Enwau Llefydd S T

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Siambra Gwynion Sling  Sychnant   Tafarnau  Tai’r Meibion Tai Teilwriaid Talybont   Tanygadlas Tregarth Twr Ty Du/Tai Duon Tyddyn y Bartle/ Bartli Tyddyn (y) Ceiliog Tyddyn Dicwm Tyddyn Du Tyddyn y Fertws Tyddyn Iolyn Tyddyn Sabel Tyddyn Sachre   Ty Mwyn Ty Slates Tyddyn Hendre   Tyn Twr 

Siambra Gwynion

Mae Siambra Gwynion yn ymyl Llys y Gwynt. Yn ôl map OS 1888 – 1913 yr enw ar y llwyn o goed sydd i’r gogledd-orllewin y tu ôl i dy fferm Lôn Isa yw Parc Siambrau Gwynion. Yn ôl Arolwg 1768, roedd yn fferm eithaf sylweddol o 55 acer, ond, am ryw reswm, nid yw’n ymddangos ar restr Arolwg Degwm 1838 -40, er ei fod yn cael ei ddangos ar y map sy’n gysylltiedig ag ef. Yn ôl Cyfrifiad 1841, gwr o’r enw Humphrey Davies oedd yn byw yno, a disgrifir ef fel ‘farmer’. Fodd bynnag, diflannodd y tir, oherwydd, yn ôl Cyfrifiad 1871, mae tair aelwyd o’r enw, gyda labrwr a’i deulu yn byw ym mhob un, ac, erbyn 1881, dim ond un teulu sydd yno, gyda’r penteulu yn was fferm. Nid oes sicrwydd, ar hyn o bryd, i ble’r aeth y 55 acer, ond mae’n debyg iddo gael ei lyncu un ai gan Goed Hywel, a dyfodd yn sylweddol yn y cyfnod, neu’n fwy tebygol i Lôn Isa, daliad a ad-drefnwyd yn y cyfnod, ac a osodwyd i feili fferm y Penrhyn. Mae Hugh Derfel Hughes ( Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid) yn nodi i dir y tyddyn ddiflannu trwy ad-drefnu tua 1850

Am yr enw, mae’n syml, ac yn ddirgelwch yr un pryd. Mae ‘siambr’ yn air cyffredin, wedi ei fenthyg i’r Gymraeg yn gynnar, gyda’r enghraifft gyntaf yn cael ei nodi gan GPC yn 1346. Daeth i’r Saesneg o’r Ffrangeg,’chambre’ ( ystafell wely, ystafell breifat ), a hynny oherwydd mai iaith uchelwyr a theulu brenhinol Lloegr am dair canrif a mwy, yn dilyn Concwest 1066, oedd Ffrangeg. Am ganrifoedd y neuadd un ystafell oedd canolbwynt llys uchelwr a brenin, gyda’r teulu brenhinol yn byw a chysgu gydag eraill yn y neuadd. Gydag amser, yn nechrau’r Oesoedd Canol, neilltuwyd rhan o’r neuadd gyda llenni, er mwyn i’r uchelwr a’i deulu gael rhywfaint o breifatrwydd; ymhen amser death y rhan hon yn ystafell, ac, oherwydd mai ystafell breifat ac ystafell gysgu ydoedd yn bennaf, fe’i galwyd yn ‘chambre’, Saesneg,’chamber’. Yr un gair sydd yn Chamberlain, a’r Privy Chamber, sef swyddogion agos a phreifat arglwydd neu frenin canoloesol. Daeth, hefyd, i olygu ystafell breifat barnwr, sy’n rhoi inni’r enw ar ystafell barnwr heddiw, a’r enw ar swyddfeydd bargyfreithwyr. Daeth y gair i’r Gymraeg gyda’r llysoedd a’r neuaddau canoloesol, a daeth i fywyd y werin a’r bob gyffredin i olygu ystafell wely i lawr y grisiau mewn tai a bythynnod; sonnir am ‘gegin a siambar a llofft’ mewn ty, a theitl hunangofiant Ifan Gruffydd, y gwr o Baradwys, yw Tân yn y Siambar.A dyna ble mae’r dirgelwch, ystafell wely, ystafell breifat, ydyw bob amser, boed mewn llys, neuadd, plasty, neu fwthyn, stafell fewnol i gysgu ynddi, a dyna ble mae’r anhawster gyda Siambre Gwynion yn codi. Nid ‘adeiladau gwynion’ roes eu henwau i’r tyddyn; yr enw ar ‘adeilad’ yn y Gymraeg oedd ‘ty’ ( lluosog ‘tai’) – mae Tai Teilwriaid o fewn rhyw dri chanllath i Siambra Gwynion. Amheus, hefyd, yw a roes ystafelloedd mewnol eu henwau i’r daliad, amheus am na ellir ei ddeall, nid yw’n gwneud synnwyr

Mae ystyr pellach i ‘chamber’, sef gwagle wedi ei amgau, megis ‘cell’; gwelir y gair yn ‘burial chamber’. Efallai mai gafael mewn gwelltyn yw chwilio am y cysylltiad hwnnw, ond roedd Siambre Gwynion ar ochr bryn a elwid yn Llys y Gwynt ( oherwydd ei fod mor agored, mae’n sicr; roedd Llys y Gwynt ei hun yn ddaliad bychan 4 acer ar gopa’r bryn, gyda’r ty yn 1838 ble mae’r ty presennol. Dyma a ddywed Willim Williams ‘Observations on Snowdonia’ 1802

There is a large Carn, or Carnedd, at Llys y Gwynt ….. now covered with soil and grass, which has been dug into for stones for walling, not yet properly opened, and nothing as yet discovered in it’.

Fel y nodwyd, mae’n debyg mai ffansi yw cysylltu enw’r fferm gyda’r garnedd. Yr unig beth y gellir ei ddweud yw nad yw ‘siambr (au)’ yn enw cyffredin ar le yng Nghymru; mae Archif Melville Richards yn cofnodi dau le o’r enw ‘siambr’ yn Llangwm a Llanrhaeadr ym Mochnant ar fab OS 1838. Yn ogystal, gan ei fod yn air ag ystyr penodol iddo, sef ystafell fewnol mewn ty, neu cell gladdu, a bod Cymry uniaith yn hollol sicr o ddefnydd gair, mae union wreiddiau enw Siambra Gwynion ar goll yn niwl y gorffennol.

Sling

Pentref bychan yw Sling, rhwng Tregarth a Mynydd Llandygai. Fel y rhan fwyaf o ardaloedd poblog Dyffryn Ogwen, doedd Sling ddim yn bod nes datblygodd y chwarel. Yn wir, yn 1768, ac am sawl degawd wedi hynny, roedd yr ardal ble saif Sling heddiw yn dir comin, fel y rhan fwyaf o lethrau Moelyci. Yn niwedd y 18ed ganrif gellid tynnu llinell uwchben terfyn tir fferm Moelyci, ar hyd terfynau tiroedd Chwarel Goch, Bodfeurig, Hafoty, Tyn Clwt, a Chilgeraint, ac ambell fferm sydd, heddiw, dan y domen; roedd y cyfan uwchben hynny yn dir comin. Erbyn 1796 roedd Chwarel Braich y Cafn wedi torri trwy wal y mynydd, ac roedd Stâd y Penrhyn yn hawlio’r holl dir comin ar y llethrau. Gellir gweld datblygiad araf Sling yn ail hanner y 19eg ganrif; yn ôl cyfrifiad 1841 dau dy oedd yno: erbyn 1861 roedd chwech, 1871 naw, 1881 ugain, ac roedd wedi cyrraedd 24 ty erbyn 1891. Daeth y pentref bychan i’w alw yn ôl enwau’r tai hyn.

Mae Sling yn enw anarferol, er fod enghreifftiau ohono, ar wahân i Sling Dyffryn Ogwen, yn Henllan, Sir Ddinbych, Llanystumday, ond, yn bennaf, ar Ynys Môn (Llanddona, Llanffinan, Llanfaes, Llangristiolus,Niwbwrch, a Phenmon ) sy’n awgrymu mai enw a gariwyd i’r ardal gan fewnfudwr ( o Fôn? ) ydyw. Gair yn disgrifio tir yw ‘sling’, sef rhimyn main, cul o dir. Y gair cyffredin Cymraeg am y math hwn o dir yw ‘llain’, gan fod hwnnw, yn ei hanfod, yn dod o’r gair ‘llafn’, rhan hirgul, miniog cyllell, neu gleddyf. Gair wedi ei fenthyg yw ‘sling’ o air tafodieithol Saesneg, yn bennaf o Swydd Gaer, a’r gororau, am gae bychan. Fe’i benthyciwyd i’r Gymraeg i ddisgrifio rhimyn cul o dir ar ochr lôn, neu lwybr

Sychnant

Daliad 20 acer gyda 14 cae bychan ar Lôn Bronnydd, rhwng Mignant a Phlas Uchaf. Roedd dau gae gyda’r enw diddorol Hopyard ar y daliad.

Mae sawl lle gyda’r enw hwn yng Nghymru, gam gynnwys yr un rhwng Capelulo a Chonwy. Gall unrhyw Sychnant gael ei enw trwy gyfeiriad at un o’r ddau ystyr i’r gair ‘nant’. Os mai’r ystyr o ‘ddyffryn’ ydyw, yna dyffryn heb afon, na ffrwd ynddo ynddo; os yr ail, yna mae tuedd gan unrhyw afon ( nant)  sydd ynddo sychu yn ystod yr haf. O safbwynt Sychnant Llanllechid, yr ail ystyr sydd i’r enw, gan fod ddwy ffrwd fechan yn llifo trwy’r nant, sef un sy’n codi ger Bryn Hafod y Wern,gan lifo heibio Bowls,  ac un arall sy’n tarddu i’r gogledd o Lwyn y Penddu, gan gymeru gyda’r llall ger Wern Bach, ac yna’n llifo heibio Penybryn, ac yn cyrraedd Ogwen ger Talybont. Mae’n amlwg fod tuedd i’r nentydd hyn sychu ambell haf.

Tafarnau

Yn ôl Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768 yr oedd Tafarnau yn ddaliad o 12 acer, gydag un arall o ddwy acer. Er ei fod mewn lleoliad ar y rhestr o ddaliadau sy’n awgrymu ei fod wedi ei leoli yn ymyl Cilgeraint, yn weddol agos at y chwarel, dengys y map atodol i’r Arolwg nad dyna’r gwir o gwbl, a bod Tafarnau wedi ei leoli mewn ardal sydd bellach yng nghanol Parc Penrhyn. Cyn ad-drefnu’r tiroedd, adeiladu’r Castell presennol,( ar safle’r hen blasty), a ffurfio’r Parc estynedig o’i gwmpas, yr oedd yr hen lôn o Fangor i Gonwy, a elwid yn Lôn Domas, yn mynd trwy ganol y parc presennol, rhwng y plasdy a Thraeth Lafan, gyda llwybr mynediad i’r plasdy yn mynd ohoni i gyfeiriad y de. Yn yr ardal o gwmpas y gyffordd hon yr oedd Tafarnau wedi ei leoli.

O safbwynt yr enw, rhaid cydnabod ei fod yn enw braidd yn annisgwyl, gan ei fod yn ffurf luosog ar ‘tafarn’, ac yn dweud fod mwy ag un yno. Rwan, mae ‘tafarn’ yn air cyffredin yn y Gymraeg, yn hen fenthyciad i’r Gymraeg, gyda’r enghraifft cynharaf yn ôl GPC yn y 13 ganrif. Gwelwn ef yn yr enw Mathafarn, ym Mhowys ( = maes y dafarn ), ac fe gofiwn i Ddafydd ap Gwilym, bl tua 1330 – 1350, gael trafferth mawr mewn tafarn. Mae’r cywydd hwnnw gan Dafydd, yn ogystal â bod yn  hynod ddifyr, yn rhoi darlun pur glir inni o sut le fyddai mewn tafarn yn y Canol Oesoedd. Roedd yno gwrw a gwin, wrth reswm, ac roedd yno fwyd. Roedd llawer o bobl yno hefyd ( ‘ y niferoedd ‘ – a derbyn peth gormodiaith, ar ran Dafydd ), gan gynnwys merch amheus iawn ( er fod Dafydd yn ei disgrifio fel merch hardd – ‘bun aelddu oedd ‘, rhaid ystyried yn ddwys beth fyddai merch ifanc, ar ei phen ei hun, yn ei wneud mewn tafarn, ac, yn sicr, pam y byddai yn trefnu i ddod at y bardd wedi i bawb fynd i gysgu ). Roedd lle i gysgu mewn tafarn, hefyd, gan i Ddafydd, ac eraill, gan gynnwys tri Sais – Hicyn, a Siencyn, a Siac – fynd i gysgu yn y lle. Mae’n amlwg, hefyd, mai un ystafell oedd y cyfan, gan fod Dafydd, pan yn codi yn y tywyllwch, yn creu llanast llwyr trwy faglu dros y dodrefn, yn fwrdd, a phopeth arall – ‘ y ddeudrestl a’r holl ddodrefn’. Felly, mae’n sicr mai lle i deithwyr gael ymborth a llety oedd tafarn yn bennaf. Fel y nodwyd, mae’r enw hwn yn Llandygai yn dangos fod mwy nag un yn yr ardal gyfyng hon. Cyfyd y cwestiwn, felly, pam y byddai angen mwy nag un tafarn mewn ardal gweddol ddiarffordd, yn y cyfnod cyn i deithwyr i Fôn ac Iwerddon fedru croesi’r Fenai dros Bont Menai. ( Cyn codi’r bont yn 1826, er fod hanner dwsin o fferïau yn croesi’r Fenai, byddai’r rhan fwyaf o deithwyr ar hyd arfordir y Gogledd yn croesi o Benmaenmawr i Fiwmares gan gerdded ar draws y tywod pan fyddai’r llanw ar drai, a chymryd fferi dros y sianel i Fiwmares). Yn ôl at Tafarnau. Mae’n ddiddorol fod daliad bychan cyffiniol o’r enw Lodge, ac roedd tri o gaeau Tafarnau yn cario’r enw Lodge, ac un arall oedd Gwern y Lodge. O gofio lleoliad y tiroedd hyn, gallai ‘lodge’ gyfeirio at y porthdy a fyddai yng ngheg y ffordd at y plasdy, ond rhaid cofio fod ‘ lodge’, hefyd, yn golygu ‘lletya’, gyda’r gair ‘lodger’ am rywun sy’n aros dros dro yn rhywle.  Y tyddyn nesaf at Tafarnau a Lodge oedd Capel Ogwen, ac, ar sail y ffaith fod pob cae ar y daliad hwn yn dwyn yr enw Cae’r Ychain, a bod cae arall o’r enw Cae’r Efail gerllaw, mae Dr John Llywelyn Williams wedi dadlau’n argyhoeddiadol iawn fod yma ganolfan gasglu gwartheg a’u paratoi ar gyfer eu taith i farchnadoedd Lloegr. Byddai’r prysurdeb hwnnw yn egluro’r angen am dafarnau a llefydd i lojio yn y cylch.

Cyn gadael Tafarnau, efallai y byddai’r llythyr hwn o’r North Wales Chronicle  yn 1837, o ddiddordeb. Nid oes ganddo ddim o gwbl i’w wneud gyda’r enw, na’r eglurhâd, ond mae’n ddiddorol, ac yn sôn am ddyddiau cynnar Chwarel Cae braich y cafn

The first cartload of slate was brought down by Mr. Williams’s own team, which crossed the bridge called Pont-y-twr, with one wheel moving on the road-way and the other on the parapet wall, in consequence of the bridge being then too narrow for a common cart to pass through, and which was only calculated for a bridle road. but with the assistance of the few quarrymen then employed they were enabled to get through without upsetting the cart. John Williams, of Tafarnau, who is seventy-five years of age, and lives at Hirael, close to Bangor, was then the driver of that cart, being the first that ever attempted to cross that bridge, as also the first that ever entered the quarries of Llandegai (N Wales Chronicle 4/4/1837)

Rhan o fap Arolwg 1768 yn dangos caeau Tafarnau yn yr ardal ble roedd Lôn Domas yn cyfforddi efo’r lôn at y Plas. Sylwer, hefyd, ar Gae’r Efail a Chae’r Ychain gerllaw

Tai’r Meibion

Edrych i lawr ar Dai’r Meibion o’r bronnydd

Dyma fferm fwyaf llawr gwlad Dyffryn Ogwen, yn 210 acer yn 1765, yn cynnwys 127 acer ar y bronnydd, ac yn cael ei gosod ar rent o rent o £160 y flwyddyn( fyddai’n cyfateb i tua £16,500 yn arian heddiw. Gellid cyflogi, o leiaf, 8 gwas, neu brynu 30 o geffylau gwedd, am hynny yn 1765). Yn 1857, fel rhan o ad-drefnu’r Penrhyn, fe unwyd tiroedd llawr gwlad Tai’r Meibion efo dwy fferm gyfagos Cefnfaes a Chefnfaes Newydd,ynghyd â Ffridd Bryn Adda,  i greu un daliad mawr o 256 acer, ar rent o £292 y flwyddyn ( £17, 300 heddiw ) a gododd i £392 ymhen dwy flynedd ( dros £23,000 heddiw). Rhoddwyd y denantiaeth i Owen Ellis, Cefnfaes, a’i frawd, Humphrey, a hwy a’u disgynyddion fu’n ffermio yno hyd flynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan symudodd Humphrey Ellis ( wyr yr Humphrey gwreiddiol ) a’i deulu i Fangor Uchaf. ( Am beth o hanes yr Ellisiaid gweler Cefnfaes ). Fel rhan o ad-drefnu’r Penrhyn, fe godwyd ty ac adeiladau pwrpasol ar y mwyafrif helaeth o ffermydd y stâd, gan ddechrau efo Glanmor Isaf yn 1845, a gorffen gyda Thai’r Meibion yn 1895. Mae’r tai a’r adeiladau yn dilyn patrwm wedi ei gynllunio ar gyfer ffermydd o wahanol faint gan y stâd.

O ran ystyr, mae’r enw’n ymddangos yn eithaf syml, ond mae angen esboniad ychydig yn helaethach

Fel y gwyr pawb, lluosog ‘ty’ yw ‘tai’, ond nid yw fel y ty presennol. Yn hytrach, yn wreiddiol, adeilad yw ‘ty’, a hwnnw, gan amlaf, yn adeilad un ystafell. Ni ddaeth rhannu adeilad yn gyffredin hyd at y Canol oesoedd diweddar; cyn hynny, dim ond un adeilad gyda gwahanol rannau iddo, weithiau wedi eu rhannu gyda sgrin, neu lenni, ond, yn aml heb unrhyw beth i wahanu gwahanol rannau o’r adeilad – gan gynnwys llety’r anifeiliaid. Felly rhaid inni feddwl am ‘dy’ fel un adeilad un ystafell; dyna sydd yn y gair ‘gweithdy’, ‘beudy’ ( o ‘bu’ – gwartheg – a ‘ty ‘).

Pan aeth Iolo Goch i lys Owain Glyndwr yn Sycharth fe welodd

                        Pob tu’n llawn,pob ty’n y llys

                        Pob ochr yn llawn (bobl), pob adeilad yn y llys

Yn dilyn hynny, mae ‘tai’ yn golygu ‘adeiladau’ yn wreiddiol.

Am y ‘meibion’ gellir cymharu efo ‘wyrion’ ( Cororion), a gall olygu ‘meibion’ yn llythrennol, ond gall, hefyd, olygu ‘disgynyddion’, neu’n fwy cyffredin fyth ‘ llanciau, dynion ifanc’.

Felly ‘tai’r meibion’ fyddai ‘adeiladau’r meibion/ disgynyddion ( rhywun ) , neu lanciau’.

Tai Teilwriaid

Yn 1765 daliad o 19 acer ar fin y Wern Fawr, ac,fel nifer o ddaliadau cyfagos eraill, yn talu am yr hawl i ddefnyddio 2 acer o’r wern, at bwrpasau pori anifeiliaid yn yr haf, mae’n sicr, ynghyd â chodi mawn, mae’n debyg.

Am ‘tai’ gweler Tai’r Meibion

Mae ‘teiliwr’ yn air a fenthyciwyd i’r Gymraeg o’r Hen Saesneg neu o’r Ffrangeg, ac mae yma ers canrifoedd; roedd ‘na Gwilym Deiliwr yn cael ei enwi ar Rolau Llys Caernarfon yn 1368, ac mae Iolo Goch, yn yr un ganrif ( o bosib cyn 1368 ) yn ei farwnad i Ddafydd ap Gwilym yn dweud

                        ‘A theiliwr serch i ferch fu’

Roedd y teiliwr yn grefftwr hanfodol ym mhob ardal – dyna’r unig ffordd y ceid dillad oesoedd a fu – a gwelid rhai yn yr ardaloedd gwledig hyd at ganol yr 20fed ganrif. Yn wir, yr oedd llawer ohonynt i ateb gofynion cymdeithas – gormod, weithiau. Yn ei hunangofiant trawiadol Cwm Eithin mae Hugh Evans yn dweud ‘Yr oedd nifer o deilwriaid yn chwipio’r gath yn fy nghof i, sef yng nghanol yr 19eg ganrif. (gyda ‘chwipio’r gath’) yn golygu gormod yn gwneud yr un peth. Roedd y teiliwr yn gweithio mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, roedd ganddynt eu gweithdai ble byddent yn yn gwneud y dillad o frethyn lleol, a hynny wedi i berson ddod atynt i’w mesur, neu iddynt hwy fynd i gartref y person i wneud mesuriadau. Fodd bynnag, mewn ardaloedd mwy anghysbell, byddai’r teiliwr yn ymweld â theulu, ac yn aros gyda hwy nes y byddai wedi gorffen gwneud yr holl ddillad angenrheidiol. Symudai yn ei flaen, wedyn, i fferm gyfagos, ac aros yno.

Mae’n amlwg fod dillad yn eitem eithaf costus mewn oes a fu, gan fod llawer o bobl (o’r rheiny oedd yn llunio ewyllysiauyn y cyfnod ) yn eu cynnwys fel pethau i’w cofnodi.

Er enghraifft, dyma Owen Elis, Cefnfaes, yn 1802, yn gadael dillad gwerth £3,tra’r oedd Ann William, Ty Gwyn, yn gadael ei dillad hi, oedd werth £2. Yn 1822 gadawodd Henry Edward, Corbri ddillad gwerth £1, tra, yn 1833, doedd dillad John Roberts Sychnant ond werth 16s ( 80c) i’r sawl oedd yn ddigon ffodus i’w cael er ei ôl.

Mae’n amlwg mai lleoliad gweithdai teilwriaid mewn rhyw oes oedd Tai’r Teilwriaid, ac yn gartref, mae’n debyg, i deulu ohonynt, gan fod tuedd gyffredin iawn i fab ddilyn tad ym mhob crefft. Efallai mai ffansi llwyr yw, ond ni allaf lai na sylwi fod Tai Teilwriaid yn agos iawn i, dri phandy . Pan ddaeth Hyde Hall i’r ardal ( A description of Caernarvonshire 1809 ), dyma ddywedodd am fasnach Llanllechid

This is little, for manufactures have not gone beyond spinning and weaving of linsey – working at home, whence it is carried to be dressed to the two fulling mills on the Ogwen

Gallai’r teilwriaid fanteisio ar agosrwydd y brethyn.

Talybont

Ystyr ‘tal’yw ‘pen draw’; y ‘talcen’ yw rhan uchaf y wyneb. Mewn enwau daearyddol mae’n nodi ‘pen draw ‘ rhywbeth. Er enghraifft, ystyr ‘sarnu’ ydy ‘sathru’, a daeth ‘sarn’ i olygu ‘llwybr’ neu ffordd, oherwydd eich bod yn ei sathru wrth gerdded arni, ac, yn benodol, lwybr neu ffordd wedi wedi ei phalmantu ( hynny yw, wyneb o gerrig arni). Enwir yr hen ffyrdd Rhufeinig yng Nghymru yn Sarn Elen. Yn yr un modd Talysarn yw ‘pen draw’r llwybr/ ffordd a cherrig arni’, a Thalsarnau yw ‘pen draw’r llwybrau/ ffyrdd’ ( Roedd sawl llwybr yn cyfarfod yno cyn croesi’r Ddwyryd yn y Traeth Bach).

Yn achos Talybont, Llanllechid, dyma’r pentref ger ceg y bont a groesai Ogwen. Roedd pont bren wedi bod dros Ogwen ers canrifoedd, yn cario yr hen ffordd Lôn Domas, a ai o Fangor am Aber, trwy ganol demesne y Penrhyn. Pan ddaeth Pennant ar ei deithiau i’r ardal yn 1788-91, dyma ddywed

‘From Llandygai I descended and crossed the wooden bridge over the furious torrent Ogwen, which,  a little lower, discharges itself into the sea at Aber-ogwen, 

Roedd y bont hon, sef yr un wreiddiol, yn croesi Ogwen tua’r lle yr oedd y Felin Isa, wedyn Iard Penrhyn, a Iard Cyngor Gwynedd. Pan adeiladodd Telford ei ffordd newydd i Gonwy, oedd yn osgoi’r hen lôn o’r bont bren trwy Dalybont a Maes y Groes hyd at Tan y Lôn, fe gododd bont o garreg ychydig yn uwch i lawr yr afon na’r hen un bren, a honno yw’r un sydd yno byth ers hynny.

Mae’n debyg y ffurfiwyd fferm Talybont o diroedd ffrwythlon hen ‘demesne’ Cochwillan, gan rannu ymhellach yn Dalybont Uchaf a Thalybont Isaf. Roedd yr olaf, yn 1768, yn cael ei gosod gyda Dologwen, sydd yn y parc heddiw. Erbyn 1768, yr oedd 4 ty moel ar dir Talybont, ac fe’u gelwid wrth enw’r tir. Erbyn 1841 yr oedd 20 o dai Talybont.  Er fod llawer o weddill y pentref wedi datblygu ar dir Cae Gwigyn, Dolhelyg, a Thyddyn Cwta, fe enwyd y pentref ar ol y tai hynny a godwyd ar dir Talybont Isaf. Erbyn degawdau cyntaf y 19eg ganrif, yr oedd Talybont Isaf yn dafarn, ac fe’i gelwid yn ‘Talybont Public House’, ond yn parhau’n ddaliad amaethyddol eithaf sylweddol. Parhaodd yn dafarn, o dan amrywiol enwau, yn fwy diweddar fel Ty Uchaf, Abbeyfield, a, heddiw, Llechen.

Tanygadlas

Mae dau dy ym Mraichmelyn heddiw yn dwyn yr enw,ond nid dyna’r sefyllfa, oherwydd nid Tan y Gadlas oedd enw’r ddau dy hynny am ddegawdau hyd ddechrau’r 20fed ganrif, o leiaf; yn hytrach, eu henwau hwy oedd Tan y Cae.  Tri thy ar y llwybr rhwng Tan y Cae a Chaerberllan, yn sefyll ble mae Tan y Gadlas Isaf heddiw, oedd Tan y Gadlas, a’r rheiny, fel Caerberllan a Braichmelyn, yn dai o gyfnod cynnar y chwarel. Maent wedi eu chwalu ers deugain mlynedd, bellach.

Mae eu henwau yn nodi eu lleoliad, sef yn is na’r ‘gadlas’, neu yng ngwaelod y gadlas. Mae ‘gadlas’ yn air am ‘ ardd yd’ mewn fferm, neu lle y cedwid y teisi gwair, neu yd, defnydd sydd wedi dod o ystyr wreiddiol o ‘le wedi ei amgau’, mae’n debyg. Roedd y gair yn bodoli yn yr ardal, gan fod cae un acer ar fferm Corbri yn 1765 o’r enw Gadlas, tra bod Gweirglodd y Gadlas Galed ar dir Talybraich yn Nant y Benglog. Ar dir yr hen fferm Coed y Parc, yn ôl Arolwg 1768, roedd Cae Cefn y Gadlas, tra’r oedd Cae Cefn Gadlas yn un o gaeau newydd Llwyn Celyn yn ôl map Penrhyn 1871. Mae pob un o’r caeau hyn neaf i’r fferm a’i hadeiladau, sy’n cadarnhau’r ystyr isod o fuarth, gardd yd i’r gair ‘cadlas’. Gellir, dweud, felly fod y tai hyn ym Mraichmelyn wedi eu henwi oherwydd eu bod yn is ar y llethr na lleoliad yr ardd yd, neu’r teisi gwair, neu unrhyw le caeëdig, ond mae’n amlwg yn cymryd ei enw o leoliad ar fferm Tyn Twr, gan mai ar dir y fferm honno yr oedd y tai, ac roedd y lleoliad yno cyn datblygu’r chwarel a’r mudo mawr.

 Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi mwy nag un ystyr i’r gair ‘cadlas’, yn ogystal â’r un a nodwyd, sef

Llannerch, llecyn deiliog cysgodol, gardd; lawnt, tir amgaeedig, twmpath chwarae, talwrn neu gwrt i chwarae arno, buarth

Efallai y ellir anwybyddu’r ‘buarth’, gan fod buarth fferm Tyn Twr ger y ty fferm, yn y Tyn Twr presennol, a gellir anghofio ‘lawnt’ a ‘gardd’, ond fe allai unrhyw un o’r lleill fod yn berthnasol, gan fod lleoliad y tai ar waelod y llethr a’r bowlen sydd y tu ôl iddynt, sydd yn bant cysgodol. Fodd bynnag, fe welir fod ‘gadlas’ yn air byw yn yr ardal, er enghraifft, yn ôl map 1871, yr enw ar gae bychan 1 acer, yn union o dan adeiladau Tyddyn y Berth, Talybont oedd Cae Gadlas (Arch Prif Ban PENRA 2221). Roedd ambell un arall yn y dyffryn, hefyd, gyda’u lleoliad yn awgrymu’n gryf mai ‘ yr ardd yd’, neu leoliad y das wair/ wellt oedd ‘ gadlas yn yr ardla hon, fel mewn ambell ardal arall yng Nghymru

Tanysgafell

Er fod daliad bychan yn cario’r enw, ardal ydy Tanysgafell, sef yr ardal o gwmpas gwaelod allt Bryneglwys o Fynydd Llandygai. Ar lafar lleol, yr enw ydy Tanysgrafell, a gwelir hynny ar arwydd y fferm fechan. Trafodir y gwahanol fathau o newid enwau yn y sylwadau ar Giltrefnus.

Nodwedd ddaearyddol ydy ‘ysgafell’, ‘sgafell’, ac mae’n golygu rhywbeth tebyg i silff, saesneg ‘ledge’. Mae’r ardal a elwir Tanysgafell yn disgyn yn weddol sydyn o’r silff o dir lle rhed y ffordd fawr, a lle saif tai Tremffrancon a hen fynwent Tanysgafell. A hawdd gweld pam y galwyd y tir yn hynny. Gyda llaw, mae’r hen fynwent a’r egwys fechan sydd yn y coed bron wedi’i anghofio. Os crwydrwch hi, fe welwch fod y mwyafrif helaeth o’r cerrig beddau yn dyddio o’r 1840au i’r 1860au. Mae hynny oherwydd fe’i codwyd i lenwi bwlch. Roedd yr eglwys wreiddiol a’r fynwent ar gae o’r enw Bryn Byrddau, yn agos i Lyn Meurig; yn yr 1840au fe gladdwyd y llyn, yr eglwys, a’r fynwent o dan domen y chwarel. Agorwyd mynwent newydd gydag eglwys fechan yn ei lle, a defnyddiwyd honno hyd nes yr agorwyd eglwys fwy sylweddol St Anne’s yn uwch i fyny’r llethrau yn 1865. Yn gyffredinol, ni ddefnyddiwyd eglwys na mynwent Tanysgafell wedi hynny, er fod ambell gladdedigaeth yno hyd yr olaf yn 1913.

Am yr enw lleol, a’r enw ar arwydd y fferm, Tanysgrafell, gair cyffredin yn cymryd lle gair anghyffredin sy’n digwydd. Y gair cyffredin oedd ‘sgrafell’, oedd yn enw ar y crib a ddefnyddid i gribo rhawn ceffyl, sef ei fwng a’i gynffon; dydy hwnnw ddim rwan yn air cyffredin, ychwaith, ond fe oedd yn hollol gyfarwydd yn oes y ceffyl, yn y 19eg ganrif.

Felly, aeth ‘y tir o dan y silff ‘, yn ‘ dir o dan grib ceffyl’, oedd yn rhoi ystyr hollol ddisynnwyr iddo.

Tregarth

Am‘tref’ dilyner y ddolen.

Am ‘garth’, mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi’r ystyron canlynol i’r gair

Cefnen o dir, pentir o fryn neu fynydd, penrhyn, ucheldir, gallt, coedwig, prysglwyni. tir gwyllt

Er y gallai unrhyw un o’r ystyron fod yn addas i Dregarth, mae’n anodd credu y ceid fferm ffyniannus ar unrhyw dir tebyg i’r tri ystyr olaf;mae’n debyg mai ‘fferm ar gefnen o dir, neu ar ucheldir’ yw’r ystyr.

Yn 1768, roedd 14 daliad gyda’r enw, gyda 6 ohonynt efo llai nag acer o libart, a’r lleill yn amrywio hyd at 5 acer yn y mwyaf. Yn ôl Arolwg Degwm 1838-40, yr oedd Trergarth yn ddaliad o bron i 99 acer, yn terfynu ar, ac i’r de o’r ffordd o Benygroes i Ben yr Ala. Yn gyffredinol, ei therfynau oedd y ddwy ffordd o’r croesffyrdd hyn i fyny’r llethrau, gan gynnwys yr holl dir rhyngddynt hyd at Chwarel Goch. Mae’n cynnwys rhimyn denau o dir i’r dwyrain o ffordd Braichtalog, sef yr ochr orllewinol i’r sgafell ble mae tai heddiw, ac mae’n eithrio dau ddarn o dir, sef ‘Craig y Pandy’, tua’r lle mae ardal Sling heddiw, a’r cyfieithiad Saesneg ‘Fuller’s Rock’, sydd yn yr ardal ble mae Craig y Pandy heddiw. Mae, felly, yn cynnwys yr holl dir ble mae Dob, a’r tir i’r gogledd, heddiw. Erbyn 1851 mae 29 ty o’r un enw ar y tir, ac mae’r ardal, yn amlwg, bellach, yn cael ei galw yn Tregarth, oherwydd nodir ar wyneb ddalen yr ardal yng nghofnod y Cyfrifiad am y flwyddyn honno ‘Tregarth’. Yr oedd yn arfer galw’r tai a godid ar dir daliad wrth enw’r tir, heb rifau na dim – doedd union gyfeiriad, mewn oes di-lythyr, heb fiwrocratiaeth fawr, ddim yn bwysig iawn.

Twr Tewdws

Heddiw does ond un ty gyda’r enw Twr, sef ar draws y ffordd i Ganolfan Cefnfaes, ond nid dyna’r sefyllfa. Pan oedd y diwydiant llechi yn tyfu i’w anterth, fe dyfai Bethesda, a’r ardaloedd cylchynnol, yn hynod o gyflym, heb unrhyw gynllun na rheolaeth. Yn wir, cyn pasio’r Bethesda Improvement Act yn 1854, fe godid tai rywsut, rywsut, heb batrwm na rheol. Roedd pentwr o dai mewn sawl rhan o’r Bethesda cynnar, llefydd megis Pantdreiniog, Tanyffordd, a Bryntirion. Un arall o’r pentyrrau hyn o dai bychain oedd tai Twr, a safai rhwng Bryntirion a’r Stryd Fawr.  Yn 1841 roedd 38 ohonynt, gyda 144 o bobl yn byw ynddynt.  Yn fwy na hynny, er mor druenus oedd y tai, yr oedd ganddynt enw crand iawn, sef Twr Tewdws. Cytser yw Twr Tewdws, sef Pleiades, neu Y Saith Chwaer. Wn i ddim sut y daeth y casgliad hwn o dai cyffredin ( iawn ), oedd yn gartrefi i chwarelwyr, labrwyr, a thlodion, gan mwyaf, i gael enw mor grand. Fodd bynnag, erbyn y Cyfrifiad nesaf yn 1851, roedd y Tewdws wedi ei golli, a Twr fu’r enw arnynt wedyn. Yn 1861 roedd y gymdogaeth wedi tyfu i 48 o dai, gyda 267 o drigolion. Erbyn Cyfrifiad 1901, mae’r ardal wedi dirywio’n ofnadwy, ( er na fu’n swbwrbia erioed! ); roedd 12 o’r tai ‘ in ruins’, tra’r oedd 7 yn wag, ac nid oedd ond 14 ty ar ôl yno bellach. Doedd y Streic  fawr ond wedi bodoli am 4 mis pan gasglwyd gwybodaeth y Cyfrifiad ar 31 Mawrth 1901, felly mae’n annhebyg mai wedi mudo o’r ardal yr oedd trigolion pob ty gwag.

Ymhen chwarter canrif wedyn diflannodd hynny oedd yn weddill o Twr Tewdws o dan Ysgol Cefnfaes a’i libart, gan adael un ty yn unig i gario enw nifer helaeth o dai lle preswyliai  nifer sylweddol o drigolion Bethesda am gyfran helaeth o’r 19eg ganrif, ac a gariodd enw llawer iawn mwy rhamantus na realaeth eu sefyllfa ddaearol.

Ty Du/ Tai Duon

Yn ôl Arolwg 1786, dau dyddyn bychan o 7 acer ar lethrau Llandygai rhwng Brynllys a Choed y Parc oedd Ty Du; gan eu bod yn rhannu, nid yn unig yr un enw, ond caeau o’r un enw, gellir bod yn weddol sicr mai un daliad wedi ei rannu’n ddau ydoedd. Er ei bod yn arfer gan y Penrhyn rannu daliadau, a rhentu rhannau o ddaliadau i wahanol denantiaid, mae rhannu daliad mynyddig o 14 acer yn ymddangos yn od. Erbyn 1803 ( map Penrhyn ) mae’n amlwg i’r ddau Ty Du droi yn Tai Duon, canys dyna a ddangosir ar y map yn ardal Coed y Parc, er fod un adeilad yn cael yr enw Ty Duon. Lleolir Tai Duon yn y tir i’r de-ddwyrain o groesffordd Coed y Parc. Mae Tai Duon, heddiw, yn ychydig o dai ar ochr ddeheuol Coed y Parc yng ngwaelod Allt Rocar. O safbwynt yr enw, fel arfer, mae ‘du’ yn golygu ‘mewn cysgod’, neu ‘ le allan o’r haul’; yn achos lleoliad daearyddol Ty Du, mae ar lethrau isaf crib y Glyderau, sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, safle sy’n golygu nad yw yn cael goleuni’r haul am gyfnod sylweddol o’r flwyddyn. Fodd bynnag, ‘tyddyn’ sy’n cario’r disgrifiad ‘du’ fel arfer, tra mai’r ‘ty’ sy’n ddu yma. Os disgrifio’r ty ei hun, gallai olygu ei fod yn dy tywyll, heb gael llawer o olau i mewn iddo; ni wyddom yn union pa ystyr heddiw. Un gair o gyngor, nid yw Ty Gwyn, o angenrheidrwydd, yn golygu’r croes i Ty Du, gan ei bod yn debygol mai lliw’r ty ei hun sy’n gyfrifol am yr epithet ‘gwyn’. Yn Nant Ffrancon, fodd bynnag, mae’n eithaf tbygol mai tywyllwch a goleuni sy’n golygu am enwau’r ffermydd cyffiniol Ty Du a Thy Gwyn

i’r dechrau

Tyddyn y Bartle/ Bartli

Mae Tyddyn y Bartle wedi diflannu ers bron i ddwy ganrif. Tyddyn 24 acer ydoedd oddeutu’r ffordd o Dregarth i’r Felin Hen, gyda’r rhan fwyaf ohono yn y gornel ble mae Eglwys y Gelli heddiw, ac yn terfynu ar Bryn Twrw, a Thyddyn y Sarn, a chyda dau ddarn bychan o dir yr ochr arall i’r ffordd, sef y gornel gyferbyn â’r eglwys, a rhimyn arall yn nes tuag at Felin Hen. Ar fap Arolwg Degwm 1838-40 dangosir dau adeilad, a allent fod yn ddau dy, ar ochr y lôn, tra bod dau arall i mewn ychydig i mewn yn y tir. Mae tir y tyddyn ble mae Tyn Lôn heddiw, ac fe ddiflannodd enw Tyddyn y Bartle o’r ardal, yn sicr fel enw ar dy annedd, cyn 1841. Yr hyn sy’n profi mai i Dyddyn y Lôn yr aeth Tyddyn y Bartle yw dyn o’r enw Robert Williams. Er ei fod yn enw cyffredin iawn – yn ôl Cyfrifiad 1841 yr oedd 30 Robert Williams ym mhlwyf Llandygai, a 39 ym mhlwyf Llanllechid – y mae modd inni fod yn weddol sicr am y Robert Williams hwn. Yn ôl yr Arolwg Degwm 1838-40, yr oedd tir Tyddyn y Bartle yn cael ei rentu gan Robert Williams ‘ and others’. Yng Nghyfrifiad 1841 mae Robert Williams 60 oed, ‘farmer’, a’i wraig, Mary, yn byw yn un o’r tai a elwir Tyddyn y Lôn, tra nodir yr un Robert Williams yng Nghyfrifiad 1851, yn yr un cyfeiriad, fel ‘farmer of 15 acres’.  Er na ellir bod yn hollol bendant, mae’n weddol sicr mai Tyddyn y Lôn oedd Tyddyn y Bartle

Rhan o Fap Arolwg Degwm 1838-40, yn dangos ardal cyffordd Lôn Wern yn y Gelli gyda’r ffordd o Dregarth i’r Felin Hen. Rhif 64 yw Tyddyn y Bartle/i ( Pandy yw 51 a Moelyci yw 50 )

Mae enw’r tyddyn yn perthyn i’r dosbarth hwnnw sy’n cario enw un o’r tenantiaid mewn rhyw oes, Fodd bynnag, yn yr achos hwn, cyfenw Saesneg sydd yma, sef Bartley, enw sy’n wreiddiol yn deillio un ai o Bartholomew, neu o ardal Bartley yn Hampshire yn Lloegr. Efallai eich bod yn cofio mai un o gymeriadau amlwg Daniel Owen oedd y dyn diniwed, ond craff, Tomos Bartlet, a;i wraig, Barbara. Mae’n amlwg fod rhywun gyda’r un cyfenw yn byw yn Nyffryn Ogwen, a’i fod yn dal y tir a gymrodd ei enw. Fodd bynnag, mae’n enw dieithr yn yr ardal hon; yng Nghyfrifiad 1841, does neb o’r enw yn nes at yr ardal na Dinbych, tra bod eraill yn Sir y Fflint.  Un peth diddorol; roedd hi’n amlwg fod yr enw, neu’r perchennog, yn ddigon unigryw i Gymry lleol roi’r fannod ‘Y’ o flaen ei enw, gan mai ‘Tyddyn y Bartli/e’ a geir, ac nid yw’n arfer rhoi’r fanod o flaen enwau personol na chyfenwau yn y Gymraeg.

Tyddyn ( y ) Ceiliog

Rhan o hendref Llanllechid 1822 yn dangos lleoliad Tyddyn y Ceiliog. Sylwer, hefyd, ar gwrs Afon Ogwen cyn iddi gael ei sythu yng nghanol y ganrif

Ofer fyddai ichi fynd i chwilio am y tyddyn bychan hwn heddiw,gan ei fod wedi diflannu yn yr ad-drefnu mawr gan Stâd y Penrhyn, a ddigwyddodd yn hendref Llanllechid yn bennaf yn yr 1850au. Digon yw dweud ei fod yn ddaliad o 29 acer, yn cynnwys 12 cae, oedd yn sefyll yn y tir gwastad hwnnw, sydd heddiw  rhwng yr A5 a’r rheilffordd. Roedd enw diddorol ar un o’i gaeau, sef Gweirglodd yr Wlff, a thrafodir hwnnw yn yr adran berthnasol. Mae’n ymddangos ar Gyfrifiad 1841 ac 1851, gyda John Jones, Cariwr, a’i deulu yn byw yno, ond, erbyn 1861, mae wedi diflannu. Pan luniodd prif asiant y Penrhyn, James Wyatt, yn 1843, ei fras gynllun i leihau, ac uno, rhai o ddaliadau’r stâd, nid oedd Tyddyn Ceiliog yn rhan ohono, ond bu newid ar y cynlluniau yn ymarferol, mae’n amlwg.

Mae’n fwy na thebyg for yr enw yn perthyn i’r dosbarth hwnnw o enwau a gymrodd arnynt enw deilydd, neu berchennog, gweddol gynnar yn hanes y tir. Fodd bynnag, nid enw’r person a gymrodd, eithr rhyw flasenw oedd arno. ( Gellir cymharu Llwyn y Penddu yn yr un ardal). Ambell dro cofnodir yr enw fel Tyddyn Ceiliog, ond mae’r enghreifftiau o Dyddyn y Ceiliog ( fel ar y map uchod) yn ein cyfeirio at flasenw person. Mae ‘ceiliog’ fel blasenw yn bur gyffredin; dywedir fod rhywun yn ‘dipyn o geiliog’ os yw’n dangos ei hun, yn uchel ei gloch,neu’n meddwl dipyn arno’i hun. Mae mwy nag un lle wedi cadw’r cof am rhyw berson felly yn ei enw, megis Ceiliog yn Aberconwy, ac mae Cae Ceiliog ym Meirionydd, Llanbedrog, a Brycheiniog. Am Caergeiliog, mae’n amhosibl dweud beth yw’r ystyr yno. Beth bynnag, ar un adeg, roedd y tyddyn hwn, mae’n debyg,  ym meddiant rhyw geiliog oedd yn meddwl ei hun yn dipyn o foi. Bellach mae ef a’r tyddyn a enwyd ar ei ôl wedi diflannu o blwyf Llanllechid

I’r cychwyn

Tyddyn Dicwm

Fferm fechan ym mhlwyf Llandygai yw Tyddyn Dicwm, yn y gornel honno o’r plwy sydd yn y tro a ffurfir gan afon Ogwen ble mae’r A5 yn ei chroesi dros Bont y Pandy. Wedi croesi’r afon, mae’r briffordd yn mynd trwy’r tir am rhyw ddau ganllath. Terfynau’r daliad yw’r afon, y ffordd i Dregarth, a’r daliadau yn y tir i’r de ohono, megis Perthi, a Thanyrallt. Yn 1765 yr oedd yn 29 acer, ond erbyn yr Arolwg Degwm yn 1838-40, 24 acer ydoedd. Mae 2.6 hectar o’i dir wedi ei ddynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru ers 1992, er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a phlanhigion arbennig. Yn 1717 cofnodir ef ym mhapurau’r Penrhyn yn ‘tythin dicom’ yn 1717,  ac fel’ tythyn dycum’ yn 1789.

Bu adeg pan yr oedd yn hollol sicr fy meddwl beth yw ystyr yr enw, sef ‘Tyddyn’ yn perthyn i berson o’r enw ‘Dicwm’, a fu’n dal y tir mewn rhyw oes rywdro cyn y cyfeiriad cyntaf ato yn 1717. Nid oedd y ffaith fod yr Arolwg yn nodi ‘tyddyn Dicym’ ond yn dangos mai Sais o gofnodwr oedd yn methu cofnodi’r ynganiad Cymraeg. Am ‘Dicwm’, roedd yn enw bachigol anwes o’r enw Richard > Dic, a gellid y bachigol pellach ‘Dicwm’ o hwnnw. Fe geid ‘Dicws’ ohono, hefyd – cofnodwyd Cae Dicws yn Rhosllannerchrugog ac yng Ngwyddelwern yn 1841. Roedd Richard wedi ei Gymreigio yn y Canol Oesoedd i Rhisiart, ac roedd bachigol ‘Rhisierdyn’ i hwnnw ( Roedd bardd o Fôn, neu’n sicr o Wynedd, yn dwyn yr enw yn canu yn ail hanner y 14eg ganrif). Amheuaf i’r bachigyn ‘Dic’ ddod o Richard trwy lwybr mwy Seisnig, efallai, diweddarach, ond mae Dicw yn sicr yn ffurf gyffredin cyfoes ar Richard, a cham bychan yw’r un o ‘Dicw’ i ‘Dicwm’/‘Dicws’. Eto, rhaid bod yn ofalus gyda’r olaf, gan y gallai hwnnw’n hawdd ddod o’r ffurf ‘Deicws’, sy’n dod o ‘Dei’ < ‘Dafydd’. Beth bynnag, ‘tyddyn ym meddiant Dicwm’ oedd yr ystyr, yn fy meddwl.

Ac yna taflwyd sbocsan i’r olwyn pan ddywedodd y perchennog presennol, Wynn Williams, wrthyf i’r arbenigwr ar enwau lleoedd, Thomas Roberts, ddweud wrtho ei fod wedi cael hyd i’r person yn enw’r daliad, sef Sais o’r enw ‘?Dickham’. Gan fod Thomas yn Archifydd Prifysgol Bangor, ble cedwir papurau’r Penrhyn, roedd yn naturiol ei fod yn hollol gyfarwydd gyda’r ddogfennaeth. Yr oedd, hefyd, enw nid annhebyg o deulu o gyfeiilion y Penrhyn wedi ei gadw yn yr enw Gweirglodd Needham yn hendref Llanllechid. Ymhellach mae ‘Duckham’ yn enw Saesneg cyffredin, tra bod ‘Dickham’ yn bodoli, ond yn llai cyffredin. ‘Tyddyn ym meddiant Dickham’ felly, ond, y tro hwn, y berson penodol, unigol, y gellid ei hoelio mewn hanes.

Yn anffodus, bu farw Thomas Roberts yn annhymig, ac ni ellir cadarnhau’r wybodaeth, gan nad adawodd gofnod, hyd y gallaf i weld, o’r enw ‘Dickham’ ar glawr yn unlle, ac nid wyf wedi llwyddo i ddarganfod yr enw hyd yn hyn ym mhapurau’r Penrhyn.

Yn ogystal, petai Dicwm yn enw penodol, a hwnnw’n un Seisnig, ni fyddid yn disgwyl ei weld mewn enwau llefydd eraill y tu hwnt i’r ardal, ond nid dyna’r achos gyda Dicwm. Mae Archif Melville Richards yn nodi’r canlynol

Tyddyn Dickwm (1838), Tyddyn Dickwm, Tyddyn Dicun, ( 1638 ), Tyddyn Dickwyn,(1671) Tyddyn Dican (1719) Yr un lle yn Nolbenmaen, Sir Gaernarfon.

Tyddyn Dicun (1604 ) Yn Rhuddlan, Sir Ddinbych

A cheir ‘Cae Dicwm’ ym mhlwyf cyfagos Llanddeiniolen ( diccwn 1771, diccwm 1792)

Mae’r ffaith fod yr enw mewn mwy nag un lle yng Nghymru yn fy arwain i feddwl mai’r enw anwes ‘Dicwm’ sydd, yn gyffredinol, yn enwau’r llefydd hyn. Yn achos Tyddyn Dicwm, Llandygai, ni allaf, ar hyn o bryd, brofi na gwrthbrofi ai unigolyn penodol o Sais, ai unigolyn o denant lleol gyda’r enw anwes Dicwm roes ei enw i’r daliad. Yr hyn y gallaf ei wneud yw dweud, ble y bum gynt 100% yn sicr mai enw anwes yw Dicwm yn yr enw, heddiw nid wyf ond 80% felly!

Tyddyn Du

Fferm yw Tyddyn Du ar lethrau Braichmelyn, rhwng Pen y Braich ac afon Llafar /Caseg. Er ei bod ym mhapurau’r Penrhyn yn 1500 a 1505, nid yw’n rhan o’r stâd yn ôl Arolwg 1768. Yn 1713 a 1728 , mae’n ymddangos ym mhapurau stâd Llanfair a Brynodol ym Mhen Llyn, stâd oedd hefyd â chysylltiadau efo stadau ym Môn ac Arfon. Mae mwy o waith i’w wneud parthed perchnogaeth Tyddyn Du, ond, gan nad yw, am rhyw reswm na ellir ei ddirnad, yn ymddangos ar restr yr Arolwg Degwm yn Llanllechid 1838-1840, ni ellir canfod pwy oedd ei pherchennog bryd hynny, ychwaith.

O safbwynt yr enw, nid yw’n enw anghyffredin, nac, ychwaith yn hynod o gyffredin; mae 5 arall yng Ngwynedd, gan gynnwys Tyddyn Du, Maentwrog, oedd yn gartref i’r Archddiacon Edmwnd Prys, ( 1544 – 1623 )awdur y Salmau Cân. Does a wnelo’r enw ddim â lliw nail ai’r ty na’r tir; yn hytrach, disgrifio ei leoliad y mae. Mae Tyddyn Du, Gerlan, yng nghesail y Braichmelyn a’r Carneddau, ar y llethrau isaf, yn wynebu tua’r Gogledd. Canlyniad hynn yw fod y tir, am gyfran o’r flwyddyn, yn gyfangwbl mewn cysgod, gyda’r haul yn isel y tu ôl i’r mynyddoedd. Oherwydd hynny, tir mewn tywyllwch ydyw, lle du

Tyddyn Elis Dafydd

Yn ôl Arolwg y Penrhyn 1768, tyddyn bychan o 15 acer oedd Tyddyn Elis Dafydd, wedi ei leoli rhwng Tyddyn y Sarn a’r Felin Hen, gyda’r ty, ble mae dau dy presennol Felin Hen, gyferbyn â’r ffordd bresennol i Foelyci. Erbyn Arolwg Degwm 1838, yr oedd yn 19 acer, gyda’r tir yn cael ei ddal gan William Williams ‘and others’. Yng Nghyfrifiad 1841 yr oedd tri theulu yn byw mewn tri thy yno, sef William Williams, ffermwr, ei frawd, Richard, a’i chwaer, Mary,mewn un, a dau chwarelwr ifanc a’u teuluoedd yn y ddau arall. Efallai mai hwy oedd yr ‘others’. Erbyn 1851, mae William Williams, a’i frawd a’i chwaer, yn dal yno, ac mae un o’r ddau chwarelwr, Robert Williams, yno, ond yr hyn sy’n ddiddorol yw nad yw enw’r daliad yno bellach. Diflannodd ‘Tyddyn Elis Dafydd’, a rhoddwyd yr enw Felin Hen ar y tai, i gydfynd gyda gweddill y tai yn y cylch; yn 1841 tri thy oedd yn dwyn yr enw Felin Hen, erbyn 1851 mae 11; efallai fod rhywun yn rhagweld pentref o’r enw yn tyfu yma. Beth bynnag, Felin Hen fu’r enw wedyn. Gyda llaw, yr oedd William Williams, ‘farmer of 10 acres’ yn dal yma yn 1861, ac yn 81 oed, ynghyd â’i frawd a’i chwaer. Fyddai ef na’i deulu ddim yn fyw ymhen chwarter canrif i weld y rheilffordd newydd o Fethesda i Fangor yn torri trwy ei 10 acer prin, ac yn chwalu’r daliad; roedd llwybr rheilffordd y chwarel yn mynd o gwmpas y tir yma, trwy Foelyci, er mwyn osgoi’r bryn yr oedd Tyddyn Elis Dafydd arno, ond, yn nechrau’r 1880au torrwyd trwy’r bryn, gan fynd trwy’r 10 acer.

Does gennym, bellach, ddim syniad pwy oedd yr Elis Dafydd, ond fe gadwyd ei enw yn y tyddyn bychan, o leiaf, hyd at yr 1840au, pryd y cadwyd y tyddyn, ond y collwyd yr enw.

Roedd Tyddyn Elis Dafydd rhwng Tyddyn-sarn a’r Felin-hen, y tu mewn i’r tro yn y ffordd, ble dangosir tai a lleiniau. Dangosir y rheilffordd wrth ochr y tai, tra bod rheilffordd y chwarel yn mynd trwy gaeau fferm Moelyci i osgoi’r bryn. ( Map OS 1888)

Tyddyn Fertws/ Fertos/ Feitios/ y Fertoes/ Defeitos

Mae’r daliad hwn fel sawl un oedd o’i gwmpas, wedi diflannu bellach, yn ysglyfaeth i’r ad-drefnu a fu yn hendref Llanllechid rhwng 1840 ac 1860. Fodd bynnag, yn wahanol i’r lleill, mae hwn yn enigma llwyr, nid oherwydd na wyddom ddim amdano. Yn wir, yr ydym yn gwybod, yn fras beth bynnag, ble’r oedd wedi ei leoli,ar derfyn Tyddyn y Ceiliog, yn y rhan uchaf o’r tir rhwng Traeth Lafan a Ffordd Telford ( Gweler y map yn Ad-drefnu Daliadau Llanllechid yn Ffermio yn Llanllechidhttp://www.ffermioynllanllechid.com)  gwyddom ei faint, sef 10 acer, ac fe wyddom enw pob un o’i wyth cae. Yn 1841 roedd gwraig 70 oed, Elisabeth Jones, yn byw yno, ac yn cael ei disgrifio fel ‘farmer’. Erbyn 1851 doedd hi na’i chartref ar y Cyfrifiad. Yr hyn sy’n ei wneud yn enigma yw nad oes gennym y syniad lleiaf beth oedd ffurf wreiddiol, na, felly, ystyr, yr enw. Mae’n amlwg na wyddai neb cyfoes ychwaith, gan fod ffurfiau gwahanol – gwelir enghreifftiau ohonynt yn y teitl uchod. Mae’n amlwg na wyddai Hugh Derfel Hughes beth oedd y ffurf wreiddiol, gan iddo ei ystumio i gael y furf Tyddyn Defeitos, sef ‘defaid bychain’, sy’n gwneud fawr ddim synnwyr, a, chan mai dyma’r unig enghraifft o’r ffurf honno, gallwn dderbyn mai ymgais Hugh Derfel i egluro enw na wyddai ei ystyr ydoedd. Does yr un gair agos yn debyg i unrhyw fersiwn o’r enw yn GPC, ac nid oes unrhyw enw priod sy’n agos i’r ffurf,  felly, ni allwn ddilyn unrhyw drywydd o lygru gair nac enw er mwyn cyrraedd at yr ystyr. Yn y 16ed ganrif mae cyfeiriad at rywle yn y plwyf o’r enw ‘erw feirioes’, a gallai hwnnw fod enw cynnar ar Dyddyn y Fertos; yn anffodus, ni ellir cael goleuni ar ‘feirioes’ ychwaith. Rhaid i Dyddyn y Fertos barhau yn enigma, gyda gwybodaeth am bopeth ond ffurf derynol ac ystyr ei enw.

Tyddyn Iolyn

Heddiw Tyddyn Iolyn yw’r clwstwr bychan o dai sydd ar hen lwybr yr A5 i Fangor, rhwng Pont y Pandy a Llandygai, yn ymyl Giât Lôn Isa; oherwydd agor yr A55 yn nechrau’r 1980au, mae’r tai, bellach, ar ffordd pen-gaëedig. Yn 1765 roedd Tyddyn Iolyn yn ddaliad 31 acer, rhwng Lôn Isa, Bryn Dymchwel, Rhos Uchaf, a Phen y Lan; roedd 10 acer o’r tir hwn yn gors. Roedd yn parhau yn dyddyn yn ôl Arolwg Degwm 1838-40, ond, erbyn hyn, yn 34 acer. Fodd bynnag, yn ôl Cyfrifiad 1841, 4 o dai sydd yno, heb yr un o’r tenantiaid yn ffermwyr, felly, mae’r tir yn cael ei ffermio gan rywun arall, a’r rhywun arall hwn oedd James Fenton, beili tir y Penrhyn, oedd yn byw yn Lôn Isa; roedd tir Tyddyn Iolyn wedi ei uno gyda Lôn Isa.

Dywed Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, 1866.

‘ oddeutu 10 i 15 mlyedd yn ôl, darfu i’r Anrhydeddus E G D Pennant…. wrth weled cymaint o’r dreftadaeth o dan gloddiau, wneyd llawer o gaeau bychain yn un mewn mannau,a chloddiodd a sychodd Gors y Rhos, ac a’i gwnaeth yn un maes nemor lai na 30 acer, &. Dilewyd y Lôn Isa, y Rhos, a’r Siambrau Gwynion, a’r Tyddyn Iolyn &, am yr hwn y canodd un wrth fyned heibio, wrth weled ei gloddiau yn chwaledig, a’i fwg yn dyrchafu

                                    Mae Tyddyn Iolyn yn ulw, – genyf

Mae’n gynes ei enw;

                                    Cartref Gruffydd* dedwydd dw, – anghofir

                                    A’i ffyrdd ddilledir a phridd a lludw.

                                    Cyn hir hir y cawn yr arad – â’r ôg

                                                Yn rhwygo’r llawr gwastad;

                                    Y llawr mwyth bu llawer mad – bererin

                                    Ar ei ddeulin yn  rhoi addoliad.**

  • Yn ôl yr Arolwg Degwm 1838 – 40, dyn o’r enw Griffith Thomas oedd yn  dal y tir. Yng Nhhyfrifiad 1841, nid oes dyn o’r enw hwnnw yn byw yn yr un o dai Tyddyn Iolyn, ond, yn hytrach, mae’n byw yn y daliad ar y terfyn, Penylan, tyddyn 24 acer rhwng Tyddyn Iolyn a Llwyn Onn, a Llandygai. Roedd yno, hefyd, yn 1851, yn ffermwr a melinydd, yn cyflogi 6 gweithiwr. Gyda llaw, hyd at 1851, roedd melinau’r Penrhyn – Melin Isaf ( Melin Penylan), Felin Uchaf ( Cochwillan ), a Felin Hen yn cael eu gosod efo’i gilydd, ac roedd Grifffith Thomas, Penylan, yn eu rhentu. Mae Cyfrifiad 1841 yndangos ei fod yn cyflogi melinwyr ym mhob melin i falu ar ei ran. Mae’r englyn yn nodi’n glir fod ty Tyddyn Iolyn yn gartref unwaith  i Griffith Thomas,ac mae’r ffaith fod map yr Arolwg Degwm yn dangos y ty rhwng y ffordd ac afon Ogwen yn cadarnhau fod y ty gwreiddiol wedi ei chwalu, gan mai’r ochr arall i’r ffordd y mae tai presennol Tyddyn Iolyn. Er fod y wybodaeth ddogfennol yn cadarnhau mai cyn 1841 y symudodd Griffith Thomas, fe allai dyddiadau HDH fod yn gywir, gan y gallai ty gwreiddiol, a chartref gwreiddiol, Griffith Thomas, fod yn wag am flynyddoedd cyn ei chwalu ef a’r caeau bychain o’i gwmpas.

**       Yn ôl Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, yn yr 1800au cynnar,  ‘dechreuwyd cynnal cwrdd … yn y Perthi Corniog ac ar aelwyd Rebecca Jones, Tyddyn Iolyn bach, bob yn ail’. Nid oes cofnod arall am y Tyddyn Iolyn ‘bach’, ond mae’r englyn yn dangos yn glir mai hwn yw’r Tyddyn Iolyn a chwalwyd

 O safbwynt yr enw gweler Tyddyn.

Mae Iolyn wedi dilyn llwybr gweddol hir o’r enw Saesneg ‘Edward’. Yr enw Cymraeg cyfatebol yw ‘Iorwerth’. Rwan, mae’r fath beth yn y Gymraeg ag ‘enw anwes’, neu ‘enw anwes bachigol’, sef ffurf fwy annwyl ar enw bedydd. Nifer o’r rhain yw Gruffydd > Guto, Dafydd > Dei, Owen > Owi/ Now, ac yn fenywaidd, Elisabeth > Bet/ Beti/ Lisi, Elen > Nel, ac yn y blaen. Enw anwes Iorwerth yw ‘Iolo’, sy’n golygu rhywbeth tebyg i ‘Iorwerth annwyl’, neu ‘Iorwerth bach’. Fodd bynnag, mae’r drefn yn mynd gam ymhellach eto, gan fod gan enw anwes, weithiau, ei enw anwes ei hun; yn aml, mae hwn, weithiau, yn cario’r terfyniad ‘-yn’ ‘-an’. Felly, rydym yn cael Dafydd > Dei > Deio/ Deian, Gruffydd > Guto > Gutyn, Elisabeth > Bet(i) > Betsan. Gyda ‘Iorwerth’ rydym yn cael ‘Iorwerth’ > Iolo > Iolyn.

Dydy’r enw ‘Tyddyn Iolyn’ ddim yn anghyffredin yng Nghymru, gan fod archif Melville Richards yn nodi 7 ohonynt. Mae’n arwyddocaol mai yn y gogledd y maent i gyd, sy’n awgrymu mai enw anwes gogleddol yw Iolyn. Diddorol yw nodi mai enw cynharaf ardal Benllech oedd Tyddyn Iolyn, gan mai ar dir tyddyn o’r enw hwnnw y codwyd y tai cyntaf yn yr ardal, ond, wedyn, cymrodd y pentref ei enw o enw arall ar y tyddyn ( yn 1718 nodir ‘tythyn-iolyn-als-Tythyn-y-Benllech’ ym mhapurau stâd Baron Hill.

Felly, rywdro, un o denantiaid cynnar y tir yn Llandygai oedd dyn gyda’r enw anwes Iolyn, ac fe arhosodd ei enw yn enw’r tir a a ddaliai. Wyddom ni ddim, ar hyn o bryd, pwy oedd o, na phryd yr oedd yn dal y tir, ond mae ei enw yn parhau yn yr ardal.

Tyddyn Sabel

Fferm uchel ar lethrau Moel Faban yw Tyddyn Sabel, ac yn terfynu ar dir comin y mynydd, fferm Cilfodan, ac afon Ffrydlas. Yn ôl Arolwg 1768, roedd yn 44 acer, wedi ei rhannu yn 6 chae eithaf sylweddol. Yn ddigon rhyfedd yr oedd, yn ôl yr Arolwg, yn cael ei gosod efo Cae’r Saeson Bach ( Gwern Saeson Bach ), oedd gryn bellter i ffwrdd ar draws Ffrydlas a Chaseg yng nghesail y Braichmelyn a’r Carneddau.

O ran yr enw, er fod ynganiad lleol wedi troi’r enw yn Dyddyn Stabal,mae’n dod o enw merc, o leiaf, h, enw oedd yn weddol gyffredin ar un adeg, sef Sabel, yn wreiddiol, Isabel. Mae 4 cyfeiriad at ferched o’r enw mewn dogfennaeth o ddiwedd y Canol Oesoedd, ac roedd Cae Sabel yn Llanfaelrhys ac ym Marchwiail.

Felly, rhyw ferch o’r enw Sabel ( Isabel) oedd yn dal y tir ar rhyw adeg cyn 1768, a sefydlogodd enw’r daliad ar ei henw hi. Gyda llaw, doedd hi ddim yn anghyffredin i ferch ddal tir yng Nghymru, yn enwedig yn dilyn marwolaeth tenant o wr, neu dad. Mae sawl enghraifft o ferched yn cael eu nodi ar ddogfennaeth rhent, neu yn cael eu nodi fel ‘penteulu’ mewn cofnodion Cyfrifiad. Nid yw’r darlun confensiynol o ferch, cyn y cyfnod modern,  yn llwyr heb hawliau, na’r hawl i fod yn berchen tir, ddim yn hollol mor syml ag y mae traddodiad yn mynnu. Nid yw dim fyth yn ddu a gwyn!

Ôl-nodyn

Sawl blwyddyn yn ôl clywais stori gan un o drigolion oedd wedi treulio ei oes yn y Gerlan, gyda’i deulu wedi ffermio’r llethrau am genedlaethau, a honno’n stori am ddichell a thwyll. Yn ôl y stori hon, rywdro yn y gorffennol, roedd Tyddyn Sabel yn eiddo i unigolyn, a doedd y Penrhyn ddim yn hoffi hynny, ac am brynu’r tir i’w ychwanegu at y stâd. Fodd bynnag, gwrthodai’r perchennog werthu ar unrhyw gyfrif. Un noson, ar rhyw achlysur arbennig, fe aeth un o stiwardiaid y Penrhyn at i i’w feddiw, a, phan ddeffrodd drannoeth, dangoswyd ei enw wedi ar arwyddo ar bapur yn nodi iddo werthu Tyddyn Sabel i’r stâd. Mae’n swnio fel stori werin, ond nid oes modd ei phrofi, na’i gwrthbrofi; os digwyddodd, bu hynny cyn Arolwg 1868, gan fod Tyddyn Sabel yn eiddo i’r Penrhyn yn ôl hwnnw

Tyddyn Sachre

Tyddyn bychan o wyth acer oedd hwn, wedi ei leoli o boptu’r hen ffordd dyrpeg rhwng Llwyn Celyn a Groeslon; gyda’r ad-drefnu diflannodd un rhan i dir Llwyn Celyn, a’r llall i dir Talybont Uchaf. Ar lafar, mae’n bur debygol iddo fynd  yn Tyddyn Sachau, er  fod yr iaith ysgrifenedig yn cadw elfen o’r gwreiddiol, gyda Tyddyn Sachre, a Tyddyn Zachre. Trwy edrych ar y rheiny, buan y gwelir mai enw rhyw denant rhyw oes a roddod yr enw i’r tyddyn, a hwnnw yn enw prophwyd Beiblaidd, Zechareia. Mae‘n amhosibl erbyn hyn, gwybod pwy ydoedd, ond gadawodd ei enw yn yr ardal, ond dim ond nes i Wyatt benderfynu dileu’r daliad a’r enw oddi ar wyneb yr hendref.

A diflannodd pob cof am Zechereia o Lanllechid!

Ty Mwyn

Saif Ty Mwyn ym mhentref Rachub, ble mae Lôn Groes a Lôn Tan y Bwlch yn cyfarfod. Er y gellid dadlau y gallai’r ‘mwyn’ yn yr enw fod yn gyfystyr ag ‘addfwyn’, mae’n fwy tebygol mai ‘mwyn’ metel ( ore ) sydd yn yr enw. Fe ddywedodd preswylydd presennol y ty, sy’n gartref i’w deulu ers degawdau,fod y ty yn cario enw bwthyn a arferai sefyll ar lan Ogwan yng nghyffiniau Bryn Bela – Parc Moch. Mae symud enw o un bwthyn i un arall, nid yn unig yn gwneud synnwyr, ond yn un  gyda mwy nag un cynsail iddo. Fel arfer, y rheswm am gario enw yw preswylydd yn symud i ardal newydd ac yn cario enw’r hen gartref, neu enw o ardal ei hen gartref, gydag ef i’w ardal newydd. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae llai na milltir rhwng y lleoliad gwreiddiol a lleoliad yr ailblannu, o lannau Ogwan i Gaellwyngrudd.

I lawr â ni at Ogwan felly. Yn Bryn Bela gwelwyd fod gobeithion ers canol y 18fed ganrif am fwyngloddio copr ar lannau’r afon  ger Parc Moch, ac mae olion o’r gwaith cynnar hwnnw yno o hyd. Yn yr ardal, yn ôl Llyfr Rhenti Degwm 1795-6, yr oedd lle o’r enw, yn amlwg wedi ei gofnodi gan Sais, ‘Ty Moon’, ‘late in the receipt of Mr Pugh, sef perchennog Stâd Coetmor, gyda rhyw Richard David yn talu £1:11:6 o rent.( Arch Prif Ban PENRA 2809 ) Nid yw’r rhestr wedi ei threfnu yn ddaearyddol, ond roedd yr ardal lle gwelir Ty Mwyn yn y Cyfrifiadau, sef ger Bryn Bela, yn rhan greiddiol o Stâd Coetmor.

Cyfeiriad at Ty Moon yn Llyfr Rhenti Degwm 1795-6 ( PENRA 2809 )

Nid oes sôn am Ty Mwyn yng nghyfrifiadau 1841 – 1861, ond, yng Nghyfrifiad 1871 gwelir yn ardal Bryn Bella, dy o’r enw ‘Ty Mwn’, mae yno eto yn 1881, ond dan yr enw mwy Seisnig Ty Moon y tro hwn. Nid yw ei absenoldeb o restrau Cyfrifiad yn tystio dim ond nad oedd rhywun yn byw yn y bwthyn, gan, yn amlach na heb, ni nodid ty heb breswylwyr ar Gyfrifiadau – cyfrif y bobl oedd yn bwysig, nid cyfrif y tai. A derbyn tystiolaeth y Cyfrifiad, roedd Ty Mwn/ Moon rhwng y Coetmor Arms ( Ty Coetmor heddiw ) a Pharc y Moch, sy’n cydfynd a’r hyn a wyddys amdano. Mae map llaw Penrhyn ( APB PENRA 2218 ) yn dangos adeilad, nas enwir, yn y cae rhwng y Coetmor Arms ( Ty Coetmor heddiw) / tai Parc y Moch, a’r afon, rhywle tua’r lle y mae’r llwybr mynediad i Lôn Las Ogwen heddiw, ond nid oes unrhyw olion yn y fan erbyn hyn. Gallai hwn yn hawdd, yn ôl ei leoliad ar y Cyfrifiadau, fod yn Ty Mwyn.

Rhan o fap Rhan Uchaf Llanllechid 1855( PENRA 2218 ) yn dangos yr ardal o gwmpas Bryn Bela

Nid ymddengys enw’r ty ar Gyfrifiad 1891. Fe wyddys i lwybr rheilffordd Bangor-Bethesda, a agorwyd yn 1884, olygu chwalu 5 o fythynnod ym Mryn Bella,( bythynnod a ddangosir ar Fap 1855 ( PENRA 2218 ) yn ymestyn i lawr o Fwthyn Bryn Bela heddiw at Fferm Melin Coetmor, yn union ble mae’r bont reilffordd bresennol, ac mae llwybr y rheilffordd yn union yng nghefn Ty Coetmor a Pharc y Moch. Tybed ai dyna ffawd Ty Mwyn, hefyd? Beth bynnag, rywdro wedi hyn fe symudwyd yr enw a’i roi ar dy oedd eisoes yn bod, sef ty a adwaenid fel 123 Caellwyngrydd North. Tybed pwy a gadwodd yr hen enw yn fyw, a’i roi ar ei dy,a pham y gwnaeth hynny? Nid trigolion olaf Ty Mwyn oedd yn gyfrifol, oherwydd, erbyn 1891, y mae’r rheiny, sef Catherine Williams, gyda mab a dwy ferch, wedi symud i 20 Penybryn, Bethesda. Gyda llaw, nid oedd Catherine wedi heneiddio dim mewn 10 mlynedd, gan y nodir ei hoed yn 68 oed yn y ddau Gyfrifiad, ond mae amser wedi gafael yn ei phlant, gan eu bod hwy ddeng mlynedd yn hyn erbyn 1891.

!

i’r cychwyn

Ty Slatas

Mae Ty Slatas yng nghesail y Carneddau, yn un o’r daliadau olaf cyn cyrraedd Cwm Pen Llafar, ac yn terfynu ar yr afon, a Thyddyn Du, a Gwern Saeson Fawr ( pan oedd honno’n bod ). Nid yw yn Arolwg 1765 o dir y Penrhyn, gan nad oedd yn eiddo i’r stâd, ond roedd yn bodoli, gan fod treth tir yn cael ei thalu arno yn 1775, a nodir y perchennog yn 1795 fel Owen Wynne, Esq. Yn Arolwg Degwm 1838-40, nodir y tirfeddiannwr fel y Parch Morris Hughes, gyda John Williams yn denant. Nodir fod y fferm yn 55 acer o faint; nid oes sicrwydd ble’r oedd y tir hwnnw, gan nad oes tir ynghlwm wrth Ty Slates heddiw. Gallai fod yn dir mynydd, neu gallai peth fod wedi mynd i’r Tyddyn Du cyfagos. Ynr hyfedd iawn, ni nodir Tyddyn Du ar yr Arolwg Degwm, er ei fod yno, gan ei fod mewn dwylo preifat, ac i’r perchennog, un Jane Williams, ddechrau’r ganrif adael swm sylweddol yn ei hewyllys i brynu beiblau i blant y tlodion yn Llanllechid.

Parthed enw Ty Slatas, mae tuedd iddo gael ei ynganu gydag R o flaen yr S ar y diwedd;rhydd hynny’r argraff mai ty pobl oedd yn gosod llechi ydoedd. Ategir hyn gan enghreifftiau eraill o’r enw – er enghraifft, yn Llandegfan, Henryd, a Llanrug; yn y rheiny, mae’n debyg mai’r ystyr o gartref towyr sydd i’r enw. Ar fap OS 1889 Ty Slatters a ddangosir, sef y ffurf lafar leol. Am mai dewis enwau i’w hegluro o fap a wnai, gwnaeth y map OS i’r Athro J Lloyd Jones, yn ei lyfr Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, egluro’r enw fel cartref towyr

Fodd bynnag, nid y bobl sy’n gosod y cerrig roddod yr enw i’r tai, ond, yn hytrach, y cerrig eu hunain, gan mai’r ffurfiau ysgrifenedig cynnar yn rheolaidd yw Ty Slates/ Slatas. Er mai ‘llechi’ yw’r gair am y cerrig ers talwm, yr enw Saesneg ‘slates’ gydag ynganiad ffonetig ddaeth i’r Gymraeg gyntaf. Noda GPC y defnydd o ‘slaten’, ‘yslatys’, a ‘slates’ o 1674 hyd ddiwedd y 18 ganrif. Eto roedd ‘llechi’ a llechen’ yn bodoli o flaen slates’, yn ymddangos fel carreg wastad – llech – yn y Canol Oesoedd, ac yn 1547 noda William Salesbury

                    llech neu ysclatyssen, a sclate.

Cyfeirio at y llechi y mae Ty Slates, ond nid ty wedi ei wneud o lechi ydyw, ond, yn hytrach dy wedi ei doi gyda llechi, a hynny mewn oes pan mai to brwyn, neu wellt,  oedd i’r rhan fwyaf o dai, hyd yn oed yn Nyffryn Ogwen, ble’r oedd llechi yn cael eu cynhyrchu ers canrifoedd. Er mai yn yr 1780au y daeth Chwarel Braich y Cafn i fodolaeth, yr oedd llechi yn cael eu cynhyrchu gan chwarelwyr unigol ers canrifoedd, a’u cario i Aberogwen mewn basgedi gan ddynion, neu gan bynfeirch, i’w gyrru i Loegr i doi adeiladau arbennig. Yn niwedd y 15ed ganrif, roedd rhai miloedd o lechi yn cael eu hallforio o Aberogwen. Gan fod y llechi yn ddrud, ni fyddent yn  cael eu gwastraffu ar doeau tai yn lleol, nac o fewn cyrraedd ariannol y rhai oedd yn codi tai; byddai llechi ar do ty lleol, felly, yn eithriad, ac yn ddigon i’r ty hwnnw gael ei enw o’r ‘slates’ ar ei do.

Tyn Hendre/ Tyddyn Hendre

 ( Mae gennyf drafodaeth fanwl ar Dyddyn Hendre ar safwe Hanes Dyffryn Ogwen. Bydd diweddariad ohoni ar fy safwe newydd Ffermio yn Nyffryn Ogwen, pan fydd honno wedi ei datblygu )

Am Tyddyn/Tyn , dilyner y ddolen

Hendre

Mae’r gair hwn yn mynd â ni yn ôl at gyfnod cynnar yn hanes cymdeithas Cymru. Cartref sefydlog y teulu oedd llawr gwlad. Yno yr oedd y fferm sefydlog; hon oedd yr ‘hendref, sef y dref wreiddiol, y fferm gartref. Fodd bynnag, yn yr haf, sef rhwng Calan Mai ac Awst, neu Fedi,  byddai’r teulu cyfan, neu’n amlach, ran ohono, yn bobl ifanc, neu weision, ynghyd â’r anifeiliaid, yn symud yn uwch i fyny’r mynydd, oherwydd fod porfa yno i’r anifeiliaid, ac fe ellid tyfu cnydau ar dir yr hendref. Dyma’r ‘hafod’, sy’n dod o’r geiriau ‘haf’ a ‘bod’ ( ‘trigfan’, fel yn yr enwau lleoedd sy’n cychwyn gyda ‘Bod’). Yn amlach na heb, oherwydd natur dymhorol yr hafod, ni fyddai adeiladau parhaol yno, dim ond rhyw gysgod, neu adeilad syml, dros dro, wedi ei wneud o ganghennau coed. Os gwneid adeilad mwy parhaol, byddai hwnnw yn cael ei alw’n ‘hafoty’.

Dyma ddywed Hyde Hall yn ei Desription of Caernarvonshire 1809

When the cattle are driven in the summer up the mountain, milch cows are also sent, and with them go the milkers, for whose temporary residences hafotty or summer houses are built.

sy’n dangos fod y drefn, oedd yn adfeilio yng Nghymru erbyn hyn, yn parhau yn yr ardal hon ar ddechrau’r 19eg ganrif.

(Hanner ffordd i fyny Cwm Nanafon, ceir y gorlan Buarth Merched Mafon, a enwyd, yn ôl yr hanes, oherwydd mai yno, ddwywaith y dydd yr yn haf, y cesglid y gwartheg oedd ar y mynydd, er mwyn eu godro gan ferched, neu forynion, y tirfeddiannwr lleol, Mafon ( a roes ei enw, gyda llaw, i’r Nant). Roedd y gwartheg, dros yr haf, ar y llethrau cyfagos.)

Am ganrifoedd yr enw ar yr holl dir ar waelod plwyf Llanllechid, ble mae Tyn Hendre, a gweddill ffermydd yr ardal, oedd Yr Hendre, sef y fferm gartref.

Dyma ichi Hyde Hall eto

‘In the tract called Hendre agriculture is chiefly pursued’

Ac mae Hugh Derfel Hughes yn sôn am ‘rai ffermydd yn yr hendref’, sy’n dangos fod yr ardal yn dal i gadw’r enw yn ei oes ef ( 1860au)

Tyn Twr

Erbyn hyn, yn enw ar ardal fechan o dai, a hen ysgol,o boptu’r afon Ogwen ble mae Pont y Twr yn ei chroesi, ac yn cysylltu plwyf Llandygai efo plwyf Llanllechid, ond, yn wreiddiol, dim ond ar ochr Llanllechid i’r afon yr oedd Tyn Twr. Mae’r cymryd yr enw o’r twr canoloesol oedd yno, sef y twr arsyllu a godwyd gan Llywelyn ap Gruffydd ar y graig uchel ar lan ogledd-ddwyreinol Ogwen, er mwyn cadw golwg ar y man lle croesid yr afon, ac i gadw golwg ar y bwlch pwysig trwy Eryri a ddeuai i lawr Nant Ffrancon. Mae’r graig honno yn parhau’n amlwg ar safle tai Tyn Twr heddiw, rhwng y tai a’r gyffordd efo’r A5. Sonnir amdano yn 1254, a daeth Iorwerth 1af i’w weld yn 1283 (Dr J Llywelyn Williams Abercaseg Hanes Dyffryn Ogwen ). Yn 1458 nodir i’r twr gael ei drosglwyddo i feddiant teulu Griffith, Y Penrhyn. Erbyn 1768, yn ôl Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn, yr oedd fferm eithaf sylweddol, 133 acer, o’r enw Tyn Twr ( < tyddyn y twr) wedi cymryd ei henw o’r twr canoloesol, gyda’i hadeiladau yn ardal yr hen dwr – y darn bychan o dir ger y graig oedd Llain y Twr. Dyma ble’r oedd y ty gwreiddiol, a alwyd yn lleol yn dy Sion Iorc, oherwydd y stori i John Williams, Archesgob Efrog, ( Sion Iorc ) un o deulu Penrhyn a Chochwillan, a gwr a brynodd y ddwy stâd, a’u huno, orfod cuddio yno yn ystod trafferthion y Rhyfel Cartref. Nid ef a adeiladodd y ty, oherwydd mae hwnnw’n dyddio’n ôl tua dwy ganrif ynghynt na John Williams. Roedd y fferm yn ymestyn o’i therfyn â Dolawen, ar hyd Ogwen, ar draws fforch Caseg, at yr isaf o’r ddwy, ar hyd Caseg hyd ei therfyn gyda Chwlyn, ac i fyny Braichmelyn. Gyda datblygiad y chwarel, ac adeiladu tai ar gyfer y gweithwyr, dadfeiliodd y daliad amaethyddol, a daeth daliadau newydd Penrhiw a Phenygraig yn y tiroedd tameidiog oedd ar ôl. Cadwyd yr enw yn yr hen dy, a adawyd i ddadfeilio, nes ei achub gan berchennog newydd yn ail hanner yr 20fed ganrif, ar y tai adeiladwyd ar iard yr hen fferm, ac ar y tai a’r ysgol a godwyd yr ochr arall i’r afon.

%d bloggers like this: