Enwau Llefydd P R RH

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Pantdreiniog   Pant y Cyff Parc Newydd  Parc y Moch  Penrhyn Pentre  Penylan Perthi Corniog Plas Hwfa   Plas Ucha  Pwll Budur Rachub

Pantdreiniog

Mae ystyr yr enw yn eithaf clir, sef ‘pant’, sef nodwedd ddaearyddol tebyg i bowlen (‘ hollow’ )  efo ‘llwyni drain’neu ‘fieri’,  ynddo. Mewn tirwedd fynyddig, yn enwedig ar lethrau is y mynyddoedd, mae pantiau a bryniau yn nodwedd gyffredin.

Yn wreiddiol roedd y pant dreiniog ar dir fferm Cilfodan ( y fwyaf o’r ddwy, pan oedd y daliad hwnnw yn ddwy fferm ), ond nid oedd yn enw ar gae ar y fferm, eithr, yn hytrach ar y nodwedd ddaearyddol a nodwyd. Gellir ei leoli’n fras, nid yn unig oherwydd safle’r chwarel a enwyd yn ‘Chwarel Pantdreiniog’, ond oherwydd dau enw, sef Cae Garw a Phant y Cledr. Nodir y ddau enw hyn ar restr caeau ar fferm Cilfodan yn 1691.  Er na allwn leoli Pantdreiniog yn union , nid dyna’r achos gyda’r ddau arall, neu’n hytrach yr un arall, gan y nodir, yn 1691,

‘ Cae Garrow, alias pant y kleder’,

felly yr un oedd y ddau.

Roedd y cae ‘ abutting the river ‘, sef ar lan Ogwan, felly, yn fras,  yn y rhan honno o Fethesda heddiw o Bantdreiniog i’r afon. Yn ôl Cyfrifiad 1841, roedd Pant y Cledr, hefyd, yn ffinio gyda thir Coetmor.

Yn 1841 yr oedd dau glwstwr o dai nesaf i’w gilydd o’r enw Cae Garw, ( 17 ty ) a Phantdreiniog ( 12 ty), tra, yn 1851, roedd 28 ty Pantdreiniog, 10 Cae Garw,a 3 Pant y Cledr. Ar sail eu lle yn rhestr y Cyfrifiad, gellir eu lleoli’n fras yn ymyl tai Bryntirion heddiw, rhwng Bryntirion a Than y Ffordd ( ailenwyd y rhai sydd ar ôl yn Rhes Penybryn) felly, gellir bod yn weddol sicr fod y tai hyn yn rhan isaf Pantdreiniog. Nid ydynt yn bod bellach, oherwydd, mae’n sicr, iddynt fynd o dan domen Chwarel Pantdreiniog, ( er y gallai rhai, wrth reswm, fod wedi eu hailenwi).

Gan fod yr enw yn un daearyddol cyffredin, nid yw’n rhyfedd fod enghreifftiau eraill, megis yr un lleol yn un o gaeau Talybraich, Nant y Benglog ( Arolwg RA Leagh o dir y Penrhyn 1767 Archifdy Bangor PFA ), a dau arall, un yn Meddgelert a Llanelli ( Archif Melville Richards )

( I’r cychwyn )

Pant y Cyff

Mae ambell enw sy’n hawdd ei ddeall, oherwydd fod ystyron y geiriau yn wybyddus, ond yn anodd ei egluro, oherwydd na wyddom pam y rhoddwyd yr enw arno; un o’r rheiny ydy Pant y Cyff, y fferm sylweddol sydd ar lethrau isaf Moelyci ger Pentir

Mae ‘pant’ yn amlwg, yn enwedig mewn ardal sy’n llawn o bantiau!

Am’cyff’ wedyn, rhydd Geiriadur Prifysgol Cymru sawl ystyr tebyg i’r gair. Gall fod yn bren trwchus, neu fonyn coeden, fel yn ‘boncyff’; gall fod yn gorff, heb yr aelodau, gall fod yn drosiadol am berson diddeall. Mewn ardal oedd yn llawn o goed o bob maint, chreda i ddim fod ‘na foncyff fyddai gymaint yn fwy na phob un arall fel yr enwid fferm ar ei ôl, one, eto, mae’n ddigon posibl. Fe ellid bod rhyw hurtyn diddeall hollol wedi byw yno rywdro, ond amheuaf, rywsut. Mae ‘cyff’, yn drosiadol, yn gallu golygu ‘teulu’, a sonnir am berson yn dod o ‘gyff’ atbennig, sef o deulu arbennig o dda. Gallai’r pant fod wedi ei enwi oherwydd ei fod, un adeg, yn perthyn i rhyw ‘deulu’ penodol.

Beth am ystyr arall sydd i ‘cyff’, sef yr ystyr sy’n rhoi ‘cyffion’ inni heddiw am y taclau hynny sy’n rhwystro rhywun rhag dianc, trwy gau am y breichiau a/ neu’r coesau. Mae nofel Kate Roberts Traed mewn Cyffion yn disgrifio pobl wedi eu caethiwo gan dlodi a’u hamgylchiadau cyffredinol, ac na allant ddianc ohonynt.

Yn wreiddiol, cyffion oedd y ddyfais gyhoeddus lle carcherid troseddwyr trwy roi eu traed ynghlwm mewn pren. 

Mae defnyddio cyffion i garcharu mân droseddwyr yn hen iawn – sonnir amdanynt yn llyfr Job yn yr Hen Destament. Yn Lloegr roedd Deddf y Llafurwyr 1351 yn mynnu fod cyffion yn cael eu codi ym mhob tref a phentref yn Lloegr ar gyfer cosbi ‘gweithwyr anhydrin ac afreolus’. Mae’n debyg y byddai’r gyfraith hon yn berthnasol i diroedd y yr hen dywysogaeth yng Nghymru, hefyd. Defnyddiwyd y cyffion yn rheolaidd o’r 1500au i ddiwedd yr 19eg ganrif trwy Brydain; yn wir, yn Adpar, ger Castellnewydd Emlyn, yn 1872 y mae’r enghraifft olaf o roi rhywun mewn cyffion ym Mhrydain.

Mewn trefi a phentrefi mawr byddai’r cyffion ar y sgwâr, neu ger yr eglwys, er mwyn i’r trigolion gael poenydio’r rhai oedd ynddynt, ac er mwyn rhoi rhybudd i eraill. Fodd bynnag, mewn ardaloedd gwledig, ble nad oedd canolfan poblogaeth, lleolid y cyffion ar fin ffordd brysur, neu ar groesffordd, er mwyn i bawb a âi heibio weld y rhai oedd ynddynt. Dylid cofio mai mewn mannau fel hyn, hefyd, y crogid, ac y gadewid, cyrff drwgweithredwyr difrifol hyd at ganol y 19eg ganrif, fel arwydd cyhoeddus a rhybudd o gosb am droseddu. Roedd Pant y Cyff mewn lle felly, ar fin yr hen lwybr o Ddyffryn Ogwen i Bentir,  yn ogystal â llwybr y porthmyn o Borthaethwy trwy Bentir am Nant Ffrancon, tra’r oedd y ffordd o Landygai i Gaernarfon yn mynd trwy dir y fferm. Yn wir, roedd ar groesffordd llwybrau pwysig. Byddai gosod cyffion mewn lle fel hyn yn eithaf dealladwy.

Nodir sawl lle yng Nghymru gyda’r enw yn Archif Melville Richards, gyda’r cyfan wedi eu cofnodi yn y flwyddyn 1575 – Tire y Kyffion, Maes y Cyffion, Erw’r Cyff, Nant y Kyffion, Gwern y Cyffion, Grofft y Cyffion. Byddai’n rhesymol meddwl mai dyna’r rheswm dros enw Pant y Cyff ym mhlwyf Llandygai, hefyd ( rhesymol, ond nid pendant! )

Ond, efallai, mai hurtyn dwl yn eistedd ar fonyn coeden mawr oedd yno,wedi’r cwbl!

Fel ôl-nodyn, prif bwrpas rhoi rhywun yn y cyffion oedd er mwyn i bobl chwerthin am eu pennau, a’u gwawdio – yn aml, byddid yn codi goglais arnynt trwy gosi gwadnau eu traed. Hyn yw gwraidd y briod-ddull ‘ gwneud rhywun yn gyff gwawd’, sef gwneud rhywun yn destun sbort. Roedd hi, hefyd, yn arfer yn y Canol Oesoedd i feirdd fod mewn neuaddau a llysoedd dros yr uchel wyliau. Un arfer i ddifyrru’r nosweithiau oedd cael y beirdd llai – y glêr – i ganu cerddi yn dychanu’r bardd gorau yno – y pencerdd. Mewn achos o’r fath roedd y pencerdd yn cael ei wneud yn ‘gyff clêr’, sef yn destun gwawd beirdd llai.

Parc Newydd

Parc

Ymddengys Parc yn arolwg 1768 o diroedd Stâd y Penrhyn, yn ei safle bresennol, yn terfynu ar y mynydd i un cyferiad, a fferm Cymysgmai ar y llall. O safbwynt yr enw, mae’n arwyddocaol mai un cae 14 acer ydyw’r daliad, sef parc go iawn. Ymddengys yn yr Arolwg Degwm 1838-40 fel daliad o’r un maint.

Parc y Moch

parc

Mae tai Parc y Moch heddiw ar fin yr A5, ychydig yn nes at Bont y Pandy ar ôl mynd heibio Bryn Bela, ond fe enwyd y tai ar ôl y tir y’u codwyd arno. Gan mai perthyn i Stâd Coetmor yr oedd Parc y Moch, nid yw’r wybodaeth amdano mor helaeth â hynny. Yn ôl yr Arolwg Degwm 1838 -40, roedd yn 7 acer o faint, a hynny’n goedlan o boptu’r ffordd bresennol. Wrth gwrs, cyn dyfodiad Telford a’i ffordd newydd yn nechrau’r 1820au, dim ond y goedlan oedd yno. Roedd hi’n hen arfer yng Nghymru, ( fel yng ngweddill Ewrop ), i yrru moch i’r coed yn yr hydref i besgi ar y mes oedd yn ddigonedd o dan y coed derw. Ond mae eglurhâd mwy penodol i enw’r lle. Yn ôl Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid ( 1866 )

yr oedd yng Nghoetmor oddeutu 80 mlynedd yn ol,( diwedd 18 ganrif ) ac ar ôl hynny, foch duon bychain yn cael eu cadw ganddynt mewn lle a elwid Parc y Moch, ac o’r moch hyn y cyflawnid angen y gegin’

Mae’n ddiddorol nodi fod yna Barc y Moch, hefyd, ar demesne y Penrhyn, gydag arwynebedd 9 acer, yn gwneud yr un peth ag ydoedd Parc Moch Coetmor, mae’n sicr.

( I’r cychwyn )

Penrhyn

Nodwedd ddaearyddol yw ‘penrhyn’, sef darn o dir sy’n ymestyn allan, fel arfer i fôr, neu ddwr, megis llyn neu afon. Mewn gwlad sydd mwy na deuparth ei ffin yn arfordir, mae’n naturiol fod sawl ‘penrhyn’ yma, megis Penrhyn Llyn a Phenrhyn Gwyr, ond mae dwsinau o benrhynau bychain hefyd. Yn ogystal, nid oes rhaid i ‘benrhyn’ ymestyn allan i’r môr; gall fod yng nghanol y wlad, gan olygu unrhyw dir uwch, neu dir sych sy’n ymestyn allan i dir gwlyb, megis cors neu fawnog. Mae’r un peth yn wir am ‘ynys’, gall honno fod wedi ei hamgylchynu’n llwyr gan gors neu fawnog, er enghraifft, mae Archif Melville Richards yn nodi, ymhlith eraill, ‘benrhyn’ yn enw lle mewn mannau heb fod yn ymyl y môr, megis Pentrefoelas, Penmachno, a Phenmynydd. Yn achos Penrhyn Llandygai, mae’n disgrifio tir sy’n ymestyn allan i Draeth Lafan, rhwng aberoedd y ddwy afon, Ogwen a Chegin, ac, fel mae’n digwydd, roedd y  dir llawer mwy ffrwythlon na’r rhan fwyaf o’r tir yn y plwyf, a dyna pam yr oedd demesne y stâd ganoloesol yn y fan hon.

I’r cychwyn

Penylan

Daliad gweddol fychan o 30 acer oedd Penylan, ar lannau’r afon Ogwan, yn terfynu ar Nant Gwreiddiog ar un ochr, a Thyddyn Iolyn ar y llall, fwy nau lai gyferbyn â chae Clwb Rygbi Bangor heddiw; erys y ty yn union gyferbyn â’r fynediad i’r Clwb Rygbi. Yn 1798 adeiladwyd ty Newydd ar dir Penylan, a’i alw’n Llwyn Onn ( Yr Hen Ficerdy heddiw ), a daeth dyn o Lerpwl, o’r enw Samuel Worthington, i fyw iddo. Ef fu’n denant Melin Penlan, melin falu callestr ar gyfer y diwydiant crochenwaith, o 1800 hyd 1829. Er i’r felin fod yn sefyll ar dir Nant Gwreiddiog, mae’n debyg y’i galwyd yn Felin Penlan oherwydd cysylltiad Worthington â’r ddau le. Fel Nant Gwreiddiog, diflannu wnaeth Penyllan hefyd, ond nid oherwydd adeiladu ar y tir. Yn ôl Arolwg Degwm 1838-40, mae’r daliad bellach wedi cymryd enw cartref James Worthington ( oedd wedi gadael yr ardal yn 1830), sef Llwyn Onn; roedd bron yn 34 acer, sef tir gwreiddiol Penylan a rhyw 4 acer o dir Nant Gwreiddiog oedd yn parhau yn dir amaethyddol.

Mae’r enw yn disgrifio lleoliad y tir, sef uwchben glan yr afon, yr Ogwan yn yr achos hwn. Mae’n enw arbennig o gyffredin, fel y gellid disgwyl mewn gwlad fel Cymru, gydag Archif Melville Richards yn cofnodi 18 enghraifft o PENYLAN yng Nghymru, a dau yn Swydd Henffordd, a 5 enghraifft o PENLAN.

I’r cychwyn

Pentre(f)

Fferm fwyaf Nant Ffrancon, yn 1388 o aceri, er fod Cwm Idwal a Chwm Cywion yn 1200 o’r aceri rheiny. Mae’r enw ‘ pentref’ yn dod o drefn y Canol Oesoedd; roedd yr arglwydd, neu berchennog y tir, yn byw yn ei lys, ac ym mhen pellaf y tir , roedd ei fileiniaid yn byw. Y ‘bileiniaid’ oedd y bobl rheiny oedd yn gaeth i’r tir, ac yn eiddo perchennog y tir; nid oedd ganddynt hawl i adael y tir hwnnw, i fyw neu weithio rywle arall, ac fe allent gael eu gwerthu efo’r tir; yn gymdeithasol, un gris yn uwch na chaethweision oeddynt. Ni wyddys beth oedd enw’r ‘dre’ yn Nant Ffrancon, ond mae’r ‘maes’ ym Maes Caradog, a Thynymaes, yn awgrymu lleoliad y fferm. Ar ei chyrrion eithaf yr oedd y ‘pentre’ lle’r oedd y bileiniaid yn byw.

( I’r cychwyn )

Perthi Corniog

Yn 1765 roedd Perthi Corniog yn dyddyn bychan 19 acer, ac mae map Arolwg Degwm 1838-40 yn dangos ei leoliad rhwng Tyddyn Dicwm, Pendinas, a Phennau’rbronnydd, gyda’i dir yn ymestyn at afon Ogwen. Yng Nghyfrifiad 1841 mae’n ymddangos fel Perthi Corniog, gyda Joseph Thomas a’i deulu yn ffermio’r tir. Fodd bynnag, erbyn Cyfrifiad 1851, collwyd y ‘Corniog’ a ‘Perthi’ ydyw’r enw erbyn hynny, a dyna fel yr arhosodd hyd heddiw.

Mae ‘perth’ yn air cyffredin yn golygu ‘llwyn’, ‘gwrych’, ‘coed bychain’, ‘dryslwyn’, ac fe’i gwelir mewn enwau, megis yr aderyn ‘llwyd y berth’, yn y ffrwyth sur ‘eirin perthi’, ( eirin surion bach, eirin tagu). Mae’n elfen hynod o gyffredin mewn enwau llefydd. Mae Tyddyn y Berth ger Talybont, tra bod sawl Pen y Berth ( neu Penyberth), gan gynnwys yr un enwog ger Pwllheli, ble’r oedd yr ysgol fomio. Yr un gair sydd yn enw’r dref ‘Perth’ yn yr Alban, yr un a roddodd ei henw i’r dref o’r un enw yn Awstralia. Felly, enw Cymraeg sydd i brifddinas Gorllewin Awstralia

Am y ‘corniog’, nid y cyrn sydd ar dai sydd yma, nid ‘simneiau’. Yn hytrach, yr hyn sydd yn yr enw yw’r un ‘corn’ sydd yn y ‘cyrn’ sydd ar ein traed, neu ein dwylo, sef y croen caled hwnnw sydd arnynt. Wrth gyfeirio at goed mae’r gair yn disgrifio coed cnotiog, caled, llwyni trwchus o frigau cnotiog.

Perthi Corniog

Cofnod o fap OS 1887-8 yn dangos yr enw Perthi Corniog

( I’r cychwyn )

Plas Hwfa

Am hanes Plas Hwfa,gweler y safwe Hanes Dyffryn Ogwen

Saif Plas Hwfa ar fin yr A55; fe’i cyrhaeddir trwy ei chroesi ar yr is-ffordd o Gatws heibio Talybont Uchaf. Mae’n adeilad cofrestredig

Mae ‘plas’ heddiw yn golygu adeilad mawr crand, yn perthyn i uchelwr, ond doedd hi ddim felly erioed. Mae’r gair Cymraeg ‘plas’ yn syml yn dod o’r gair Saesneg cyffredin ‘place’. Yn y Gymraeg,mewn enwau llefydd, daeth i olygu ‘ty mwy na’r cyffredin’. Yn amlach na heb yr oedd plas yn fferm oedd yn perthyn i’r ffermwr ei hun, ac nid i stâd. Pan oedd y ffermwr yn berchen ar ei dir ei hun, fe’i gelwid yn ‘iwman’, ac roedd yn ddyn rhydd , yn gallu gweinyddu ar reithgor. Yn y gymdeithas ganol-oesol diweddar, roedd yr iwmyn yn ddosbarth o bobl rhwng yr uchelwyr a’r gweithwyr cyffredin a’r ffermwyr cyffredin; hwy oedd y mân uchelwyr, a’r prif ffermwyr. Cyffredin iawn oedd tai’r ffermwyr cyffredin, ond daeth tai’r iwmyn a’r prif uchelwyr yn fwy. Hyd at Oes y Tuduriaid, unllawr oedd neuaddau’r uchelwyr a thai’r iwmyn, ond, yn ystod y cyfnod hwn, fe ddatblygwyd y simnai, gan symud y tân i dalcenni’r cartrefi. Canlyniad hynny oedd datblygiad llawr arall ar y ty, gydag ystafelloedd unigol. Gyda llaw, roedd y simneiau cynnar yn beryg bywyd, ond stori arall ydy honno. Fel y tyfodd tai’r mân uchelwyr a’r iwmyn mwyaf llewyrchus, enwyd rhai ohonynt yn ‘Blas’, oherwydd dyna oeddynt, o’u cymharu â’r rhan fwyaf o dai, ond ni fyddent fyth yn cael eu cydnabod fel ‘plas’ yn ystyr cyfoes y gair. Mae nifer o ffermydd sylweddol, yn enwedig ar lawr gwlad, yn dwyn yr enw ‘plas’, yn deillio o’r cyfnod pan oeddynt yn dai mwy na’r arfer, ac yn perthyn i’r dosbarth a nodwyd. Doedd fferm Plas Hwfa ddim yn sylweddol; o leiaf, yn 1841, 10 acer ydoedd, ond, yn sicr, yr oedd y ty.

Hwfa

Enw person; ef, mae’n amlwg, oedd perchennog y ‘plas’ ar un adeg, a hynny’n gynnar, yn sicr cyn amser yr Esgob Griffith Williams. Er ei fod yn yr un ardal, nid oes raid iddo fod yr un person ag a gofir yn ‘Pant Hwfa’, gan fod Hwfa yn un o’r enwau mwyaf cyffredin yng ngogledd Cymru yn y Canol Oesoedd; ceir Tre Hwfa, Cae Hwfa, Pant Hwfa, ac ymddengys yr enw mewn sawl rhestr ganoloesol. Fel ffasiwn ym mhob oes, diflannodd yr enw, ac anaml iawn y gwelwyd ef wedyn, er fod yr Archdderwydd hunan-bwysig hwnnw, Hwfa Môn yn teyrnasu gyda’r enw yn niwedd y19eg ganrif – ond cymryd yr enw o Rostrehwfa ger Llangefni a wnaeth ef.

( I’r cychwyn )

Plas Uchaf

Fferm sylweddol o 85 acer yn 1785. ( Gweler Plas ). Mae’r Uchaf yn yr enw yn amlwg, ond nid mor glir ‘uchaf’ o’i gymharu â beth ? Gweddill y plwy, neu blas arall? Haws gennyf gredu mai’r ail, efallai Plas Hwfa, ond ni ellir dweud i sicrwydd heddiw.

( I’r cychwyn )

Pwll Budur

Pwll budur
                          Pwll Budr o Lwybr yr Arfordir
Yr Hendre ar dywdd gwlyb
                          Edrych i lawr ar Bwll Budr o'r bronnydd

Un arall o hen ddaliadau hendref Llanllechid sydd wedi diflannu ers bron i ddwy ganrif. Fodd bynnag, mae’r pwll y cymerodd ei enw ohono yn dal yno. Os cymerwch Lwybr yr Arfordir a Aberogwen tuag at Abergwyngregyn, tua diwedd y rhan gyntaf o’r llwybr sydd wedi ei ffensio o dir Glan y Môr Isaf, edrychwch i’r dde ac fe welwch bwll bas eithaf sylweddol; mae maint y pwll yn ddibynnol ar y tywydd – ar dywydd gwlyb bydd gryn dipyn yn fwy nag yw ar dywydd sychach. Hwn yw Pwll Budr. Wrth ddod i’r llwybr sydd ar lan Traeth Lafan, fe welwch sianel, wedi ei amgáu gan goncrid, yn llifo i’r môr; ei enw ar fap OS yw Cwlfer Pwll Budr.

Yn ôl Arolwg 1768 roedd yn ddaliad 41 acer, ond roedd 19 acer o hynny’n dir gwlyb ( ac yn bwll ), gyda Thir Sych y Pwll yn 8 acer, a Chae Pen y Lanna ( Glannau? ) yn 14 acer. Roedd yn 42 acer yn ôl yr Arolwg Degwm 1838-1840. Er ei fod yn ddaliad unigol, erbyn 1838 yr oedd yn cael ei ddal ar y cyd  gan Ann Hughes, Aberogwen, a phartneriaid eraill. Yn yr ad-drefnu fe roddwyd y tir ynghlwm wrth fferm Glan y Môr Isaf.

O safbwynt yr enw, mae edrych arno heddiw yn ei egluro; pall bas iawn ydyw, ac mae pyllau o’r fath yn fudr gan y mwd sy’n agos i’r wyneb.

( I’r cychwyn )

Rachub

Yn ôl Syr Ifor Williams, mae’r enw cyffredin ‘achub’, wedi dod i’r Gymraeg o’r Lladin ‘occupo’, yr un gair ag sydd wedi rhoi ‘occupy’ yn y Saesneg. Mae’n golygu ‘ cymryd meddiant, neu gymryd gafael,’ o rywbeth.Mewn achos tir, mae’n golygu ‘ennill tir/ cymryd meddiant o gyflwr gwyllt’. Mae cofnod o ddau gae o’r enw hwn yn Nyffryn Ogwen, un ar fferm Cilfodan ym mhlwyf Llanllechid, a’r llall ar dir Ty Hen, (40 acer )  ym mhlwyf Llandygai ( Mae’r cae hwn a’r fferm, ynghyd a’r Ty Hen arall – 62 acer, a daliadau eraill, heddiw o dan domen y chwarel )

Map o Arolwg 1768 yn dangos tir Ty Hen, ger safle’r chwarel a fyddai’n datblygu’n gyflym wedi 1782. Y cae uchaf yw ‘Yr achub’, sy’n dangos iddo gael ei ‘achub’ o dir gwyllt y mynydd. ( Archifdy Prifysgol Bangor PENRA 2009 – ar wahân i’r ysgrifennu cyfoes sy’n nodi’r mynydd!)

Yr hyn sy’n ddiddorol am y ddau yw eu bod, ill dau, ar derfyn uchaf y ddwy fferm, ar y terfyn â’r mynydd; arwydd, mae’n debyg, mai eu hennill o’r mynydd yn ddiweddarach na gweddill y fferm a wnaethpwyd. Roedd olion pentref o’r un enw mewn ardal fynyddig arall, Penmachno, ac roedd fferm o’r enw yn Llyn. Mae map 1791 John Evans o Ogledd Cymru yn dangos ‘achibuchaf’, ger Caellwyngrydd, ac mae papurau Carter Vincent yn sôn am ‘achubuchaf’ yn 1819. Yn ôl dogfen Tithe Rents 1795-96 ym mhapurau’r Penrhyn ( PENRA 2809 ) yn disgrifio ‘Rachub Ucha’ fel rhan o diroedd Coetmor, gyda Maurice Williams yn talu £1:11:6 y flwyddyn amdano. ( Tybed ai’r un Maurice Wiiliams oedd hwn a’r Maurice Williams oedd yn berchen ar stâd fechan gyfagos Tan y Bwlch ( Tyddyn y Lon ), ond roedd y tir yn agos iawn i’w dir ef. Dangosodd Linda Pritchard mewn erthygl werthfawr yn y wefan Hanes Dyffryn Ogwen ble’r oedd safle hen gapel Yr Achub, a leolwyd ar y tir o’r un enw, sef rywle heb fod nepell o sgwâr presennol y pentref. Byddai hynny yn lleoli’r tir ar derfyn dau ddaliad oedd yn eiddo i stâd Coetmor, sef Llwyn Bleddyn a Chefn Bedw. Roedd bwthyn yno yn 1794, oherwydd roedd Coetmor yn derbyn rhent o gini’r flwyddyn am ‘a cottage at ruachub’, ac mewn rhestr arall nodir ‘a cottage called achib’ yn dod â rhent blynyddol o £1:11:6 i Goetmor

Yr enw ar y pentref uwchben y sgwâr presennol hyd yn weddol ddiweddar oedd Caellwyngrydd, ar ôl yr hen dyddyn 12 acer yr adeiladwyd yn gynnar arno. Yng Nghyfrifiad 1841 dim ond 12 ty a elwid yn Rachub, gyda 60 person yn byw ynddynt, tra roedd 487 o bobl yn byw yn 99 ty Caellwyngrydd. Eto daeth y brawd bach i ddwyn enw ei frawd mawr, ac, erbyn heddiw, does dim llawer o’r trigolion presennol yn gwybod am, heb sôn am ddefnyddio’r enw ‘Caellwyngrydd’. Mae’n ddirgelwch sut y digwyddodd hyn, ond , mewn ambell achos tebyg, mae lleoli swyddfa bost yn rhoi enw’r swyddfa i’r ardal. Mae’n debyg fod lleoli’r Swyddfa Bost ar y sgwâr, yn ardal fechan Rachub, gan roi’r enw post Rachub i’r cylch , wedi dylanwadu ar fabwysiadu’r enw ‘Rachub’ am yr holl bentref.

 Am fap 1888 o’r ardal gweler Caellwyngrydd

%d bloggers like this: