Enwau Llefydd G H

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Gelli  Gellimynach Gerlan     Glan Llugwy Stryd Goronwy Groeslon  Grisiau Cochion    Gwaun y Gwiail Gweirglodd Needham    Gwern Saeson Fawr    Gwern y Gof Hafoty  Hen Barc  Highgate

Gelli

Mae Eglwys y Gelli yn Nhregarth, ar y groesffordd ble mae Lôn Wern yn cyrraedd y prif lwybr i’r Felin Hen. Fodd bynnag, nid ar dir Gelli y codwyd yr eglwys,ond ar dir daliad arall, sef Tyddyn y Bartle/ Bartli, gan mai yr ochr arall i’r ffordd yr oedd tir y Gelli. Roedd yn ddaliad o 24 acer ( yn 1768 ac 1838) yn y gornel ogedd-ddwyreiniol o’r gyffordd, yn terfynu ar Gae’r Wern, Bryn Cul, a Thyddyn y Clawdd, a gyda rhimyn o dir yr ochr arall i’r ffordd Tregarth- Felin Hen,gan derfynu ar y Pandy yn y fan honno. Fel llawer o dir mynydd, doedd o ddim yn dir da iawn, gan fod 5 acer o gors a 5 acer o goed arni yn 1768; mae map 1838 yn dangos y coed ar derfyn Bryn Cul. Roedd y ty ar y gornel ble mae’r bwthyn heddiw.

O safbwynt yr enw, mae tuedd yn y canrifoedd diweddar, oherwydd fod y ddau air yn debyg,  i’w ddefnyddio am lwyn o goed cyll, sef coed cnau, ond yr ystyr gwreiddiol yw ‘llwyn o goed’, sef unrhyw goed, neu goedwig fechan, coedlan. Yn y chwedlau cynnar Cymraeg, yr oedd llys y Brenin Arthur yn y Gelliwig yng Nghernyw ( gyda’r ddwy elfen yn golygu’r un peth, sef ‘llwyn o goed’, cymharer ‘coedwig’, neu’r enw fferm yn Aber, ‘Wig’), tra mai’r enw Cymraeg am Hay on Wye ym Mynwy yw Y Gelli Gandryll, sef ‘llwyn o goed oedd wedi ei chwalu’n ddarnau mân’ mewn rhyw gyfnod. Mae’n enw cyffredin iawn trwy Gymru, gyda’r Athro Melville Richards yn cofnodi 90 enghraifft gwahanol yn ei Archif. Er mai Gelli, neu Y Gelli, yw’r enw gan amlaf o lawer iawn,  mae ambell enw diddorol, sy’n dangos nodwedd benodol i’r llwyn o goed, er enghraifft, Gelli yr Wiwer, sir Ddinbych, Gelli’r Eirin, a’r Gelli Danllwyth, yng Nghwm Rheidiol, Gelli Allt y Carw ym Meirionnydd,a’r Gellidywyll yn Sir Benfro,

Felly, mewn rhyw oes, fe enwyd Gelli, plwyf Llandygai, am yr un rheswm ag yr enwyd pob un o’r lleill ar raws Cymru benbaladr, a hynny oherwydd fod llwyn sylweddol, neu arbennig, o goed yno.

Gellimynach

Nid yw Gellimynach yn bodoli bellach. Yn ôl Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn, yr oedd dwy fferm Gellimynach, un yn 389 acer, a’r llall yn 285 acer, yn rhan isaf Nant y Benglog, yn terfynu ar Dyddyn Capel y Curig. Roedd 11 cae ym mhob daliad, a, gan fod 9 o’r caeau hynny gyda’r un enw, gellir dweud yn weddol sicr mai un daliad oedd yno yn wreiddiol. Roedd tai y ddau ddaliad yn agos i’w gilydd, a hynny yn yr ardal ble mae afon Llugwy yn cymryd ei thro i lawr y nant, o’i llwybr gogledd-de i’w llwybr dwyrain-gorllewin. Aeth y lôn newydd i Gapel Curig yn 1802 trwy dir Gelli Mynach, tra’r aeth ffordd Telford ymhen 15 mlynedd wedyn – yr A5 presennol – hefyd trwy’r tir. Nid ymddengys Gellimynach ar unrhyw gyfrifiad, o’r gyntaf yn 1841 ymlaen, sy’n dangos fod y tir wedi mynd i ddaliadau cyfagos eraill. Fodd bynnag, mae dau dy moel o’r enw Gelli, o fewn ychydig i Werngof, a thri arall o’r un enw yn agos i Gapel Curig, sy’n awgrymu iddynt gael eu hadeiladu ar dir Gellimynach. Y mae map 0S 1898 yn nodi tir o’r enw Gelli i’r de uwchben Capel Curig, ac mae tystiolaeth gyfoes ( Wicipedia ) yn nodi fod llecyn o’r enw Gellimynach ‘ar yr hen lôn i gyfeiriad Llyn Ogwen’. Mae print, efallai yn waith Francis Bedford, yn Amgueddfa Getty, California, o Bont Gelli, Capel Curig ‘above Capel Curig’ yn 1865. Ni allaf gadarnhau yn union ble mae’r bont hon, ond mae ‘above’ yn awgrymu lleoliad Gelli Mynach.

Am yr enw, ‘llecyn o goed’ yw ‘celli’, ac mae ‘mynach’ yn dod o’r ffaith fod y tir yn yr ardal hon, yn y Canol Oesoedd, yn perthyn i briordy Beddgelert, ac, felly, mai’r ‘mynachod’ oedd ei berchen; roedd priordy Beddgelert, fel mwy nag un tebyg iddo, yn berchen ar diroedd, oedd wedi dod iddo trwy roddion a gwaddolion, ac fe alwyd rhai tiroedd oherwydd y berchnogaeth.  Gellir cymharu enwau tebyg yng Nghymru, megis Cwmtirmynach, ger y Bala. Wedi dadwaddoli’r mynachlogydd 1536 -39 daeth tiroedd helaeth y sefydliadau mynachlogaidd i ddwylo lleygwyr barus, gan amlaf yn uchelwyr lleol. Dadwaddolwyd Beddgelert yn 1536, ond, erbyn hynny, nid oedd ond tri canon oedd yno, ac fe amcangyfrifwyd gwerth blynyddol y priordy yn £69. Ni wyddom pryd y daeth y tir yn Nant y Benglog i ddwylo’r Penrhyn, ond, fel y gwelwyd, roedd yno erbyn 1768.

i’r cychwyn

Gerlan

Gerlan
Gerlan o’r Tyddyn Du

Pentref a ddaeth i fodolaeth yn 1864/5, pan ryddhawyd tir Ciltrefnus a Chae Gronw ar gyfer adeiladu gan eu perchennog, John a Jane Taylor, Tanybwlch.

BETHESDA. Building is carried on with activity on the Ciltrefnus estate, which was lately sold in building lots; and in a few months we shall see a small village on that side of the mountain.

North Wales Chronicle and Advertiser  30/7/1864

Gellid honni y cymrodd y pentref ei enw oddi wrth Tyddyn y Gerlan, sef y fferm 45 acer oedd yn yr ardal, yn terfynu gyda Chiltrefnus, Cymysgmai, Tanygarth, Ciltwllan, ac Abercaseg; mae’n weddol sicr nad ar y Cae’r Ffynnon 5 acer, a nodir yn rhan o’r fferm yn 1768, y codwyd Stryd y Ffynnon, gan fod map Arolwg Degwm 1838-40 yn dangos yr holl dir ble saif Stryd y Ffynnon yn eiddo i Ciltrefnus ( neu’n fanwl gywir, Cae Gronw). Gan nad adeiladwyd yr un o dai’r pentref newydd ar dir fferm Gerlan, mae’n fwy tebygol fod Tyddyn y Gerlan wedi cymryd ei enw oddi wrth ei leoliad daearyddol, gan mai disgrifad daearyddol yw ‘gerlan’. Yn wir, ym mhapur newydd Cymry America ‘Y Drych’ yn 1854, y mae cyfrannwr dienw yn nodi iddo gael ei fagu yng Nghiltrefnus, ac mai ‘un o ardal Gerlan’ ydyw. Gan nad oedd y pentref yn bodoli bryd hynny, ar wahân i 5 o dai Rhes Gerlan ( oedd wedi datblygu o adeiladau fferm Gerlan ), a thai Gwernydd, mae’n debygol mai’r ardal gyfan yw ‘gerlan’, ac mai daliad yn yr ardal honno oedd Tyddyn y Gerlan. Ar y llaw arall, gellir dilyn yr enw fel a ganlyn. Er fod Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn yn dangos ‘Gerlan’ fel un daliad o 45 acer, mae Cyfrifiad 1851 yn dangos dau ddaliad, Gerlan Farm yn 49 acer, a Gerlan Isaf yn 27 acer, ond nid oes gennyf sicrwydd, ar hyn o bryd, o ble y daeth y tir ychwanegol. Yng Nghyfrifiad 1841 gwelir fod gweithwyr a theuluoedd wedi tyrru i’r ardal, a hynny heb dai ar eu cyfer, gyda’r canlyniad fod llawer yn byw mewn beudai ac adeiladau ffermydd. Mae 18 o bobl, yn weithwyr unigol, a theuluoedd, yn byw ym meudai fferm Gerlan, a nodir y beudai fel ‘Outhouse No1’, ‘Outhouse No 2’, ac ati. Erbyn Cyfrifiad 1851 mae’r rhain yn dai cydnabyddedig, yn cael eu galw yn Gerlan. Pan godwyd y pentref newydd yn 1864/65 ar dir Ciltrefnus a Chae Gronwy, cymrodd yntau’r enw Gerlan, a daeth y 5 tai yn Rhes Gerlan, ond ar lafar yn lleol aethant yn Hen Gerlan. Dylid nodi fod nifer o bobl yn byw yn y cyffiniau ymhell cyn adeiladu’r pentref newydd, yn wir, yn 1841, yr oedd ymhell dros gant o bobl yn byw mewn pedwar clwstwr yn yr ardal yn unig, 54 yn Frondeg a Fronbant, 18 yn fferm Gerlan, 47 yng Ngwaun Gwiail, a 57 yng Nghiltwllan, heb sôn am y bobl oedd yn byw yn ffermydd yr ardal. Erbyn 1861, dair blynedd cyn dechrau adeiladu’r pentref newydd, yr oedd ymhell dros 400 o bobl eisoes yn byw yn yr ardal, gyda 393 mewn canolfannau bychain oedd wedi datblygu, gan gynnwys Gwernydd, Glanrafon, a Phenceunant yn ychwanegol i’r rhai a nodwyd ar gyfer 1841

Mae Syr Ifor Williams yn nodi mai ‘cerdd’ yw ‘gris’, ‘step’, gan ddweud mai enw gwreiddiol y Gogarth, ger Llandudno, oedd Gogerdd, sef gris tuag at i fyny, ac mai Gogerddan, yng Ngheredigion, yw ‘gris fechan’. Byddai ‘Cerddlan’ ( > gerlan, y gerlan ) yn golygu ‘tir yn codi oddi wrth glan afon fel grisiau’.

Clywais esboniad lleol ar yr enw fel ‘ ger yr Elain’. Ar wahân i’r ffaith nad yw hynny’n gywir, ni fyddai’n addas i’r Gerlan oedd ar dir Penylan ym mhlwyf Llandygai, ar dir yn codi o lan Cegin, y cae o’r enw Gerlan Bach, oedd ar dir Bryn Twrw, Tregarth, nag ar y ddau Gerlan sydd ym mhlwyf Llanddaniel Fab ym Môn, na’r Gerlan yn Llanfairfechan. Gerlan oedd enw un o gaeau Wern, Llanllechid, ac roedd Gerlan Bach ar dir Pant y Gwair; gan fod y ddau ddaliad yma yn terfynu ar ei gilydd, mae’n fwy na thebyg mai rhannau o’r un nodwedd ddaearyddol ydynt.

Glan Llugwy

Fferm fynydd o 340 acer ( yn 1768 ) yn Nant y Benglog yw Glanllugwy. Yn 1979 cyhoeddodd Margaret Roberts, oedd wedi ei magu ac wedi treulio ei hoes yn y fferm, ei hunangofiant arbennig am fywyd yn yr ucheldir moel hwn ‘Oes o Fyw ar y Mynydd’. .Yn ôl y sôn, Glan Llugwy yw ffermdy uchaf Cymru, ond mae’n sicr fod rhywun yn rhywle rywdro yn mynd i geisio gwrthbrofi hynny! Dyna natur pethau.

Beth bynnag, nid ystyr llythrennol yr enw sydd dan sylw, gan fod hwnnw yn eithaf clir; fferm yw ar lan afon Llugwy ( nid y llyn, gan mai Ffynnon Llugwy yw hwnnw, sef enw cyffredin ar lyn sy’n darddiad i afon, megis Ffynnon Caseg, Ffynnon Lloer, Ffynnon Cegin, a sawl un arall ). Dydy Llugwy ddim yn afon hir, gan ei bod yn llifo i afon Conwy ym Metws y Coed, lai na deg milltir i ffwrdd, ond mae’n afon sylweddol a nerthol am ran helaeth o’r deg milltir hwnnw.

Ac yn enw’r afon y mae gennym ddiddordeb. Yn gyffredinol, enwau afonydd yw’r enwau hynaf sydd gennym, yn ymestyn yn ôl i’r cyfnodau cynharaf. Mae llawer iawn o enwau afonydd Lloegr gydag enwau Brythoneg, neu Gymraeg, un ai yn eu ffurf gysefin, neu wedi Seisnigo ychydig. Ymhlith nifer o rai eraill, y mae Tafwys,  Derwent, Tame, Tamar, Yarty, ac Eden, a’r Avon ei hun, yn dod o’r Gymraeg. Mae enwau rhai yn dod o’r Frythoneg, ac eraill, megis Ouse, a’r Trent, yn dod o’r Gelteg ganrifoedd ynghynt. Mae amheuaeth fod enw ambell afon yn mynd yn ôl i’r ieithoedd cyn-Geltaidd, ganrifoedd cyn Crist.

Un o’r hen enwau hyn o’r Gelteg sydd ar yr afon Llugwy, hefyd. Mae sawl afon yng Nghymru yn diweddu yn ‘wy’, megis Dyfrdwy, Conwy, a Llugwy ei hun. Fodd bynnag, mae dau derfyniad gwahanol. ‘Dwy’ sydd yn Dyfrdwy, ac ystyr hwnnw ydy ‘duwies’, sy’n adlewyrchu cred y Celtiaid fod duwiau a duwiesau yn byw mewn afonydd a llynnoedd ( Gweler Ffynnon Llechid). ‘ Duwies y dyfroedd’ oedd ystyr ‘Dyfrdwy’; mae’r un elfen yn yr afonydd Dwyfor a Dwyfach.

Fodd bynnag, mae na ‘wy’ arall, hwnnw a welir yn yr afon ‘Gwy’ ei hun, Conwy. a Llugwy. Awgrymodd Syr Ifor Williams ei fod yn perthyn i’r gair ‘gwyro’, ac, ar sail hynny, ei gynnig ef oedd mai afon sydd â’i chwrs yn droellog ydoedd ‘(g)wy. Mae Llugwy yn droellog, ond nid yn fwy na sawl afon arall; eto gallai’r ‘gwyriad’ gyfeirio at y tro nae deg gradd mae’r afon yn ei wneud yn Nant y Benglog. Fodd bynnag, y farn erbyn heddiw yw fod ‘(g)wy’ yn dod o air Celtaidd ‘weg‘, sy’n golygu ‘dwr sy’n llifo’, sef ‘afon’. Am yr elfen gyntaf’ Llug’, mae’n perthyn i’r ‘leu‘ yn ‘goleuni’, lleufer’, a ‘golau‘. Duw goleuni ac ieuenctid y Celtiaid oedd ‘Lug, neu Lleu, a’i enw ef sydd yn enw Llundain, Lyon, Caerliwelydd, Leyden, Dinlle, a mannau eraill. Lleu oedd ‘Lleu/ Llew Llaw Gyffes’ yn chwedl Blodeuwedd. Am yr afon Llugwy, ni chredir fod cysylltiad rhwng Lleu â hi; yn hytrach, y ‘goleuni‘ yw’r cysylltiad. Ystyr yr enw. o ddilyn esboniad Syr Ifor, fyddai ‘afon olau/loyw sy’n troelli/gwyro‘; o dderbyn y farn ddiweddar, yr ystyr yw ‘ llif o ddwr golau, neu loyw‘, efallai am ei bod yn llifo’n gyflym a chlir. Gyda llaw, y mae afon arall o’r enw ‘Lugg’, sef ‘afon loyw/olau‘ yn y gororau; mae’n tarddu ger Llangrynllo ym Mhowys, yn llifo trwy Lanandras, a draw i Swydd Henffordd, i’r de o Lanllieni, gan gyrraedd Gwy i’r de o Henffordd 45 miltir o’i tharddiad.

Gyda llaw, ffurf wneud ddiweddar yw Merswy, am yr afon Mersi, yn dilyn y patrwm ‘wy’, ar derfyn enw ambell afon yng Nghymru. Gwnaed hynny heb syweddoli fod nifer helaeth o afonydd yng Nghymru yn diweddu gyda’r terfyniad -i – e.e. Rhymni, Tywi, Cefni, a sawl un arall. Eto, mae’n debyg mai enw Saesneg yw Mersey, o’r ffurf ‘merse’, sy’n golygu ‘ffin’ ( Y Mers yn y Canol Oesoedd oedd y teyrnasoedd annibynnol ar y gororau, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ). Beth bynnag, nid Merswy, yn sicr, yw’r ffurf Gymraeg; byddai Mersi = ‘yr afon sy’n ffin/ ar y ffin’ yn hollol gywir yn y Gymraeg

Stryd Goronwy

Tair rhes o dai yn y Gerlan yw Stryd Goronwy, ac, er fod y pentref yn ‘newydd’, gyda’r rhan fwyaf o’r tai wedi eu hadeiladu i gynllun penodol yn 1864-5, yr oedd yr ardal yn hen, ac mae enw Stryd Goronwy yn deillio o’r cyfnod cyn sefydlu’r pentref. Yn ôl map Arolwg y Degwm 1838-40, sy’n dangos ffiniau a maint pob un o ddaliadau’r dyffryn, roedd dau dyddyn o’r enw Ciltrefnus yn yr ardal, un yn 10 acer, a’r llall bron yn 28 acer. Mae’r gyntaf yn yr ardal ble heddiw mae tai Ciltrefnus, Yr Ardd Fawr, a Than Treflys ( Ond nid tai Fron Bant, oherwydd, fel mae’r enw’n awgrymu, ar dir yn perthyn i Bantffrydlas y codwyd y rheini). Roedd yn terfynu ar lain hirgul 7 acer Glanrafon, a ffermydd Cymysgmai, Pantffrydlas, a’r Ciltrefnus arall. Roedd, honno,  yr ail ddaliad yn ymestyn o’i therfyn gyda’r Gwernydd at ffermdy’r Gerlan, ac at y Giltrefnus arall, ac yna llain hirgul, droellog ei ffurf, i fyny at dir Cymysgmai. Ar y tir hwn yr adeiladwyd y rhan fwyaf o bentref newydd y Gerlan. Nid yw’r ddau ddaliad i’w gweld ar Arolwg y Penrhyn 1768, am y rheswm syml nad oedd y tiroedd hyn yn perthyn i’r stâd; yn hytrach yr oedd yn perthyn i stâd fechan Tanybwlch, oedd yn nwylo teulu Williams, a hwy, neu’n hytrach, James Taylor, gwr yr etifedd, Jane ( ganedig Williams), a werthodd y tir i godi’r pentref newydd yn 1864. Roedd terfynau’r gwahanol ddaliadau yn hollol fympwyol ac afresymegol, a hynny sy’n gyfrifol am ffurf y pentref newydd; tir y Penrhyn oedd y tir gwag presennol yn yr ardal i gyd – fferm Gerlan, Abercaseg, Cymysgmai, Panffrydlas, a Chiltwllan, ac nid adeiladwyd ar y tir hwnnw, ar wahân i’r tai oedd yno cynt. Fel un enghraifft, y rheswm pam fod Stryd y Ffynnon yn is i’r Wern na Stryd Goronwy yw fod y terfyn gyda thir Abercaseg. oedd yn eiddo i’r Penrhyn,yn rhedeg ar hytraws ar hyd y llethr sydd uwchben afon Caseg, ( Y Wern heddiw ), nid unrhyw reswm anaddasrwydd y tir. Mae’r un peth yn wir am leoliad Tan Treflys a rhan isaf Ffordd Gerlan

Ond yn ôl at destun ein trafodaeth, Stryd Goronwy. Mewn gwirionedd, nid Ciltrefnus oedd enw’r ail ddaliad, ond, yn hytrach, Cae Goronwy, ac ar dir Cae Goronwy yr adeiladwyd y rhan fwyaf o’r pentref newydd. O’r herwydd, galwyd un bloc o’r tai newydd yn Stryd Goronwy, ar ôl y tir y’u codwyd arno. Nid oes gennym syniad pwy oedd y Goronwy yn yr enw, ond mae’n mynd â ni yn ôl i gyfnod tipyn go lew cyn adeiladu’r pentref newydd ar ei dir.

Groeslon

Dyma’r ty sydd heddiw wrth ochr eglwys Maes y Groes ger Talybont. Yn 1765 roedd yn ddaliad 5 acer, gyda saith o gaeau bychain. Yn ôl Llechidon yn Hanes Llenyddiaeth ac enwogion Llanllechid a Llandegai, fe adeiladwyd y ty cyntaf yn ailhanner y 18ed ganrif gan y Dr Griffith Ellis, mab Cilfodan, ac aelod o deulu amlwg iawn yn y plwy, gyda disgynyddion ei frawd hynaf, Owen, yn berchnogion Stâd Cefnfaes, ar sail eu perchnogaeth o Gilfodan. Bu mab Griffith, Ellis, a’i wyr, Henry, ( meddyg arall ) yn byw yn y Groeslon.

Mae Groeslon yn enw hawdd iawn, sef ble mae dwy lôn yn croesi; yr unig broblem yn yr achos hwn yw nad oes dwy lôn yn croesi yma, er bod math o groeslon rhyw ganllath i ffwrdd. Fodd bynnag, hyd dyfodiad Telford i lunio llwybr newydd o Fangor i Gonwy yr oedd Groeslon ar groeslon, gan mai yn union wrth ochr y ty y croesai’r ffordd o Lanllechid i Aberogwen y ffordd o Fangor i Gonwy. Roedd y ffordd dyrpeg wreiddiol yn dod o bentref Talybont at y groeslon, sydd ger eglwys Maes y Groes heddiw ( Yn 1894 y codwyd honno, felly ni fu’r ffordd wreiddiol erioed yn mynd heibio iddi ), ac yn ei blaen am Gatws, ble’r oedd y tollborth. Os dilynwch y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg rhwng Stryd y Dwr, Talybont ag eglwys Maes y Groes, fe welwch ran o lwybr yr hen ffordd dyrpeg wreiddiol ychydig oddi tanoch wrth ochr y rhan o’r llwybr sydd yn mynd trwy’r cae

Map 1822 yn dangos y groeslon rhwng y lôn o Lanllechid i Aberogwen a’r ffordd dyrpeg o Fangor, gyda thy Groeslon yn y fforch

Grisiau Cochion

Grisiau Cochion

Oherwydd eu lleoliad a’u natur, mae’n amlwg fod y rhes hon o dai gyda’r cynharaf yn yr ardal. Yn 1841 roedd sawl clwstwr o dai yn yr ardal hon, tai oedd wedi eu codi ar gyfer gweithlu’r chwarel gerllaw; Brynllys, Coed y Parc, Dôl y Parc, Tan y Castell, Glan Meurig, Bryn Derwen, a Grisiau Cochion ( roedd 8 ty yno yn 1841). Bellach mae’r cyfan, ar wahân i Goed y Parc a Grisiau Cochion, wedi diflannu, rhai o dan y domen, eraill wedi eu chwalu. Dim ond cael a chael oedd hi gyda Grisiau Cochion hefyd, gan fod y domen yn sbecian trwy ddrws y cefn!Nodwedd ddaearyddol sy’n gyfrifol am enw Grisiau Cochion; ‘grisiau’ yw tir yn codi fel grisiau – yr un gair sydd yn Tanygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog,nac mae Lôn tany Grisia ar lethrau Moelyci ym Mhentir. . Am y ‘cochion’, mae hwnnw’n disgrifio lliw’r tirwedd neu’r tyfiant sydd arno.

Gwaun y Gwiail

Mae’r holl dir a enwid yn Waun y Gwiail yn y rhan honno o blwyf Llanllechid sydd yn y triongl a ffurfir gan afonydd Llafar a Chaseg a thir agored y Carneddau; canlyniad hynny yw fod Gwaun y Gwiail yn y sefyllfa anghyffredin, os nad unigryw, o gael ffermydd yn ei hymyl, ond dim un yn terfynu’n uniongyrchol arni. Yn ôl Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn yr oedd Gwaun y Gwiail yn 3 fferm, o 80, 46, a 43 acer, gyda’r tair yn cario’r un enw, sy’n peri inni gredu un ai mai un daliad oedd y lle mewn rhyw oes, neu fod y waun eang wedi ei rhannu’n dri daliad pan luniwyd hwy gyntaf; mewn oes di-lythyr ac heb fiwrocratiaeth doedd dim angen enwau ( na rhifau) gwahanol i dai, a thueddid i alw pob ty oedd ar dir penodol wrth enw’r tir hwnnw.. ( Fodd bynnag, nid dyna’r achos gyda Corbri, na Chochwillan ) Ffermydd mynydd pur ydynt, ac mae enwau’r caeau yn adlewyrchu hynny – mae 64 acer yn ffriddoedd, ac nid oes unrhyw gnwd o gwbl yn cael ei grybwyll yn yr enwau. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd Gwaun y Gwiail bron fel amlwd bychan, gyda sawl teulu yno. Yn 1851 roedd dau benteulu – John Rowlands, a William Griffith – yn disgrifio eu hunain fel ffermwyr. Roedd John Evans mewn ty arall, gyda theulu niferus, yn disgrifio ei hun fel ‘Quarryman’, er ei bod yn amlwg yn ffermio hefyd, gan fod ei fab, David J Evans, mewn ysgrif hunangofiannol yn 1914, yn disgrifio magwraeth ar fferm ( Gweler y wefan www.ffermiollanllechid.com). Yn ogystal, roedd Jane Owens ‘Pauper’ a’i mab, Rowland gwas ffarm 19 oed, yn byw mewn ‘ty’arall, tra’r oedd Jane Davies ‘Pauper’, gyda thri o blant yn byw mewn ty arall eto. Diddorol yw sylwi fod ei mab hi sy’n 10 oed, yn cael ei ddisgrifio fel ‘quarryman’!. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae 7 teulu yn byw yng Ngwaun y Gwiail, ar 7 aelwyd wahanol, gyda’r un teuluoedd ag yn 1851, ond efo dau deulu o chwarelwyr yn ychwanegol erbyn hyn. Doedd pentref Gerlan ddim wedi ei godi yn 1861, ac roedd mwy o bobl yn byw yng Ngwaun Gwiail a’r daliadau cyfagos nag oedd yn yr ardal ble mae’r pentref presennol. Erbyn 1871, dim ond tri theulu yno, sef teuluoedd Griffith, Rowlands, ac Evans. Mae o leiaf un teulu oedd yno yn 1861 wedi cael ty ym mhentref Newydd Gerlan, ac yn byw yn Stryd y Ffynnon, ac mae un arall yn Ffordd Carneddi. Mae’n amlwg mai tai gwael iawn oedd eu tai, cytiau’r ffermydd, mae’n debyg, ag ystyried nad oedd y prif dai fawr mwy na hofelau. Dyma ichi DJ Evans, ( ganed 1848 ) a fagwyd yn un o’r ffermydd, yn disgrifio ei gartref yn yr 1850au

Wrth fod yr hen dy mewn pant a cham neu ddau i fynd i lawr iddo, ar wlawogydd byddai y dwr fel llifeiriant yn dyfod i mewn, a chan mai y siambr oedd y lle isaf, yno y byddai y dwfr ddyfnaf, ond ni byddai byth yn codi yn uwch na rhyw ddwy droedfedd, oherwydd yr oedd yno ddigon o dyllau iddo fynd allan

O safbwynt yr enw, mae’n amlwg mai tir uchel, gwael ( gwaun) sydd yma, yn cael ei nodweddu gan wiail ( unigol ‘gwialen’ Canghennau main, Ystwyth yw gwiail ( Cymharer ‘gwialen bysgota’, a’gwialen fedw’ ), ac, fel arfer, dim ond gyda rhai coedy cysylltir ‘gwiaif’, sef y gollen, y fedwen,  y wernen, , a’r helygen, gyda’r ddwy olaf, yn sicr, yn ffynnu ar dir gwael, gwlyb. Pam nodi fod llawer o wiail ar y waun hon, tybed? Mae’n bosibl mai disgrifio nifer helaeth o wiail y mae’r enw, er y buasai rhywun yn disgwyl enw’r coed penodol, megis Waun Hellyg, neu Gwernydd, yn hytrach na’u brigau. Ar y llaw arall, gallai’r enw fod wedi ei roi oherwydd ei fod yn lle i gael gwiail at ddefnydd y gymdeithas, ac roedd llawer mwy o ddefnydd i wiail yn yr oesoedd a fu na gwialen bysgota a gwialen bysgota yn unig. Defnyddid hwy trwy eu plethu ar gyfer basgedi, ac ati, a choredau i ddal pysgod; defnyddid hwy ar gyfer cau adwyon, neu fel ffensys; yn wir, defnyddid hwy, wedi eu plethu, ar gyfer adeiladu, yn enwedig adeiladau dros dro, megis hafodydd a defnyddid hwy ar gyfer adeiladau mwy parhaol – yr hen enw ar eglwys bwysig Llangadwaladr ym Môn oedd Eglwys Ail, oherwydd mai o wiail plethedig y gwnaed ei pharwydydd. Mae’n debyg mai ffens uchel o wiail plethedig oedd o amgylch sefydliad cynnar Deiniol Sant yn Nyffryn Adda, oherwydd y pren trwchus sy’n rhedeg ar hyd brig y ffens oedd y ‘cor’ sydd yn y gair ‘bangor’, gyda’r gair ‘bangor’ yn golygu’r ffens ei hun. Roedd defnydd helaeth i wiail, felly, a byddai cyflenwad barod a sylweddol ohonynt yn rhywbeth i’w nodi gydag enw. Fodd bynnag, pa reswm bynnag oedd dros nodi mai prif nodwedd y tir oedd ‘gwiail’, disgrifio’r nodwedd honno o lawer o wiail ar y tir a wneir yn yr enw.

I’r cychwyn

Gweirglodd Needham

Gweirglodd

Tir heb dy arno oedd Gweirglodd Needham fel sawl gweirglodd arall yn y cyffiniau. Yn ôl arolwg Leigh, 1768, 10 acer ydoedd, ond, erbyn Arolwg Degwm 1838-40, roedd yn 21 acer, ac yn cael ei ddal gan fwy nag un person, dynion oedd yn dal tiroedd eraill yn y cylch. Mae’n debyg fod yr amryfusedd hwn oherwydd fod cae 11 acer o’r un enw yn cael ei nodi fel rhan o diroedd Winllan, fferm arall sydd wedi diflannu, a hynny ers 1855. Ni allaf weld fod y weirglodd yn terfynu ar dir Winllan. gan fod honno ar y llethrau, tra’r oedd Gweirglodd Needham wedi ei lleoli rhwng yr hen ffordd a’r môr. Gallai fod mewn dau ran gwahanol, neu gallai fod yn un rhan, gydaf 11 acer ohoni yn cael ei gosod gyda Winllan: erys ymchwil pellach i hyn. Yn dilyn ad-drefnu ar diroedd y Penrhyn yn yr ardal hon, rhwng 1840 ac 1860, diflannodd Gweirglodd Needham, yn bennaf i dir Glan y Môr Isaf.

Roedd y weirglodd yn hen, ac wedi ei henwi ar ôl teulu estron Needham, oedd yn ffrindiau efo teulu’r Penrhyn. Mewn dogfen gyfreithiol ym mhapurau’r Penrhyn o’r flwyddyn 1449, sonnir am dri gwr o Gaerlyr fel tystion, John, Ralph, a Thomas Needham. Roedd y teulu Needham wedi derbyn tir yn Swydd Gaerhirfryn, ac yn gyfeillion efo teulu’r Stanley. Gyda phriodas William Griffith y cyntaf gydag un  o deulu’r Stanley, daeth y teulu Needham yn ffrindiau gyda theulu”r Penrhyn. Ymhen dwy ganrif, yn 1627, yr oedd y teulu’n dal yn yr ardal, gyda Dorothy, merch Owen Williams, Cochwillan ( er ei fod wedi ei ddiarddel gan ei dad, William ) yn priodi Henry Needham. Nid ydym yn gwybod pa un o’r teulu, na phryd, rhwng 1449 ac 17678,ond rydym yn gallu ei gyfyngu i deulu penodol.

Mae enwi gweirgloddiau, neu rannau eraill o’r tir, yn wir, ar ôl perchennog rhyw oes, yn rhywbeth eithaf cyffredin. Ar dir Talybont/ Dologwen, er enghraifft, yr oedd Gweirglodd Dorti ( Dorothy ), tra’r oedd Gweirglodd Barbra a Gweirglodd Elen, ar dir Tai’r Meibion. Y gwahaniaeth mawr yw nad oes gennym y syniad lleiaf pwy oedd y merched a roes eu henwau i’r gweirgloddiau hyn.

Gwern Saeson Fawr

Gwern Saeson Fawr2
Adfeilion ffermdy Gwern Saeson Fawr, wrth draed y Carneddau

Murddun yw Gwern Saeson Fawr ers canrif a mwy bellach. Os ydych yn mynd am dro i Gwm Pen Llafar trwy’r Gerlan, ar y llwybr rhwng Ty Dwr a Thy Slates, rhyw ganllath neu ddau o gychwyn y llwybr, fe ddewch at adfeilion; adfeilion Gwern Saeson Fawr ydynt. Mae afonig yn rhedeg o lethrau’r Carneddau, am dipyn yn gyfochrog gyda Llafar, ac yn cymeru gyda hi ger Ty Dwr; afon Cenllysg yw hon ar fap, ond, yn lleol, gelwid hi yn Afon Gwern Saeson. Fferm fynydd o rhyw 49 acer ydoedd Gwern Saeson Fawr, gyda’r cyfan o’r tir hwnnw ar y mynydd, tir gwael,mawnog, sy’n rhoi’r rheswm, mae’n debyg,  pam y mae’r fferm bellach yn adfeilion. Mae Cyfrifiad 1861 yn nodi ‘Mountain’ y tu ôl i nifer yr aceri, yr unig dro imi weld disgrifiad o’r tir mewn Cyfrifiad. Er nad ydy hi yn ymddangos ar arolwg y Penrhyn 1768 fel un o’i ffermydd, yr oedd yn sicr yn eiddo i’r stâd ganrif ynghynt, oherwydd, ar Dachwedd 11eg, 1676, rhoddwyd

Lease for three lives on Cae Mawr, Buarth Ffrwd Gariadog, and Gwern y Sayson’

Mae’r rhent blynyddol yn ddiddorol, sef 5/6c, dwy wydd, dau gapon, 4 diwrnod o waith ‘ or 7s for services, `and a heriot at the death of each life’

‘Heriot’ yw treth ar farwolaeth person. Mae’r rhent yn ddiddorol, oherwydd mae’n dangos yr hen drefn o roi tenantiaeth i deulu am dair cenhedlaeth – trefn a newidiwyd gan y Penrhyn yn nechrau’r 19eg ganrif i denantiaeth un oes, ac, wedyn, i un flynyddol, oherwydd, ym marn cyffredinol diwygwyr aatehyddol yr oes, nid oedd yr hen ddull yn gymorth i wella tiroedd a daliadau. Beth bynnag, mae rhent Gwern Saeson yn 1676, hefyd, yn dangos trawsnewid o un drefn i’r llall, o’r hen drefn ffiwdal o roi bwyd, anifeiliaid, a llafur fel rhan o’r rhent, i gymudo hynny i arian.

Beth bynnag, fel y nodwyd, nid yw Gwern Saeson yn ymddangos yn Arolwg 1768. Mae’r ffaith fod y ddau ddaliad ar ei therfyn, Ty Slates a Thyddyn Du, mewn dwylo annibynnol, yn awgrymu y gallai Gwern Saeson Fawr, erbyn hynny,  fod felly hefyd. Y peth rhyfedd yw nad yw Gwern Saeson Fawr yn ymddangos ar restr Arolwg Degwm 1838 – 1840, ond mae ar Gyfrifiad 1841. Pam nad yw ar yr Arolwg, tybed? Ym mhob Cyfrifiad am 40 mlynedd wedi hynny, ‘ffermwr’ yw galwedigaeth y penteulu, ac mae dau was mewn mwy ag un Cyfrifiad, sy’n golygu fod digon o waith yno, er saled y tir. Fodd bynnag, erbyn Cyfrifiad 1891, disgrifir y penteulu fel ‘labrwr yn y chwarel’. Arwyddocaol yw sylwi, hefyd, fod teulu gwahanol yn byw yno bob Cyfrifiad; efallai oherwydd mai bywoliaeth wael oedd ar lethrau mawnoglyd y Carneddau.

Yn ymyl yr oedd Gwern Saeson Bach. Symudodd yr olaf oddi yno ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ac roedd y teulu yn un o deuluoedd lluosog y Gerlan. Bellach, aeth y murddun yn gorlan i fferm Tyddyn Du.

Gwern Saeson
Murddun Gwern Saeson Fawr

O safbwynt yr enw

‘gwern’

Am y ‘Saeson’, mae’n debyg y byddai tuedd i weld teulu o Saeson yn byw ymhell o’u cynefin yng ngheg Cwm Llafar mewn rhyw gyfnod pell yn ôl pan oedd trigolion yr ardal oll yn Gymry, a bod y fferm wedi cael ei henwi oherwydd hynny. Er y gallai hynny fod yn bosibl, neu eu bod yn ddisgynyddion o Saeson ryw oes, mae’n fwy na thebyg mai cyfeiriad sydd yma at deulu, neu rai aelodau o deulu, o Gymry Cymraeg, oedd yn gallu deall Saesneg, pan oedd pawb, fwy neu lai, yn yr ardal, yn uniaith Gymraeg. Mae mwy nag un enghraifft o alw rhywun yn Sais oherwydd ei allu i ddeall Saesneg, neu, hyd yn oed, dim ond fod iddo wedi ymweld â Lloegr. Un o feirdd y Tywysogion oedd Elidir Sais ( c 1190 -c1240). Gan ei fod, mae’n bur debyg, yn fab i Walchmai, ac yn wyr i Meilyr, dau o feirdd mawr Gwynedd, gyda’r teulu wedi’i ganoli ym Môn, nid oedd defnyn o waed Sais ynddo, felly cafodd yr enw un ai oherwydd ei allu i siarad Saesneg, neu iddo fod yn Lloegr.

Dyna hanes teulu Gwern Saeson Fawr mewn rhyw oes, hefyd, mae’n sicr, y rhai oedd piau’r lle, neu yn denantiaid yno, yn deall Saesneg, neu wedi ymweld â Lloegr.

Gwern y Gof

Dwy fferm ar lethrau gogleddol Tryfan a Gallt yr Ogof yn Nant y Benglog yw Gwern y Gof Uchaf a Gwern y Gof Isaf. Yr oeddynt yno yn 1768, o dan yr un enwau, yn 866 acer ac 895 acer. Am darddiad yr enw, clywais ei egluro fel ble y pedolid gwartheg ar eu ffordd i farchnadoedd Lloegr ydoedd, ac mai dyna’r ‘gof’ yn yr enw. Rwan, mae’n wir mai trwy Nant Ffrancon a Nant y Benglog yr oedd prif lwybr y porthmyn oedd yn gyrru gwartheg Môn am Loegr, ond rhaid gofyn y cwestiwn syml pam y byddid yn aros cyhyd cyn eu pedoli, a pham dewis y fan hon, yn hytrach nag urnhyw fan yr un mor gyfleus rywle yn Nant Ffrancon. Byddai’r gwartheg wedi cerdded deg milltir o’r Fenai i’r fan hygoedd o wartheg, byddid yn disgwyl gweld rhyw gyfeiriad at y gweithgaredd hwnnw yn enwau caeau’r ffermydd, ond enwau digon cyffredin sydd iddynt yn Arolwg 1768, enwau megis Cae’r Lloiau, Cae’r Fedw, Cae’r Gefnan, ac ati. Dydw i, ychwaith, ddim yn ymwybodol o unrhyw waith archeolegol sydd wedi ei wneud ar y tir, er y gallwn fod yn methu yn y fan hon.

Gwern

Yn hytrach na ‘gof’, hoffwn dynnu sylw at ddwy ffaith syml. Yn gyntaf, y mynydd agosaf at Dryfan, a’r mynydd y mae, o leiaf, un o’r ffermydd dan sylw â’i thir ar ei lethrau, yw Gallt yr Ogof; yn ail, mae afonig yn rhedeg trwy dir yr Isaf, a’i henw yw Nant yr Ogof. Tybed, mewn gwirionedd, nad oes ‘gof’ yn yr enw o gwbl, ac mae’r enw gwreiddiol oedd Gwern yr Ogof?

i’r cychwyn

Hafoty

( Dylid darllen y nodyn hwn mewn cysylltiad gyda’r nodyn ar Dyddyn Hendre)

Mae’r daliad dan sylw ym mhlwyf Llandygai, yn ardal Tregarth, ar y llethr rhwng y ffordd o Fraichtalog i Fynydd Llandygai a Hen Dyrpaig; Lôn Hafoty yw’r allt gul, serth  sy’n cysylltu’r ddwy ffordd. Yn 1765 roedd yn 21 acer.Mae’r enw ei hun yn nodweddiadol o ardal fel Dyffryn Ogwen, ble mae llawr gwlad a dyffryn a mynyddoedd yn agos i’w gilydd, gan ei bod yn dwyn i gof hen system fugeilio sydd â’i wreiddiau mor bell yn ôl ag, o leiaf y Chweched Ganrif, ac, mewn dull mwy cyntefig. y gynt na hynny, a system a barhaodd nes y dirywiodd trefniant llwythol cymdeithas Cymru yn y Canol Oesoedd diweddar, ac a ddiflannodd gyda thwf y stadau unigol mawr, a’r iwmyn cyfoethog o’r 15eg ganrif ymlaen, pan ddaeth yn amhosibl symud anifeiliaid o un ardal i’r llall.  Roedd cael tiroedd mewn dwylo preifat yn gwneud gweithredu’r hen system hafod a hendre yn amhosibl. Eto mae’r nifer o enwau cyffelyb ar lethrau Dyffryn Ogwen – Foty Uchaf, Foty Isaf, Bryn Hafod y Wern,Foty Belyn ( Heilyn? ), Foty’r Famaeth, Foty Lori ( Diolch i Ieuan Wyn am gyfeirio rhai o’r rhain imi ) – yn dangos y bu’r gyfundrefn yn weithredol yma ar un adeg, fel ym mhob ardal gyffelyb yng Nghymru.O ran yr enw, mae’n ddiddorol, gan ei fod yn cynnwys ffurf ddwbl enw, a hynny’n dangos datblygiad yn y tyddyn. Mae’r ‘hafod’ yn dod o ddau air, aef ‘haf’ a ‘bod’, gyda ‘bod’ yn golygu’r un peth ag a welir yn ‘Bodesi’., gyda’r ystyr o ‘gartref yr haf’. Adeilad dros dro oedd hwn yn yr haf, yn amlach na heb o goed, brigau, a changhennau, ond,  gydag amser, dechreuwyd ar adeiladu adeilad mwy parhaol yno, a byddai hwnnw. wedyn, yn ‘dy’ ( Tai’r Meibion ). Daeth yr adeilad hwnnw yn ‘hafod-ty > hafoty.Bellach mae Hafoty yn ddau dy, ond mae ei ffurf yn dangos nodwedd arall, mwy diweddar, o amaeth, sef y ty hir, lle’r oedd y teulu yn byw yn y rhan uchaf, ac anifeiliaid yn y rhan isaf, a hynnyo dan yr unto; ty unllawr o’r math hwnnw yw Hafoty. 

Hen Barc

parc

Rhes o dai erbyn hyn, rhwng Rachub a’r Carneddi. Nid wyf wedi gweld cyfeiriad at Hen Barc mewn dogfennau, a hynny, mae’n debyg, oherwydd y tebygrwydd mai rhan o dir Coetmor ydoedd, ac ni wnaed arolwg manwl o’r rheiny. Fodd bynnag, mae’n amlwg yn bodoli, o dan yr enw, gan ei fod, mae’n debyg, yn gwrthgyferbynnu efo Parc (Newydd), ac roedd hwnnw yno yn 1768. ( Eto gallai hwnnw gyferbynnu efo Parc Hen, oedd yn gae 10 acer ar demesne Penrhyn).Hyd y gallaf weld, mae’r ddau dy cyntaf sy’n dwyn yr enw yn ymddangos yng Nghyfrifiad 1871.

Highgate

Yng Ngyfrifiad 1841 mae dau dy o’r enw hwn yn ymddangos ym mhentref Llanllechid, ond nid ydynt yn ymddangos mewn cyfrifiad wedi hynny.

Mae’n ymddangos yn enw rhyfedd ar dai cyffredin mewn pentref uniaith Gymraeg yn Arfon. Beth bynnag am y sut, beth am yr ystyr?

Gallai’n syml fod yn cynnwys y ddau air Saesneg ‘high’ a ‘gate’, sef ‘adwy uchel’,a byddai ei lleoliad ar lethrau’r Carneddau yn cytuno efo hynny. Fodd bynnag, mae Llidiart y Gweunydd o fewn hanner milltir, ac ni ellid gweld unrhyw lidiart y mynydd yn cael ei Seisnigo yn ucheldir Llanllechid yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.

Fodd bynnag, gellir eglurhad arall ar yr enw, er bod hwnnw eto’n Saesneg, ond yn fwy hynafol. Mae’r gair ‘high’ mewn Hen Saesneg yn golygu ‘prif’, fel yn ‘High Street’, sef prif stryd tref neu bentref. Mae ‘gate’ wedyn ‘ yn golygu ‘adwy’ neu ‘fwlch’ rhwng mynyddoedd, neu fryniau; mae Symmonds Yat yn Swydd Henffordd yn golygu ‘bwlch Simwnt”. Fe allai ‘highgate’ Llanllechid gyfeirio at y prif fwlch drosodd o Ddyffryn Ogwen i hendref Llanllechid. Am y ffaith ei fod yn Saesneg, gallai dylanwad y Penrhyn yn y canrifoedd cynt fod ar yr enw.