Enwau’r ardal a’u hystyron yn syml

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

ENWAU DYFFRYN OGWEN 

 

(Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn na therfynol, gan yr ychwanegir ati o dro i dro.

Yn gyffredinol, NI chynhwysir enw nad oedd yn bodoli yn y dyffryn cyn 1850)

 Mae trafodaeth fanwl ar nifer helaeth o’r enawu hyn yn y tudalennau perthnasol ar y safwe; os hoffech eu darllen, dilynwch y ddolen o’r Brif Lythyren berthnasol

 

 ENWAU PENTREFI, FFERMYDD, TYDDYNNOD, DALIADAU

 

A

 

Abercaseg               ceg yr afon Gaseg ( yn ei chymer gydag Qgwen)

Abercegin                ceg yr afon Cegin

Aberogwen              ceg yr afon Ogwen

Afon

Caledffrwd              afon efo dwr yn uchel mewn calch, neu soda

Ocar ( enw lleol ar Caledffrwd)        clai coch, neu felyn, sy’n cael ei ddefnyddio wrth   wneud paent

Cegin           1. Oherwydd ei bod yn codi yng Ffynnon Cegin Arthur, Llanddeiniolen

    1.    afon lle mae llawer o’r planhigyn ‘cegid y dwr’ ( water hemlock)yn tyfu ynddi                         

Ogwen         < Ogwan < Ogfanw = afon sy’n tyrchu ei ffordd trwy’r tir fel mochyn

B

 

Bethesda                o’r Hebraeg/ Aramaeg ‘beth-saida’ = ty hela, ty pysgota

Cymrodd y pentref yr enw o enw’r capel

Blaen y Nant             Ble mae Nant Ffrancon yn cychwyn

Bodfeurig                 cartref/ preswylfa Meurig  

Braichmelyn             rhan o fynydd sy’n ymestyn allan, a thyfiant melyn drosto

Braich Ty Du             rhan o fynydd sy’n ymestyn allan sy’n eiddo i Ty Du

Bryn Bela                  bryn ble mae bele goed yn niferus/ y planhigyn bela yn tyfu

Bryn Cocyn               bryn sydd ar ffurf cocyn

Bryn Cul                   bryn llwm, digynnyrch

Bryn Eira                   bryn gwyn, neu ble mae eira yn disgyn gyntaf

Bryn Eithin                bryn ag eithin yn tyfu arno

Bryn Hafod y Wern    bryn sy’n eiddo/ neu’n lleoliad i hafod y wern 

Bryn Llys                bryn ble mae llys, neu yn ymyl llys, neu’n eiddo i lys

Bryn Rhwydd           bryn agored ( hawdd ei gerdded )

Bryn Twrw              bryn y bu helynt/ dadlau/ ymrafael/ ffraeo yn ei gylch rywdro,

Bronnydd                ochrau bryniau ( ben. Bryn )

Bwlch Ymolchi          ?bwlch Llanylchi/ ynylchi?

 C

 

Cae Braich y Cafn      cae ger braich o fynydd sy’n ymwthio i hafn dwfn o dir/

                                        …..   hafn dwfn mae afon yn rhedeg drwyddo

Cae Coch                  cae wedi ei aredig

Cae Cyd                    cae yn cael ei ddal gan fwy nag un person

Cae Gwigyn             cae ym meddiant dyn o’r enw Gwigyn

Cae Gwilym Ddu       cae ym meddiant Gwilym Ddu ( ond gw. G )

Cae’r Ffos                cae yr oedd ffos ynddo

Cae Gronw               cae ym meddiant Gronw

Cae Gwyn                cae gyda thyfiant gwyn yn ei nodweddu

Cae Herfin              cae  ym meddiant un o’r enw Herfin?

Cae Hyfaidd             cae ym meddiant dyn o’r enw Hyfaidd

Cae Ifan Gymro        cae ym meddiant dyn o’r enw Ifan Gymro

Caellwyngrydd         aneglur  Cae yn perthyn i ddaliad o’r enw Llwyngrydd/ Cae +

                                      llwyn + Gwrydd ( enw person)/ Cae + llwyn + gwrydd (  

                                      planhigyn)  Gw y ddalen Enwau C

Cae Mawr               cae mwy na’r cyffredin, neu mwy na gweddill caeau’r ardal/

                                  daliad

Cae’r Saeson Bach ( Gwern Saeson Bach )  O’i gymharu â fferm fynydd gyfagos

                                     Gwern Saeson Fawr

Cae Rhys William      Cae oedd ym meddiant Rhys William

Cae’r Wern                   Cae oedd ynghlwm wrth y Wern Fawr ( ger Cororion )

Capel Cwta                 Enw ‘diweddar’ Dim hanes o gapel yno.

                                       Cwta = tir crintachlyd, gwael? Gweler Enwau C

Capel Ogwen               Capel ar lannau Ogwen

Carneddi                Ardal ble’r oedd nifer o garneddau

Caseg                    Afon wyllt, gyflym, gydag ewyn fel mwng caseg yn carlamu

Cefnfaes                 maes ar gefnen o dir, neu ganol y maes agored

Cefn y coed             tu ôl i’r coed

Ceunant                 glyn/ hafn cul

Cilfodan                 cilfach ?cawoden/ ? hafoden

Cilgeraint                cilfach y teulu/ cilfach Geraint ( llai tebygol)

Ciltrefnus               < ciltreflys; cilfach ble’r oedd fferm y llys

Ciltwllan                 cilfach yr egwys dywyll ( mewn coed )

Clwt y Felin             darn bychan o dir yn perthyn i’r felin

Coed Uchaf             Y coed uchaf ( i fyny’r mynydd ), neu y coed pellaf oddi wrth y

                                   ganolfan weinyddol

Coed Isaf                Isaf ( i lawr y mynydd), neu agosaf i’r ganolfan weinyddol

Cochwillan              ystyr ddim yn wybyddus

Coed Hywel             coed oedd yn eiddo i Hywel

Coetmor                   coed mawr

Coed y Parc             coed y darn o dir eang oedd wedi ei gau i mewn

Corbri                      o’r enw personol Gwyddelig Cairbre, neu bryn bychan ( cor+ bre )

Cwlyn                       lle bychan

Cymysgmai             y waun sy’n cael ei haredig ym Mai ( os mai Gwauncwysmai

                                   ydoedd yn wreiddiol)

 

CH

Chwarel Goch          chwarel efo pridd/ carreg goch

 

 

D/ Dd

 

Ddôl                      y tir yn nhro’r afon

Dinas                    y gaer, y tir sy’n perthyn i’r gaer

Dolawen                y tir dymunol yn nhro’r afon

Dolhelyg                 tir yn nhro’r afon lle mae nifer o goed helyg yn tyfu

 

F/ FF

 

Fedw                       coed bedw

Ffridd                    porfa arw, wael fynyddig, tir rhwng tir fferm a thir gwyllt y

                                 mynydd

Ffridd y Deon           ffridd yn eiddo i ddeon yr Eglwys Gadeiriol, neu gyda’i rent yn

                                     mynd i’r deon

Ffrydlas                  afon fechan las ei lliw/ afon y ffridd las

 

G

Garneddwen           y garnedd o gerrig golau

Garth Uchaf            cefnen, tir uchel

Gelli                           coedwig fechan

Gelli Mynach           coedwig fechan yn eiddo i’r mynach/ gydag unrhyw rent yn

                                     rhodd i gynnal mynachod

Gerlan                   tir yn disgyn yn weddol serth at afon

Gilfach                   encil, cornel gysgodol

Glanrafon ( Ffrydlas ), Glanyrafon, ( Ogwen ) Glanafon ( Ogwen

                                    ar lan unrhyw afon

Glan Llugwy           ar lan yr afon Llugwy

Glan y Môr              fferm ar lan y môr

Gwaun Gwiail          tir gwael gwlyb ble mae helyg yn tyfu

Gweirglodd             tir wedi ei gau i dyfu gwair

                  Hir              ystyr amlwg

                  Needham        gweirglodd yn eiddo i ddyn o’r enw Needham

                  Y wern           gweirglodd yn rhan o fferm Wern, neu’n rhan o wern

Gwernydd               tiroedd gwael gwlyb

Gwern y Gof            tiroedd gwlyb y gofaint

Gwern Saeson Fawr   tir gwlyb, gwael yn perthyn i 1.Saeson  2. rhai oedd yn deall

                                        Saesneg  3. rhai oedd wedi bod yn lloegr

 

H

 

Hafoty                     ty lle’r eid a’r anifeiliaid dros yr haf, fel arfer yn uwch i’r mynydd

Hendre                    y prif gartref sefydlog, yr hen enw ar yr iseldir ger y môr yn

                                   Llanllechid

Highgate               o’r Saesneg ‘high’ ( ‘uchel’, neu ‘prif ‘), a ‘gate’ ( bwlch, neu ffordd ).

                           Felly ‘prif fwlch/ ffordd’, neu ‘bwlch uchel’, neu ‘ffordd uchel’

 

L

Lôn Isa                   y lôn isaf, o’i chymharu â’r uchaf, trwy Lanllechid

 

 

Ll

 

Llafar   ( afon )                 afon swnllyd

Llandygai                          eglwys Tygai

Llanllechid                        eglwys Llechid/ eglwys y llechwedd

Llain                                  darn cul, neu hirgul, o dir

Llain y Ffwlbart               tir wedi ei gysylltu gyda ffwlbartod, neu un ffwlbart

                                             penodol

Llety’r Bwgan                  ty yn gysylltiedig gyda stori am fwgan

Llwyn Bleddyn                coed yn gysylltiedig gyda pherchennog/ tenant o’r enw

                                             Bleddyn

Llwyn Celyn                     llwyn o goed celyn

Llwyn y Penddu          llwyn rhywun efo’r llysenw Y Penddu

Llys y Gwynt                    lle gwyntog, castell y gwynt

 

 

M

 

Maes Caradog                 tir eang, agored ym meddiant Caradog

Maes y Penbwl               tir eang, agored yn eiddo i rhywun gyda’r llysenw Penbwl <

                                            efo pen  mawr, neu rywun dwl

Mignant                          dyffryn cul, corsiog

Moelyci                          moel ym meddiant Lleucu

 

 

N

 

Nant                     1. cwm/glyn   2. Afonig, ffrwd

Nant Heilyn             glyn yn eiddo i Heilyn

Nant Gwreiddiog      glyn efo llawer o wreiddiau ynddo

Nant y Graen           glyn efo graean yn ei nodweddu

Nant y Ty                glyn ble mae adeilad OND 1768 Nant Du – cwm tywyll

 

 P

 

Pandy                     adeilad i bannu brethyn

Pant y Cyff              pant lle lleolid cyffion? / pant gyda rhyw foncyff arbennig?/ pant

                                 ym meddiant rhyw berson dwl iawn?

Pant Ffrydlas           pant yr afon Ffrydlas

Pant y Gwair            pant lle tyfid gwair

Pant Hwfa               pant ym meddiant Hwfa

Parc Moch              cae wedi ei amgau lle cedwid moch

Parc Newydd           o’i gymharu â Hen Barc

Pencoed                  ym mhen draw’r coed

Penisa’r nant         ceg y nant, gwaelod y nant

Penrhyn                 trwyn o dir yn ymestyn allan i’r môr, neu i dir gwlyb

Pentre                   pen draw’r fferm

Pentre’r felin           pen y fferm ble’r oedd y felin

Penybronnydd         pen draw/ pen uchaf ochrau’r bryniau

Penybryn                ystyr amlwg

Plas Ucha               y lle uchaf ( daearyddol )

Powls                    ansicr  ond yr awgrym mai llygriad o St Pauls, Llundain ydyw, a

                                byddai’n derm difrïol

Pwll Budr                y daliad o gwmpas y pwll yn yr hendre

Pen y groes              ble mae dwy ffordd/ dau lwybr yn croesi

Penylan                 uwchben glan yr afon

Perthi Corniog          llwyni o goed caled/ coed cnotiog

 

R/ Rh

 

Rachub                     tir a achubwyd o’r gwyllt, i’w ddefnyddio

Rallt                          ar ochr bryn

Rhos Uchaf             tir gwael uchaf ( o’i gymharu ag un is )

 

S

 

Sling                     darn bychan o dir, trionglog, fel arfer

Sychnant                ffrwd sy’n sychu’n aml yn yr haf

 

T

 

Tafarnau                adeiladau yn gwerthu diod/ bwyd

Tai’n Coed               yr adeiladau yn y coed

Tai’r Meibion           adeiladau ym meddiant y meibion/ llanciau

Tai Teilwriaid           adeiladau’r teilwriaid

Talgae                   1. tir wedi ei amgau < atalgae  2. Cae pellaf

Talybraich               pen draw braich mynydd

Talysarn                 pen draw llwybr, ffordd

Tanybwlch              o dan Bwlch Molchi

Tan y Foel ( Faban a Moelyci) o dan un o’r moelydd

Tan y Fynwent         ys is na’r fynwent

Tan y Garth             o dan y gefnen

Tan Rhiw                o dan yr allt

Tan yr Allt               fel Tan Rhiw

Tai Isa                    yr adeiladau isaf

Talybont                ger pen y bont

Trergarth                y fferm ar y gefnen

Tyddyn                   daliad o dir, fferm

         ( y) Bartle      ym meddiant dyn gyda’r cyfenw Bartley

Canol/Isaf/Uchaf ( Llanllechid a Llandygai)    1. Uchder   2. Pellter oddi wrth y

                                 ganolfan weinyddol

Cwta            crintachlyd, tir gwael

         (Y)Ceiliog       ym meddiant dyn a lysenwyd yn Geiliog ( tipyn o lanc )

         (y) Clawdd     ger y clawdd

Dicym           eiddo dyn o’r enw ?Dickham

 Du              yng nghysgod yr haul

Elis Dafydd     eiddo Elis Dafydd

Felin Hen       yn perthyn i’r hen felin

(y) Fertos/ feitoes/ defeitos   aneglur, gan nad oes ffurf sicr ohono

Iolyn            eiddo Iolyn – enw anwes ar Iolo, sydd ei hun yn enw anwes ar Iorwerth

(y) Lôn          ar ochr y lôn ( o Bont Twr i Lanllechid )

         Maes y Groes  1. y tir eang ger y groesffordd  2. Y tir eang ble saif croes

         Sabel            ym meddiant merch o’r enw Isabella

         Sache/ Sachre ym meddiant dyn o’r enw Sechareia

         (y) Wern       y tir gwlyb, gwael     

Ty Gwyn                 hunan-eglurhaol

Ty Hen                   o’i gymharu ag un newydd

Ty Newydd              fel uchod

Tyn Ffridd               tyddyn y tir garw

Tyn lôn                  tyddyn ger y lôn

Ty Mawr                ty mwy na’r tai arferol

Tyn Clwt                 1. tyddyn gydag ychydig bach o dir 2. Tyddyn gyda llawer o

                                   blanhigion egrai ( clwt )ar ei dir

Tyn Twr                 tyddyn y twr canoloesol

Tyn y Caeau            y ty yn y caeau

Tyn y Felin              tyddyn yn perthyn i’r felin

Tyn y Maes             y tyddyn yn y maes ( Caradog )

Ty Slates                ty wedi ei wneud, wedi ei doi, efo llechi

 

W

Wern Fawr              tir gwael, gwlyb mawr

Winllan                  1. cyfair o goed  2. gwinllan

 

Y

Ysgubor Newydd       hunan-eglurhaol

Ysgubor y Growton    ysgubor yn perthyn i berson gyda’r cyfenw Growton

 

 

ENWAU CAEAU

( yn cae ei datblygu)

Yma ceir enwau caeau oedd yn bodoli yn Nyffryn Ogwen 1768 ymlaen.

Ni restrir yr enwau amlwg eu hystyr, megis ‘cae bach’, ‘cae mawr’ ‘cae lloiau’, ac ati. Nodir enw lleoliad y cae bob tro ( hynny yw, ar ba ddaliad yr oedd )

 

Mae dwy adran yma, yn cyfateb i’r ddau blwyf

%d bloggers like this: