Enwau Llefydd U W Y

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Wern Porchell   Winllan

Wern Porchell

Does dim pwrpas mynd chwilio am Wern Porchell heddiw, chewch chi ddim hyd iddi. Fodd bynnag, mae wedi gadael ei henw ar ôl, a hynny ar unrhyw fap OS gweddol fanwl. Rhwng Tai’r Meibion a Crymlyn a’r A55 mae cyfar gweddol drwchus o goed; os edrychwch ar y map, enw’r goedlan yma ydy Coed Wern Porchell. Yn ôl map manwl y Penrhyn o ffermydd y Penrhyn yn 1871 ( Archifdy Prifysgol Bangor PENRA 222 yr enw ar y cae mawr sydd rhwng y coed, adeiladau’r fferm, a lôn Crymlyn, oedd Cae Wern Porchell.

Coed Wern Porchell
Edrych i lawr ar Goed Wern Porchell

Dydy Wern Porchell ddim ar Arolwg o dir y Penrhyn 1768; mae’n sicr,felly, nad oedd yn perthyn i’r stâd yr adeg hynny. Fodd bynnag, roedd wedi bod yn eiddo iddi, ac roedd yn ddaliad hen iawn. Yn 1519 rhoddodd y Penrhyn

lease for four years on messuages and tenements called Dologwen, Gwern y Porchell,and Tyddyn Poeth in the township of Bodfaio’

Ac, yn 1616, sonnir am

tenements called Place Ucha, Hay Newydd, Gwerne y Porchell, and New Meadow in the township of Bodfaio’

Yn ddigon rhyfedd, nid yw Wern Porchell ar yr Arolwg Degwm, ond, eto, mae ar Gyfrifiad 1841, lle disgrifir y preswylydd Williams Pritchard, fel ‘farmer’.

Mae ty presennol Wern ar y ffordd uchaf o Crymlyn i’r Bronnydd, a bum yn amau a allai mai honno oedd yr hen Wern Porchell. Fodd bynnag, mae safle lleoliad Wern Porchell ar restr y Cyfrifiad yn dangos mai rhwng Tai’r Meibion a Crymlyn, ger y coed sy’n cadw’r enw, y safai’r fferm. Yn ogystal, mae dau le arall cyfagos o’r enw Wern ar yr un rhan o’r rhestr, gyda William Pritchard, Farmer, yn byw yn un, ac Elizabeth Williams, a’i meibion, yr hynaf yn was ffarm, yn byw yn y llall. Yn 1851 nodir Henry Davies yn byw yn Wern Porchell, ac yn ffermio 30 acer, ac yn 1861 mae cyfeiriad at ddwy Wern, sef Wern Uchaf ( 25 acer ), a Wern Isaf ( 23 acer ), ac mae Elisabeth Williams yn ffermio Wern 13 acer, ond nid ymddengys Wern Porchell yn y Cyfrifiad hwn.Mae hyn i gyd yn gwneud y rhan yma o’r plwyf yn hynod o gymhleth. Erbyn 1871 mae’r sefyllfa wedi symleiddio, gan nad oes ond Wern Crymlyn, sef yr un bresennol, ar y rhestr Cyfrifiad, felly roedd daliad oedd wedi bod yn hendre Llanllechid ers, o leiaf, pedair canrif a hanner, wedi diflannu. Mae’n fwy na thebyg mai’r tir uwchben, ac o gwmpas,  y coed presennol, oedd lleoliad Wern Porchell.

Am yr enw, gweler wern

‘Porchell’ yw ‘mochyn bach’, ‘mochyn ifanc’. Efallai mai gwern oedd yma i ollwng moch ifanc iddi i hel eu bwyd. Gweler Parc y Moch

( cartref)

 Winllan

Er ei bod, unwaith, ac am flynyddoedd lawer,  yn ddaliad eithaf sylweddol o 66 acer, dydy’r fferm hon ddim yn bod heddiw, ond mae ei henw’n parhau yn yr ardal.

Uwchben Talybont, ar y llethrau, saif ty sylweddol Tanymarian, fu unwaith yn gartref i’r cerddor enwog, Edward Stephen, a fu’n weinidog Bethlehem a Carmel, Llanllechid o 1856 ymlaen; mabwysiadodd yr enw Tanymarian ar ôl ei gartref. Beth bynnag, os edrychwch ar y ty mawr, uwch ei ben mae cyfair sylweddol o goed, ac, os ewch i edrych ar fap OS gweddol fanwl, fe welwch mai enw’r coed hyn yw Marian y Winllan. Mae ystyr ‘marian’ yn amrywio ychydig gyda’i leoliad, ond mae a wnelo â cherrig bob amser. Ar lan afon, neu fôr, mae’n golygu llawer o gerrig mân, neu raean, ond ar lethr mynydd mae’n golygu tir efo cerrig mawr arno, neu dir wedi ei orchuddio gyda cherrig, a cherrig mân – ‘scree’ yn y Saesneg. Dyna sut fath o dir sy ynghudd dan y coed ym Marian y Winllan. Mae’r ‘winllan’ yn yr enw yn coffau’r fferm yr oedd y lethr hwn yn rhan o’i thir am ganrifoedd. Fferm ar y lethrau hyn ydoedd, gyda’r ty heb fod ymhell o’r Ty Gwyn presennol, a ffordd yn mynd ato ychydig yn is na Chae Mawr. Diflannodd y fferm yn 1855, pan unwyd ei thiroedd gyda thiroedd eraill i ffurfio daliad newydd, ( ond gydag hen enw ), Tyn Hendre. Erys yr hen ffordd oedd yn mynd o Gatws i Danymarian a’r Winllan ( gweler y map isod ) o hyd yn y caeau; gellir mynd arni wrth groesi’r A55 ger Talybont Uchaf, am Blas Hwfa, ond troi i’r dde i lawr at y giat. Mae’r hen lôn yn mynd i fyny o’r fan honno

IMG_3730
Copi o ran o fap 1822 ym Mhapurau’r Penrhyn ( Archifdy Prifysgol Bangor ) yn dangos lleoliad Winllan
Yr hen lôn at Winllan a Than y Marian, heddiw ar dir Tyn Hendre

Am yr enw, does dim rhaid ichi ddychmygu  gwinwydd yn tyfu yn yr ardal, gan fod ‘gwinllan’ yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o Arfon am goedlan fechan – ‘gwinllan goed’.  Roedd na gaeau o’r enwau Gwinllan Fach, Gwinllan fawr, a Gwinllan Isaf ar dir fferm Cefnfaes heb fod ymhell i ffwrdd. Felly, cyfeirio at y coed sydd yn ymyl yr oedd enw Winllan.

(cartref)

%d bloggers like this: