Enwau cyffredin/ Generig

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

 Enwau a drafodir yma

Llan Cae Ffridd Tyddyn/ Tyn Cil Tre(f) Gwern Parc Gweirglodd Nant

Llan

Llan2

Delwedd o ymddangosiad tebygol llan Gristnogol gynnar, gydag chell eglwysig

ac adeiladau megis gweithdai, celloedd cysgu, ac ati

Ystyr ‘llan’ ydy darn bychan o dir wedi ei gau i mewn. Yr un elfen sydd mewn ‘gwinllan’, ‘corlan’, ‘perllan’, ‘coedlan’, ac yn y blaen. Mae’n dod o’r Frythoneg ‘landa’, sydd yntau yn dod o’r Gelteg ‘landa’ < *lendh ‘ , oedd yn golygu ‘tir agored’. Mae’r ystyr hwnnw yn y gair ‘llannerch’, sef tir agored mewn coed, fel arfer. Daeth yr un gair i’r Saesneg fel ‘land’. Yn y Gymraeg a’r Wyddeleg datblygodd yr ystyr o dir eglwysig, eglwys. Mae dwsinau o enwau pentrefi a phlwyfi yng Nghymru yn dechrau gyda’r gair ‘llan’; a dweud y gwir, mae mwyafrif enwau plwyfi’r wlad yn dechrau gyda’r gair. Mae’n dynodi eglwys, gydag enw ar ei ol, boed hwnnw’n enw priod, neu’n enw cyffredin. Mae’r defnydd yn hen, ac, yn gyffredinol yn mynd a ni yn ol i’r hyn a elwir yn Oes y Seintiau, sef rhwng degawdau cyntaf y bumed ganrif a diwedd y chweched, y cyfnod pan ddaeth Cymru gyfan o dan ddylanwad Cridtnogaeth. Sefydlwyd nifer helaeth o eglwysi gan wahanol bobl: yn aml dim ond rhyw gell o eglwys ac, efallai, un neu ddau o adeiladau eraill, a fyddai yno; dro arall ceid cymuned o wyr eglwysig, gyda sawl gwahanol adeilad, ar gyfer cynhaliaeth y gymuned. Byddai’r eglwys a’r tir o’i chwmpas yn cael ei hamgylchynu gan wrych, neu ffens o wiail, yn bennaf er mayn dynodi perchnogaeth, ond, hefyd, er mwyn cadw anifeiliaid gwylltion allan. Y  tir hwn y tu mewn i’r ffens, neu’r ‘bancor’, oedd y ‘llan’. Daethpwyd i adnabod y ‘llan’ trwy roi enw ar ei ol. Mae’r enwau rheiny yn disgyn i bum gwahanol ddosbarth

  • Enw’r person crefyddol ( y sant ) a sefydlodd y gell. Fel arfer, sant dinod wdoedd hwn, ac wedi sefydlu un eglwys yn unig, gan dreulio ei oes yno. Ambell dro, gallai fod wedi sefydlu eglwys arall heb fod nepell o’r gyntaf. O’r herwydd, nid oes ond un enghraifft o’r enw, neu ddau pan fo dwy eglwys.
  • Yn aml, byddai pennaeth lleol yn cael troedigaeth grefyddol ac yn cyflwyno darn o dir i godi eglwys arno. Fel cydnabyddiaeth, byddai’r eglwys yn cael ei henwi ar ol y pennaeth, neu un o’i deulu. O’r herwydd, mae gwahanaiethu rhwng hyn a’r dosbarth cynt yn amhosibl.
  • Yr oedd ambell sant yn fwt blaenllaw nag eraill, er enghraifft, Dewi, Illtud, Dyfrig, a Beuno, ac, o’r herwydd, byddai eglwysi yn cael eu cysegru iddynt mewn mwy nag un lle, er mwyn rhoi urddas a statws iddi, ac nid oherwydd fod y sant wedi sefydlu’r eglwys. Fel arfer, yn ardal dylanwad y sant y byddai’r eglwysi hyn. Cysegrwyd llannau i Dewi, er enghraifft, o Benfro ar draws y Deheubarth i Henffordd, Illtud a Dyfrig ym Morgannwg a Gwent, tra mae llannau yn enw Beuno ar draws Gogledd Cymru
  • Mae mwy nag un eglwys wedi cael ei chysegru i sant penodol, ond mae enw’r llan yn cymryd ei safle, er enghraifft, Llangoed a Llanfaes, wrth ochr ei gilydd ym Mon, un yn y coed, a’r llall yn y maes. Mae nifer o’r rhain yng Nghymrue.e. Llanfynydd, Llangors, Llangwm.
  • Daeth y Normaniaid i Gymru cyn 1100, gan ddod a’r prif seintiau Cristnogol gyda hwy. Pan fyddent hwy yn adeiladu eglwys, neu, ambell dro, yn ail-gysegru un wreiddiol Gymraeg, rhoddid enwau’r seintiau hyn arni. Dyna pam mae sawl enghraifft o Llanfair, Llanbedr, Llanfihangel, ac ati yn y wlad.

Felly, am fil o flynyddoedd pan gyfeirid at unrhyw ‘lan’, megis Llanllechid, neu Landygai, cyfeirio at yr eglwys a’r tir yn union o’i chwmpas yr oeddid. Erys hynny yn yr iaith, pan sonnir am gorff – neu briodasferch – yn mynd ‘i’r llan’.

Yn ôl yr hen bennill, mae

…..mor aml yn y llan

Gorff y ferch a chorff y fam’

A ‘mynd i’r llan mae pawb o hen gariadon’ yr hen ferchetan; mynd i’r eglwys i briodi yr oeddynt, ond i briodi rhywun arall!

Ac, wrth gwrs, wrth ymyl llawer iawn o eglwysi hynafol, y drws nesaf, fel arfer, mae daliad o’r enw Tyddyn ( Tyn ) Llan. Mae tai Tyn Llan Llanllechid  gyferbyn a’r eglwys ym mhentref Llanllechid

( I’r cychwyn )

CAE

ffermio

Mae Cae yn elfen cyffredin mewn enwau ffermydd a thyddynnod yng Nghymru. Mae’n perthyn yn gytras i’r gair ‘cau’, a thir wedi ei gau i mewn yw cae yn y Gymraeg. Y mae, hefyd, yn perthyn i’r gair ‘caer’, sy’n disgrifio tir yn cael ei amddiffyn trwy gau amdano. Yn wreiddiol, ystyr ‘cae’ oedd y gwrych oedd yn cael ei ddefnyddio i gau darn o dir;

Yn ol GPC , mae gair tebyg yn yr ieithoedd Celtaidd P, sef Cymraeg, Cernyweg, a Llydaweg

Crn. ke ‘gwrych, clawdd; cae’, H. Lyd. caiou, gl. munimenta, Llyd. C. quae ‘gwrych neu glawdd drain’, Llyd. Diw. kae ‘gwrych; cae’,

Mae ‘cae’, hefyd, yn cael ei ddefnyddio yn ein barddoniaeth gynharaf i ddisgrifio cylch o aur o gwmpas pen tywysog neu uchelwr, sef yr un elfen o gau i mewn gan gylch. Disgrifir un o arwyr y Gododdin, yn y chweched ganrif, fel gwr ‘caeawg’, sef un yn gwisgo torch o gwmpas ei ben.

Fel y nodir mewn trafodaeth arall, y tir amaethyddol sylfaenol yn yr oesoedd cynnar a’r canol oesoedd oedd y ‘maes’, oedd yn lle agored. Roedd y rhan âr ohono yn cael ei rannu’n ‘lleiniau’ bychain, gyda ‘thalar’ ym mhen bob un, a ‘sinach’ gul rhyngddynt. Mewn rhannau eraill o’r maes roedd ardaloedd wedi eu neilltuo i dyfu cnydau, ac, er mwyn cadw anifeiliaid ohonynt a rhoi cyfle i’r cnydau dyfu, fe’u caeëid i mewn gyda chlawdd, neu wrych, sef ‘cae’. Mewn amser daeth y tir hwnnw y tu mewn i’r gwrych  i’w alw yn ‘gae’. Dyna wraidd y gair ‘gweirglodd’, am dir yn tyfu gwair, sef ‘tir i dyfu gwair gyda chlawdd o’i gwmpas.

Yn Ewrop y Canol Oesoedd datblygwyd dull ‘ Tri Chae’ o ffermio tir âr, sef dull o gylchdroi cnydau er mwyn cynhyrchu mwy. Roedd un cae yn cael ei adael i orffwys heb gnwd, tra tyfid yd mewn un arall, a phys, neu geirch yn y trydydd; byddai’r drefn yn cylchdroi bob blwyddyn, gyda phob cae yn cael gorffwys a braenaru un flwyddyn ym mhob tair.

Yn dilyn y Pla Du ( 1347 – c1350), a oedd yn gyfrifol am farwolaeth traean poblogaeth Ewrop, chwalwyd yr hen drefn gymdeithasol yn llwyr. Un canlyniad chwyldroadol oedd i dir oedd yn perthyn i’r Arglwydd, uchelwr, neu deulu estynedig, fynd i ddwylo unigolion, a chael ei rannu yn y broses, gyda’r canlyniad fod llawer iawn o ddaliadau llai yn cael eu perchnogi, neu, yn llawer mwy arferol, eu rhentu gan, unigolion. Roedd y rhain yn diroedd agored, ac aed ati i ddangos terfynau’r tir trwy ei amgau gyda gwrych, neu glawdd. Yn nes ymlaen, pan oedd angen dynodi’r tir, mewn gweithred gyfreithiol, er enghraifft, rhoddwyd yr enw ‘Cae’ gyda disgrifiad, neu enw’r person oedd yn ei ddal ar y pryd, ar y daliad. Yn nes ymlaen fe rannwyd y ‘cae’ gwreiddiol yn nifer o gaeau llai, ond cadwodd y daliad ei enw Cae ……

Mae Cae Mawr ym mhlwyf Llanllechid, sydd, bellach, yn dy moel, ond a fu, hyd 1855, yn ddaliad o 44 acer. Mae’n enw cyffredin, gydag 20 enghraifft ar draws Cymru, y cynharaf ar glawr yn Aberffraw yn 1547. Yr un modd gyda Cae Gwyn ( sydd bellach yn Ty Gwyn); cofnodir 20 o’r rheiny yng Nghymru, gyda’r cynharaf yn Sir Drefaldwyn ym 1557.

Mae naw enghraifft o ddaliadau gyda’r elfen ‘cae’ yn yr enw ym mhlwyf  Llanllechid ( nifer wedi diflannu bellach ), a phedwar ym mhlwyf Llandygai.

( I’r cychwyn )

Ffridd

Er fod y gair ‘ffridd’ yn edrych yn hynod o gartrefol yn yr iaith, ac yn air cynhenid Cymraeg, nid hynny yw’r achos; benthyciad o air Saesneg canoloesol ydyw, sef ‘frith’, a ddatblygodd o’r Hen Saesneg ‘fyrhode’. Roedd yr Hen Saesneg yn golygu ‘tir coediog’, neu ‘goedwig’, ond ehangodd i olygu ‘rhostir’, neu dir gwael,yn amlach na heb ar lethrau mynydd. Yn wir, yn 1688, nodir mai tir wedi ei gymryd yn ddiweddar o’r mynydd yw ‘ffridd’. Roedd yn fenthyciad gweddol gynnar i’r Gymraeg, gan y gwelir ef gyntaf yn y 14eg ganrif. Mewn ambell ardal, yn enwedig yn sir Fflint, arhosodd yr ynganiad yn ‘ffrith’, ond ymhellach i’r gorllewin, meddalodd yr ‘th’ a throi’n ‘dd’, gan roi ‘ffridd’ inni.

Mewn ardal fel Dyffryn Ogwen,yn enwedig yn uwch i fyny’r dyffryn, disgwylid llawer iawn o ffriddoedd, ac felly y mae. Yn wir, mae llawer iawn o diroedd y ffermydd ar y llethrau uchaf yn ffriddoedd, ac yn adlewyrchu natur wael y tiroedd ar y ffermydd hynny. Er enghraifft, mae 46 o 104 acer un o’r 3 Corbri yn ffriddoedd, a 26 o 64 acer Cymysgmai felly hefyd, a chyfartaledd eithaf tebyg sydd i’r rhan fwyaf o ffermydd uchaf y llethrau. Fodd bynnag, er fod ffridd yn dir gwael, mae tiroedd salach ar sawl fferm, yn gorsydd, a choed, a chreigiau; gwneud y gorau o’r hyn oedd dan eu traed oedd tynged pob ffermwr. Yr hyn sy’n arwyddocaol yw nad oedd yr un ffridd yn Nant Ffrancon – ychydig o dir llawr y nant oedd i’r rheiny, gyda’r cymoedd uchel a’r mynyddoedd yn weddill y tiroedd.

( I’r cychwyn )

Tyddyn/ Tyn

fferm

Erbyn heddiw mae’r gair ‘tyddyn’ yn cyfeirio at fferm fechan, neu ddaliad gydag ychydig o dir, gyda gwahaniaeth amlwg rhwng tyddyn a fferm. Cymrwch deitl y cylchgrawn poblogaidd ‘ Fferm a Thyddyn’, sy’n gwahaniaethu’n amlwg, a dealladwy,  rhwng y ddau.. Fodd bynnag, ei ystyr am ganrifoedd oedd daliad o dir, neu’n fwy aml, adeiladau gyda thir ynghlwm wrtho.

Mae’r defnydd cyntaf o’r gair sydd ar glawr yn dod o’r 12fed ganrif, a cheir enghreifftiau ysbeidiol ohono drwy’r Oesoedd Canol, yn llythrennol am ei gartref, ac yn drosiadol am gorff dyn, sef y lle y mae enaid dyn yn byw. Pan yw Sion Cent, yn hanner cyntaf y15ed ganrif yn dweud

‘Diddim ydyw o dyddyn’

Sôn y mae am y bedd ble mae’r corff yn gorwedd, sef ei breswylfod terfynol.

Ganrifoedd cyn hynny, yn wreiddiol, mae’r gair ‘tyddyn’ yn gyfuniad o’r gair ‘ty’ a’r gair    ’ dynn’, sydd â’i wraidd mewn gair Celtaidd ( tebyg i ) ‘dynn’. Hwnnw yw’r gwreiddyn a roddodd fodolaeth i ‘dun’ a ‘din’ yn yr ieithoedd Brythoneg, sef y gair a geir mewn enwau llefydd i ddynodi ‘amddiffynfa’, ‘caer’ ee. Dinbych, Dinorwig, Dundee, Dun Laghoire, ac yn y blaen. Ystyr wreiddiol ‘tyddyn’ felly, fyddai ‘adeilad sydd wedi ei amddiffyn’, rhyw fath o adeilad a elwid yn y Saesneg yn ‘fortified homestead’.

Daeth y gair i ddefnydd mwy cyffredin yn dilyn y Pla Du, ( Cymru 1848 – c 1851). Prif ganlyniad marwolaeth traean y boblogaeth gan y pla oedd chwalu’r hen drefn gymdeithasol, ble’r oedd tirfeddiannwyr mawr a gweithwyr caeth yn trin eu tiroedd. Crynhowyd stadau mawrion – megis Cochwillan a Phenrhyn, a Choetmor, i raddau llai, yn Nyffryn Ogwen, ac, er mwyn cael y gwerth mwyaf o’r tiroedd, fe’u rhannwyd yn unedau llai, amrywiol eu maint, gan eu gosod ar rent. Pan oedd y Tuduriaid ar yr orsedd ( 1485 – 1603 ), fe ddatblygwyd llawer ar fiwrocratiaeth a gweinyddiaeth, a daeth angen am gofnodion ysgrifenedig, megis rolau rhenti, cytundebau cyfreithiol, ac yn y blaen. Hon oedd canrif twf y cyfreithwyr a’r gweinyddwyr biwrocrataidd! Yr 16ed ganrif yw’r un lle gwelir cofnodi enwau ar ddaliadau tir yn gyffredin am y tro cyntaf, a dyma’r ffynhonell orau am ystyron gwreiddiol enwau llefydd. Canlyniad hyn oedd fod llawer o’r daliadau oedd yn bodoli bellach yn cael eu henwi’n ffurfiol, a’u hoelio ar ddarn arbennig o dir, ac, yn aml iawn, roeddynt yn cael eu galw’n Dyddyn rhywbeth neu’i gilydd, i ddynodi daliad o dir, a hwnnw’n ddaliad o unrhyw faint. Er enghraifft, ym 1565, nodir Tyddyn y Ty Brwyn yn Nant Ffrancon, daliad helaeth ar ochr Llanllechid i’r afon Ogwen. Roedd y tyddyn hwn yn cynnwys Ffridd y Ty Du, a Gallt y Ty Gwyn, sydd, ill dwy, erbyn heddiw, yn ffermydd sylweddol y neu rhinwedd eu hunain

Pan gofnodwyd yr enw, roedd gwahanol ddull o nodi’r lle. Yn aml, cofnodid ef fel tyddyn ym meddiant rhyw berson arbennig; mae enghreifftiau o hyn yn Nyffryn Ogwen, megis Tyddyn Iolyn, a Tyddyn Dicwm, Tyddyn y Ceiliog, a Thyddyn y Bartle ( y ddau olaf wedi diflannu bellach). Yn aml, dros y blynyddoedd, byddai’r enw yn newid fel y byddai’r tenant yn newid. Does gennym ni ddim syniad bellach a yw’r daliadau canlynol, a grybwyllir ym mhapurau’r Penrhyn, dros y canrifoedd cyn 1750, yn bodoli yn eu ffurf wreiddiol, neu wedi eu rhannu, neu eu hychwanegu at ddaliadau eraill.

Tyddyn Owen Hugh

Tyddyn Gruffydd Vaughan

Tyddyn Rees (ap) David ap Pellyn

Tyddyn Ifan Delynor

Tyddyn Sion ap Ifan Delynor ( gellid mai’r un tyddyn yw hwn ag eiddo ei dad, ond fod y tenant wedi newid)

Tyddyn Dominic ap William

Tyddyn Richard ap David ap William,

Tyddyn Rowland

Tyddyn Elis Dafydd

Dengys y newid enw o denant i denant o’r nodyn hwn ym mhapurau’r Penrhyn yn 1601

‘Tyddyn Heilyn alias Tyddyn John ap Madog ap Iolyn’

Tybed beth yw enw’r tyddyn hwnnw erbyn heddiw, os yw’n bod yn ei ffurf wreiddiol?

Mewn achosion eraill, nodwyd lleoliad fel rhan o’r enw i’w wneud yn lle penodol. Mae’r enwau hyn yn fwy arhosol, gan nad ydy nodwedd lleoliad  yn newid o denant i denant. Dyma sy’n gyfrifol am y daliadau canlynol ( pob un yn sicr yn bodoli o dan yr enw ers o leiaf 1768 ), er bod yr olaf wedi diflannu i’r Parc yn yr 1840au, tra nad oes sicrwydd o gwbl am Tyddyn y Pant

Tyddyn Du ( cofnod cyntaf 1500 }

Tyddyn y Clawdd

Tyddyn Isa

Tyddyn Canol

Tyddyn Isaf

Tyddyn y Wern

Tyddyn y Pant

Y Tyddyn ar lan yr afon

Wedyn, ceir ambell nodwedd benodol i adnabod tyddyn

Tyddyn Cornchwiglen

Tyddyn y Felin

Tyddyn y Barcdy

Tyddyn Llwydyn ( person, neu nodwedd y tir )

Tyddyn yr Hendre

Mae’r amrywiad ‘TYN’, gan amlaf,  yn gywasgiad llafar o Tyddyn, ac yn golygu’r un peth, er ei fod, weithiau , yn gallu bod yn’ Ty yn y ‘; byddai’r  olaf, fel arfer, yn enw gweddol ddiweddar. Mewn achos cynnar o’r defnydd ‘Ty yn’, byddai’n dynodi ty moel, ble preswyliai gweithiwr neu grefftwr hen ei dir ei hun. Yn sicr TYN sydd yn

Tyn Hendre

Tyn Clwt

Tyn Twr

Tyn Ffridd

Ond gallai

Tyn y Maes

Tyn Caeau

Tyn Lôn

fod yn un o’r ddau a nodwyd.

( I’r cychwyn )

Cil

Mae CIL yn elfen gyntaf eithaf cyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, ee  Cilgwyn, Cilfynydd, Ciliau Aeron, ac mae pedwar enw yn Nyffryn Ogwen yn cynnwys yr elfen, sef Cilfodan, Ciltrefnus, Cilgeraint, a Chiltwllan. Mae, hefyd, yn elfen mewn nifer o enwau cyffredin yn y Gymraeg, ee cilwenu, ciledrych, cildwrn, cilddannedd, cil y drws, ac yn y blaen.

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, mae sawl ystyr i’r gair, ond i gyd yn weddol agos at ei gilydd

[H. Grn. chil, gl. ceruix, Llyd. kil, Gwydd. cúl ‘congl; cefn, rhan ôl; gwaelod’, cf. Llad. cūlus ‘the posterior’] eg. ll. ciliau, cilion, cilod, ciloedd.

Congl, cornel, cwr; cefn, tu ôl, gwar; encil, ffo; lloches, cilfach, lle o’r neilltu;

Mae ystyr ‘cil’ i’w weld yn y gair ‘encil’, a ‘cilfach’, sef ‘rhywle o’r neilltu’, lle cysgodol,’cornel’, ‘cwr’. ‘Cilddannedd’ yw’r rhai sydd yng nghornel a chefn y ceg,’ ciledrych’ yw taflu golwg slei trwy gornel y llygad, ‘agor cil y drws’ yw agor ychydig arno, tra bod ‘cilfach’ yn lle cysgodol ar ffurf tebyg i fachyn.

Am yr enwau yn Nyffryn Ogwen, mae tri ym mhlwyf Llanllechid, ac un ym mhlwyf Llandygai. Mae’r tri sydd yn Llanllechid yn agos iawn at ei gilydd, gyda Chilfodan a Chiltwllan yng nghysgod cefnen isel, ond Ciltrefnus yn nannedd y ddrycin ar lethr y mynydd; mae’r un sydd yn Llandygai ar draws y dyffryn iddynt, ac ar yr un uchder, fwy neu lai. Mae’n debyg, felly, mai eu nodwedd ddaearyddol sy’n gyffredin i dri ohonynt, , sef eu bod, y tri, mewn rhyw fath o gilfach gysgodol. Fe allai fod lleoliad cynnar Ciltrefnus, hefyd, mewn rhyw fath o gilfach.

Am yr enwau unigol, wedyn, yr wyf yn eithaf hyderus gydag ystyr dau ohonynt, ond yn fwy petrus gyda’r ddau arall. Mae’r trafodaethau yn yr adran CD

( I’r cychwyn )

Tre(f)

ffermio

Erbyn heddiw, mae ‘tref’ yn golygu ardal boblog; mae’n fwy na phentref, ac yn llai na dinas    ( fel arfer ). Fodd bynnag, yn wreiddiol, rhaniad o dir ydoedd, nid o faintioli penodol, ond yn golygu rhywbeth i bobl y cyfnod. Dyma beth sydd gan Cyfraith Hywel Dda i ddweud am ‘dref’, wrth sôn am raniadau tir.

pedeyr rantyr em pob gauael; pedeyr gauael em pob tref; pedeyr tref em pob maenaul; deudec maenaul a due tref en e kymhut. E

neu, yng ngeiriau heddiw

Mae pedwar rhandir ym mhob gafael, a phedwar gafael ym mhob tref, pedair tref ym mhob maenor ( neu ‘maenol’ ), a deuddeg maenol a dwy dref, ( sef 50 tref ), ym mhob cwmwd.

Gan fod Dyffryn Ogwen yng nghwmwd Arllechwedd Uchaf, byddid yn disgwyl 50 tref, neu ‘drefgordd’ yn y cwmwd. Roedd ‘tref’,felly, yn uned eithaf sylweddol, ac roedd yn cyfateb i fferm fawr heddiw,a honno yn fferm gymunedol, neu’n uned yn cynnal teulu estynedig. Roedd y cyfreithiau yn bur bendant am faint pob tref, hefyd,

un ar pymthec a deugeynt a deu cant ( erw ) en e tref.

Dau gant ac un ar bymtheg a deugain ( 16 ) o erwau mewn tref

 Fodd bynnag, nid oedd hyn mor ddeddfol bendant ag yr ymddengys, gan fod maint ‘erw’ yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r maint y cyfeirir ato yn disgrifio tir y gellid cael cnydau ohono yn unig, gan fod y coed, y tir pori, a’r tir gwyllt yn ychwanegol iddo.

 Roedd gwahanol fathau o drefi yn y Canol Oesoedd, gyda rhai yn cynnal yr arglwydd a’i lys ( Treflys ), rhai yn cynnwys dim ond taeogion yr arglwydd (‘trefi caeth’ oedd y rheiny), tra roedd rhai yn perthyn i ddynion nad oeddynt yn gaeth; ym Mangor yr oedd Tre Gwyr Rhyddion. Byddai ambell dref ar gyfer cynnal swyddogion y llys; enghraifft fyddai Maerdref.

Roedd y dref yn cael ei hadnabod yn ôl y math o dref ydoedd, ble’r oedd wedi ei lleoli, pwy oedd y penteulu neu ddisgrifiad o’i lleoliad. Erbyn heddiw, mae’r trefi canol-oesol hyn wedi diflannu, wedi datblygu’n bentref, ( Tregarth, Tregele, Treboeth, Trewalchmai ), neu datblygu’n fferm unigol sylweddol ( Tregwehelyth, Trefeilyr, Tre’r Gof )

( I’r cychwyn )

Gwern, Y Wern

Gwern Bryn Eithin
Gwern Bryn Eithin/ Bryn Hafod y Wern yn dangos natur corslyd y tir

Coeden yw ‘gwernen’,( lluosog ‘gwern’ ) a honno’n goeden sy’n hoffi cael ei thraed mewn dwr, sef yn tyfu mewn tir gwlyb. Oherwydd fod lawer o’r coed hyn yn tyfu mewn tir corsiog, datblygodd enw’r goeden yn enw ar y tir, a daeth ‘ gwern’, ‘ y wern’,’gwernydd’ i olygu’r tiroedd gwlyb ble ceid y coed. Datblygodd ymhellach i olygu ‘tir gwlyb, gwael’, boed coed gwern yno ai peidio.

Y mae llawer  o  dir felly yn Nyffryn Ogwen, a cheir sawl enghraifft o’r enw, neu ffurf ar yr enw, gan gynnwys y lluosog ‘ Gwernydd’,  Gerlan ( ‘tiroedd gwlybion ‘). Yn ol arolwg tiroedd y Penrhyn 1768 yr oedd 32 darn o dir, gydag arwynebedd o 127 acer, yn dwyn yr enw ‘wern’,un ai ar ei ben ei hun, neu mewn cyfuniad o eiriau eraill ym mhlwyf Llanllechid yn unig. Cofier nad oedd tystiolaeth o nifer o diroedd eraill nad oeddynt yn perthyn i’r Penrhyn yn y plwyf, nac yn cynnwys tiroedd Nant Ffrancon na Nant y Benglog, oedd yn cael eu trin gan y stad fel uned wahanol i’r plwyfi. Gyda llaw, roedd bron i 200 acer arall ar y stad oedd, hefyd, yn dir gwlyb,ond yn cario enw gwahanol,megis cors, neu ros, neu waun .  Roedd Wern Fawr Bryn Eithin yn 30 acer ( mae honno yno o hyd ). Ac roedd 115 acer yr ochr draw i Ogwan yn dwyn yr enw ‘wern’, gyda’r Wern Fawr, ( rhwng Llys y Gwynt, Tai Teilwriaid, a Chororion ), yn 30 o’r aceri rheiny.

 ( I’r cychwyn )

Parc

Parc

Heddiw, pan ydym yn clywed y gair ‘parc’ rydym yn meddwl am fath arbennig o dir; meddyliwch am y Parc Cenedlaethol, Parc Penrhyn, neu barc mewn tref, a daw tir agored, eang, a hamddena, i’r meddwl yn syth. Yn ddigon rhyfedd, pan oeddwn yn dechrau ysgrifennu’r nodiadau hyn clywais ar Radio Cymru wrandawr yn holi a oedd y gair ‘parc’ yn gyfyngedig i un ardal yng Nghymru yn unig, gan nad oedd yn ymwybodol o’r enw  yn ei ardal ef/ hi. Petawn i wedi ateb y gwrandawr, fe fyddwn wedi dweud wrtho fod y gair ‘parc’ yn hen enw yn y Gymraeg; mae’n ymddangos mewn rhyddiaith a barddoniaeth yn ail hanner y 14eg ganrif. Rywdro cyn 1400, fe ganodd Iolo Goch gywydd enwog i Lys Owain Glyndwr yn Sycharth, ac, wrth ddisgrifio’r llys yn fanwl, dywed

‘…pawr ceirw mewn parc arall’  ( mewn parc arall mae ceirw’n pori),

Sy’n dweud wrthym fod mwy nag un ‘parc’ yn llys yr uchelwr hwnnw; yn ôl Iolo, roedd ‘parc cwning’ hefyd yno, sef cwningar, lle megid cwningod ar gyfer anghenion bwyd y llys.

A dyna beth yw ‘parc’, tir ; tir,mae’n debyg, sydd yn bur eang ei arwynebedd, ac sydd wedi ei amgau; mewn gair, ‘cae mawr’. Roedd gan y Gymraeg ei gair cynhenid am dir agored, eang, sef ‘maes’, ac roedd ganddi air am dir wedi ei amgau, sef ‘cae’. Mae’n debyg fod y gair ‘parc’ yn dynodi cyfuniad o’r ddau, sef tir eang wedi ei amgau.  Gair benthyg cynnar ydyw o’r Saesneg ‘park’, a hwnnw, yn ei dro, yn fenthyg o’r Hen Ffrangeg ‘parc’, oedd yn golygu ‘ corlan anifeiliaid’, neu ‘dir wedi ei amgau’. Yn wreiddiol, mae’n weddol sicr, hefyd, mai gair a ddaeth i’r iaith trwy ddylanwad llysoedd uchelwyr ydoedd, gydag enwau ar rannau penodol o diroedd, fel yn Sycharth. Ymledodd i fod yn air ar gaeau, yn amlach na heb, gaeau o faintioli gweddol, er iddo ddatblygu, gydag amser yn gae o unrhyw faint. Mae’r gair yn dal yn fyw ar lafar yn Sir Benfro, fel ‘perci’ = ‘caeau’.

Ac mae’n gyffredin, yn hynod o gyffredin, wrandawr Radio Cymru, a hynny ym mhob rhan o’r wlad.

Fodd bynnag, hoffwn ychwanegu’r canlynol, sydd wedi codi o adnabyddiaeth leol o Ddyffryn Ogwen, a hynny yw ei bod yn ymddangos fod ail ystyr i’r gair ‘parc’, yn yr ardal hon, o leiaf. Fel y gwelir o’r gwahanol enghreifftiau, mae’n golygu tir eang, wedi ei amgau, ond mae, ar adegau, yn amlwg yn cael ei ddefnyddio am goedlan, efallai yn goedlan wedi ei hamgau. Coedlan, yn sicr, oedd, ac yw, Parc y Moch, sef yr ardal sydd o o boptu’r A5 o Fryn Bela i lawr at Bont y Pandy, a choedlannau, yn sicr yw Parc Siambra Gwynion a Pharc Lôn Isa, o boptu’r rhan ( weddol ) newydd o’r A5 rhwng Tyddyn Iolyn a Llys y Gwynt a’r A55. Coedlan yw Parc Meurig, ond yn fwy diweddar na’r lleill, ond mae’r parc hwnnw yn rhan o Goed y Parc, oedd yn ddaliad mawr o gaeau a choed.

Mae, o leiaf, 11 lle o’r enw Parc yng Nghymru, 9 Parciau, 12 Parc Newydd, 18 Parc Bach, 9 Parc Mawr, a 4 Hen Barc heb sôn am unrhyw gyfuniad arall gyda’r enw.

Yn Nyffryn Ogwen mae 4 enghraifft o’r gair mewn enwau daliadau, sef

Parc (Newydd), Hen Barc, Coed y Parc, Parc y Moch,

Fodd bynnag, rhaid nodi mai prin yw’r enghreifftiau o ‘parc’ fel enw ar gae unigol yn y dyffryn yn ôl Arolwg 1768; roedd un ar dir Fedw, dau ar desmene y Penrhyn, a thri arall, un ar dir Llys y Gwynt, un ar dir Cororion, ac un ar dir y Ddôl,( sydd bellach o dan y domen); enwau ar ddaliadau yw’r lleill, a’r rheiny, hyd y gwelir, yn wreiddiol, yn ddaliadau un cae.

Mae’n amlwg fod ‘parc’ yn air byw yn yr ardal mewn oes ddiweddarach, a hynny am ddarn agored, pur eang, o dir. Ceir nifer o gaeau felly yn y dyffryn, megis Parc Dafydd Elis, Parc Sion Ifan, a Pharc Bwtseriaid, Parc Bronnydd ( ar odre Moel Wnion), Parc Main ( rhwng Bryn Eithin a Llwyn Penddu),Parc (wrth Waun Hir yn Sling , Parc Bwlch (ar ochr Moelyci, a Pharc Drysgol (rhwng Moelyci a Moel Rhiwen). ( Diolch i Ieuan Wyn am nodi nifer o’r rhain)

( I’r cychwyn )

Gweirglodd

Mae’r gair yn gyfuniad o ‘gwair’ a ‘clawdd’, ac mae’n golygu ‘darn o dir ar gyfer tyfu gwair, efo clawdd o’i gwmpas. Roedd angen y clawdd rhag i anifeiliaid grwydro iddo a difetha tyfiant y gwair. Gyda llaw, mae ‘clawdd’ yn perthyn i ‘cloddio’, gan mai’r dull o greu clawdd fyddai cloddio pridd a’i godi ar un ochr. Canlyniad hynny yw fod ‘clawdd’ yn ddieithriad wedi ei wneud o bridd, neu bridd a cherrig, a bod ffos un ochr iddo ( oddi yno y daw’r pridd i greu’r clawdd.

Beth bynnag, mae ‘gweirglodd’ yn hen air, gyda thystiolaeth ohono ar gael yn y 10fed ganrif. Mae’n dystiolaeth o ffermio traddodiadol a pheidio cylchdroi cnydau yn ddigonol, gan gael yr un cnydau, fwy neu lai, o’r un tir, flwyddyn ar ôl blwyddyn, gydag ond ychydig iawn o gylchdroi cnydau er lles ffrwythlondeb y tir. Roedd tir a enwir yn ‘weirglodd’ yn cynhyrchu gwair, ac yn borfa flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd nifer sylweddol y ‘gweirgloddiau’ ar ddaliadau Dyffryn Ogwen yn 1768 yn dangos natur draddodiadol yr amaethu yn y cyfnod.

( I’r cychwyn )

Nant

Mewn ardal fynyddig fel Dyffryn Ogwen, mae ‘nant’ yn enw pur gyffredin – mae Nant Ffrancon a Nant y Benglog yn enwau amlwg. Dywed Syr Ifor Williams am ‘nant’

Defnyddir hwn am y pant lle rhed y dwfr, fel dyffryn yn ei ystyr cyffredin heddiw, a hefyd am yr afon ei hun, pe bai ond afonig

Dyna pam y mae gennym Nant Ffrancon a ‘Nant y mynydd, groyw, loyw’. Efallai y gellid cyfyngu ychydig ar y gair. trwy nodi fod ‘nant’ gan amlaf, yn gulach na dyffryn, ac mae mynyddoedd uchel yn aml bob ochr iddo.

Yr unig gymhlethdod, yn aml, yw penderfynu ai at y dyffryn ai at yr afon y cyfeiria’r enw, er enghraifft, gall Sychnant gyfeirio un ai at at dyffryn/glyn/cwm, neu at ffrwd sy’n sychu yn yr haf.

( I’r cychwyn )

%d bloggers like this: