Mynydd a Bryn

Aryg Bera Bach/ Bera Mawr Braich y Brysgyll Braich y Llyngwn Bryn Dadlau Carnedd Dafydd Carnedd Llywelyn Carnedd y Filiast Cefn yr Orsedd Drosgl Drum Foel Grach Fronllwyd Glyder Fawr a Glyder Fach Moel Faban Moel Wnion Moelyci Foelgraig Garn Pen yr Helgi Du Pen yr Ole Wen Tryfan Gyrn Gyrn Wigau Ysgyfeinciau

Y Carneddau

Cyflwyniad

Mae’n gred gyffredinol ym maes enwau llefydd mai’r enwau hynaf mewn bodolaeth yw enwau afonydd, a chredir fod ambell un ohonynt yn mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd. Yn union fel mae enwau rhai o afonydd y Cilgant Aur ( yn y Dwyrain Canol ) yn deilli o’n ôl bedair a phum mil o flynyddoedd yn ôl

The earliest place- and river-names in England for which etymologies can be suggested are those of Celtic or British origins. There are, however, some names which …. may be earlier….. It now seems certain that a small group of pre-Celtic river names is still in use today’

English Place Names  Kenneth Cameron  t33

Efallai fod a wnelo’r ffaith fod dyfroedd o bob math yn gysegredig fel rhoddwr bywyd i’r diwylliannau cynnar lawer i’w wneud gyda chadw’r enw gwreiddiol pan gymerid meddiant o’r tir gan bobl wahanol.

Bid a fo am hynny, dydy hyn ddim yn wir am fynyddoedd a bryniau; maent hwy yn llawer mwy agored i newid enwau. Does ond rhaid edrych ar enwau mynyddoedd unigol, ac ardaloedd mynyddig, yn y gwledydd a wladychwyd yn y canrifoedd diwethaf i weld mai enwau’r coloneiddwyr sydd ar y rhan fwyaf ohonynt, megis y Rockies yng Ngogledd America, y Blue Mountains yn Awstralia, a Snowdonia yng Nghymru. Anwybyddir enwau brodorol, a rhoddir enwau coloneiddwyr, neu enwogion y coloneiddwyr, arnynt, megis Everest, Mount McKinley, a nifer o rai eraill. Dim ond yn y blynyddoedd diweddar, wedi brwydr hynod galed a hir yn Awstralia, y llwyddwyd i adennill enw swyddogol y brodorion, Ularu, ar graig unigryw a chysegredig iddynt, wedi dwy ganrif o gael ei hadnabod fel Ayre’s Rock. Ie,,bregus iawn yw enw mynydd. Does ond rhaid inni edrych ar fap OS o Eryri i weld pa mor fregus yw ambell enw. Mae llawer o’r enwau llai adnabyddus mewn perygl dybryd o ddau gyfeiriad, sef oherwydd Seisnigo gan ymwelwyr nad oes ganddynt ddiddordeb ond troi popeth i’w melin – a’u hiaith – eu hunain, ac oherwydd ein bod ni, frodorion lleol, yn llawer llai cybyddus â’n hardal ein hun, ac yn gwybod fawr ddim am yr hyn sydd y tu allan i’n libart bach, personol ein hunain. Mewn oes a fu, roedd pob rhan o’r mynydd-dir yn hollol gyfarwydd, yn enwedig i’r ffermwyr, gan fod terfynau, cynefinoedd, a lleoliadau yn hanfodol i’w gwaith bob dydd. Ysywaeth, mae’r wybodaeth honno yn prysur fynd ar ddifancoll.

Ond i fynd at yr enwau eu hunain, a hynny yn yr iaith frodorol, y Gymraeg, fe ellir rhannu’r rhan fwyaf o enwau mynyddoedd a bryniau yn wahanol ddosbarthiadau

  1. Enwau disgrifiadol: dyma’r garfan fwyaf o lawer, gyda’r enwau yn cynnwys ffurf, lliw, natur, neu rhyw agwedd arall sy’n disgrifio’r mynydd, neu’n atgoffa edrychwr o rywbeth sy’n gyfarwydd iddo. Un o’r enghreifftiau gorau o hyn, er y tu allan i ardal yr astudiaeth hon, yw’r enw llafar ar Mynydd Mawr/ Mynyddfawr, rhwng Cwellyn a Nantlle, sef Mynydd Eliffant. Mae hwn, hefyd, yn enw gweddol ddiweddar, gan mai diweddar yw adnabyddiaeth y bobl leol o’r creadur mawr hwnnw. Dyna ichi Cnicht, wedyn, sydd, mae’n debyg, yn dod o’r Sarsneg Canol ‘knight‘ am fod ei ffurf yn atgoffa pobl o farchog. Gydag enwau, yn aml iawn, mae pobl yn mynd i chwilio am ystyr astrus i enw pan mai ystyr syml, disgrifiadol sydd iddo. Yn weddol aml, mae enw disgrifiadol yn cael ei roi oherwydd y wedd sydd ar y mynydd o un cyfeiriad, e.e. dim ond o’r gogledd-orllewin y mae Mynyddfawr yn edrych fel ‘eliffant’.
  2. Enw sy’n dwyn enw cymeriad hanesyddol, neu chwedlonol. Gall y cymeriadau hyn fod yn rhai dinod, fel perchennog, neu dirddaliwr mewn oes a fu, yn bennaeth pwysig, neu’n dywysog, neu’n gymeriad mewn chwedl leol, neu genedlaethol. Mae’r cyntaf, o reidrwydd yn unigryw, ac yn lleol, megis Lleucu ( Moelyci), Maban ( Moel Faban ), Mafon/ Mafan ( Nanafon ). Felly, hefyd, ambell gymeriad chwedlonol, megis Idris ( Cader Idris ), Rhita Gawr ( Wyddfa ), tra bod ambell gymeriad, megis Arthur, yn gysylltiedig ag amrywiaeth o lefydd gwahanol ( Mae Bwrdd Arthur yn Llanfihangel Dinsylwy, Ynys Môn, ond mae ei gadair yng Nghaeredin! )
  3. Enwau sy’n gysylltiedig â chwedl, neu lên gwerin, o ryw oes. Gall y stori fod yn uniongyrchol gysylltiedig gydag un mynydd neu fryn, neu gall fod yn gysylltiedig gyda nifer o lefydd ( er enghraifft, Hela’r Twrch Trwyth).Yn amlach na heb, mae’r storiau hyn wedi mynd ar goll, ac ni allwn ddychmygu beth oeddynt
  4. Ambell eithriad i’r uchod, ond eithriadau prin iawn ydynt.

Adran A: Y Carneddau

Trefgordd Bodfeio / Plwyf Llanllechid

Yr Aryg (876m / 2874 tr)

Yr Aryg h. C Andrews

Copa yn y Carneddau, rhwng y Bera Bach a’r Garnedd Uchaf. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ymdrech i egluro’r enw hwn.  Nid oes unrhyw air cyffelyb yn GPC a allai egluro’r enw inni. Tybed a oes perthynas rhwng yr enw ag enw mynydd arall yn Eryri, yr Aran, neu’n hytrach, fynyddoedd, sef Aran Benllyn, ac Aran Fawddwy, a’r bachigol Arennig?Wrth drafod yr enw hwnnw mae Syr Ifor Williams ( Ell t. 17 ) yn nodi ‘Nid wyf yn sicr o’i ystyr’, ond yn betrus awgrymu y gallai olygu ‘cefn’, ‘drum’. Fe allai’r ‘ar’ ddod o ‘ardd’, sy’n golygu ‘tir uchel’; fe’i gwelir yn  y gair ‘penardd’, sef ‘pen draw’r tir uchel’, ac yn ‘arddu; megis Clogwyn Du’r Arddu’, sef ‘tir uchel tywyll’. Am yr ail elfen ‘yg’, nid oes awgrym, felly, fel Syr Ifor, gwell i ninnau gadw’n glir o’r enw, a pheidio dyfalu.

i’r cychwyn

Bera Mawr ( 794 m/ 2604  )  Bera Bach  ( 807 m/ 2647 tr  )

Dau gopa yn y Carneddau, yn weddol agos at Abergwyngregyn a Bethesda, gyda’r bach, yn ddigon annisgwyl, yn uwch na’r mawr. Ceir  clogwyni Craig y Bera ar y Mynydd Mawr uwchben Rhyd Ddu, ac mae’n bosibl fod Castell y Bere ger Llanfihangel y Pennant ym Meirionydd, hefyd, yn dod o’r un gair. Mae’n arwyddocaol fod yr un nodwedd ddaearyddol yn yr holl lefydd hyn, sef creigau amlwg. Mae pentwr o greigiau ar gopa Bera Mawr a Bera Bach, mae Castell y Bere ar glogwyni creigiog, a chlogwyn creigiog yw Craig y Bera. Mae’n fwy na phosibl, felly, fod y gair ‘bera/ bere’ yn cyfeirio, mewn rhyw fodd, at y creigiau amlwg. Yn Enwau Lleoedd mae Syr Ifor yn nodi y ‘Gall bera fod yn enw ar aderyn ysglyfaethus ( fel barcud )’, ond nid yw’n mynd ymhellach na hynny, megis awgrymu pam yr enwid dau gopa ar ôl aderyn ysglyfaethus. Yr hyn sy’n gyffredin yn y cyfan o’r mannau gyda’r enw yw’r creigiau amlwg. Gellid awgrymu fod y creigiau hyn ar y copaon yn debyg i big miniog hebog, ond dyfalu’n llwyr fyddai hynny. Er fod GPC yn nodi ‘barcud’ fel un ystyr i bera’, mae gair arall ‘bera’ yn y geiriadur, a hwnnw’n golygu ‘mwdwl’, ‘pentwr’. Er ei fod, fel arfer, yn golygu ‘mwdwl o wair’, mae’n ddigon posibl y gallai gyfeirio at bentwr o greigiau, ac mai dyna ystyr yr enw. Ni ellir bod yn sicr am yr ystyr, ond mae’n sicr fod yr ystyr rywle yn y creigiau.

i’r cychwyn

Braich y Brysgyll

Mae’n ymestyn i lawr rhwng afon Llafar a’r Foel Ganol hyd at afon Caseg. Gair cyffredin yw ‘prysgyll’ am lwyni, neu goed bychain; mae’n dod o’r gair ‘prysg’, sy’n golygu coed, cymharer ‘prysglwyni’, a ‘cyll’, sef coed cnau. Gall ‘prysgyll’, felly, olygu ‘llwyni o goed cnau’, ond gall, yr un mor hawdd, olygu ‘ llwyni bychain’. Cafodd yr enw, mae’n amlwg, oherwydd y nodwedd honno ar y tir; bellach nid yw hynny’n nodwedd o’r tir, oherwydd canrifoedd o ddefaid yn pori’r tir, mae’n sicr

i’r cychwyn

Braich y Llyngwn

Dyma’r grib sy’n ymestyn o lethrau’r Elain tuag at afon Caseg, rhwng Foel Ganol a’r Elain. Nid oes ffurf ‘llyngwn’ yn wybyddus, mae cyfuniad o ‘llyn ‘ a ‘cwn’ yn rhy syml, ac yn ddaearyddol annhebyg, ac, felly, ni allaf gynnig esboniad iddo.

i‘r cychwyn

Bryn Dadlau

Bryncyn ychydig o dan Nant Heilyn, ar lethrau is Moel Wnion rhwng Llanllechid ac Abergwyngregyn, mae’n fwy na thebyg mai ym mhlwyf Aber y mae, ond dim ots, mae’n ddigon agos i Ddyffryn Ogwen i gael ei drafod yma.  Mewn oes a fu, yn enwedig, felly, mewn llên gwerin, roedd tuedd gref i weld brwydr, celannedd, trasiedi, a bedd mewn sawl enw lle oedd, mewn unrhyw fodd, yn gallu cael ei ystumio i un o’r ystyron hynny. Mae Hugh Derfel ( HllaLL t 14 ) yn gweld brwydr yn y gair ‘dadlau’, ac yn cyfeirio Nant Heilyn, ‘lle, medd traddodiad, y bu brwydr dost rhwng y Cymry a’r Saeson ……..Bryn dadlau, y man y buont yn cytuno’, sef trafod. Mae’r traddodiad, a Hugh Derfel, yn cymryd cam gwag yn yr eglurhâd. Mae mwy nag un lle yng Nghymru gyda  ‘dadlau’ yn ei enw; yr unig beth mae’n olygu yw fod y tir hwnnw, mewn rhyw oes, wedi bod yn destun anghytuno, a bod ffraeo wedi bod yn ei gylch, ac, yn aml iawn, fod achos cyfriethiol wedi bod ynglyn â’i berchnogaeth. Yr un ystyr sydd i enw gydag ‘ymryson’ yn rhan ohono, ee Cae Ymryson yng Nghaernarfon.

i’r cychwyn

Carnedd Dafydd (  1044 m/ 3425 tr )   Carnedd Llywelyn ( 1064m  3491 tr)

Tri chopa a Chwm Pen Llafar

Dau gopa cyfagos sy’n rhoi eu henwau i fynydd-dir eang Y Carneddau, y ddau gopa yma yw’r trydydd a’r pedwerydd uchaf yng Nghymru. Mae’carnedd’ yn golygu ‘pentwr o gerrig’, a datblygodd i olygu ‘beddrod’, ‘cromlech’, ‘claddfa o gerrig’, a dyna’r ystyr yma. Yn wahanol i sawl carnedd, a nodwedd ddaearyddol,  sy’n cario enwau arwyr chwedlonol, mae’n bur sicr mai enwau cymeriadau hanesyddol sydd ar y ddau fynydd yma, sef Llywelyn a Dafydd. Yr unig broblem yw rai, ai y tad a’r mab, Llywelyn Fawr ( m 1240), a Dafydd ab Llywelyn ( m 1246 ), neu’r ddau frawd, Llywelyn ap Gruffydd ( ein Llyw Olaf m. 1282 ), a Dafydd ab Gruffydd ( m 1283). Pa un bynnag, mae un peth yn sicr, enwau wedi eu rhoi ar y ddau gopa mewn cyfnod yn  dilyn marwolaethau’r tywysogion ydynt, a hynny gryn dipyn wedyn, oherwydd roedd tynged a beddrodau’r tywysogion yn wybyddus i bawb. Beth bynnag am yr enwau, maent yn dangos peth mor fregus yw enw, oherwydd, yn sicr, yr oedd enwau i’r copaon hyn cyn i rywun eu tadogi gydag enwau newydd; mae’r enwau hynny wedi mynd yn angof ers canrifoedd, a’r enwau ‘newydd’ wedi cymryd eu lle. Y tristwch yw fod llawer iawn o enwau rhannau o’r mynyddoedd wedi cael eu colli, ac yn cael eu colli, o ddydd i ddydd; y tristwch pellach yw fod enwau Saesneg yn disodli llawer o’r hen enwau Cymraeg.

i’r cychwyn

Cefn yr Orsedd

Cefn yr Orsedd ac ardal tyn y Maes ar yr A5

Nid mynydd mo Cefn yr Orsedd, ond, yn hytrach, ran o’r gefnen sy’n ymestyn o Ben yr Ole Wen i waered tua’r gorllewin gan  ffurfio ochr ogleddol Nant Ffrancon; mae Cefn yr Orsedd rhwng Craig Ty Du a Phen Braich, Braichmelyn.

Am yr enw, nid ‘cefn’ = ‘tu ôl‘ sydd yn yr enw, felly nid ardal y tu ôl i rhyw orsedd sydd yma; yn hytrach y gair ‘cefn’ sydd yn ‘cefnen’ o dir = ‘llethr, esgair, crib mynydd’; yn ôl GPC, yn y Saesneg, gently-rising hill, slope, ridge, ac mae’r rheiny yn ddisgrifiad hollol addas i’r tir dan sylw.

Mae’r ail elfen ‘(g)orsedd’ yn fwy diddorol. Rydym i gyd yn gyfarwydd gyda’r ‘orsedd’ y mae brenin, neu frenhines, yn eistedd arni; yn wir, mae’r orsedd yn rhan bwysig o’r regalia sy’n dynodi’r prif reolwr. ‘Ar ei orsedd yn y nef’ y mae Duw yn eistedd, yn ôl yr emyn. Felly, sedd brenin yw ‘gorsedd’, ond anodd gweld un o’r rheiny ar lethrau’r Carneddau. Ac mae rheswm syml am hynny; nid enw ar sedd yw ‘gorsedd’ yn wreiddiol, ond term daearyddol am nodwedd o dir. Dywed GPC mai ‘gorsedd’ yw Tomen bridd, twmpath (chwarae, &c.), bryncyn; crug, carnedd, gwyddfa, bedd. Yn fras, felly, bryncyn, neu dwmpath yw ‘gorsedd’, ac fe enwyd Cefn yr Orsedd am fod bryncyn amlwg ar y gefnen o’r un enw; felly enw disgrifiadol pur ydyw. Gwelir yr elfen ‘gorsedd’ am fryncyn, efallai ‘claddfa’, ‘tomen gladdu’, yn enw’r pentref Gorsedd, ger Wrecsam, yn wreiddiol Yr Orsedd Goch, ( mae’r treglad meddal yn ‘goch’ yn awgrymu nad y gair gwrywaidd ‘ bryn’ sydd yma, ond, yn hytrach y benywaidd ‘tomen’, fel yn ‘tomen gladdu’ ), tra gwelir yr un defnydd o’r gair ‘cefn’ yn enw’r pentref Cefn y Bedd, ( sef ‘y gefnen ble mae’r bedd’), sydd eto yn ardal Wrecsam.

Er nad oes gan yr hyn sy’n dilyn affliw o ddim i’w wneud gyda Chefn yr Orsedd ar y Carneddau, mae’n hynod ddiddorol sut yr aeth yr ‘orsedd’ sy’n golygu ‘bryncyn’ yn enw ar y gadair yr eistedd brenin arni. Mae’r ateb, yn sylfaenol, yn y gwahanol ystyron i’r gair a roddir gan GPC. Yn ogystal â bryniau naturiol, fe geir twmpathau o waith dyn, ac, yn benodol, felly, y twmpathau claddu hynny o’r Cynoesoedd. Yn wreiddiol, roedd pob un claddfa, neu gromlech, wedi ei gorchuddio gyda phridd, yn union fel Bryn Celli Ddu heddiw, ac, hyd at y canrifoedd diweddar, roedd llawer iawn ohonynt o gwmpas y wlad.

Bryn Celli ddu o’r awyr

Roedd y rhain, ac yn enwedig y rhai mwyaf, yn cael eu parchu’n aruthrol gan y cymdeithasau cynnar, a chredir y cynhelid defodau crefyddol a chymdeithasol yng nghyffiniau sawl un ohonynt mewn oesoedd cynnar iawn, bedair a phum mil o flynyddoedd yn ôl. Parhaodd y pwysigrwydd cyfriniol hwn i domennydd claddu i’r cyfnod diweddar o ganrifoedd cynnar Cristnogaeth. Y rheswm cyntaf am hynny oedd am y credid fod cysylltiad rhwng yr isfyd, neu Annwfn, â’r byd hwn mewn claddfa. Onid trwy’r gladdfa yr oedd y meirwon yn mynd o’r byd hwn i’r isfyd?  Mae’n arwyddocaol mai ar Orsedd Arberth yr oedd Pwyl Pendefig Dyfded a’i lys pan welodd Rhiannon, y dduwies ar ei cheffyl, ac roedd ‘cynneddf arbennig’ i’r orsedd hudol honno, fel pob gorsedd arall. Fodd bynnag, roedd rhywbeth arall, mwy arwyddocaol, yn y tomennydd claddu hyn i’r bobl gynnar. Mewn cymdeithas sefydlog, ble’r oedd yr un llwyth, neu lwythau cysylltiedig, wedi trigo mewn ardal benodol am genedlaethau, roedd y gladdfa, neu’r claddfeydd, yn nodi ble’r oedd esgyrn eu hynafiaid yn gorwedd. Gellid cael claddfeydd bychain, gydag esgyrn unigolion, neu deulu bychan, yn gorwedd ynddynt, a cheid claddfa fawr yn cynnwys esgyrn, neu, weithiau, lwch, sawl aelod o’r llwyth. Mewn oes a roddai bwysau mawr ar ddoethineb henwyr, ac awdurdod hynafiaid, roedd eu claddfa yn lle hynod o bwysig, a byddai cael awdurdod yr hynafiaid ar benderfyniadau llwythol yn hanfodol. Oherwydd hyn, fe ddaethpwyd i gynnal cyfarfodydd pwysig y llwyth ger y claddfeydd hyn, er mwyn rhoi awdurdod yr hynafiaid ar yr hyn a drafodid, a’r hyn a benderfynnid, boed hynny’n fater penodol, megis pryd i hau neu dorri’r cynhaeaf, neu’n fater llwythol, neu’n fater o gyfraith. Er mwyn rhoi awdurdod llwyr ar y gweithgareddau, byddai awreinydd y llwyth yn eistedd ar y domen gladdu, neu’r orsedd, ac, os byddai’r twmpath yn un mawr, byddai ei holl swyddogion yn eistedd gydag ef. Mewn amser, mewn cyfraith, aeth ‘gorsedd’ i olygu ‘llys’, ac yna symudodd y gair i olygu’r gadair, neu’r sedd, yr eisteddai pennaeth arni, yn enwedig mewn cyfarfodydd swyddogol-frenhinol.  Eisteddai’r Tynwald, llys cyfreithiol uchaf Ynys Manaw ar fryncyn o‘r un enw, tra dywed Mawer yn ‘ Place Names and History’, y cyfarfyddai gwyr cantrefi Lloegr, nid mewn tref, ond yn y wlad, un ai am fod y lle’n ganolog, neu ‘ because of the presence of some ancient barrow, some cross, or stone, some sacred object hallowed by time and superstition’. Am drafodaeth fanwl ar y gair ‘gorsedd’, gweler Pedeir Keinc y Mabinogi, Syr Ifor Williams, Gwasg Prifysgol Cymru 1964, tud 120-121

Bryncyn y Tynwald gwreiddiol ynYnys Manaw

Unwaith eto, rhaid pwysleisio nad tomen gladdu sydd, nag a fu, ar gefn yr Orsedd, ac mai cyfeirio at fryncyn ar y gefnen a wna’r enw.

Y Drosgl ( 756m / 2480 tr )     Llefn ( 443 m / 1453 tr )

Saif Y Drosgl rhwng Bera Bach a Gyrn Wigau ar y grib sy’n rhedeg i’r gogledd-orllewin oddi ar brif grib y Carneddau. Dywed Syr Ifor Williams ( Ell t17/18) fod sawl enghraifft o’r enw yng Nghymru, ond arhoswn ni gyda’r un lleol. Mae ef yn egluro’r enw fel ystyr gwreiddiol, ehangach i’r ansoddair presennol ‘trwsgl’, yn golygu ‘garw’ ( Saes. Rough ). Mae’n ehangu ar hynny trwy nodi mai’r mynydd ar draws y waen i’r Drosgl, rhwng Moel Faban a Moel Wnion,  yw Llefn, ac awgryma mai cyferbynnu dau fynydd cyfagos, gwahanol eu nodweddion sydd yma. Yr hyn sy’n ddiddorol yw mai dau ansoddair yw enwau’r ddau, ond, yn fwy diddorol, mai ffurfiau benywaidd yw’r ddau, ‘trosgl’ < ‘trwsgl’, a ‘llefn’ < ‘llyfn’. Pam ymddengys ansoddair ar ei ben ei hun, mae’r enw oedd o’i flaen wedi diflannu gydag amser, ond mae dylanwad yr enw hwnnw ar yr ansoddair yn aros. Felly, yn wreiddiol, roedd enw benywaidd yn rhan o enwau’r ddau gopa yma. Yr un mwyaf tebygol, o ystyried enwau copaon cyfagos, yw ‘ moel’, ac mae’n fwy na phosibl mai’r gwreiddiol fyddai ‘Moel Drosgl’ a Moel Lefn’

i’r cychwyn

Drum (770 m/ 2526 tr)

Dyma’r copa mwyaf gogledd-orllewinol ar y Carneddau. Mae’r enw yn ddisgrifiadol hollol, ac yn golygu ‘crib’, ( ridge ), cymharer y dywediad ‘ o drum i draeth’, sef ‘y wlad i gyd, o gopa’r mynydd i lan y môr’.

i’r cychwyn

Yr Elain ( 962m/ 3156 tr )

Yr Elain o’r Gerlan

Yr Elain yw’r nawfed copa uchaf yn Eryri, saif fel braich allan o Garnedd Llywelyn, gan wahanu Cwm Pen Llafar a Chwm Ffynnon Caseg. Yn union fel Moelyci, mae’n enw sy’n cael ei gam-ynganu’n rheolaidd, ac, o’r herwydd, ei gam-egluro, a hynny gan bobl gynhenid i’r ardal. Yngenir ef fel enw’r ferch ‘Elen’, ac eglurir ef yn unol â hynny. Ategir at hynny gan y chwedl am Elen enwog, gwraig Macsen Wledig, sy’n gysylltiedig mewn llên gwerin, â Segontiwm, nad yw’n bell o’r Carneddau.

Fodd bynnag, sicrach yw mai ‘elain’ yw’r enw, ond rydym yn dal mewn tywyllwch yma, oherwydd mai ‘elain’ yw carw benywaidd ifanc’, ‘ewig’, ac mae galw mynydd ar enw felly yn ddirgelwch. Yn sicr, byddai gweld tebygrwydd i garw ifanc yn ffurf y mynydd yn ymestyn tipyn ar y dychymyg. Yn hytrach, efallai fod rhyw chwedl yn bodoli sy’n egluro’r enw; mae chwedlau yn gysylltiedig gyda rhai enwau ar nodweddion daearyddol, er enghraifft, Cader Idris, (G)Wyddfa ( Rhita Gawr ), Llyn y Morynion, a rhaid mai dyna sydd yna hefyd ym Mhen Llithrig y Wrach, Pen yr Helgi Du, ac ati. A thybed nad oes cysylltiad storïol rhwng y mynyddoedd cyfagos Carnedd y Filiast, Pen yr Helgi Du, a’r Elain. Does wybod erbyn hyn

Foel Grach ( 976 m/ 3202 tr )

Llwybr i gopa Foel Grach

Saif Foel Grach ar brif grib y Carneddau, yn gopa ar ysgwydd ogleddol Carnedd Llywelyn, dyma’r wythfed copa uchaf yn Eryri, ac yng Nghymru. Mae’n enw disgrifiadol, gyda ‘grach’ yr un gair ag a geir yn ‘crachen’, am y croen sych sy’n tyfu ar friw. Mae’n disgrifio nodwedd o dir cramennog, garw.

i’r cychwyn

Gyrn ( 541 m/ 1775 tr)

Gyrn, o lethrau Moel Faban

Mynydd trawiadol i’r dwyrain o Lanllechid. Enw sy’n ymddangos yn ofnadwy o syml, ond sydd, mewn gwirionedd, yn un na ellir bod yn sicr o’i ystyr.  Treuliodd Syr Ifor gryn dipyn o amser a gofod yn trafod yr enw hwn yn ei gyfrol Enwau Lleoedd; ar ôl dweud fod enghreifftiau o’r enw gydag ansoddair mewn sawl lle, er enghraifft Y Gyrn Goch,  Y Gyrn Ddu, ( ardal Clynnog Fawr a Threfor), Y Gyrn Las ( Yr Wyddfa), mae’n mynd ymlaen

Mae pob un a welais i o ffurf crynfain ( fel ‘cone’ yn Saesneg ). Saif amryw yn unig, fel na fedraf gymryd yr enw fel enghraifft o’r ffurf ddeuol, canys golygai hynny fod dwy gyrn gyda’i gilydd bob amser. Nid yw hynny’n digwydd, cf yr un sydd ger Llanllechid ( Caern); felly, nid ‘dau gorn’ yw’r ystyr’.

Fodd bynnag, am ryw reswm, mae Syr Ifor yn anwybyddu’r ffaith mai’r mynydd sydd yn union i’r de-ddwyrain o’r Gyrn, ar draws Waun Cymysgmai, dros Ffrydlas, yw Gyrn Wigau. Draw yn Eifionydd, hefyd, mae’r Gyrn Goch a’r Gyrn Ddu yn gyfochrog, felly, fe allai’r enw Gyrn fod yn ffurf ddeuol yr enw ‘corn’, yn union fel mae Eifl yn luosog deuol yr enw ‘gafl’, am fod y tri mynydd yn creu ffurf dwy afl rhyngddynt. Yn ogystal, nodwyd eisoes fod sawl mynydd a bryn yn cymryd ei enw oherwydd ei ffurf, a rhaid ychwanegu mai o un cyfeiriad yn unig, yn aml, mae mynydd yn cymryd ffurf sy’n cyfiawnhau ei enw. Mae Mynyddfawr, yng Ngwyrfai, er enghraifft, wedi cael ei lysenwi yn Fynydd Eliffant, am ei fod ei ffurf yn atgoffa pobl o’r anifail hynod hwnnw, ond, os oes tebygrwydd, dim ond o un cyfeiriad, y gorllewin, y mae’r tebygrwydd hwnnw. Rwan, os edrychir ar Foel Faban o’r de-ddwyrain, sef o gyffiniau Chwarel Cae Braich y Cafn, mae iddi’r un ‘ffurf  crynfain’yn union â’r Gyrn, sy’n ymddangos agosaf ati yn y panorama; ffurf hollol wahanol sydd i’r Foel os edrychir arni o’r gorllewin, sef ffurf arferol y foel. Rwan Moel Faban yw enw’r mynydd hwn heddiw, ond, gyda unrhyw nodwedd ddaearyddol sydd ag enw personol iddo, a hwnnw, fwy na thebyg, yn berson hanesyddol, ni all y nodwedd gael yr enw hwnnw ynghynt nag oes y person sydd â’i enw arno. Mae synnwyr yn dweud fod enw ar y nodwedd cyn iddi gael enw’r person. Er enghraifft, rhaid i Garnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn fod ag enwau cyn yr enwau presennol, na allant fod yn gynt na’r tywysogion yr enwyd hwy ar eu holau, pa un bynnag o’r rhai hanesyddol oedd y rheiny; gwiriondeb fyddai meddwl mai dienw oedd y mynyddoedd hyn cyn y 12fed ganrif. Mae’n sicr fod gan Moelyci enw arall cyn i ryw Leucu hanesyddol roi ei henw i’r Foel. Mae’r un peth yn wir am Foel Faban; cyn iddo fod ym mherchnogaeth Maban, pwy bynnag ydoedd, a phryd roedd yn gysylltiedig â’r foel, roedd enw arall. Tybed ai ‘gyrn’ rhywbeth oedd hyn? Byddai hynny’r rhoi tri Gyrn yn gyfochrog, ac yn sicrhau mai enw deuol yw ‘Gyrn’, o’r unigol ‘corn’.

Moel Faban a’r Gyrn o’r de, dau fynydd gyda’r un ffurf

Mae Syr Ifor yn mynd yn ei flaen i dynnu sylw at ffurf y mynydd ‘Gyrn’, sydd yn debyg i byramid crwn. Mae’n dyfynnu o Eiriadur Dr John Davies, Mallwyd, 1632, ble nodir fod ‘curn’ a ‘curnen’ yn eiriau cyfarwydd, ac yn golygu ‘pentwr’, ‘pyramid’. Ymhellach, mae’n tynnu sylw at y gair ‘cyrnen’, sy’n air byw am bentwr o datws a gedwir dros y gaeaf; mae hwnnw, oherwydd siap y domen o datws, ar ffurf pentwr nid annhebyg i byramid crwn. Ar sail hyn, cynigia, yn betrus, mai cyfeiriad at ffurf drawiadol y mynydd sydd yn yr enw, gan dynnu sylw at yr ucheldir uwchben Merthyr sy’n dwyn yr enw Gurnos. Eto, cefnen hir, uchel yw Gyrn Wigau, ac ni ellir ei galw’n ‘byramidaidd’, na ‘chrynfain’ o unrhyw gyfeiriad

Fe all ‘Gyrn’, felly, fod yn enw disgrifadol sy’n disgrifio ei ffurf fel ‘tomen byramydaidd, grynfain’ neu fe all fod yn hen luosog dwbl ‘gyrn’, oherwydd mynyddoedd cyfagos ar ffurf cyrn.

Gyrn Wigau ( 643 m/ 2010 tr)

Edrych dros y Gerlan ar Gyrn Wigau a’r Garth

Mae Gyrn Wigau yn gefnen uchel sy’n gwahanu’r Waun Lydan, ac ardal traeniad afon Gaseg, 0 Waun Cymysgmai ac ardal traeniad afon Ffrydlas.

Gyrn’ gweler uchod

Wigau

Os edrychwn yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, fe welir lluosog ‘ gwig/ wig’ fel ‘gwigau’ a ‘gwigoedd’, gyda ‘gwig’ yn golygu fforest; mae’r elfen yn y gair ‘coedwig’. Yn ôl y geiriadur, mae ‘gwig’ hefyd, yn gallu golygu ‘pentref’.

Er nad oes coed ar ucheldir Eryri heddiw, mae tystiolaeth o’u bodolaeth ar y llethrau uwch mewn oesoedd cynnar, a hynny hyd at uchder o rhyw 600 medr. Fodd bynnag, oherwydd newidiadau hinsawdd, ac ymyrraeth pobl, cyfyngwyd coedwigoedd mawr Eryri i’r dyffrynnoedd. ( The Vegetation History of Snowdonia since the Ice Age : Rhind a Jones Field Studies 10 2003 t 539).  O’r herwydd mae’n bur sicr na fyddai coedwigoedd ar lethrau Gyrn Wigau ers dyfodiad y Gymraeg i’r ardal. Yn ogystal, o ystyried maint y mynydd, mae’n amhosibl gweld digon o le i goedwigoedd ar ei lethrau, os nad yw llwyni bychain o goed, hefyd, yn cael eu galw yn ‘wigau’. Os dyna’r achos, yna gellid mai dyna ystyr yr enw, er nad oes coeden ar ei gyfyl heddiw, a chan gofio’r sylwadau uchod gan rhind a Jones.

Er nad oes tystiolaeth ohono yn unman, gallai ‘(G)Wigau’ fod yn enw personol; nid yw diffyg tystiolaeth yn profi dim, gan nad oedd enwau y mwyafrif llethol o bobl cyn y cyfnod modern yn cael eu cofnodi o gwbl. Y mae Cae Gwigyn yn Nhalybont yn sicr yn gofnod o enw dyn yn yr ardal ( gan mai benywaidd yw ‘gwig’, petai cyfeiriad yma at goedwig fechan, yna ‘gwigan’ fyddai). Mae Thomas Roberts a Gwilym T Jones yn awgrymu enw personol Gwigan yn y fferm sylweddol, a phwysig yn y Canoil Oesoedd, Lledwigan, ger Llangefni, ac mae awgrym wedi ei wneud mai’r un enw personol sydd yn enw’r lle Wigan yn Swydd Gaerhirfryn. Os oes Gwigyn a Gwigan, hawdd iawn y gellid cael Gwigau, hefyd. Byddai Gyrn Wigau, wedyn, wedi ei henwi, fel Moel Faban, ar ôl rhywun oedd, ar ryw adeg, yn gysylltiedig a’r mynydd.

Cymrwch eich dewis, felly, mynydd â llwyni o goed yn amlwg arno, neu fynydd ym meddiant rhywun o’r enw (G)wigau.

Neu rywbeth arall, hollol wahanol, wrth reswm!

Moel Faban (1338 tr/ 408m)

Moel Faban o waelod Dyffryn Ogwan

Mynydd, neu fryn, ym mhlwyf Llanllechid; saif pentrefi Rachub, Caellwyngrydd, Llanllechid, a’r Carneddi ar ei lethrau. Mae olion arno sy’n tystio i bobl fyw, a ffermio, ar ei lethrau ers Oes y Cerrig; yn sicr, roedd tipyn go lew o boblogaeth ar y Foel yn Oes y Pres, a’r Oesoedd Canol Cynnar, a hynny oherwydd fod yr ucheldir yn fwy hygyrch a diogel na gwaelod y dyffrynnoedd coediog, yn ogystal â bod yn haws ei drin fel tir amaethyddol. Mae tair carnedd o Oes y Cerrig ( fel y tybir) ar gopa’r Foel, gyda chaeau bychain ac aneddau o Oes y Pres ac Oes yr Haearn ar ei lethrau, ac, wrth gloddio yng Nghae Rhosydd yn Rachub yn 2020/1 darganfuwyd olion eraill o fferm o Oes y Pres.

O safbwynt yr enw, mae Syr Ifor Williams wedi traethu yn fanwl am ‘Foel’ sy’n enw cyffredin ar fath penodol o fryn

Gwyr pawb am yr ansoddair ‘moel’ am ddyn wedi colli ei wallt, a gellir sôn am fynydd neu fryn yn gyffelyb; llwm ydyw, heb goed na thyfiant arno. ….. Os gwelwch ‘moel’ fel enw benywaidd gyda’r fannod ‘ Y Foel’, neu ‘Moel’ gydag ansoddair treigledig, neu enw treigledig, Moel Faban, Y Foel Grach, Y Foel Las, … yn y rhain, enw ar fryn, neu ben bryn a geir’.

Mae’n mynd yn ei flaen i nodi, yng Nghyfreithiau Hywel Dda, fod ‘moel’ yn golygu pen crwn y menyn ar gasgen, y rhan oedd yn codi o gorff y menyn, a’i fod yn cyfateb i’r lladin ‘summitas’, sef ‘copa’, ‘ a phan roddwyd enw ar Moel Wnion, a llawer moel arall, fe wnaed hynny â rhyw atgo yn y meddwl am aml lestraid o ymenyn….’

Mynydd, neu fryn, sy’n ben crwn, heb dyfiant amlwg arno, felly, yw ‘moel’, a hynny ym mhob achos, ond cyn i neb dynnu sylw at y ffaith fod grug, eithin mân, ac ati yn tyfu ar sawl ‘moel’, nid lle hollol noeth a olygir, ond bryn heb lawer o dyfiant mawr, megis coed, ac ati, yn tyfu arno.

Am y ‘Faban’, yn sicr, nid ‘baban’ ydyw, na ‘Mabon’ ychwaith, nid ‘moel’ yn perthyn i rhyw faban, na rhyw Fabon; yn hytrach, enw personol ‘Maban’ sydd yma, ac mae’n cadw cof am rhyw bennaeth, neu ddyn o sylwedd yn lleol, a oedd yn berchen ar y tir, neu’n ffermio’r tir. Gan mai lleol ydyw, a dim cofnod o’i fodolaeth, nid oes gennym syniad pwy ydoedd, na phryd yr oedd yn yr ardal, ond gallwn ddyfalu mai rhywdro yn y Canol Oesoedd yr oedd ar ei brifiant ym Modfeio.

Carnedd ar gopa Moel Faban

Moel Wnion 579 m / 1900 tr

Moel Wnion a’r Bronnydd

Ucheldir sylweddol sy’n ymestyn o Llefn, ger Moel Faban hyd at Abergwyngregyn, gyda’i lethrau yn disgyn hyd at y tir gwastad sydd rhwng Talybont ac Aber. Am ‘moel’ gweler uchod, ond mae Wnion yn peri anhawster. Mae’n arwyddocaol i Syr Ifor gadw’n glir ohono, gan gyfeirio at enw’r mynydd yn unig wrth egluro ‘moel’, ond anwybyddu’r ‘wnion’; gallai hynny fod oherwydd ei fod yn ystyried yr enw un ai yn rhy astrus, neu, wrth gwrs, yn rhy amlwg. Fodd bynnag, mentrwn arni.

Gallwn yn bur sicr nodi nad yw yn dod o ‘gwyn > gwynion’, a hynny am resymau ieithyddol. Gellir tynnu sylw at yr ynganiad lleol ‘wnion’, nad yw byth yn llithro i Moel – wynion, er fod enwau, megis Tanysgafell, Tyddyn Sabel, a Moel y Ci, yn profi na ellir rhoi pwyslais hollol gadarn ar ynganiad lleol bob amser. Yn ogystal, mae ‘gwynion’ yn air hollol gyfarwydd, llawer mwy cyfarwydd nag ‘wnion, a byddai’n hawdd mabwysiadu’r cyfarwydd. Mae’r ‘Moelwynion’ ym Meirionydd yn lluosog Moelwyn, ac, felly’n wahanol i enw Moel Wnion. O ran ystyr daearyddol, petai’r enw yn ‘Moelwynion’, byddai’r lluosog yn golygu fod mwy nag un ‘moelwyn’ yno, a does dim; un mynydd yw Moel Wnion, heb gopaon arno. Yn ogystal, Foel Wen fyddai, oherwydd mai enw benywaidd ydyw ‘foel’. Petai’n Moelwyn, enw person fyddai, yn ôl Syr Ifor, sef person moel, efo gweddill ei wallt yn wyn, a byddai hwnnw yn gysylltiedig gyda’r mynydd mewn rhyw oes.

Ond Moel Wnion sydd gennym yma, felly ‘Wnion’ yw’r elfen olaf. Mae GPC yn nodi’r gair ‘gwnïon’, am ‘rychau’, ‘gwrymiau’. Rwan, fe ellid cael hynny, oherwydd y mae gwrymiau amlwg ar lethrau Meol Wnion, a byddai’n ddisgrifiad pur deg ohono. Yr unig beth sy’n erbyn hyn  yw, unwaith eto, ynganiad, gan fod y gair ‘gwnïon’ yn dod o ‘gwnio’, ac mae’r pwyslais ar yr ‘ï’, a chlywais i erioed mo’r ynganiad hwnnw.

Eto, efallai fod yr ystyr yn fwy syml fyth. Mae afon ym Meirion, yn llifo trwy Ddolgellau, gyda’r enw ‘Wnion.’ Yn Atlas Meirionydd, mae’r awdurdod mawr arall hwnnw ar enwau llefydd,Yr Athro Melville Richards, yn dweud yn bendant i’r afon hon gael ei henwi ar ôl person gyda’r enw ‘Gwynion’, ond fod yr enw wedi troi’n ‘Wnion’. Mae ambell afon wedi ei henwi ar ôl person, yn aml y person oedd yn berchen ar dir ar ei glannau ( Gellir sôn am afon Adda ym Mangor, a enwyd ar ôl rhyw Adda), ac mae ambell fryn wedi ei enwi yn yr un modd ( gweler Moelyci ). Felly, efallai yn hollol syml, mae ‘moel wedi ei chysylltu gyda rhywun o’r enw Gw(y)nion’ mewn rhyw oes yw ystyr Moel Wnion.

Foelgraig ( tua 700m / 2296 tr)

Foelgraig ar lethrau Carnedd Dafydd

Mae Foelgraig ar lethr gorllewinol Carnedd Dafydd, rhwng Cwm Pen Llafar a Braich ty Du. Dydy hi ddim yr un peth â’r moelydd arferol, gan nad yw’n codi fawr ddim o’r llethrau o’i chwmpas, ond, eto, mae’n cyfateb i ddisgrifiad Syr Ifor o ‘foel’, gan ei bod, o ambell gyfeiriad, yn debyg i rhyw bowlen fechan wedi ei throi ben i waered. O’i llethrau hi y tardd afonydd Berthen, Ffos Foelgraig a Ffos Pantyrychen ( y ddwy olaf yn ymuno i ffurfio Afon Cenllysg, cyn i honno lifo i afon Llafar.

O safbwynt yr enw, nid ‘craig’ ydyw, a bod yn fanwl gywir, ond tir wedi ei orchuddio gyda cherrig mân, neu sgri. O’r herwydd, mae ei henw’n hollol ddisgrifiadol.

i’r cychwyn

Pen yr Helgi Du ( 833m/ 2733 tr)

Copa ar ysgwydd ddwyreiniol Carnedd Llywelyn, rhwng Ffynnon Llugwy a Llyn Eigiau. Mae’n debygol mai’r dehongliad cyntaf o’r enw yw ei fod yn cyfeirio at ben rhyw gi hela du. Fodd bynnag, gellir yr un dehonglad â Phen yr Ole Wen, sef mai cyfeiriad ydyw at gopa, neu frig y llethr a elwir yr Ole Wen, ac nad cyfeiriad at y mynydd i gyd ydyw. Byddai hynny’n golygu mai’r enw ar y llethrau yw’r ‘helgi du’. Ni allaf honni fod yr un o’r ddau ddehongliad yn gywirach a’r llall, ac mae’r rheswm am yr enw yn ddirgelwch llwyr. Gallai fod yn cyfeirio at rhyw debygrwydd yn ffurf y mynydd, er fod ‘yr helgi du’ yn hynod o benodol; gallai, yr un mor hawdd, fod yn cynnwys olion rhyw chwedl goll – cofiwn am Garnedd y Filiast, Craig yr Heliwr, Llyn Cwn, Yr Elain, ac eraill, sy’n ennyn chwilfrydedd am hen chwedlau.

i’r cartref

Yr Ole Wen, Pen yr Ole Wen  ( 978 m/ 3208 tr)

Pen yr Ole Wen o Gwm Idwal

Heddiw, ystyrir Pen yr Ole Wen yn fynydd, a hwnnw’n un o’r rheiny sydd yn arbennig oherwydd ei fod yn uwch na 3000 troedfedd. Fodd bynnag, nid yw hynny’n fanwl gywir, gan mai ‘copa’ yw Pen yr Ole Wen, ac nid mynydd, a hwnnw’n gopa ar ysgwydd ddeheuol Carnedd Dafydd. Yr enw ar y llethr dwyreinol sy’n disgyn yn serth i Lyn Ogwen yw ‘Yr Ole Wen’, ac, felly, ei gopa yw ‘Pen yr Ole Wen’. Clywais ddamcaniaeth gan berson lleol yn ddiweddar fod rhan uchaf y llethr serth yn edrych, yn sicr felly o gyfeiriad Nant y Benglog, ger Bodesi, fel ‘pen’ ac y gallai hynny fod yn ystyr i’r ‘pen’ yn yrenw.

Beth bynnag, am Yr Ole Wen. Dyma ddywed Hugh Derfel Hughes ( Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid t24) wedi sôn am Garnedd Dafydd

Gelwir y cwm nesaf i’r de-orllewin iddi yr Ola Wen, am mai trosti hi y gwelai Hafotwyr Cwm Idwal y wawr oleu wen yn tori gyntaf yn y boreu, oblegid ei bod yn sefyll mewn rhan i’r dwyrain o’r cwm dywededig

Rwan, mae gen i barch mawr i Hugh Derfel, ac i’w wybodaeth polimathaidd, ond mae’r frawddeg hon yn peri dryswch imi, ar wahân i’r ffaith fod yr eglurhad ei hun yn amheus iawn. Byddai gosod yr Ole Wen i’r de orllewin o Garnedd Dafydd yn ei gosod yr ochr arall i’r ysgwydd o’r hyn a adawaenir heddiw fel yr Ole Wen. Mae ei chyfeiriad mewn perthynas â Chwm Idwal, wedyn, yn anghywir, gan fod Carnedd Dafydd, yr Ole Wen, a Phen yr Ole Wen, i’r gogledd orllewin o’r cwm, nid i’r dwyrain ohono. Fyddai ‘hafotwyr Cwm Idwal fyth yn gallu gweld y wawr yn torri dros yr Ole Wen; yn wir, ni fyddent yn gweld yr haul am rai oriau, nes iddo ddod dros Tryfan a’r Gludair. Fodd bynnag, fe ellid gweld golau’r haul ar y llethr sy’n cario’r enw Ole Wen, os ydym am weld hynny fel ystyr. Os felly, cyfyd problem ieithyddol, enw gwrywaidd yw ‘golau’, ac ni fyddid yn troi ansoddair dilynol yn fenywaidd ( gwyn > gwen ). Gellid dadlau fod enw wedi ei golli a fyddai’n achosi’r newid, ac mae HDH yn ystumio hyn i gael ‘y wawr oleu wen’, eto, disgrifio’r llethr mae’r enw, nid y wawr, ac mae llethr yn wrywaidd.

Daeth wyr HDH i ymaflyd â’r enw ymhen blynyddoedd, gan gynnig yr eglurhad syml mai’r hyn syd yn yr enw yw ‘goleddf’, sef ‘llethr’, ac mae’n cyfeirio at yr enw ‘Goledd’ ger y Bermo. Gan mai enw benywaidd yw ‘goleddf’, mae’n naturiol mai’r ffurf fenywaidd, dreigledig ‘wen’ sy’n ei ddilyn. Disgrifiad syml o’r llethr sydd yn yr enw, felly, ond pam y gwyn? Cofier nad oes rhaid iddo fod yn wyn, gan y gall olygu ‘golau’. Mae’n ‘wyn’ un ai oherwydd rhyw dyfiant penodol ar y llethr, neu am ei fod yn llygad yr haul, pa un, wn i ddim.

i’r cychwyn

Ysgyfeinciau

Dim ond unwaith y gwelais gyfeiraid at yr enw hwnnw, a hynny gan Hugh Derfel Hughes( HllaLl t24). Yn ôl y cyd-destun, lleolir ef yn rhan isaf Ysgolion Duon yn Nghwm Pen Llafar. Nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw ei ystyr, gan nad yw’r gair yn GPC, ac, fel y gwyr pawb erbyn heddiw, gydag enwau llefydd, thâl hi ddim dyfalu. Ei adael sydd raid, felly, am mai hynny sydd ddoethaf.

i‘r cychwyn

Adran B: Y Glyderau

Trefgordd Cororion Plwyf Llandygai

Y Glyderau o lethrau Nant Ffrancon

Carnedd y Filiast ( 821m/ 2693 tr)

Copa ar grib y Glyderau rhwng Marchlyn a Nant Ffrancon. Os ystyrir y Fronllwyd fel ysgwydd Carnedd y Filiast, yna’r Garnedd yw copa mwyaf gogleddol y Glyderau. Am ystyr yr enw, gweler Garnedd, ac mae’r cyfeiriad at fedd y filiast yn amlwg yn perthyn i ryw lên gwerin sydd bellach ar goll. Mae sawl cyfeiriad at y ‘filiast’ ( benywaidd ‘milgi’ ) mewn enwau llefydd yng Nghymru, er enghraifft, Llety’r Filiast ( Y Gogarth, Rowen ), ac, er mor unigryw mae Carnedd y Filiast yn ymddangos, mae, o leiaf, ddwy arall yn y Gogledd, sef un ger Ysbyty Ifan, ac un arall ar Yr Arennig. Mae’n hollol amlwg fod a wnelo stori am rhyw filiast benodol, gwybyddus i bobl yr ardal, â’r enw hwn, gan fod yr enw yn sôn am ei bedd, ei charnedd.  Rhaid, hefyd, ystyried fodolaeth chwedl, neu chwedlau, sy’n cwmpasu rhannau o ardal, er enghraifft, yn yr ardal hon  er na ellir gwneud dim ond damcaniaethu’n hollol ddi-sail, rhaid inni feddwl am Glogwyn yr Heliwr, Yr Elain, a Phen yr Helgi Du i gyd o fewn ychydig i’w gilydd yn yr ardal. Efallai eu bod yn gysylltiedig mewn rhyw chwedl, ac efallai eu bod yn hollol annibynnol ar ei gilydd. Ni ddeuir i wybod hynny bellach, yn anffodus.

i’r cychwyn

Fronllwyd

Ysgwydd o Garnedd y Filiast yw’r Fronllwyd, ac mae’n amlwg i’r llygad  am mai i’w llethrau hi y tyrchiwyd twll anferth Chwarel Braich y Cafn, ac fe welir y ponciau ar ei hochr. Mae ystyr yr enw yn amlwg, sef cyfuniad o ‘bron’ a ‘llwyd’, gyda ‘llwyd’ yn cyfeirio at liw’r tyfiant ar y mynydd, neu, yn aml, y diffyg tyfiant arno. Does ond rhaid edrych ar lethrau uchaf y Fronllwyd, ble na chyrhaeddodd trosol y chwarelwr, i weld pam y gewlir y mynydd yn llwyd. Er y byddai’n naturiol meddwl mai benywaidd ‘bryn’ yw ‘bron’, nid yw hynny’n gywir; petai hynny’n wir, byddai lluosog y ddau yr un, ond lluosog ‘bron’ yw ‘bronnydd’ ( ac mae mwy nag un o’r rheiny yn yr ardal, fel y byddid yn disgwyl), tra mai lluosog bryn yw ‘bryniau’. Mae GPC yn nodi am ‘bron’

[Crn. bronn, Llyd. C. bronn: < Clt. *brusnā, cf. H. Wydd. bruinne < Clt. *brusni̯o- o’r gwr. *bhreu-s- ‘chwyddo, codi; blaguro’] 

eb. ll. bronnau, bronnydd, bronnoedd.

Ochr bryn ag ymchwydd ynddo, llethr bryn’

Mae’n sicr fod cysylltiad rhwng y gair a’r gair ‘bron, bronnau, sef yr ymchwydd ar fynwes merch.

Am ‘bryn’ nodir

[Crn. bren (mewn e. lleoedd), Brth. *brunni̯ā, a H. Wydd. bruinne ‘bron’: < Clt. *brusni̯o- o’r gwr. IE. *bhreu-s- ‘ymchwyddo’ fel yn bron, bru, &c.; dichon mai e. lleoedd a welir yn rhai o’r enghrau. cynharaf]    eg. ll. bryniau, brynnau, brynnoedd.

Darn o dir sy’n codi’n uwch na’r tir o’i gwmpas, mynydd bychan, bryncyn, crug, twmpath, talp, pentwr, twr, hefyd yn ffig.:

Felly ‘bryn’ yw’r tir sy’n codi, a’r ‘fron’ yw’r ymchwydd ar ochr y bryn. Ac mae hynny’n wir yn yr achos hwn; yn ddaearyddol a daearegol, nid copa unigol yw’r Fronllwyd, ond ysgwydd, neu ymchwydd, ar Garnedd y Filiast. Mae’r enw yn dangos pa mor fanwl yr oedd y Gymraeg, fel unrhyw iaith gyhyrog, fyw, yn gallu dynodi gwahaniaethau, mawr a mân, trwy eiriau gwahanol. Ar ôl treulio amser helaeth yn ymdrin ag enw sy’n ymddangos yn eithaf syml, mae’n rhaid tynnu sylw at un peth arall. Enw benywaidd yw ‘bron’, ac mae unrhyw ansoddair sy’n dilyn enw benywaidd unigol yn treiglo’n feddal, ond, eto, nid oes treiglad meddal yn “fronllwyd’, ble byddid yn disgwyl ‘y fronlwyd’, fel yn ‘y fronfraith’. Cymharer, hefyd, ‘y Fari lwyd’.Yn ogystal, yn ôl rheolau treiglo, mae ail elfen gair cyfansawdd yn treiglo’n feddal, ond, er fod ‘Fronllwyd’yn air cyfansawdd, nid oes treiglad yn yr ail elfen. Mae’n wir fod enwau cyfansawdd llefydd eraill yn yr ardal, megis Llwytmor a Choetmor, ble nad yw’r ail elfen yn treiglo; gellir dadlau mai dylanwad yr enw lluosog ‘coed’ yn yr ail  sy’n achosi’r diffyg treiglo, ond, yn sicr, dylid gweld treiglad meddal yn ‘Llwytmor’, megis ‘dulas’, ‘glasgoed’, ‘cochddu, a llu o eiriau eraill. Ond Llwytmor ydyw, a’r Fronllwyd, hefyd, a dydw i ddim digon cyfarwydd gyda mân flewiach gramadeg i ddweud pam.

i’r cychwyn

Y Garn (947m  3107tr )

Y Garn dan eira – edrych draw ar draws Llyn Ogwen

Un o’r mynyddoedd hynny yn Eryri sydd dros 3000 troedfedd. Saif rhwng Cwm Idwal a Nant Peris, ac ef yw’r cyntaf yn y gadwyn o fynyddoedd sy’n ffurfio ochr ddeheuol Nant Ffrancon.

Yr un ‘carn’ sydd yma, ag sydd yn y gair ‘carnedd’, ond nid oes iddo yr ystyr o fedd; mae’n golygu pentwr o gerrig, neu, weithiau, garreg, neu graig, fawr, ac mae hynny’n disgrifio’r mynydd i’r dim.Enw disgrifiadol pur, felly.

Glyder Fawr  ( 1000.9m/ 3283 tr ) Glyder Fach ( 994m/ 3261 tr )

Y Glyder Fawr ( chwith ) a’r Glyder Fach o Fethesda

Y ddau gopa rhwng Tryfan a’r Garn, sy’n rhoi eu henwau i’r grib honno sy’n ffurfio ochrau dwyreiniol a deheuol Nant Ffrancon; mae’r ddau ymhlith copaon uchaf Cymru. Nid ‘glyder’ oedd yr enw gwreiddiol, yr enw hwnnw oedd ‘cludair’. Mae Syr Ifor Williams yn awgrymu ( Enwau Lleoedd t35)

‘Seinir yr enw yn nhafodiaith Gwynedd fel Gludar, a chamffurf arno yw Glyder y Saeson’

Felly llurguniad o ynganiad tafodieithol ‘cludair > cludar > glydar > glyder’ yw awgrym Syr Ifor. Ar y llaw arall, gallai’n hawdd fod yn lurguniad Cymraeg, ble mae gair efo ‘a’ yn y Gogledd yn cael ei ystyried yn dafodieithol, a throir yn ôl i ffurf dybiedig ‘e’. Cymharer ‘cadair’ > ‘ cadar ‘ / ‘cader’. Digwyddodd yn Ogwen, lle’r ystyriwyd mai tafodieithiol am Ogwen oedd yr enw. ( Gweler Ogwan ).Gwelir yr enw ‘cludair’ yn yr ardal, er ym mhen arall Nant y Benglog, ac heb fod mewn cysylltiad â’r ddwy Glyder, mewn enw un o gaeau fferm Talybraich, sef Bryn y Gludair. Mae GPC yn egluro ‘cludair’ fel tomen, neu dwmpath, o rywbeth, yn aml pren neu gerrig wedi eu casglu at ei gilydd. Mae gwraidd y gair yn ‘cludo’ sef cario rhywbeth; dyna a wneir wrth greu twmpath o rywbeth, sef cario deunydd penodol i un lle. Mae’n debyg fod twmpath o gerrig ar Fryn y Gludair, gan fod llawer iawn o dwmpathau ol-rewlifol yn yr ardal. Mae’n anodd gwybod yn union pam y galwyd y ddau gopa yn ‘gludair’; un ai maent yn edrych fel pentwr o gerrig, a chopaon carregog ydynt, yn hollol wahanol eu natur i’r Carneddau ar draws y nant, neu mae’r enw yn cyfeirio at y pentyrrau o gerrig sydd ar y copaon, yn enwedig Castell y Gwynt, sydd ar gopa’r Glyder Fach.

i’r cychwyn

Moelyci ( 402.9m/1321tr)

(Gweler hefyd Moelyci)

Moelyci a Ddyffryn Ogwen

Bryn uchel, neu fynydd isel yw Moelyci, y mwyaf gorllewinol o’r gadwyn honno o fynyddoedd Eryri sy’n ymestyn o’r Gluderau a’r Elidir Fawr gan wahanu Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris. Yn wir, oherwydd ei faint a’i natur, gellir ei alw’n ardal, yn hytrach na bryn, gan ei fod yn ymestyn am rai milltiroedd rhwng Ogwen a Chegin. Ar ei lethrau y saif pentrefi Rhiwlas ( yn rhannol), Pentir, Rhyd y Groes, Tregarth, Sling, a Mynydd Llandygai, y cyfan yn bentrefi diweddar a ddatblygodd yn sgil y diwydiant llechi. Mae fferm fynydd sylweddol o’r un enw ar lethrau gogleddol y foel. Roedd llethrau uchaf y foel yn dir comin nes i Chwarel Braich y Cafn dorri trwy’r clawdd mynydd yn 1796, pan hawliwyd y tir gan y Penrhyn, ac y dechreuwyd adeiladu tai yno i’r gweithwyr. Am ddegawdau roedd y tai hynny i gyd yn cael eu galw’n Tregarth, yna aeth y pentref yn Douglas Hill, hyd nes, yn 1933, y penderfynnodd y trigolion newid yr enw Saesneg i’r enw Cymraeg presennol Mynydd Llandygai.

Am yr enw bu, a mae, anghysondeb am ynganiad yr enw Moelyci, gyda nifer yn mynnu mai Moel y Ci yw’r ffurf gywir, er fod yr ynganiad lleol yn ddiffael yn gosod y pwyslais ar y goben, sef yr Y yn MeolYci. Yn wir, mae llawer o drigolion lleol, hyd yn oed, yn anwybyddu yr ynganiad lleol, a’u ynganiad arferol eu hunain, gan ynganu’r enw fel Moel y Ci pan yn siarad am y lle gyda dieithryn, neu mewn cyswllt swyddogol. Wrth fwrw golwg ar sawl gwefan, gwelir fod yr amryfusedd hwn rhwng Moelyci a Moel y ci yn dal yn bodoli.

Llethrau Moelyci o Bentir

Eto, nid rhywbeth modern yw hyn oherwydd llacio ar yr iaith. Yn ei gyfrol Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, a gyhoeddwyd yn 1866, mae Hugh Derfel Hughes yn ddiffael yn cyfeirio at Foel-y-ci, ac roedd yr ansicrwydd rhwng y ddwy i’w weld mor gynnar a’r unfed ganrif ar bymtheg. Wrth reswm, ym mhapurau’r Penrhyn ( Archifdy Prifysgol Bangor) y ceir y cyfeiriadau at Moelyci, a hynny at y fferm, gan ei bod yn ddaliad sylweddol a phwysig ar y stâd. Yn 1588 ceir Moylycki, a Moelyki yn 1599. Cafwyd sillafiadau seisnigedig megis Moelucky ( 1610), a Volyuccy ( 1717). Ar sail ‘lyci’ awgrymodd Myrddin Fardd mai’r Saesneg ‘lucky’ sydd yn y gair, fel petai hi’n foel lwcus, am ryw reswm.

Dangosodd Glenda Carr fod enwau cyffelyb Ynys Leci, ym Llangybi, a Berth Leci, ym Motwnnog, ac, yn yr enwau hynny, enw merch, Lleucu, yn sicr sydd yno. Mae’n dadlau mai’r ffaith fod dwy L yn cyfarfod ei gilydd, un ar ddiwedd Moel, a’r llall ar gychwyn Lleucu ( a fyddai’n treiglo’n feddal > L yn y cyflwr meddiannol, cymharer Dôl Ddafydd), fu’n gyfrifol am gael y fannod ‘Y’ rhwng y ddwy. Felly, Moel oedd ar un adeg ym meddiant rhyw Leucu, na wyddom bellach pwy ydoedd, dyna, yw ystyr Moelyci, ac nid oes unrhyw gi o gwbl yn cuddio yn yr enw

Cafwyd llawer o’r wybodaeth yma o Hen Enwau o Arfon, Llyn, ac Eifionydd Glenda Carr

Tryfan ( 917m/ 3010 tr)

‘Llofrudd o fynydd wyf i’ Gwilym R Jones

Mynydd unigryw ac amlwg yn y Glyderau yn Eryri, yn gorwedd rhwng Nant y Benglog a Dyffryn Mymbyr. Mae’r enw yn dod o’r ddwy elfen ‘ Try’ a ‘ban’, gyda’r ‘ban’ yn golygu Pen, blaen, pwynt, brig, copa, crib, pigyn, uchelfan, pinacl, twred, bryn, mynydd, ( Geiradur Prifysgol Cymru).  Yr un gair sydd yn enwau’r mynyddoedd ‘Bannau Brycheiniog’, a cheir ef, hefyd yn yr enw Bannockburn ( afon uchel/ afon fynyddig) yn yr Alban. Mae’r un elfen hefyd i’w weld yn y gair ‘banllef’, sef ‘gweiddi uchel’. Oherwydd iddo fod â’r ystyr ‘pigyn’, ‘pinacl’, cysylltwyd hynny gyda’r ddau faen amlwg sy’n sefyll ar gopa Tryfan, gan gymryd mai ‘tri’ sydd yn y ‘try’ yn Tryfan, a dychmygu trydydd maen oedd wedi cwympo rywdro. I symleiddio pethau ymhellach, byddai hynny’n rhoi ‘tri faen’! Mae ‘try’, sy’n golygu ‘tri’ i’w weld yn y gair ‘tryfer’, sef y ffon fforchog a ddefnyddid i bysgota, yn enwedig gan botshiars er mwyn trywanu pysgod. Mae’r ‘ber’ yn golygu ‘gwayffon’ neu flaen saeth, ac roedd tryfer gyda thri pigyn iddi. Fodd bynnag, dangosodd Syr Ifor Williams ( Enwau Lleoedd t 44) mai’r ‘try’ sydd yn ‘tryloyw’ sydd yn yr enw, sef geiryn i gryfau ystyr – ‘tryloyw = gloyw iawn. Yn wir, roedd ei daid, Hugh Derfel Hughes, y gwerinwr hynod ddiwylliedig a galluog hwnnw, wedi sylweddoli hynny yn yr 1860au, pan ddywedodd, yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid t 25′ ‘i’r Dwyrain o’r Gludar Bach, y mae pyramid o fryn, nid annhebyg i dorth siwgr, ac a elwir y Tryfan ( try ban ), yr hyn sydd yn dynodi ei uchder, er y myn rhai ei alw yn Drifaen, a hynny oherwydd tri chlogwyn noedd gynt ar ei ben, pan nad oes ond dau yn bresennol’. Felly, a dilyn Syr For a’i daid, ystyr ‘tryfan’ yw ‘mynydd uchel iawn’, neu ‘mynydd gyda blaen main’, ac mae Syr Ifor yn mynd ymhellach gan dynnu sylw at y ffaith fod y mynydd yn wahanol iawn ei ffurf i’r mynyddoedd yn ei ymyl, ac yn ymddangos fel rhyw fath o bigyn, neu uchelfain. Enw hollol ddisgrifiadol, felly. ( Fel mater o ddiddordeb, ni ellir gweld sut mae’r ystyr hwn yn gweddu i Rostryfan na Moeltryfan, gan oes mynydd tebyg ei ffurf yn y cylch)

‘..nid yw yn hollol bigfain, ond blaenfain yw, serch hynny, wrth ochr cruglwyth aflêr y Gludair yn ei ymyl ( IW Enwau Lleoedd t15)

%d bloggers like this: