Mae dau beth yn milwrio yn erbyn hynny. Yn gyntaf, does dim dwr yn rhedeg drwy’r bwlch, lle gellid cronni dwr, a does dim llyn na phwll o unrhyw faint yn ymyl, dim mwy o ddwr nag a geir ar unrhyw ran o’r mynydd ar dywydd gwlyb. Yn ail, mae’r Gymraeg yn gwahaniaethu’n glir rhwng geiriau megis ‘golchi’ ac ymolchi’, ‘gweld’ ac ‘ymweld’, ac ati. Ymolchi yw ‘golchi eich hun’. Does dim lle i ymolchi yn nes i’r bwlch na stafell ymolchi tai gweddol gyfagos iddo!

Ar fapiau OS, ceir yr enw ‘Bwlch ym Mhwll Le’, a chlywais yr esboniad hwnnw yn lleol hefyd. Ar wahan i’r ffaith nad oes pwll yn agos i’r bwlch, nac arwydd daearyddol i un fod yno yn y milflwydd diwethaf, ychwaith, edrychwch ar yr enw. Welsoch chi erioed y fath erthyl clogyrnaidd erioed? Fyddai’r Gymraeg fyth yn derbyn ‘ym mhwll le’ yn naturiol, sy’n gwneud i rywun feddwl mai geiriau wedi eu gorfodi yn sgrechian i gaethiwd ffurf annaturiol i ‘egluro’ Bwlch Molchi ydynt.

O ble daeth y ‘Molchi, felly? Nodir, mewn mwy nag un ffynhonell,  fod eglwys fechan wedi ei lleoli ychydig yn is na’r bwlch, ar Waen Bryn. Roedd olion o’i muriau adfeiliedig yno yn oes William Williams, is-asiant y Penrhyn 1782-1802, a thros hanner canrif wedyn yng nghyfnod Hugh Derfel. Enw’r eglwys honno oedd Llanyrchyn, neu Llanylchi ( mae R ac L yn cyfnewid yn aml yn  y Gymraeg ). Hawdd gweld sut y byddid wedi galw’r bwlch wrth enw’r eglwys oedd yn ei ymyl. Yn wir, dyna oedd yr enw yng nghyfnod William Williams, asiant y Penrhyn, ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

At the north end of this hill ( Moel Faban ) is a hollow, or chasm, called Bwlch Llanyrchyn’.

Fel y nodwyd, roedd amrywiad ar yr enw, sef Llanylchi. Hawdd gweld Bwlch Llanylchi yn mynd yn Bwlch Ynylchi, a, phan gollwyd y cof am yr eglwys, troes y gair anghyfarwydd ‘ynylchi’ i’r gair oedd yn gyfarwydd i’r trigolion, sef ‘ymolchi’, a’i ffurf lafar ‘ molchi’.

 

%d bloggers like this: