Awdur: Dafydd Fôn Mai 2020 ymlaen
Cae Clochydd Cae Gwilym Ddu Caerberllan Cae’r Ffynnon Cae Groes Cae Ifan Gymro Caellwyngrydd Cae Rhys Wiliam Capel Cwta Capel Llechid Capel Ogwen Cochwillan Coed Hywel Carneddi Chwarel Cae Coed y Parc Corbri Cornelius Cororion Ciltwllan Cilfodan Ciltrefnus Cilgeraint Cwlyn Dinas/ Pendinas Cymysgmai Dol Brydain Dologwen
Cae Clochydd
Heddiw mae Cae Clochydd yn rhes o dri o dai yn y Carneddi. Cawsant yr enw oherwydd iddynt gael eu hadeiladu ar gae o’r un enw. Rhyw ganrif a hanner yw oed y tai, ond nid felly’r cae, sydd ganrifoedd yn hyn. Un o gaeau fferm hynafol Cilfodan oedd Cae Clochydd; ceir cyfeiriad ato, ynghyd ä chaeau eraill y fferm, yn 1629, pan mae un o feibion Cochwillan, sydd wedi sefydlu yn y Faenol, yn gwerthu rhent y cae, ynghyd â nifer o gaeau eraill. Sonnir amdano, wedyn, yn 1660, yn 1691, yn 1733/3, ac yn 1846. Mae’n amlwg ei fod yn gae llawer iawn mwy nag yw heddiw, yn ymestyn o’r afon Ffrydlas, uwchben ffordd Bont Uchaf, a draw hyd at Pencarneddi, oherwydd, yn 1846, rhoddir ar rent blynyddol o £6:5:0 i William Evans Bont Uchaf, gan ei berchennog, Owen Ellis, Cefnfaes
‘ a parcel of land called Cae’r Clochydd, bounded on the south east by the river Ffrydlas, and, on the west, by the road leading from Pencarneddi to Bont Uchaf’.
sy’n dangos fod y cae yn un sylweddol, yn ymestyn o’i leoliad presennol yr holl ffordd at afon Ffrydlas ger Allt Picyn ( Glanrafon ). Ar y cae hwn yr adeiladwyd, ymhlith eraill, dai Bontuchaf, Cilfodan, a Ffordd Carneddi, yn ogystal â thri thy Cae Clochydd
O safbwynt yr enw, roedd y Clochydd yn swyddog eglwysig wedi ei urddo i wasanaeth yr eglwys. Roedd yn swyddog plwyf, yn cynorthwyo’r offeiriad yn y gwasanaeth ac yn gofalu am yr adeilad a’i ddodrefn ac yn gyfrifol hefyd am ganu’r clychau a thorri beddau. Yn aml, byddai clochydd yn mynd yn ei flaen i fod yn offeiriad.
Mae’r enw Cae Clochydd yn awgrymu mai rhyw glochydd penodol, neu pob clochydd,yn rhinwedd ei swydd fel clochydd, ( swyddog eglwys Llanllechid, mae’n fwy na thebyg ), oedd piau’r cae ar un adeg, ( cyn 1629, mae’n amlwg ).
Er y gallai hynny fod yn wir, y tebygrwydd mwyaf yw fod rhent y cae, neu gyfran o’r rhent, yn mynd i gynnal y clochydd lleol.
Gellid, hefyd,fod y degwm ( = un rhan o ddeg o gynnyrch tir oedd yn mynd i gynnal yr eglwys yn flynyddol ) yn mynd at gynhaliaeth y clochydd.
Rhag i hyn fod yn rhy gymhleth, dyma’r ystyron posibl i Cae Clochydd ( o ddyddiau cyn 1629, yn amlwg )
Cae oedd yn eiddo i rhyw glochydd penodol ar un adeg
Cae oedd yn eiddo i pwy bynnag oedd yn dal swydd clochydd ( eglwys Llanllechid, yn fwyaf tebygol)
Cae y mae ei rent yn mynd i gynnal y clochydd
Cae y mae ei ddegwm yn mynd i gynnal y clochydd
Cae Gwilym Ddu
(Gellir gweld erthygl ar y daliad hwn gan Dr John Llywelyn Williams yn y safwe Hanes Dyffryn Ogwen)
Roedd Cae Gwilym Ddu yn ddaliad o 56 acer, wedi ei leoli yn fras yn yr ardal ble heddiw mae Talybont Uchaf, Tyddyn Hendre, a Than Rallt. Oherwydd ad-drefnu ar ddaliadau a therfynau yn hendref Llanllechid rhwng 1840 ac 1860, mae’n hynod o anodd nodi’n union ble’r oedd yr hen derfynau. Bu cymaint o newid, fel y byddai yn hynod anodd gosod map o Lanllechid ar fap o’r ardal bresennol. Yn ogystal, mae’r A55 wedi torri trwy’r union ardal ble’r oedd tir Cae Gwilym Ddu. Digon yw nodi i Gae Gwilym Ddu ddiflannu, ac roedd hynny wedi digwydd cyn yr Arolwg Degwm, oherwydd nid yw’n ymddangos ar honno. Yn Arolwg 1765 mae’n ymddangos rhwng Cae Mawr a Winllan, ac yn terfynu ar Tan yr Allt, y ddau ddaliad cyntaf yn ddau arall sydd wedi diflannu, ond y gellir eu lleoli. Mae ty Cae Mawr heddiw ger Gatws, tra soniwyd am Winllan ar y safwe hon.
Mae cymhlethdod arall gyda daliad Cae Gwilym Ddu. Yn gyntaf, mae cae 16 acer ar y daliad gyda’r un enw, sef Cae Gwilym Ddu, sy’n awgrymu mai dyma ganolbwynt y fferm. Pan ystyrir fod darn arall o dir o’r enw Yr Allt Goed, yn 23 acer, yn rhan helaeth o’r 56 acer, ac yn amlwg yn dir anghynyrchiol, mae’n sicr mai’r cae a enwyd yw canolbwynt y fferm. Y peth rhyfedd yw nad yw’n arferol cael yr un enw ar ddaliad ac ar gae ar ei dir. I gymhlethu pethau ymhellach, roedd dau gae o’r enw Cae Gwilym Ddu ar dir Tan yr Allt, a’r rheiny’n gaeau sylweddol o 10 ac 8 acer. A oedd y rhain, unwaith, yn rhan o ddaliad mwy gyda’r enw Cae Gwilym Ddu?
Bu ad-drefnu helaeth ar diroedd y Penrhyn rhwng 1850 ac 1870 ( http://www.ffermioynllanllechid.com), ble’r unwyd daliadau, ac aildrefnwyd caeau; un o’r newidiadau hyn oedd ehangu’n sylweddol hen fferm Tyn Hendre i lunio’r fferm fawr bresennol. Mae map 1871 o diroedd y Penrhyn yng ngwaelod Llanllechid ( PENRA 2221 ) yn dangos dau gae wrth ochr ty ac adeiladau fferm Tyn Hendre, dau gae sy’n cael eu henwi fel Cae Gwilym Ddu, a Chae Garnedd Ddu ( efallai mai’r ail oedd lleoliad yr hen garnedd, ac i’r enw gael ei gywasgu o ‘Cae Carnedd Cae Gwilym Ddu’)

Yn Hanes Dyffryn Ogwen, mae Dr John Llywelyn Williams yn awgrymu y gallai mai Gwilym Brewys yw’r Gwilym Ddu, ac mai yma y’i claddwyd wedi ei grogi gan Lywelyn Fawr yn dilyn ei gamymddwyn gyda Siwan, gwraig Llywelyn. Mae’n amlwg fod hyn yn rhan o lên gwerin ardal Llanllechid pan ddaeth Pennant heibio ddiwedd y 18ed ganrif. Dyma ei eiriau ef
‘In my way, near a field called Cae Gwilim Ddu, is an artificial cave, in which ( tradition says ) was interred William de Breos, executed by Llywelyn the Great, on suspicion of too great familiarity with his consort’
Dri chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Hugh Derfel Hughes, yntau, yn gyfarwydd a’r un traddodiad lleol, ond mae ef yn fwy amheus o’r traddodiad am gladdu Gwilym de Breos yno
‘a phan agorwyd y garnedd yng Nghae Gwilym Ddu…. cael yn honno amryw gelfi o efydd na wyddid eu diben,a darn o freuan. Hwn yn ol rhai oedd Gwilym de Breos …. ond tybia eraill y perthyn i gyfnod llawer cynt’.
Un peth diddorol yw fod Hugh Derfel yn cyfeirio at Gae Gwilym Ddu fel lle cyfarwydd iddo yn 1866, er nad oes cyfeiriad ato fel daliad annibynnol yn 1838-40.
Nid yw William William, yn ei gyfrol ‘Observation on the Snowdon Mountains’, 1802, ychwaith yn cysylltu Gwilym Ddu’r daliad gyda William de Braose, pan ddywed ef, wrth sôm am gromlechi cynoesol ‘Another has been opened in my lifetime at a place called Cae Gwillim ddu, in the parish of Llanllechid.…… in which,as I have been informed, some brass utensils were found in a small chamber underneath. Byddai hyn yn cydfynd gyda dyddiad cynhanesyddol i’r gromlech hon, fel y gweddill, a byddai’r llestri pres, hwythau, yn cydfynd gydag arfer pobl Oes y Pres cynnar yn claddu eu meirwon yng nghromlechi eu gorffennol, sef Oes y Cerrig.
Rhaid inni dderbyn mai peth hynod beryglus yw rhoi coel yn ddigwestiwn ar ddilysrwydd traddodiad gwerin, yn enwedig felly mewn ymgeisiadau i egluro enwau lleoedd. Gellir edrych ar ymdrechion yn y Pedair Cainc i egluro enwau, megis Talybolion yn dod o’r lle y talodd Bendigeidfran ebolion i Fatholwch am ei sarhâd, neu sawl enghraifft trwy hanes, gan gynnwys sawl un amheus gan Hugh Derfel ei hun. Dim ond gyda Syr Ifor Williams, rhyw ganrif yn ôl, y symudodd egluro enwau lleoedd yn y Gymraeg o fyd y ffansi a ffantasi i’r byd gwyddonol/ ieithyddol/ hanesyddol. Mae esboniadau gwerin yn gyffredinol yn tueddu i weld brwydrau a chladdfeydd arwyr hanesyddol neu chwedlonol yn y rhan fwyaf o enwau. Bu carneddau a thomenni claddu trwy’r oesoedd yn destun dirgelwch, ac yn y nawfed a’r ddegfed ganrif canwyd Englynion y Beddau, sy’n gweld beddau arwyr chwedlonol a hanesyddol yn y carneddau niferus oedd o gwmpas. Beth am Garnedd Dafydd, a Charnedd Llywelyn? A ydym yn credu heddiw mai dyma eu beddrodau? Cyhyd ag y mae Gwilym Brewys yn y cwestiwn, ar wahân iddo gael ei grogi gan Lywelyn Fawr, mae ansicrwydd hollol am bopeth arall, gan gynnwys man ei grogi. Y gred gyffredinol yw mai yng Nghastell Crogen, yn ardal Llandderfel, ger y Bala, y digwyddodd hynny, ond bu’r ansicrwydd yn ddigon i greu cysylltiad lleol yn Llanllechid. Mae sylw Hugh Derfel yn ein sicrhau mai carnedd cynoesol oedd ar dir Cae Gwilym Ddu, ac mae hynny, ynddo’i hun, yn ddigon i fwrw amheuaeth cryf iawn ar gysylltiad y tir gyda Gwilym Brewys.
Gydag enwau lleoedd gweddol syml, mae’n llawer iawn mwy rhesymol, heb sôn am ddiogel, derbyn yr eglurhâd syml, a pheidio ildio i demtasiwn y dychymyg. I ddechrau, pan ddilynir ‘cae’ gan enw person, y person hwnnw, fel arfer, oedd perchennog , neu denant, y cae, un ai yn wreiddiol, neu ar adeg pan ymsefydlogwyd yr enw. Am Gwilym, mae’n enw hynod o gyffredin yng Nghymru’r Canol Oesoedd, ac wedi hynny, ac mae Du yn epithet cyffredin iawn. Pwy na chlywodd am y bardd Robert ap Gwilym Ddu yn nechrau’r 19eg ganrif? Yn ogystal, yr wyf yn weddol sicr imi weld cyfeiriad at berson o’r enw Gwilym Ddu ( neu fab i berson o’r enw ) o Fodfeio fu’n gweinyddu ar reithgor yn Llys Caernarfon yn ail hanner y 14eg, a byddai hynny yn golygu ei fod yn dirfeddiannwr yn y drefgordd.Bydd raid dychwelyd i’r ffynonellau!
O safbwynt enw’r daliad Cae Gwilym Ddu, byddwn yn barod i fentro mai enw daliad cyffredin wedi ei enwi ar ôl perchennog, neu ddeiliad, gyda’r enw cyffredin Gwilym, a’r epithet hynod gyffredin ‘Du’, sydd yn yr enw, ac mai ffansïol hollol yw cysylltu’r lle â Gwilym Brewys, oherwydd fod carnedd o Oes y Cerrig digwydd bod ar y tir. Wedi’r cwbl, fyddwn i ddim yn credu fod Arthur yn gorwedd mewn unrhyw ogof, na Rhita Gawr wedi ei gladdu ar y Wyddfa, mwy nag y byddwn yn chwilio am Gelert yn ei Fedd.
Nid yw.ychwaith, fel petai Gwilym Ddu ar ei ben ei hun mewn enw tir yn yr ardal. Dyma ichi rai tiroedd eraill –o amrywiol faintioli – yn Nyffryn Ogwen a enwyd ar ôl perchennog, neu ddeiliad mewn rhyw oes.
Cae Rhys Powel 19 acer Maes y Penbwl
Bryn Robert William 5 acer Maes y Penbwl
Cae Cadog Goch 1 acer Aberogwen
Cae Gwalchmai 19 acer Coed y Parc
Bryn Cae Heilyn 8 acer Tai’r Meibion
Bryn Cae Heilyn Bach 6 acer “ “
Bryn Cae Heilyn Coed 7 acer “ ‘
Gweirglodd Barbra 2 acer “ “
Gweirglodd Ellen 4 acer “ “

Caerberllan

Rhes o dai bychain yng nghysgod craig fawr Braichmelyn yw Caerberllan, rhes sy’n destun llun yn aml. Mae eu natur a’u ffurf, yn ogystal â’u lleoliad,yn dangos yn glir eu bod yn perthyn i’r tai cynharaf a godwyd yn agos i Chwarel Braich y Cafn ym mlynyddoedd cynnar honno, ac mae eu natur yn awgrymu’n gryf fod yr hyn a ddywedwyd am dai Braichmelyn yn berthnasol i Gaerberllan hefyd. Yn ôl Cyfrifiad 1841 yr oedd 13 ty yn cario’r enw, ac, er mor fychan oeddynt, yr oedd 86 o bobl yn byw ynddynt, rhwng 6 a 7 i bob ty ar gyfartaledd. O’r 86 hynny yr oedd 39 yn blant; yn arwyddocaol o’r cyfnod, yr oedd nifer o’r bechgyn yn cael eu disgrifio fel ‘quarryman’, gan gynnwys dau oedd yn 10 oed, a 3 oedd yn 12. Yr oedd ambell lojiwr yn y tai hefyd, sy’n rhoi coel i’r dywediad mewn sawl ardal ddiwydiannol na fyddai gwely fyth yn cael amser i oeri- fel y codai un ohono, byddai un arall yn mynd i glwydo iddo. Eto byddai hyn yn fwy gwir am ardaloedd diwydiannol y de a’r gogledd ddwyrain, ble’r oedd gwaith yn digwydd bedair awr ar hugain y dydd, nag yn yr ardaloedd chwarelyddol, ble mai yng ngolau dydd y digwyddai’r gwaith yn y chwarel. Yn 1851 mae 17 o dai yn cario’r enw, Caerberllan, sy’n fwy nag sydd yno heddiw, gyda 103 o bobl yn byw ynddynt, ac eto mae nifer o blant a sawl lojar yn y tai bychain hyn, gyda’r mwyafrif llethol o’r penteuluoedd , a’r meibion i gyd, oedd mewn oedran gweithio, yn chwarelwyr.
O safbwynt yr enw, yr arfer gyda’r tai cynnar, lle nad oedd angen unrhyw gyfeiriad penodol, oedd galw’r holl dai wrth enw’r tir y’u codwyd arno, heb rif arbennig i unrhyw un ohonynt, felly Caerberllan oedd enw pob un o’r tai. Fe wyddom mai ‘perllan’ yw tir caeedig (‘ llan”) ar gyfer tyfu coed ffrwythau pêr, afalau, fel arfer, ond eirin a gellyg, hefyd, felly dyna leoliad y tai, a hwnnw’n gae ar dir fferm Tyn Twr. Yn ôl Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768, yr oedd perllan ger ty’r fferm, tra’r oedd cae o’r enw Cae Cefn y Berllan wrth ei ochr. Roedd ty ac adeiladau fferm Tyn Twr, yn bennaf, ble mae tai Tyn Twr heddiw, tra’r oedd y llain hirgul a chae Cefn y Berllan draw heibio’r graig fawr. A dyna ble mae Cae’rberllan heddiw, yn agos iawn i adeiladau’r fferm – dim ond ar draws yr A5 heddiw, ond fod y ffordd fawr wedi newid ein perspectif yn llwyr, gan greu rhwyg ar draws patrwm yr hen fferm.
Caellwyngrydd

Mae ambell enw yn enigma, yn enw sy’n edrych yn hynod o syml, ac nad oes angen ei egluro, ond eto yn ddirgelwch llwyr, yn amhosibl ei egluro. Un o’r enwau enigmatig hynny ydy Caellwyngrydd, yn enw sy’n edrych yn hynod o syml, ond yn enw y mae’n rhaid ichi, yn y pen draw, roi eich llaw i fyny a chyfaddef na ellwch mo’i egluro.Daliad 22 acer oedd Caellwyngrydd, yn sefyll rhwng Tyn y Ffridd a Than y Bwlch. Nid oedd yn perthyn i’r Penrhyn, gan nad yw ar Arolwg 1768 o dir y stâd. Gallai fod yn perthyn i stâd fechan Tan y Bwlch, neu i stâd fwy Coetmor, gan ei fod yn terfynu ar diroedd y ddwy stâd. Mae Dr John Llywelyn Williams yn sôn ei fod yn eiddo i Blas Pistyll yn yr union ardal, ond nid wyf yn gwybod dim am y fan honno, ar wahan i’w fodolaeth fel ty ar sgwâr Rachub, bellach yn un o res tai. Beth bynnag, roedd Caellwyngrydd yn cael ei ffermio, gan fod treth dir o 5 swllt yn cael ei dalu arno yn 1791. Fodd bynnag, erbyn Arolwg Degwm 1838-40, nodir ‘now built upon’. A dyna hanes y tir, diflannu o dan dai, yn bennaf ar gyfer gweithwyr chwarel gyfagos Bryn Hafod y Wern, a agorwyd ddiwedd y 18fed ganrif. Yn 1841, roedd 162 o dai yno, ac, am sawl Cyfrifiad, fel Caellwyngrydd ( North a South ) yr adwaenid y cyfan o’r tai, gyda rhif gwahanol i bob un, ac felly y parhaodd pethau am sawl degawd. Erbyn Cyfrifiad 1891 mae’r ychydig o dai a elwid Rachub wedi cynyddu’n sylweddol, ond mae nifer fawr o dai o’r enw Caellwyngrydd o hyd , ond, erbyn Cyfrifiad 1901 mae Caellwyngrydd wedi rhannu’n strydoedd gydag enwau gwahanol, ( un enw diddorol, nad yw’n bod heddiw, oedd ‘Powls Street’, wedi ei enwi, mae’n siwr, ar ôl y tyddyn ‘Bowls’ yn Llanllechid; pam, tybed?) ond mae tai Rachub yn parhau, ac mae Rachub wedi mynd yn enw ar y pentref cyfan erbyn hyn, ac wedi disodli Caellwyngrydd. Erbyn heddiw diflannodd yr enw,fwy neu lai, ac ychydig o drigolion y dyffryn sy’n ei gofio.Fel y nodwyd, enigma yw’r enw, gan ei fod yn edrych mor syml, ond eto yn aneglur.Does dim problem gyda Cae, a dim problem gyda Llwyn; gyda’r elfen olaf y mae’r anhawster, oherwydd does gennym ddim syniad beth ydy ‘grydd’.Gyda’r mwyafrif llethol o’r enwau sy’n cynnwys ‘llwyn’, dilynnir ef un ai gan enw person, enw’r coed, neu ansoddair. Does yr un enghraifft ar gael o ‘grydd’, na ‘gwrydd’ fel enw personol, ond gallai fod yn un eithriadol, sydd heb ei gofnodi. Nid ‘crydd’ sydd yn yr enw, oherwydd ni fyddai yn treiglo, a cheid ‘llwyncrydd’. Nid oes coeden o’r enw ‘grydd’, ond fe geir planhigyn o’r enw ‘gwrydd’ ( Saeseg Old Man’s Beard’.. Y broblem efo hwnnw ydy nad llwyn ydy ‘gwrydd’, ond planhigyn sy’n byw ar blanhigyn arall, megis y mae uchelwydd yn wneud. Gellid cael llwyn sydd gyda gwrydd yn drwch arno, wedi ei orchuddio, ac mai hynny roes ei enw i’r lle. Posib, ond amhosib dweud i sicrwydd.
.
Gwrydd yn tyfu ar goeden arall
Felly, does dim eglurhâd terfynol ar enw Caellwyngrydd ( ar lafar aeth yn Callong-grudd), mwy nag oes eglurhâd pam y disodlwyd yr enw ar hen bentref gyda chymaint o dai gan enw ar ychydig o dai ar ei gyrion, a daeth Caellwyngrydd yn Rachub
Cae’r Ffynnon
Mae Cae’r Ffynnon ar Lôn Bronnydd, yn edrych i lawr ar Nant y Garth. Does dim sôn am y lle yn yr Arolwg o diroedd y Penrhyn yn 1768, ond mae’n ymddangos ar Arolwg Degwm 1838-41 fel daliad 6 acer – digon o dir i Owen Morris ddisgrifio ei hun fel ‘farmer’ yng Nghyfrifiad 1841!
Does dim byd arbennig yn yr enw, yn sicr, nid o ran yr ystyr, hyd nes y mae rhywun yn sylweddoli mai’r ‘ffynnon’ yn yr enw , mae’n sicr, yw Ffynnon Llechid, sef ffynnon oedd wedi ei henwi ar ôl santes y plwyf. Roedd Ffynnon Llechid yn un o’r ffynhonau niferus yng Nghymru Babyddol yr Oesoedd Canol a gysylltid gyda seintiau, ac yr ystyrid fod rhinweddau arbennig iddynt. Mae’n debyg mai’r enwocaf yw Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, ond roedd llawer iawn o ffynhonau gyda rhinweddau arbennig trwy’r wlad, a thua 500 ohonynt wedi eu cysegru i seintiau Cristnogol. Roedd Ffynnon Beuno yn un arall enwog, ac roedd Ffynnon Eilian yn Llaneilian yn Rhos yn un lle gellid mynd ati i felltithio rhywun. Roedd rhai ffynhonnau yn enwog yn lleol, tra’r oedd eraill yn denu pereinion o bell ac agos. Roedd nifer o ffynhonnau fel hyn ar lwybrau’r pererinion i Enlli, ac mae’n arwyddocaol fod Ffynnon Llechid ar lwybr pwysig y gogledd i Enlli, ac wrth ochr y brif ffordd ganoloesol ( a chynt ) o Gonwy i Gaernarfon ar y llwybr hwnnw.
Ond rhaid mynd yn ôl ymhellach nag oes y Seintiau i gael gwir hanes y ffynhonnau hyn. Un o brif dactegau’r Cristnogion cynnar i sicrhau sylfeini’r grefydd newydd oedd cymryd drosodd fannau cysegredig yr hen grefyddau paganaidd yr oeddynt am eu disodli, er mwyn dangos goruchafiaeth gweladwy dros yr hen grefydd. Mae enghreifftiau niferus o hen eglwysi cynnar sy’n amlwg wedi eu codi ar safleoedd paganaidd, ac mae ffynhonnau yn enghraifft dda iawn o’r arfer hwn, yn enwedig yn y gwledydd Celtaidd. Roedd dwr yn rhywbeth cyfriniol iawn i’r Celtiaid, ac roedd duwiau ac ysbrydion ym mhob afon, llyn, a ffynnon. Onid yw dwr yn hanfodol i fywyd, ac mae’r fan ble mae’n tarddu yn sanctaidd i bob crefydd? Efallai y gwyddoch am y trysorau a gafwyd yn Llyn Cerrig Bach at Ynys Môn yn y ganrif ddiwethaf, pethau a daflwyd i’r llyn i blesio’r duwiau gan y Celtiaid oedd y rheiny. Mae’r afon Hafren, wedi ei henwi ar ôl y dduwies Geltaidd Sabrina, a’r Boyne, Shannon, yn Iwerddon, y Seine yn Ffrainc, a nifer o afonydd eraill, wedi eu henwi ar ôl duwiesau Celtaidd. Yn yr un modd yr oedd ffynhonnau yn sanctaidd i’r Celtiaid. Oherwydd fod iddynt arwyddocâd mor arbennig i’r werin bobl, cymrodd y Cristnogion cynnar y rhan fwyaf ohonynt, rhoi enwau seintiau Cymraeg wrthynt, a’u mawrygu fel cynt, ond yn enw Cristnogaeth y tro hwn, a pharhau wnaeth yr hen rinweddau a roddid iddynt gan baganiaeth
Dyma beth ddywed Newell The History of the Welsh Church
The wells that had previously received Divine honours were consecrated to the saint, who used them for baptism, and too often the rites that had been performed of old were continued with a change of names
Yn aml iawn yn yr oes baganaidd, roedd cred fod gan y ffynhonnau hyn rinweddau iachusol, gyda gwahanol ffynhonnau yn gallu iachau gwahanol glefydau ( gan amlaf, roedd hyn yn wir oherwydd rhyw elfen gemegol, a mwynau, yn y dwr). Parhaodd hyn i’r oes Gristnogol. Mae Myrddin Fardd yn nodi fod Ffynnon Llechid yn enwog trwy’r wlad am allu’i dwr i wella clefydau’r croen, a dywed y byddai rhai yn teithio ati a hwythau ar fin marw, cymaint eu ffydd yn ei dyfroedd. Dywed Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, amdani
'i'r hon y priodolid rhinweddau iachusol gynt, ac o'r hon y byddai hen bobl Llanllechid yn arfer a galw am lymaid o ddwfr pan dybient eu bod ar fin marw!'
Yn agos iawn i Ffynnon Llechid, roedd Capel Llechid. Nid cyd-ddigwyddiad yw hynny, mae’n weddol sicr, gan mai manteisio ar ffynnon oedd yn enwog ers cannoedd o flynyddoedd a wnaeth adeiladwyr y capel. Roedd ei leoli yn ymyl ffynnon yn manteisio ar y rheiny a ddeuai ati am iachâd, yn ogystal â rhoi lle o addoliad iddynt.
Er i’r Diwygiad Protestannaidd yng nghanol yr 16eg ganrif geisio dileu credoau ac ‘ofergoeliaeth’ Catholigiaeth, fe barhaodd y gred mewn llawer iawn o’r ffynhonnau hyn ymhell i’r 19eg ganrif.
Roedd ARJones, Pen y Bryn, yn cofio pistyll yng Nghae’r Ffynnon, ond dywed iddo gael ei bibellu i seston yn ei hoes hi, felly, nid yw Ffynnon Llechid yn bod bellach fel ffynnon.
Felly, yn yr enw cyffredin Cae Ffynnon, mae gennym atgof am draddodiad, ac am safle, sy’n ymestyn yn ôl fwy na dwy fil o flynyddoedd, o leiaf, sydd ddwy fil o flynyddoedd yn hyn na Bethesda, a thua phymtheg cant o flynyddoedd yn hyn na’r Penrhyn: mae hynny’n sobreiddio dyn!
Cae Groes
Enw ar res o dai ym mhentref Rachub yw Cae Groes. Fe’i codwyd yng nghanol y 19eg ganrif, ac roedd 29 ty o’r enw yn ôl Cyfrifiad 1861; ni ellir dweud dim am 1851, gan i’r cofnodydd ar gyfer yr ardal hon benderfynnu peidio nodi enw unrhyw dy, dim ond rhoi rhif i bob cofnod unigol, felly, gallai fod yn disgrifio ardal ar y lleuad, gan lleied o werth sydd i’r hanesydd. Yn ôl map Arolwg o diroedd y Penrhyn 1768 ( PFA/6/153 ) roedd 5 cae cyffiniol ar dir fferm Talysarn y ddwy ochr i’r ffordd oedd yn mynd o Lanllechid i’r dwyrain, sef y ffordd bresennol o sgwâr Llanllechid i sgwâr Rachub, gan ffinio gyda thir Cefn Bedw ar y de, ble mae terfyn fferm bresennol Talysarn, a chyda lôn Tanybwlch, Plas Pistyll, a Chaellwyngrydd ar y dwyrain. Roedd 3 chae yn y fforch rhwng y ddwy ffordd, 6 acer, 7 acer, a 7 acer, y tri efo’r un enw, Cae’r Groes, tra’r oedd Cae’r Groes Bach, 4 acer, a Chae’r Groes Isaf, 6 acer, i’r de o’r brif ffordd. Mae’r enwau hyn yn dweud wrthym mai un cae oedd yma yn wreiddiol, cyn ei rannu yn unedau llai. Pan adeiladwyd tai ar ran un o’r caeau dwyreiniol, dilynwyd arferiad y cyfnod, ( a’r cyfnod hwn, hefyd, mewn sawl achos) gan alw’r holl dai wrth enw’r cae yr adeiladwyd .
Am ystyr yr enw, gellir cymharu Maes y Groes, Groeslon, a Rhyd y Groes. Wrth weld y gair ‘croes’ tuedd rhamantwyr o eglurwyr enwau llefydd yw gweld croes grefyddol ganoloesol ym mhob man sy’n cario’r enw. Tra’i bod yn wir fod croesau yn sefyll mewn mannau penodol yn y Canol Oesoedd, roedd yn debycach eu gweld mewn trefi, fel man canolog ble cynhelid ffeiriau ac ati. Mae’n wir, hefyd, fod ambell enw lle wedi ei enwi oherwydd bodolaeth croes benodol, mae Croesoswallt yn enghraifft. Fodd bynnag, yn llawer mwy arferol, mae’r groes yn cyfeirio at groesffordd, ble mae llwybrau, neu ffyrdd, yn croesi, ac, er fod eglwys Llanllechid o fewn lled cae i Gae’r Groes, mae’n fwy na thebyg mai dyma ystyr yr enw yn y achos hwn. Rhaid cofio fod uniad lôn Tanybwlch a lôn Llanllechid yma, a gellid fod llwybrau eraill yn ei groesi cyn y patrwm presennol
Cae Ifan Gymro
Yn 1765 roedd yn ddaliad o 35 acer. Mae amrywiaeth yn yr enw, yn 1765 yn Cae Evan Gymro, yn 1841 ac 1851 yn Carn Gymro; yn wir, does dim sicrwydd pa un yw’r gwreiddiol, yn enwedig gan fod y daliad yn ardal y Carneddi, a enwyd oherwydd fod sawl carnedd yno. Fy nheimlad ydy mai’r enw Cae Ifan Gymro yw’r gwreiddiol, ac mai cywasgiad llafar lleol yw Carn Gymro, a bod yr ardal, Carneddi, wedi cadarnhau’r cywasgiad hwnnw. Mae’n debyg fod Stryd Cymro, Llidiart y Gwenyn, wedi ei enwi ar ôl y daliad. Er ei bod yn ymddangos i Lidiart y Gwenyn gael ei adeiladu ar gae Clochydd, oedd ar dir Cilfodan, mae’n bosib mai ar un o gaeau Cae Ifan Gymro yr adeiladwyd hwy, neu rai ohonynt: nid yw’r ffiniau presennol yn adlewyrchu yn union y terfynau a fu.
Beth bynnag am ffurf yr enw, yr hyn sy’n peri penbleth yw’r ‘Cymro’. Nodwyd sut y gellid cael yr enw ‘Saeson’ yn enw mewn ardal oedd yn uniaith Gymraeg ( Gwern Saeson Fawr) ond pam galw rhywun yn Gymro mewn ardal felly; nid yw un Cymro yn sefyll allan mewn ardal sy’n llawn o Gymry! Tybed a oedd Ifan yn Gymro eithafol? Pwy a wyr?
Fodd bynnag, mae tystiolaeth fod person gyda’r enw priod, Cymro, neu, yn hytrach, ddisgynydd i berson o’r enw, yn yr ardal yn y 15ed ganrif. Mae person o’r enw Llywelyn ap Madog ap Kymro yn dyst mewn dwy weithred gyfreithiol a luniwyd yn y Penrhyn ( Chwefror 1445 PFA/1/206 ) a Chororion (Chwefror 1448 PFA/1/248). Tybed ai’r Cymro hwn sydd yn enw Cae Ifan gymro?
Cae Rhys Wiliam
Yn Arolwg 1768 cae 4 acer ar fferm Cae/ Ty Gwyn ( ar y llethr i’r gogledd o Danymarian heddiw) ydoedd Cae Rhys William; roedd hynny’n adlais amlwg o ddarn o dir o oes gynharach. Erbyn Arolwg Degwm 1838-40 roedd yn ddaliad annibynnol o 22 acer, ond, yn ad-drefnu tiroedd yr hendref yn yr 1840au a’r 1850au, fe aeth tir Cae Rhys William yn rhan o Dalybont Uchaf.

Mae ystyr yr enw yn amlwg, ond nid oes gennym unrhyw syniad pwy oedd Rhys William, na phryd y bu’n dal y tir a enwyd ar ei ôl, ac, mae’n debyg na ddown fyth i wybod, os na cheir hyd i’r enw mewn rhyw ddogfen yn y dyfodol
Capel Cwta
Mae Capel Cwta ym Mraichmelyn, ger Pont y Twr. Dyma enw sydd wedi achosi penbleth i mi ers amser,gan nad oes gennyf y syniad lleiaf o ble mae’n dod, na beth yw ei union ystyr. Doedd Capel Cwta ddim yn bodoli yn ôl Arolwg y Penrhyn 1768, ac nid yw ar restr ffermydd y stâd sydd ar rent yn 1818. Mae’n ymddangos gyntaf yn Arolwg Degwm 1838-1840 fel tyddyn 9 acer. Yn sicr, mae Capel Cwta ar dir yr hen fferm Tyn Twr, oedd yn 133 acer yn 1768, ond i lawr i 109 acer yn 1840. Roedd fferm Tyn Twr yn terfynu gydag Ogwen, at afon Gaseg, ac yn terfynu wedyn gyda Thyddyn y Gaseg, Cwlyn, a Nant Graen, ac i Ben Braich. Y ffermdy, mae’n debyg, oedd Ty John Iorc, ger Pont y Twr. Fodd bynnag, does dim sôn am unrhyw beth tebyg i ‘gapel’ na ‘chwta’ ar y tir. Mae’n debyg mai un o adeiladau’r fferm ydoedd y ty yn wreiddiol,gan ei fod o fewn rhyw ugain llath i Dy John Iorc. Gyda thwf y chwarel, troes sawl beudy a chwt yn dy!
Bum yn meddwl y gallai Capel Cwta fod yn enw dwad, fel sy’n digwydd yn aml mewn ardal y bu llawer o fewnfudo iddi; mae nifer o enwau dwad felly yn y dyffryn. Ond, na, nid dyna’r ateb, gan nad oes unrhyw Gapel Cwta arall yng Nghymru, hyd y gallaf weld. Enw cynhenid, felly. Mae ‘cwta’ yn enw eithaf cyffredin ar lefydd; roedd na 7 Cae Cwta, gyda 7 ohonynt ym Môn, ac roedd na 5 Tyddyn Cwta ar yr ynys, yn ogystal ag un ger Talybont yn Llanllechid. Mae’ cwta’ yn golygu ‘byr’, mewn dilledyn, fel arfer, megis ‘trowsus cwta’, ‘llewys cwta’, a cheir ‘gwallt cwta’, ond, ar lafar, ym Môn, yn sicr,mae cwta yn gallu golygu ‘cybyddlyd’,’crintachlyd’. Yn y dafodiaeth hon mae person yn gallu bod yn ‘gwta’, pan yw’n gybyddlyd, yn rhoi dim i neb; gallai tir, felly, fod yn ‘gwta’ pan yw’n dir gwael. Ond, wedyn,nid yw Capel Cwta yn dal i wneud unrhyw synnwyr!
Cyn gorffen gyda’r enw, beth am glywed beth sydd gan Hugh Derfel Hughes i’w ddweud am yr enw
‘o fewn ergyd carreg i’r dwyrain y mae hen dy a elwir Capel John Iorc ac yn ddiweddarach, mewn ffordd o wawd, ar ol i rywrai fod yno yn pregethu, a elwir Capel Cwta. Dywed rhai na bu erioed yn gapel, ond cyfeiria eraill at ei hen ddrws, a’r ystafell wisgo a berthynai iddo i gadarnhau y gred iddo fod.
Mewn gair, does neb yn gwybod pam y cafwyd yr enw.
Capel Ogwen
Mae erthygl diddorol ar Gapel Ogwen ar wefan Hanes Dyffryn Ogwen, gan Dr John Llywelyn Williams, felly nid ail-adroddir dim o hynny yma, dim ond nodi mai daliad 31 acer ar lannau Ogwen ger ei haber ar ochr Llandygai oedd Capel Ogwen. Nid yw’n bodoli ers yr 1840au pan ymgorfforwyd ef i’r parc newydd pan luniwyd hwnnw.
Ers tair canrif bellach mae’r gair ‘capel’ wedi newid ei ystyr, ac rydym yn meddwl amdano fel adeilad anghydffrufiol ble mae cynulleidfa yn addoli. Ond nid dyna ei ystyr wreiddiol, na’i ystyr am ganrifoedd wedi hynny.
Ystyr gwreiddiol ‘capel’ ( a ddaeth i’r Gymraeg o’r Lladin ‘capella’ ) oedd ystafell, neu adeilad bychan, i addoli ynddo. Gallai hwn fod yn ystafell y tu mewn i eglwys, lle gallai unigolyn, neu ychydig o bobl, addoli yn breifat ynddo – capel preifat y Pab oedd Palas Sistin yn wreiddiol. Yn ystod y Canol Oesoedd datblygodd arferiad o deulu uchelwr oedd wedi marw yn rhoi arian i godi ystafell o’r fath y tu mewn i eglwys, lle gellid gweddio dros ei enaid; yn aml, byddid yn rhoi arian i gynnal offeiriad i wneud dim ond gweddio dros yr enaid. Dro arall, byddai uchelwr yn gwaddoli capel y tu mewn i eglwys er mwyn iddo ef a’i deulu allu addoli heb orfod cymysgu efo’r werin – y ciaridyms! Gydag amser, aed â’r arfer hwn ymhellach, gydag uchelwyr yn adeiladu capeli preifat yn eu cartrefi – y tu allan mewn cyfnod pan mai adeiladau unigol, un ystafell, oedd y llysoedd, ac yna, pan ddechreuwyd cael gwahanol ystafelloedd gwahanol y tu mewn i’r llys, daeth y capel i mewn i’r llys, fel ystafell yn y prif adeilad. Roedd y rhain ar gyfer addoliad preifat y teulu ar yr adegau hynny pan na fyddent yn mynychu egwys y plwyf. Adlais o’r arfer hwn yw’r eglwys fechan sydd yn y Castell Penrhyn presennol.
Roedd eglwys a mwy nag un capel yn Sycharth, llys Owain Glyndwr,fel y tystia Iolo Goch
Croes eglwys, gylchlwys,galchliw Capelau a gwydrau gwiw
A phan ddaeth Guto’r Glyn, yn niwedd y 15eg ganrif, i Gochwillan, ymysg y rhyfeddodau eraill a welodd, roedd yno
Fwrdd a chwpwrdd a chapel,
Ambell dro, fe fyddai’r capel gryn bellter oddi wrth y Neuadd, ond ar dir y stâd.
Roedd ail fath o gapel, sef un a godid mewn plwyf mawr, er hwylustod i blwyfolion oedd yn byw ymhell o’r eglwys; byddai hyn yn arbed iddynt fynd yr holl ffordd i’r eglwys ar gyfer pob gwasanaeth. I’r trigolion hynny, dim ond teirgwaith yn eu bywydau y byddai raid iddynt fynd i’r fam eglwys, sef am y tri sacrament pwysicaf, bedydd, priodas, angladd; dim ond eglwys y plwyf allai gynnal y rheiny, roedd pob gwasanaeth arall yn gallu cael ei gynnal yn y capel. Dim ond yn y cyfnod diweddar, pan ymgorfforwyd rhai capeli yn eglwysi yn eu rhinwedd eu hunain y newidiodd hynny. Dyna oedd Capel Curig, capel ar gyfer y plwyfolion rheiny o blwyf Llandygai, yr oedd yr eglwys ger y Penrhyn yn llawer rhy bell iddynt ei mynychu ar gyfer pob gwasanaeth.
Y trydydd math o gapel ( er mai ‘betws’ oedd enw gwreiddiol y rhain ) fyddai adeilad bychan a godid ar fin llwybrau poblogaidd a ffyrdd, a hynny er budd y teithwyr a’r fforddolion a fyddai am weddio ar eu taith. Gellir dychmygu’r rhain wrth grwydro mewn unrhyw wlad Gatholig, neu Uniongred, heddiw, ble mae’r wlad yn llawn o fân eglwysi ac addoldai ar gyfer gweddi bersonol.
Beth am Gapel Ogwen, ynte? Yn ôl yr hanes, capel ydoedd a adeiladwyd ar gyfer teulu’r Penrhyn, yn benodol ar gyfer cadw cyrff meirw ynddo cyn eu cludo i’w claddu ym mhriordy Llanfaes. Roedd ei faintioli yn golygu nad oedd yn ddigon mawr ar gyfer addoli, ond bychan iawn oedd capeli o reidrwydd, gan nad ar gyfer unrhyw fath o addoli cyhoeddus yr oeddynt. A pham nad ym mynwent eglwys Llandygai, neu o dan lawr yr eglwys ei hun, y cleddid teulu’r Penrhyn, fel yn achos mwyafrif helaeth uchelwyr y cyfnod? Gallai fod yn farwdy, a gallai fod yn gapel, nid oes tystiolaeth o’i ddefnydd gwreiddiol.
Fodd bynnag, yn dilyn y Diwygiad Protestanaidd, dirywio, a cholli ei swyddogaeth, fu hanes y capel, nes, erbyn 1871, roedd yn dy ar gyfer un o giperiaid y Penrhyn.
Un ffaith ddiddorol am y daliad Capel Ogwen. Cyn 1820 yr oedd y daliad ym mhlwyf Llandygai, gan ei fod yn sefyll ar lan gorllewinol yr afon cyn iddi gyrraedd y traeth, ac mae Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn yn ei ddangos yn y plwyf hwn. Fodd bynnag, rhwng 1820 ac 1824, fe sythwyd afon Ogwen yn ardal ei chwrs troellog trwy Ddologwen i’w haber yn Nhraeth Lafan; un canlyniad i hynny oedd fod Capel Ogwen, wedyn, ym mhlwyf Llanllechid
Capel Llechid
Ar dir Plas Uchaf yn 1768, nodir enwau tri chae, Cae’r Betws, a dau Gae’r Betws Bach. Roedd y cyntaf yn gae mawr o 35 acer, tra mai 3 acer yr un oedd y ddau arall. Mae’n ymddangos fod y caeau yr ochr uchaf i’r ffordd bresennol, rhwng Plas Uchaf a’r Bronnydd. Yn ôl Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai, ac A R Jones, Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid, ‘Cae Capel’ oedd yr enw ar lafar yr ardal erbyn canol y 19eg ganrif, ond, yn wahanol i’w ymdriniaeth o hen addoldai eraill yn yr ardal, nid yw’n cyfeirio at unrhyw adfeilion na gweddillion oedd yn y cae, sy’n awgrymu nad oedd unrhyw olion yno yn ei oes ef. Fodd bynnag, mae Hughes a North, yn eu cyfrol Old Churches of Snowdonia yn nodi fod y capel yn eithaf cyflawn yn y ddeunawfed ganrif, ond heb do, ac y byddai plant yn chwarae ‘eglwys’ ynddo. Mesura, meddent hwy, i 16 troedfedd wrth 8 troedfedd. Wedi hynny, ysbeiliwyd y cerrig ar gyfer adeiladu, ac, erbyn 1900, dim ond sylfeini un wal oedd ar ôl’.
Am ‘capel’ gweler Capel Ogwen.
Cae’r Betws
Yn wreiddiol nid ‘capel’ oedd ‘betws’; fe enwyd y ddau mewn cyfnod pan oedd pobl yn gwybod yn iawn beth oedd y gwahaniaeth. Mae tuag ugain enw eglwysi efo ‘betws’ yng Nghymru, ac mae trafodaeth lawn ar yr enw yn llyfr Syr Ifor Williams ‘ Enwau lleoedd’. Mae’n nodi fod nifer o’r enwau hyn, yn enwedig yn y gogledd -ddwyrain, yn golygu ‘allt o goed, neu ddrain’, ond mae’n dweud i’r rheiny ddod o ‘bedwas’ yn wreiddiol, sef ‘llwyn o goed bedw’ ( Gweler Bryn Derwas )
Mae’r gair ‘betws’ yn fenthyciad o’r Hen Saesneg ‘ bed-hus’, (cyfoes ‘bead’ a ‘house’). Mae’r ‘bed’ yn golygu ‘gweddi’, ac mae cysylltiad rhyngddo â’r gadwen – y rosari – a ddefnyddir gan Gatholigion wrth weddïo. Mae Syr Ifor yn dadlau mai ‘capel’ oedd ambell i ‘fetws’ a ddatblygodd yn enw lle, sef adeilad i weddio dros enaid rhyw berson arbennig.
Fel y nodwyd, adeilad i deithwyr alw i mewn ynddo i weddio wrth fynd heibio oedd y betws yn wreiddiol. Roedd yr un ar dir Plas Uchaf yn agos i lwybr, neu ffordd, bwysig oedd yn mynd o Ddyffryn Conwy i Gaernarfon. Mae Lôn Lord ar lethrau Moel Wnion o Aber i’r Bronnydd yn rhan o’r llwybr hwn, ac roedd yr hen lwybr, yn ôl AR Jones , Lloffion o Hanes Plwyf Llanllechid, ychydig i’r dwyrain o’r ffordd bresennol. Gweddol ddiweddar ydy’r ffordd bresennol o ranuchaf Nant y Garth i’r Crymlyn – nid yw’n bod yn ôl map a luniwyd gan y Penrhyn yn 1822; roedd y llwybr bryd hynny yn mynd o Lanllechid at Nant y Garth, ac i lawr y Nant i’r Hendre. Roedd yr hen lwybr yn bod ers miloedd o flynyddoedd, ac yn bwysig yn yr oesoedd cynhanes, yn llwybr Rhufeinig, ac yn llwybr canoloesol, gan gynnwys bod yn rhan o lwybr y pererinion i Enlli. Byddai’r ty gweddi hwn, felly, yn gyfleus ar ochr ffordd bwysig a phrysur yn ei chyfnod. Gyda llaw, nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith ei fod wedi ei leoli’n agos i Ffynnon Llechid ( Gweler Cae’r Ffynnon )
Cafodd Cae’r Betws ei enw am un o ddau reswm, sef mai yn y cae hwn yr oedd y betws, neu am fod y cae yn cael ei ddefnyddio i gynnal y betws, trwy fod ei rent, neu / ac ei gynnyrch yn mynd at ei gynhaliaeth. Y cyntaf yw’r mwyaf tebygol.
Carneddi
Mae’r Carneddi ar lethrau’r Carneddau – ‘carnedd’ sydd yn y ddau, ond mae lluosog y ddau’n wahanol. Mae’r ‘Carneddau’ y cyfeirio at enwau mynyddoedd, a enwyd, yn wreiddiol, oherwydd fod carnedd arnynt, neu fod pentwr o gerrig a ymdebygai i garnedd gladdu arnynt, ac ymledodd y ‘garnedd’ yn enw ar y mynydd cyfan – Carnedd Llywelyn, Carnedd Dafydd, a’r Garnedd Uchaf, tra bod ‘carneddi’, fel yn enw’r pentref, yn cyfeirio at fwy nag un ‘carnedd’. Mae’r gair ‘carnedd’ yn golygu ‘pentwr o gerrig’, fel arfer, ond nid, o angenrheidrwydd, o wneuthuriad dynol, ond, bellach, aeth y gair yn gyfystyr bron gyda’r gair ‘cromech’ sef yr enw ar y cerrig enfawr hynny a godwyd yn Oes y Cerrig, yn bennaf, fel claddfeydd.
Gyda’r claddfeydd hyn, bwriad y mwyafrif oedd bod yn gladdfa i deulu, neu lwyth, a chedwid esgyrn y meirw, a’r hynafiaid, yn y beddrod. Ni wyddys beth oedd union ystyr hyn, ond credir fod cysylltiad amlwg rhwng esgyrn hynafiaid â pharch at y teulu, yn ogystal â bod carnedd gydag esgyrn hynafiaid yn arwyddo hawl ar dir, yn ogystal â bod yn arwydd o barhâd y tylwyth a’r llwyth.
Yn wreiddiol, mae’n debyg, roedd pridd yn gorchuddio pob cromlech a charnedd o waith dyn; yr enw ar y twmpath hwnnw yn y Gymraeg oedd ‘gorsedd’, ac roedd arwyddocâd cyfrin i’r twmpathau hyn. Mae’r ffaith fod eisteddle brenin wedi ei enwi ar ôl y twmpathau hyn yn dangos sut yr edrychid arnynt. Yn y canrifoedd cynnar, yn y gwledydd Celtaidd, fe gynhelid cyfarfodydd y cyngor brenhinol, neu lys cyfreithiol, ar y gorseddau hyn. Ar fryn o’r fath, er enghraifft, y cynhelid y Tynwald, llywodraeth gynnar Ynys Manaw, ac ar orsedd y coronid Uwch Frenin Iwerddon. Felly hefyd ble cynhelid llys Pwyll yn Arberth yn y Mabinogi. Credid, hefyd, mai trwy’r gorseddau y gellid mynd i’r Isfyd, neu Annwfn, a bod mynediad i wlad y Tylwyth Teg trwy nifer ohonynt.
Mae twmpathau, megis Bryn Celli Ddu, neu Farclodiad y Gawres, ynghyd â chromlechi neu garneddi heb bridd, yn weddol gyffredin yn y wlad o hyd. Fodd bynnag, hyd at y ddeunawfed ganrif, roeddynt yn hynod o gyffredin, ac yn britho’r wlad ym mhob man, yn dystiolaeth o boblogaeth ardal ers miloedd o flynyddoedd. Roeddynt wedi parhau, yn bennaf oherwydd yr hyn a nodwyd am sut yr edrychid arnynt fel mannau cyfrin, hudol, ond, hefyd, oherwydd na ellid eu clirio oherwydd eu maint. Fodd bynnag, fe ddiflannodd llawer iawn ohonynt yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif ddilynol oherwydd tri pheth
- Gwella amaethyddiaeth yn golygu clirio tiroedd amaethyddol
- Angen cerrig ar gyfer adeiladau newydd, waliau i amgau tiroedd, ac adeiladu ffyrdd
- Y gallu i glirio cerrig mawr, e.e gyda ffrwydron
Roedd carnedd enfawr ger Llangefni, er enghraifft, mewn lle a enwir ar ei hôl, Tregarnedd, ond chwalwyd honno yn llwyr tua 1780. Mae’n amlwg fod llethrau Dyffryn Ogwen yn lle prysur yn yr oesoedd cynhanesyddol: mae’r rhestr o olion cynhanesyddol Sir Gaernarfon yn cynnwys nifer o wahanol olion ym mhlwyfi Llanllechid a Llandygai. Roedd carnedd yn hendre Llanllechid ar dir Cae Gwilym Ddu, ond diflannodd honno, ac roedd caeau o’r enw Cae’r Garnedd a Carneddi ar dir Talybont-Dologwen, hefyd.Mae’n amlwg, hefyd, fod mwy nag un ar y tir a enwir Carneddi. Un o’r Carneddau hyn,ac efallai’r fwyaf,oedd yr un a roddodd ei henw i Garneddwen. Mae Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid yn dweud hyn
….yr isaf o ba rai a elwid ‘Y Garneddwen’, hon oedd Gladdfa Llys Don o bosibl, a phan y’i hagorwyd oddeutu y flwyddyn 1816, wrth ei chario, yr hyn a barhaodd am wythnos i wedd, wneyd y ffordd fawr, deuwyd o hyd i gistfaen o’i mewn …. ac esgyrn dyn o faintioli mawr
Mae’n sicr mai i wneud yr A5 wreiddiol yr aeth cerrig y gromlech hon, fel sawl un tebyg iddi. Does dim rhaid rhoi coel ar honiad HDH am Gladdfa Llys Don, gan ei bod yn arfer yn y Gymru gynnar i weld beddau arwyr yn y cromlechi. Mae Englynion y Beddau, cyfres hir o englynion o gyfnod cyn 1000 OC yn cyfeirio at nifer o’r cromlechi hyn gan nodi pa arwr chwedlonol a gladdwyd y mhob un.
Yn ôl William Williams, ‘Observation on the Snowdon Mountains’, yr oedd carnedd fawr yn Llys y Gwynt, ond yr oedd yn prysur cael ei chwalu yn ei gyfnod ef, diwedd y 18ed ganrif, i sicrhau cerrig adeiladu
Yr enw ar y tir ble mae’r gyffordd Carneddi-Bont Uchaf oedd Pen y Carneddi, sef yr ardal uwchben y carneddi; mae’n bosibl i enw’r pentref ddod o’r enw hwn, neu mae’r ffordd arall yn hollol bosibl hefyd.
Cefnfaes
Mae dau le ym Methesda heddiw yn cario’r enw, sef Canolfan (hen Ysgol) Cefnfaes, a Stryd Cefnfaes. Mae gwreiddiau’r enwau i’w gweld y tu allan i Fethesda. Petaech yn edrych ar hendref plwyf Llanllechid ( sef yr ardal yng ngwaelod y pwyf rhwng y bronnydd a Thraeth Lafan ) ar fap OS, fe welwch goedwig fechan gyferbyn â bythynnod Tan Rallt, ger Tai’r Meibion ( ar draws yr A55 iddynt ). Gwelwch, hefyd, mai enw’r goedlan honno ydy “Coed Cefnfaes’, ac yno mae’r ateb i’r ddau enw ym Methesda.

Fferm oedd Cefnfaes, a honno’n fferm sylweddol, o 142 acer, yn yr hendref, yn eiddo i Stâd y Penrhyn. O 1798 ymlaen, yn sicr, roedd yn nhenantiaeth dyn o’r enw Owen Ellis, a’i deulu. Roedd y teulu hwn yn un o hen deuluoedd Llanllechid, gyda chysylltiadau, dros ganrif ynghynt, yn Nyffryn Conwy; daethant, ymhen y rhawg, yn deulu lluosog a dylanwadol iawn yn y dyffryn. Yn yr 1800au rhannwyd Cefnfaes yn ddau ddaliad, Cefnfaes ( weithiau Newydd ), a Hen Gefnfaes, gydag Ellisiad yn denantiaid yn y ddwy, tad a mab yn un, a mab arall yn y llall. Yn 1857, fel rhan o ad-drefnu gan y Penrhyn, unwyd tiroedd y ddwy Gefnfaes gyda Thai’r Meibion, oedd ar y terfyn, a rhoddwyd y denantiaeth i Owen Ellis (y mab) a’i frawd, Humphrey. Buont yn byw yn y ddwy Gefnfaes tan 1863, pan symudasant i Dai’r Meibion. Erbyn Cyfrifiad 1871 does dim sôn am yr un o’r ddwy hen fferm. Diflannodd Cefnfaes, felly, o hendref Llanllechid, gan adael ond y Coed i gadw’r enw. Dangosir olion yr hen fferm yn enw cae acer ar fferm Tai’r Meibion yn 1871, sef cae 22 acer yn y gornel a ffurfir gan y rheilffordd a fferm Wig ym mhlwyf Abergwyngregyn, cae a elwir Cae Ty yr Hen Gefnfaes

Ond nid o Fethesda. Mae rheswm syml a hynny. Yn ogystal â bod yn denantiaid i’r Penrhyn, roedd teulu’r Ellisiaid yn berchnogion, ers 1660 ar hen fferm Cilfodan, ac, ar dir y fferm hon yr adeiladwyd llawer o’r Fethesda a dyfodd gyda’r chwarel. Teulu Ellis, y Cefnfaes, oedd yn cael yr holl arian a ddeuai o lesu tir i godi tai arno, a daeth Stâd i fodolaeth. Ar dir yr hen Gilfodan, tir Stâd Cefnfaes, yr adeiladwyd y stryd a enwyd ar ôl y stâd, ac ar dir yn eiddo i stâd Cefnfaes yr adeiladwyd yr ysgol, hefyd. Dyna pam y mae enw o waelod plwyf Llanllechid ar gael o hyd ym Methesda.
Ond beth am ei ystyr yr enw?
Mae ‘cefnfaes’, fel gair unigol, yn gallu golygu ‘tir gwastad yn yr ucheldir’, plateau, ond, o ystyried ble’r oedd y fferm, gellir gwrthod hynny’n syth.
Mae tystiolaeth o bapurau’r Penrhyn mai enw gwreiddiol y daliad oedd ‘ grose’ ( y groes ), sy’n ddiddorol o gofio’r Maes y Groes sydd yn yr ardal heddiw. Beth bynnag, arhoswn efo Cefnfaes.
Am ‘maes’, mae’n hen air, sy’n deillio o’r Brythoneg ‘mages’, ac yn golygu ‘ tir agored, eang’, yn wastad, fel arfer. Mae’r elfen gyntaf ‘ma’ i’w weld yn yr enwau Mathafarn, a Mallwyd, ac eraill. Mae’n air perffaith i ddisgrifio’r tir sy’n ymestyn o Abergwyngregyn i afon Ogwen.
Am y ‘cefn’ nid yw ‘cefnen o dir’ yn addas, gan mor wastad y tir yn y fan hon, ac nid yw ‘ pen draw’ ychwaith yn addas. Fodd bynnag, mae’r ystyr i’w weld mewn defnydd arall a geir o’r gair ‘cefn’, fel yn ‘cefn dydd golau’, ‘ gefn drybedd nos’, y ddau yn golygu ‘canol’. Mae lleolaid tir yr hen fferm yng nghanol gwastatir yr hendref yn gweddu’n llwyr gydag ystyr ‘yng nganol y maes’.
Chwarel Cae Braich y Cafn
Hyd yn weddol ddiweddar yr enw yn lleol ar Chwarel y Penrhyn oedd Chwarel Cae, a hynny oherwydd mai ei henw gwreiddiol oedd Chwarel Cae Braich y Cafn, ac er gwaethaf y ffaith iddi gael yr enw swyddogol ‘Chwarel y Penrhyn’ ddyddiad ei hagor fel un consyrn diwydiannol gan Richard Pennant a’i asiant William Williams, Llandygai, ar 25 Hydref, 1782 ( dyddiad William Williams). Y diwrnod hwnnw cyflogwyd 25 o labrwyr gan y Penrhyn, er mwyn clirio’r gwastraff i fynd at y graig, prynwyd y chwarelwyr lleol o’u cytundebau, a chymrodd y Penrhyn ofal o bob agwedd o’r gwaith, o’r cloddio i’r allforio. Yr oedd chwareli bychain wedi cael eu gweithio gan unigolion yn Nyffryn Ogwen ers, o leiaf, y 15ed ganrif, os gellid ei galw yn chwareli, gan mai cymryd y cerrig oedd y brigo i’r wyneb yn unig a wneid, rhyw drin ychydig arnynt i siapiau afreolaidd, a’u gwerthu fel cerrig toi. Er mai ar dir comin yr oedd y chwareli bychain hyn, roedd anghytundeb am berchnogaeth y tir, ac roedd y Penrhyn yn cymryd wythfed rhan o’r arian a gâi’r chwarelwyr am eu cynnyrch yn Abercegin. Fodd bynnag, doedd fawr dim elw yn dod o’r gweithgaredd hwn i’r Penrhyn; mae’n sicr fod yr arian yn fwy o arwydd gan y Penrhyn mai hwy oedd biau’r tir ble cloddid y llechi nag ydoedd o gynllun i gael arian. Yn 1768, wedi dyfodiad Richard Pennant i’r stâd, fe geisiwyd ffurfioli’r drefn trwy osod y chwarel fechan i 80 o chwarelwyr am rent o £1 yr un y flwyddyn, yn hytrach na chymryd yr wythfed ran o’r gwerthiant. Eto, dim ond y swm pitw o £80 y flwyddyn a ddeuai i’r stâd o hynny, a dyna arweiniodd i ddechrau’r chwarel o dan reolaeth uniongyrchol y Penrhyn yn 1782.
O safbwynt yr enw, nodir Cae Braich y Cafn ar Arolwg Leigh yn 1768, gyda’r tir, oedd yn 190 acer, yn cael ei rentio gan 7 gwahanol berson. Ni nodir ai ar gyfer pori, neu dyllu am lechi yr oedd hynny, er mai’r tebygrwydd yw mai cyfuniad o’r ddau ydoedd. Mewn traethawd anghyhoeddiedig ar ddiwydiannau Dyffryn Ogwen ( llawysgrif Bangor 9754 ), gan John Morris, Cochwillanl, nodir
‘ Ar ochr ogleddol y Fronllwyd yr oedd ffridd a elwid hefyd ‘y Cae’, a chefnen ynddo a elwid ‘y Braich’,a phantle a elwid y Cafn, yn yr … le y byddai dwfr yn wastadol, a gelwid y lle, yn briodol iawn, yn ‘Cae Braich y Cafn’. Gelwid y cae weithiau yn Cae Hir a’r Gloddfa yn ‘Gloddfa Cae Hir’.
Felly cadwodd y chwarel, ar lafar y fro, beth bynnag, enw’r tir y suddwyd y twll gwreiddiol ynddo, a Chwarel Cae fu hi i genedlaethau o drigolion yr ardal
Coed Hywel (gw hefyd Ffridd y Deon )

Mae Coed Hywel, heddiw, yn fferm sylweddol ar lannau Cegin rhwng Glasinfryn a Llandygai. Yn wreiddiol, roedd un daliad o’r enw, ond, yn gynnar, yn sicr cyn 1546 ( PRA/1/223 ) roedd wedi ei rhannu’n ddwy, gyda’r ddwy yn cael eu nodi mewn cytundebau lesu fel ‘moiety’, sef term cyfreithiol am raniad sy’n dod o rannu un darn o dir yn ddau. Wedi hynny, am fwy na thair canrif parhaodd yn ddwy fferm, Coed Hywel Isaf a Choed Hywel Uchaf. Yn ystod yr ad-drefnu helaeth a fu ar ffermydd y Penrhyn yn ail hanner y 19eg ganrif, fe unwyd peth o diroedd Coed Hywel Isaf gyda Ffridd y Deon, a galwyd y fferm newydd yn Ffridd, diflannod hen enw Coed Hywel Isaf. Yna fe unwyd Coed Hywel Uchaf gyda fferm Ty Gwyn, oedd yn fferm sylweddol o 99 acer yn y gornel a ffurfir gan Glasinfryn a’r ffordd i Felin Hen ( Diflannodd enw Ty Gwyn yn llwyr, eithr gelwir y bont sy’n croesi Cegin yng Nglasinfryn o hyd yn Bont Ty Gwyn).
O ran yr enw,edrychwn gyntaf ar ‘Gafael’. Yn ôl diffiniad GPC o’r gair, ‘gafael’ yw Daliad o dir etifeddol dan y gyfundrefn lwythol Gymreig yn amrywio o le i le o ran ei fesur ac ar wasgar yn aml mewn parseli o dir, gan ffurfio rhan o’r ‘gwely’, is-wely, rhan, deiliadaeth: Yn ô y drefn lwythol, yr enw ar holl diroedd y llwyth ( sef teulu estynedig ) fyddai’r ‘Gwely’, a gallai tiroedd y gwely fod ar wasgar mewn gwahanol lefydd. Byddai’r gwely, gan amlaf, yn cario enw pennaeth y llwyth, yn aml, sefydlydd y llwyth, a gallai hwn yn hawdd fod wedi marw ers blynyddoedd, ond byddai’r tir yn dal i gario ei enw. Rhannau unigol o’r gwely, wedyn, fyddai’r ‘gafael’; byddai hwn, fel arfer, yn un daliad mawr oedd i gyd efo’i gilydd, a byddai uym meddiant ( sef yng ngafael ) un o feibion y pennaeth, a byddai’r gafael yn cario enw’r person hwnnw. Mae Seebohm, yn ei gyfrol The Tribal System in Wales (1904) yn awgrymu ( t33) ‘ in cases where the parent was alive the sub-shares of the children, according to the custom of gavelkind, were apparently not called weles but gavells.‘Wrth i’r drefn lwythol Gymreig lacio yn y Canol Oesoedd, fe gymylodd yr hen ddiffinaidau, nes fod y ‘gafael’ yn enw ar ddarn penodol o dir wedi ei enwi ar ôl ei berchennog, boed yn berchennog cyfoes, neu’n un hanesyddol, gyda’r enw, yn aml, yn newid fel y byddai mab yn cymryd meddiant o dir ei dad. Un o’r Gafaelion yn nhreflan Cororion, ac a oedd yn sail i blwyf Llandygai wedyn, oedd Gafael Hywel ap Cyfnerth(?) ; mae map ( PFA /6/2944) gan James Wyatt, Asiant y Penrhyn, o gyfnod Richard Pennant, yn dangos y gafael hwn yn yr union ardal ble mae Coed Hywel, a dangosir y fferm fel ei ganolbwynt. Mae dogfen o 1416 ( PFA/1/191) yn nodi rhoddi fel ‘gift’ hanner ( ‘moiety’) ‘Gafel Meibion Hoell in the township of Creweryon’ gan Ieuan ap Ken’ ap Ior’ ap Howell i William ap Gruff ap Wilym and Joan his wife . Mae’n weddol sicr mai’r un gafael yw hwn â’r un sydd ar fap Wyatt bedair canrif yn ddiweddarach. Ni wyddom pam y byddai Ieuan yn rhoi hanner ei dir i William ap Gruffydd, ond gall y dychymyg fynd yn drên.
Am yr Hywel yn yr enw, ni ellir bod yn sicr pwy ydoedd, gan fod yr enw yn un hynod o boblogaidd – mae sawl Hywel yn ymddangos yn nogfennau canoloesol y Penrhyn, er enghraifft. Gellir dweud, gyda sicrwydd, ei fod yn rhywun oedd yn byw yn y cyfnod canol, gan mai dyma gyfnod y Gwely, a’r Gafael fel rhaniadau tir ar sail perchnogaeth teulu; roedd, hefyd, yn benteulu gweddol bwysig, ac yn wr rhydd. Mae’n demtasiwn dweud mai ef yw’r Hywel sy’n ymddangos yn hen daid i’r Ieuan a roes hanner Gwely Meibion Hywel i arglwydd y Penrhyn yn 1416; byddai hyn yn mynd â ni rhyw bedair cenhedlaeth yn ôl o gyfnod arwyddo’r ddogfen, yn sicr at berson a fyddai’n fyw yn oes y Tywysog olaf. Eto, heb brawf pendant, ni ddylid ildio i demtasiwn.
O safbwynt y Coed yn yr enw mae dogfen arall ym mhapurau’r Penrhyn o’r cyfnod 1542 – 1553 ( PFA/1/217) yn nodi
‘a pasture and wood called Coyd Holl’
sy’n dangos inni fod coedwig yma ar lannau Cegin, ac mai hi a roes yr enw’n wreiddiol i’r daliad a enwid yn Coed Hywel
COCHWILLAN

Neuadd ganoloesol a fferm yng ngwaelodion plwyf Llanllechid yw #Cochwillan, yn terfynu ar afon Ogwen. Heddiw mae’r Neuadd ganoloesol, a fu’n ysgubor fferm hyd 1969, wedi ei hadnewyddu, a than ofal Cadw, yn un o’r ychydig neuaddau o’r fath sydd wedi goroesi yng Nghymru. Mae’r neuadd bresennol yn dyddio yn ôl i rywle rhwng 1450 a 1465, ( neu efallai mor hwyr â 1485+) gan iddi gael ei chodi gan Wiliam ap Gruffydd yn y blynyddoedd hynny. Roedd ei daid, Robin ap Gruffudd, wedi ymsefydlu yn yr ardal o leiaf tua 1389, ac mae’r bardd Gwilym ap Sefnyn yn nodi fod ty ar y safle yn adeg Robin, ac, efallai, mai adnewyddu a wnaeth Wiliam. Roedd Robin yn frawd i Gwilym ap Gruffydd, sylfaenydd stâd y Penrhyn.
Yn ei dydd roedd hi’n Neuadd arbennig o foethus; mae’r bardd Lewys Môn yn cyfeirio at ei ffenestri gwydr, hardd ( mewn cyfnod pan oedd gwydr yn brin iawn), tra nododd Guto’r Glyn fod glo yn cael ei losgi yno ( arwydd arall o foethusrwydd).
Y mae deuwres i’m diro, Ei goed o’r glyn gyda’r glo.[3]
Daeth Cochwillan a’i thiroedd i feddiant John Williams, Archesgob York ( John Iorc ) yn nheyrnasiad Siarl 1, ac unodd ef Gochwillan a’r Penrhyn
Mae Cochwillan yn enw tywyllodrus iawn ! Mae’n edrych mor syml i’w egluro. Mae’r ‘ coch ’yn amlwg ac yn hawdd, ac mae na ‘-an’ ar ei ddiwedd, sy’n dweud wrthym ei fod yn rhywbeth benywaidd ( fel yn ‘hogan’, neu ‘hosan}’ , neu yn rhywbeth bach ( fel yn ‘baban’). Neu, wrth gwrs, fe allai’r elfen olaf fod yn ‘llan”, fel yn ‘perllan’, neu ‘corlan’. Ac onid ydy’r ail elfen yn debyg iawn i ‘winllan’! Syml!
A hollol anghywir!
Y gwir yw mai’r unig beth y gallwn ddweud am yr enw Cochwillan yw nad ydym yn gwybod o gwbl beth yw ei union ystyr. Mae’n enw sydd bron yn unigryw; mae na Gochwillan Bach ym mhlwy Llaneilian yn Ynys Môn, ar y ffordd o draeth Llugwy i Laneilian, ac roedd na Gochwillan yn Aberchwiler, Sir Ddinbych. A dyna ni! Dydy o ddim byd i’w wneud â ‘choch’, a dim cysylltiad efo ‘gwinllan’, a does na mo’r fath air â ‘gwillan’.
Yng nghywydd Guto’r Glyn i’r llys a nodais eisoes, gwelir y llinell
A gwych allor Gwchwillan,
sy’n awgrymu mai Cwchwillan oedd yr enw yn wreiddiol, ond does dim enghraifft cynharach, nac arall, o Cwchwillan. Os mai ‘cwch’ oedd yr elfen gyntaf, gallai hynny gyfeirio at ffurf yr adeilad ar ffurf cwch ben ucha’n isaf, neu ei fod ar ffurf cwch gwenyn Gymreig, yn grwn ac yn ymdebygu i bowlen benucha’nisaf, ond does gan neb gynnig am yr ail elfen ‘gwillan’, gan nad oes unrhyw wybodaeth amdano. . Yr unig awgrym arall yw mai rhyw air Gwyddeleg ydyw, neu air Gwyddeleg wedi ei Gymreigio, a hynny cymaint nes colli golwg ar y gwreiddiol, a dod yn air Cymraeg da, yn ymddangosiadol. Mae elfennau felly mewn sawl enw cyfarwydd, megis Aberdesach, Llyn, Pencarnisiog, Clydach, ac ati, ac yn enwedig mewn geiriau sy’n cynnwys y cytseiniaid CH ac LL.

Am Gochwillan, digon yw dweud nad ydym yn gwybod beth oedd ei ystyr gwreiddiol, ond mae’r air soniarus dros ben!
COED Y PARC
Nid enw ar barc yw hwn,fel y dengys y ffurf, ond enw ar goed sydd, mae’n ymddangos, yn rhan o ryw barc. Mae’n hen enw: yn 1430 sonnir am ‘Tethin ( Tyddyn ) Coyd Park’. Yn 1600, roedd y gwastraffus Piers Griffith mewn trafferthion ariannol (eto!) a benthyciodd £400 gan Thomas Myddleton (o Lundain, erbyn hynny, ond Dinbych yn wreiddiol) gan roi Coed y Parc fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad.
Roedd Coed y Parc yn fferm fawr o 146 acer yn 1768.Yn ôl y map ohoni sydd ynglwm wrth yr Arolwg, roedd mewn dau ran, ac yn cael ei gosod i 5 gwahanol denant. Roedd y rhan isaf, tai’r tenantiaid, a’r adeiladau rhwng yr ardal ble mae’r dreflan bresennol, gan derfynu ar Galedffrwd hyd ei huniad efo Ogwan, ac yn cynnwys y tir ar hyd glan Ogwan hyd at y Bont Ring bresennol – yn fras. Roedd 40 acer o goed yn yr ardal hon, sy’n cynnwys ble mae Bryn Derwen heddiw. Roedd ail ran y fferm, tua 77 acer i gyd, yn uwch i fyny Caledffrwd, ac yn terfynu ar y mynydd. Erbyn yr Arolwg Degwm 1838-40, mae wedi ei rhannu yn 9 daliad gwahanol o’r un enw, i gyd yn gyfangwbl yn 361 acer, sy’n awgrymu fod mwy o dir wedi ei ychwanegu ati; yn sicr, mae hen fferm Dôl y Parc ( 36 acer ) wedi diflannu erbyn hyn, ac mae’n amlwg o’r map mai mympwyol hollol yw’r enwi yn 1838, gan fod yr enw wedi cael ei roi ar diroedd na fuont erioed yn rhan o’r hen ddaliadYn ôl map 1838, yr oedd dwy ffordd yn mynd trwy’r ardal hon, gyda chyffordd tua ble mae mynediad Felin Fawr yn awr. Roedd un ffordd yn dilyn llwybr y ffordd bresennol i Bont y Twr, tra’r oedd y llall yn gwneud llwybr unionsyth i fynediad y chwarel ar y pryd; mae’r ffordd honno ymhell o dan y domen erbyn heddiw. Roedd tir y gwahanol ddaliadau a gariai enw Coed y Parc yn cynnwys y cyfan oedd y tu mewn i’r ardal a gynhwysid gan afon Ogwen, afon Clettwr, a’r ffordd uchaf hon. Fodd bynnag, eisoes, roedd datblygiad cyflym Chwarel Braich y Cafn mor agos at y fferm yn fygythiad, ac yn arwydd o’r hyn oedd i ddod. Erbyn 1813 nodir yr adeiladwyd ar ei thir ‘several tenements for the accommodation of the quarry’. Yn 1841 roedd 31 ty a elwir Coed y Parc. Diflannu fu hanes y fferm, un rhan bron yn gyfangwbl o dan domennydd y chwarel, a’r gweddill, yn arbennig felly y rhan rhwng y ffordd bresennol ac Ogwen, i ddaliadau newydd, megis Bryn Derwen a Bryn Meurig, ac yn rhannol i ddaliadau cyfagos, ond arhosodd yr enw yn y dreflan fechan sy’n parhau ar ei thir. Yn ôl Cyfrifiad 1851, yr oedd 26 o dai yn dwyn yr enw, ac roedd y sawl a lanwodd y ffurflen amy cylch yn galw’r ardal hon wrth yr enw ‘the village of Coed y Parc‘

Map 1838 yn dangos ardal y chwarel a Choed y Parc. Mae’r ffordd syth ( mewn melyn) yn mynd o’r Felin Fawr i’r chwarel, a, bellach, mae dan y domen; y ffordd arall yw’r ffordd gefn bresennol sy’n croesi Ogwen ym Mhont y Twr. Rhif 11 yw Llyn Meurig, sydd dan y domen heddiw. Mae’r holl dir sydd rhwng y ffordd syth ag Ogwen yn ddaliadau o wahanol faint, ( 10,12,14,15,16,17 i gyd gyda’r enw Coed y Parc, sy’n dangos mai un daliad o’r un enw oedd yn wreiddiol
( I’r cychwyn )
CORBRI
Mae Corbri yn ddaliad hynafol yn ucheldir plwyf Llanllechid; Mae sôn tua 1560 yn Rôl Rhent Cochwillan at “Tyddyn y Corbri’. Yn wreiddiol, roedd yn ddaliad sylweddol iawn, oherwydd, yn 1768, roedd tri daliad yn dwyn yr enw, yn 104, 97, a 64 acer, sy’n dangos yn amlwg fod un daliad o 265 acer wedi ei rannu’n dri. Ar yr olaf o’r rhaniadau yr oedd cae 3 acer o’r enw Bryn Owen; erbyn 1841 roedd yr holl fferm wedi ei hailenwi ar ôl y cae hwn, ac, wedyn, dim ond dau ddaliad o’r enw Corbri oedd.
Mae’r enw wedi ei egluro fel cyfuniad o ‘cor’ a ‘bre’, sef ‘bryn bychan’ ( ‘cor’ , fel yn ‘corrach’, a ‘bre’, fel yn ‘moelfre’ – ‘bryn moel’ ), ac, yn ieithyddol, a daearyddol, mae’n rhesymol, ond nid oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol i’w gefnogi. Yn ychwanegol, mae’r enghraifft o 1560 yn dangos mai ‘Corbri’, ac nid ‘Corbre’, yw’r ynganiad bryd hynny, hefyd.
Mae Syr Ifor Williams yn gwrthod yr eglurhâd uchod, gan ddadlau mai enw personol yw, a hwnnw’n enw Gwyddelig “ Cairbre’. Yr oedd yr enw hwn yn enw Gwyddelig cyffredin iawn yn yr oesoedd cynnar, gydag enghreifftiau ohono mewn enwau llefydd yn yr Alban, Ynys Manaw, ac Iwerddon, yn ogystal â Chymru. Roedd Llety Corbri ar un adeg rywle yn Llyn neu Eifionydd, Atgoed Corbri yn Arllechwedd Isaf ( Dyffryn Conwy), a dywedir mai nawddsant cyntaf Heneglwys ( Bodffordd, Ynys Môn ) oedd Sant Cairbre.
Os mai enw personol Gwyddelig yw Corbre, yna mae’n mynd â ni yn ôl fwy na mil a hanner o flynyddoedd i’r 5ed a’r 6ed ganrif, cyfnod pan oedd nifer sylweddol iawn o Wyddelod wedi ymsefydlu yn ardaloedd gorllewinol Cymru. Byddai hynny yn gosod dechreuad y daliad ymhell yn ôl yn niwloedd hanes.
Un nodyn ychwanegol. Roedd yr eglwysi Cristnogol cynharaf yn cael eu sefydlu mewn llefydd neilltuedig, ymhell oddi wrth y canolfannau poblogaeth, a hynny am ddau reswm; yn gyntaf, er mwyn tawelwch i fyfyrio ac addoli, ac, yn ail, rhag gelyniaeth y mwyafrif nad oeddynt yn Gristnogion. Fodd bynnag, fel y daeth y boblogaeth gyfan yn Gristnogion, sefydlwyd eglwysi ar gyfer canolfannau poblogaeth. Mae eglwys Llanllechid wedi ei lleoli ar dir Corbri, o fewn canllath i leoliad y tai presennol. Ai yma, ar dir Corbri, yr oedd canolfan poblogaeth yr ardal yn y chweched ganrif, ac ai Corbri sy’n gyfrifol am leoliad yr eglwys? Mae’n amhosibl gwybod yr atebion hyn heddiw, ond mae’r cwestiynau’n ddiddorol.
Cornelius
Enw bellach ar gae ar dir Gilfach ym mhen dwyreiniol eithaf plwyf Llanllechid, ond, hyd at ddegawd olaf y 19eg, roedd yn enw ar ddau fwthyn unllawr ar dir fferm Gilfach, ar fin y lôn sy’n mynd o’r ymyl Tai’r Meibion am Grymlyn. Yn ôl cyfrifiad 1891, 3 ystafell oedd ym mhob bwthyn. Mae’n amlwg mai tai ar gyfer gweithwyr y ffermydd cyfagos a’u teuluoedd oeddynt, gan mai ‘Ag Lab’ yw’r rhan fwyaf o’r penteleuoedd a nodir yn y gwahanol gyfrifiadau, er mai ond un penteulu sydd yn un o’r tai trwy’r hanner canrif olaf, sef gwas fferm o’r enw William Evans, sy’n dal yn was fferm yn 1891, ac yntau’n 89 oed. Yn 1891 yr oedd un o blant William, a’i wraig, Jane, yn byw gydag ef yn y bwthyn, hen lanc o’r enw Ellis ( ond Eliseus yn ôl Cyfrifiad 1851 ), oedd yn gweithio fel saer maen. Erbyn 1901, nid yw’r bythynnod yn cael eu cofnodi; mae’n amlwg fod William a’i wraig wedi marw, ond mae Ellis yn byw yn y plwyf nesaf, Abergwyngregyn yn ‘Wig Cottages’. Yn 1901 nid oes cofnod yn unlle o’u cymydog yn y bwthyn drws nesaf, Jane Pritchard, 55 oed, ‘widow, live on her own means’; efallai iddi hithau farw erbyn hynny. Dangosir adeiladau heb enw ar leoliad y bythynnod yng nghornel cae Gilfach ar fap S 1889, ond nid oes unrhyw arwydd o adeilad yn yr un lle ar fap OS 1913 nag 1919. Erbyn heddiw, nid oes unrhyw olion o’r hen fythynnod, nac unrhyw arwydd iddynt fod yno erioed.
Am yr enw, mae’n amlwg iddo ddod o enw rhywun oedd yn byw yno, yn berchennog, neu’n denant, mewn rhyw oes, person gyda’r enw Cornelius, ond mae mwy o waith i’w wneud i hynny.. Rwan, dydy Cornelius ddim yn enw cyffredin iawn yng Nghymru, ond dydy o ddim yn unigryw ychwaith, yn enwedig i genedl oedd, yn enwedig yn y 19eg ganrif, yn gwybod mwy am hanes cenedl yr Iddewon na’u cenedl eu hunain. Mae Corneliws yn gymeriad yn y Testament Newydd, yn Llyfr yr Actau; canwriaid ym myddin Rhufain yn nhir yr Iddewon ydoedd, ac ef oedd y canwriad cyntaf a enwir fel yr un a gredodd yr Efengyl. I bobl oedd yn hollol gyfarwydd gyda’r Beibl, byddai’r rnw yn un hollol gyfarwydd, ac ni fyddai yr enw ond un o lawer enw o’r Beibl a roddwyd ar blant y cyfnod. Mae’n fwy na phosibl mai yn y cyfnod hwn, sef canol y 19eg ganrif, y daeth y tai i fodolaeth, gan nad oes sôn amdanynt yn rhestr degwm 1795-6, sy’n cynnwys pob ty yn y ddau blwyf, ac nid oes cofnod ohono yng Nghyfrifiad 1841.
Yr hyn sy’n ddiddorol am Cornelius yw fod ambell un yn amlwg heb fod yn gyfarwydd gyda’r enw. Ar fap o diroedd Penrhyn 1871, ( PENRA 2221) gwelir y lluniwr wedi nodi enw’r bythynnod fel Cornelius, ac yna wedi croesi’r elfen olaf, gan roi -LAS uwch ei ben, i lunio gair mwy cyfarwydd CORNEL-LAS. Erbyn map arall 1872, ( PENRA 2222) Cornelas yw’r ffurf a nodir. Eto, mae’n amlwg, i’r hen ffurf ddal ei thir, gan mai Cornelius yw ffurf pob Cyfrifiad hyd ei ddiflaniad, ac erys y ffermwyr lleol i arddel yr enw Cornelius am y cae.

i’r cychwyn
CORORION
Saif Cororion ym mhlwyf Llandygai, ar gyrion Tregarth. Yn1 768 mae’n ddau ddaliad, un o 51 acer, a’r llall yn 22 acer. Nid oes dim yn arwyddocaol amdano, ac nid oes dim syfrdanol yn enwau ei gaeau. Fodd bynnag, mae hanes hir, ac anrhydeddus, i Gororion. Mae’n fwy na thebyg mai dyma’r enw hynaf sydd ar gael ar unrhyw ddaliad yn Nyffryn Ogwen,yn mynd yn ôl o leiaf 1000 o flynyddoedd. ( Mae enwau rhai o’r mynyddoedd, a’r rhan fwyaf o’r afonydd yn hyn)
Chwedlau enwocaf y Gymraeg yw Pedair Cainc y Mabinogi,lle ceir hanesion arwyr sy’n wybyddus i laweroedd, yng Nghymru a’r tu hwnt, rhai megis Pryderi, Branwen ferch Llyr, Bendigeidfran fab Llyr, Math, Efnisien, Lleu Llaw Gyffes, Arianrhod, Blodeuwedd, a llawer mwy. Er mai i chwarter cyntaf y 14eg ganrif y mae’r llawysgrif cyntaf o’r Pedair Cainc yn perthyn, mae Syr Ifor Williams wedi eu dyddio, fel corff o chwedlau, i ail hanner yr 11eg ganrif. Yn ogystal, y gred gyffredinol erbyn heddiw yw mai cyfansoddiad ysgrifenedig o‘r cyfnod hwn wedi ei seilio ar chwedlau llafar llawer hyn, yw’r Pedair Cainc sydd gennym heddiw.
Un nodwedd amlwg o chwedlau gwerin, ac o’r Pedair Cainc, yw ymgais i egluro enwau llefydd sy’n wybyddus i’r gynulleidfa. Yn y bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy, mae moch Pryderi, Arglwydd Dyfed, yn cael eu dwyn trwy dwyll gan Gwydion a dynion Gwynedd, ac mae Pryderi a’i filwyr yn dilyn gwyr Gwynedd a’r moch tua’r gogledd er mwyn eu cael yn ôl. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r storiwr fynd â’r moch trwy fannau megis Mochnant a Mochdre, i honni mai oherwydd moch Pryderi y cafodd y llefydd hyn eu henwau. Fel mae’r gwyr Gwynedd yn nesáu tua chartref, gyda Phryderi ar eu sodlau, fe gyrhaeddant Arllechwedd, gan orffwys am ychydig. Mae Gwydion yn gwneud ‘creu’ ( ‘corlan foch’, neu ‘dwlc mochyn’ ) trwy hud a lledrith i gadw’r moch tra gorffwysant, a dyna, meddai’r storiwr, ‘pam y galwyd y lle’n Creuwyrion’.
‘Creuwyrion’ oedd y ffurf a ddatblygodd dros amser yn Cororion. Mae’r cyfeiriad ato yn y Bedwaredd Gainc yn dangos dau beth yn glir
- Yr oedd Cororion ( Creuwyrion ) yn bodoli pan roddwyd y Pedair Cainc at ei gilydd yn ail hanner yr 11eg ganrif
- Yr oedd yn lle digon amlwg i wrandawyr y chwedl wybod am ei fodolaeth
Yr oedd yn lle amlwg, neu fe ddaeth felly, gan mai safle bresennol Cororion, mae’n weddol sicr, oedd canolfan weinyddol y drefgordd a alwyd wrth ei henw. I’r dwyrain o afon Ogwen yr oedd trefgordd Bodfeio, ac i’r gorllewin drefgordd Cororion.
Am ystyr yr enw, rhyw chwarter daro’r targed a wnaeth storiwr y Pedair Cainc. Mae’n bosib y cafodd y lle ei enw oherwydd fod ‘creu’, neu ‘gorlan foch’ yno, ond ni fu Gwydion, na’i hud, na moch Pryderi erioed ar gyfyl y lle. Yn hytrach, roedd y gorlan foch yn perthyn rhyw oes i ‘wyrion’ rhywun; mae’n sicr fod enw personol yn dilyn y ‘wyrion’ yn wreiddiol. ( Enw gwreiddiol Betws y Coed oedd Betws Wyrion Idon, sef ‘ty gweddi/ eglwys fechan/ wyrion Idon ). Rwan gall ‘wyrion’ olygu’n llythrennol ‘plant i blant’ rhywun, ond, yn fwy cyffredin, yn yr oesoedd cynnar, mae ‘wyrion’ yn golygu ‘disgynyddion’, neu ‘deulu’, felly ‘disgynyddion Idon’ oedd perchnogion, neu adeiladwyr, neu waddolwyr, y betws cyntaf; yn yr un modd ‘disgynyddion ‘ rhyw berson yr aeth ei enw’n angof oedd perchnogion y ‘creu’, sydd heddiw yn cael ei adnabod fel Cororion
Mae ‘na bosibilrwydd arall i ‘creu’, hefyd, sef mai ‘amddiffynfa’ yw’r ystyr, fel yn y Creuddyn. Os felly, yna ‘amddiffynfa’r wyrion/ disgynyddion’ yw’r ystyr.
CILTREFNUS
Enw ar stâd fechan o dai heddiw, ond, am ganrifoedd, tyddyn 14 acer ydoedd, yn ymestyn o’i derfyn gyda Phant Ffrydlas i fyny at hen fferm Cymysgmai, o dan y Freithwen bresennol, ac o’r afon Ffrydlas at fferm Gerlan. Yn ôl Arolwg Degwm 1838-40 yr oedd dau ddaliad o’r enw yn yr ardal, ond y gwir yw mai Cae Ronw oedd enw’r ail ddaliad, er fod hwnnw yn perthyn i’r un perchnogion. ( Gw Stryd Goronwy ).Yr oedd yn eiddo i stâd fechan Tanybwlch yn Llanllechid. Yn 1864 – 65 fe werthodd y perchennog, ( trwy ei briodas â Jane Williams, merch ac etifedd Tanybwlch), James Taylor, lawer o’i thir i adeiladu pentref newydd y Gerlan arno. Nid Ciltrefnus yw’r enw gwreiddiol, arfer llafar o newid gair sydd wedi colli ei ystyr yn air cyffredin, cyfoes sy’n gyfrifol am hynny. Digwydd enghreifftiau eraill o hyn yn yr ardal e.e. aeth Tyddyn Sabel yn Dyddyn Stabal ar lafar, a phan aeth ystyr ‘sgafell’ ( silff o dir ) yn angof, aeth Tanysgafell yn Tanysgrafell ( sgafell = y crib i gribo rhawn ceffyl). Yn yr achos yma, yr enw gwreiddiol oedd Ciltreflys, fel y dengys enw’r capel a adeiladwyd ar ei dir. Roedd ansicrwydd rhwng ‘treflys’ a ‘trefnus’ erbyn yr 1830au, ac, ymhen ychydig flynyddoedd Ciltrefnus a geid yn ysgrifenedig, gyda Treflys wedi ei neilttuo i’r capel yn unig.
Mae’r ystyr gwreiddiol yn mynd â ni yn ôl i’r Canol Oesoedd, ble’r oedd ‘treflys’ yn golygu ‘fferm y llys’, sef y fferm yr oedd ei chynnyrch yn cynnal y llys. Gellir cymharu hyn gyda Threflys yn Eifionnydd, fferm a oedd yn cynnal yr hen lys Cymreig yn Nolbenmaen. Yn achos Dyffryn Ogwen, mae’n bur sicr nad y llys yn Aber a olygir, gan fod tiroedd llawer mwy breision yn nes at hwnnw. Yr unig ddau ddewis arall yw y Twr yn Abercaseg, neu Bryn Byrddau
CILGERAINT
CIL
Mae Cigeraint yn hen ddaliad. D ywe d Hugh Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid
‘Yn nyddiau Oliver Cromwell yr oedd Gras ych Huw yn byw yng Nghilgeraint, ac yr oedd ei ffriddoedd yn cynhyrchu cnwd tew o haidd, rhyg, a chywarch’
Roedd Gweriniaeth Cromwell mewn grym 1649 – 1660. Erbyn 1768 roedd Cilgeraint yn 4 daliad o 58,66,40,a 22 acer, sy’n golygu, yn wreiddiol, ei fod yn ddliad o 186 acer. Mae Geraint yn hen enw Cymraeg – mae Geraint ab Erbin yn ymddangos yn y Mabinogion ac yn Chwedl Culhwch ac Olwen, ceir Geraint yn y Gododdin yn y 6ed ganrif, a Geraint oedd enw brenin Dyfnaint yn y 5ed/6ed ganrif. Gan fod yr enw yn dod o’r gair ‘câr ‘ = teulu, perthnasau, y rhai rydych y neu caru – gall Cilgeraint olygu ;’man cysgodol, encil, lloches Geraint, neu ‘man cysgodol, encil, lloches yn perthyn i’r teulu’
CILTWLLAN

Cil
Yn ôl yr awdurdod ar enwau llefydd, Syr Ifor Williams, daw’r enw o Cil + tywyll + llan = yr eglwys mewn lle cysgodol tywyll ( sef mewn coed ). Yr oedd adfeilion eglwys yno yn nechrau’r 1860au pan nododd taid Syr Ifor, Hugh Derfel Hughes, hynny yn Hynafiaethau Llanllechid a Llandygai. Petai’r terfyniad ddim yn dod o ‘llan’, byddai’n enghraifft o’r terfyniad ‘-an’ sy’n dod o’r Wyddeleg, ac yn cyfleu rhywbeth bychan ee cryman, gwreigan, mudan, truan, yn arbennig mewn enwau afonydd bychain, nid dyna yw yma; petai, fe geid ‘tyllan’, nid ‘twllan’. Nid yw eglurhad Syr Ifor yn fy argyhoeddi yn llwyr ( mae fel petai wedi ei ystumio, rywsut ), ond nid oes cynnig amgen.
Cilfodan
Mae fferm Cilfodan wedi pendilio dros y blynyddoedd o fod yn un daliad i fod yn ddwy, i fod yn un unwaith eto, a heddiw i fod yn hanner yr hyn a fu. Yn ôl map Arolwg Degwm 1838-40, roedd dwy Gilfodan, gyda’r lleiaf ohonynt yn ymestyn o Dyddyn Sabel, ar hyd afon Ffrydlas hyd at Bont Uchaf, ac ychydig yn is na Phencarneddi heddiw; mae’n cyfateb yn fras i fferm Tan y Foel heddiw. Am y llall, roedd yn llawer mwy, yn cyfateb i’r fferm bresennol ond yn ymestyn i lawr at afon Ogwen, rhwng yr Allt Penybryn presennol a chyffiniau Cae Boncs, gan gynnwys llawer o’r tai presennol, Pantdreiniog, y Stryd Fawr o Bont Ring i lawr at gyffiniau Allt Caffi, ac yn cynnwys Cae Star. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ddaliadau’r dyffryn, nid oes cofnod iddi fod erioed ym meddiant y Penrhyn, na’r un stâd arall. Ym 1660, roedd y fferm ym meddiant Owen ap William ap Richard; y flwyddyn honno rhoes hi yn anrheg i’w fab, Ellice Owen. Yn ôl arfer y cyfnod cymerodd ei fab ef enw cyntaf ei dad fel cyfenw, a sefydlogodd hynny. Ym meddiant y teulu Ellis y bu’r fferm wedi hynny, a hwy oedd y perchnogion pan adeiladwyd y rhan fwyaf o bentref Bethesda ar ran isaf y fferm. Teulu’r Ellisiaid, oedd yn denantiaid i’r Penrhyn yn fferm Cefnfaes yn yr hendref, a Thai’r Meibion wedi hynny, oedd yn medi’r elw o ddatblygiad Bethesda. O safbwynt yr enw, mae’r ail elfen yn anodd, a hynny oherwydd beth fyddai’r ystyr yn ei ddweud, ac am ei fod yn defnyddio geiriau ymddangosiadol syml nad ydynt yn gyfarwydd ar lafar. Os mai ‘hafodan’ yw’r ail elfen, yna hafod fechan sydd yn y lle cysgodol. Mae hynny’n bosibl, ond nid oes unrhyw enghraifft o’r gair hwnnw mewn unrhyw le o gwbl. Ar y llaw arall, gall mai ‘cafoden’ yw’r ail elfen = cawod fechan. Mae hynny, i raddau helaeth, yn cael ei gefnogi gan yr enghraifft ysgrifenedig o’r enw, sef o tua 1560, pan nodir ‘Tithyn Kille Kavoden’ ym mhapurau’r Perhyn. Yr unig broblem efo hynny ydy’r gair ‘cafoden’ ei hun, nad oes enghraifft ohono yn unlle arall, ynghyd â’r cwestiynau ‘Beth yw cawod fechan? A pham fod y lle yn lle cysgodol i gawod fechan, ond nid i gawod fawr? Efallai mai’r peth gorau yw derbyn nad yw’r enw, ar hyn o bryd, yn hollol glir ei ystyr.
Cwlyn
Heddiw rhan o bentref Braichmelyn yw Cwlyn ( a’r rhesdai Cefn Cwlyn, a adeiladwyd, fel yr awgryma’r enw, ar y tir y tu ôl i adeiladau Cwlyn). Yn 1765, roedd yn dyddyn bychan o 8 acer yn terfynu ar Dyn Twr a Nant Graen, gydag Afon Gaseg yn llifo un ochr iddo. Oherwydd y llif mewnfudwyr i’r dyffryn, dros amser datblygwyd adeiladau’r tyddyn yn ddau dy, ac mae Cwlyn, bellach, yn rhes o dri thy. Mae’r rhan fwyaf o dir y tyddyn gwreiddiol yn dal yn dir amaethyddol. Enw un o’r caeau oedd Cae’r Merchaid, a byddai’n hynod o ddiddorol gwybod pam y cafodd yr enw hwnnw.
O safbwynt yr enw, mae’n perthyn i’r dosbarth niferus hwnnw o enwau llefydd sydd wedi eu henwi oherwydd rhyw dyfiant sy’n gyffredin, neu’n amlwg, ar y tir hwnnw, boed hynny’n goed, yn llwyni, neu’n blanhigion. Ceir sawl enghraifft ar draws gwlad, megis Llwynhelyg, Cae Drain, Llwyn Onn, ac ati, ac yn yr ardal hon ceir Dolhelyg, Pantdreiniog, Llwyncelyn, a rhoddwyd cynnig ar darddiad cyffelyb i Fryn Bela. Dyna, mae’n fwy na thebyg, pam y cafodd Cwlyn ei enw, sef oherwydd fod y planhigyn cyffredin o’r un enw ( enwau eraill Cwlyn y Mél, a Llysiau’r Dryw ) yn tyfu yn amlwg ar y tir. Yn ôl botanegwyr mae’n perthyn i un o’r teuluoedd pwysicaf o blanhigion.
DINAS
Mae’n debyg mai’r diffiniad o ddinas rydym i gyd yn gyfarwydd ag ef yw ‘ lle gydag eglwys gadeiriol’; fodd bynnag, y diffiniad mwy arferol heddiw yw lle may na thref gyda llawer o bobl yn byw ynddi. Fodd bynnag, nid dyna ei ystyr yn wreiddiol.
Mae ‘dinas’ yn hen air yn y Gymraeg; yn wir, mae’n mae’n dod ‘r Frythoneg ‘duno’, sydd yntau yn dod o’r Gelteg ‘dounon’, ac mae’n cyfateb i’r gair Gwyddeleg ‘dun’. Mae’r geiriau hyn i gyd, ym mhob un o’r ieithoedd, yn golygu ‘amddiffynfa’, neu ‘gaer’. Dyna yw’r ystyr ym mhob un o’r enwau hyn ynghyd â nifer helaeth o enwau eraill tebyg – Dinbych, Rhuthun, Dinorwig, Dunfermline, Dundee, Llundain, Dumbarton, Dun Laighoire.
A dyna sydd ym Mhendinas, olion hen wersyll, neu gaer fechan o gyfnod cynhanes. Ychydig iawn o olion sydd ar gael bellach, gan fod gweithgaredd canrifoedd wedi chwalu llawer o’r hen gaer, a choed a drysi wedi ei chuddio. Gwersyll, neu gaer, fechan ydoedd, a hynny o gyfnod cyn-Rufeinig.
Ol-nodyn
Mae’r terfyniad ‘-as’ yn gallu dynodi ‘tir yn perthyn i’ , felly, yn union fel y mae ‘teyrnas’ yn golygu y tir sy’n eiddo i’r teyrn ( brenin), gall ‘dinas’ olygu ‘ y tir sy’n perthyn i’r gaer’, yn hytrach na’r gaer ei hun
Cymysgmai
Dyma, eto, un o’r enwau hynny y mae mynd i chwilio amdano heddiw yn ofer; mae wedi diflannu o’r ardal. Yn gyffredinol, mae tri rheswm penodol pam y bu i enwau ddiflannu yn Nyffryn Ogwen
- Y chwarel, neu’n hytrach y domen. Diflannodd sawl fferm a thyddyn, yn gyfangwbl, neu’n rhannol, o dan y domen fel yr ehangodd dros y blynyddoedd. Sonnir am nifer o’r rhain mewn sylwadau ar ddaliadau unigol a chaeau
- Y chwarel yn anuniongyrchol, oherwydd adeiladu tai ar gyfer y gweithlu mawr a gyflogid, a’r strwythurau cynnal y gymdeithas – siopau, crefftwyr, gweithwyr proffesiynol, ac yn y blaen. Rhwng 1790 ac 1880 yr adeiladwyd y cyfan o bentrefi Dyffryn Ogwen, ar dir a oedd, cyn hynny, yn dir amaethyddol, yn gaeau, tyddynnod, a ffermydd. O’r 1930au ymlaen diflannodd mwy o dir gydag adeiladu stadau o dai gan Gyngor Trefol Bethesda. Yn fras, gellir dweud na chollwyd nifer o enwau’r daliadau amaethyddol, gan i’r tai a godwyd gadw enw’r daliad gan amlaf, megis Pen y bryn, Caellwyngrydd, Pant, ond collwyd enwau’r caeau i gyd, fwy neu lai.
- Ad-drefnu amaethyddol, ac ehangu’r Parc, yn hendref Llanllechid rhwng 1840 ac 1860, lle collwyd nifer o ddaliadau unigol. Collwyd enwau’r caeau oherwydd mai rhan o’r broses oedd creu caeau mwy. Sonnir am y rhain mewn nodiadau ar ddaliadau a chaeau unigol.
Fodd bynnag, nid yw diflaniad Cymsygmai yn cael ei egluro gan yr un o’r tri rheswm uchod, ac ni wyddom pam y diflannodd.
Fferm fynydd o 61 acer oedd Cymysgmai, gyda’i thir uwchben y Gerlan bresennol. Mae’r enw yn hen; yn Archif Melville Richards, nodir cyfeiriad at yr enw yn 1289 – gallai’r enw fod ar ddaliad, ond tebycach mai enw ar dir ydyw. Roedd y daliad yn 1765 yn terfynu ar afon Ffrydlas un ochr, a Than y Garth, Parc, Gerlan, a Chiltrefnus ar y lleill. Gan mai rhai o’i chaeau yn 1765 oedd dau gae o’r enw Freithwen ( 5 a 4 acer ), a dau arall Nant Du ( 4 ac 1 ), mae’n sicr mai ei lleoliad oedd ble mae Tai’n Cae, Freithwen, a Nant y Ty heddiw. Mae peth amheuaeth pa mor uchel i’r mynydd yr âi ei thir, gan fod Syr Ifor Williams , wrth drafod enwau’r mynyddoedd Drosgl a Llefn, yn gosod ‘Weuncwsmai’ rhwng y ddau. Os cywir hynny, byddai yn ei gosod yn uchel i fyny, wrth draed Gyrn. Mae map Arolwg Degwm 1838-40 yn dangos fod dwy ran i’r fferm; roedd y rhan isaf yn cynnwys y tir rhwng Gerlan a Ffrydlas o’r dwyrain i’r gorllewin, ac, o’r gogledd i’r de, rhwng Tanygarth a Chiltrefnus, tra’r oedd y rhan uchaf rhwng Ffrydlas a’r Parc, ac yn ffinio ar y mynydd agored; efallai mai hwn yw Wauncwysmai. Mae Hugh Derfel, yntau, yn sôn am le o’r enw Foty Famaeth yn y mynydd ar lan Ffrydlas, a hynny wrth drafod Cymysgmai. Mae’n sôn am chwedl leol yn nodi mai yno, yn Foty’r Famaeth, ar dir Cymysgmai, y ganed Twm Sion Cati, ac mai wedyn yr aeth i Dregaron, y lle a gysylltir gyda Thwm yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae map Arolwg y Degwm 1838-40 yn gosod tir y fferm i’r de o’r Parc presennol, gyda thir yn perthyn i Bant Ffrydlas yn uwch i fyny’r gweundir na hi.
Adfeilion rhwng Freithwen a Than y Garth – gallent fod yn adfeilion Cymysgmai, ond nid oes unrhyw sicrwydd
Yn ôl Arolwg 1765 yr oedd ty ar y fferm; mae adfeilion ar y ffordd rhwng Freithwen a Than y Garth,a gallai’r rhain fod yn adfeilion adeiladau’r fferm, ond nid oes dim gennyf i brofi hynny. Mae’r fferm ar Arolwg Degwm 1838-40, gyda’r Parch John Hughes yn dal 66 acer, ond mae’n amlwg nad oes ty yno wedi hyn, gan nad yw’n ymddangos ar unrhyw Gyfrifiad. Mae’n amlwg mai hanes Cymysgmai fu dadfeilio, a rhannu’n dri daliad Tai’n Cae, Freithwen, a Nant y Ty, gyda’r rhan fwyaf o’r rhan uchaf yn mynd i’r Parc Newydd.
Am yr enw, mae Hugh Derfel yn ei alw’n Gwauncwysmai, a’i wyr, Syr Ifor, yn nodi Weuncwsmai; byddai hynny’n rhoi ystyr iddo o ‘waun a gâi ei haredig ( cwys ) ym mis Mai’, ar adeg pan mai diwedd Mawrth, dechrau Ebrill fyddai’r adeg i aredig. Y rheswm am fod yn hwyr fyddai ei bod mor uchel. Fodd bynnag, nid dyma’r lle i drafod dulliau nac arferion amaethyddol, nac i gwestiynu a fyddai gwaun fyth yn cael ei haredig. Byddai’n hawdd gweld sut y byddai’r iaith lafar wedi cywasgu’r enw i Cymysgmai. Eto, os cywir dyfaliad y taid a’i wyr, fe’i cywasgwyd yn gynnar ofnadwy – Cymysgmai ydoedd yn 1765, ac mor gynnar â 1289. Mae’r dyddiad olaf hwn yn dystiolaeth mor eithriadol o gynnar fel ei bod yn anodd credu yn ‘waun cwys Mai’ fel yr enw gwreiddiol, ac mae rhyw deimlad gennyf mai ystumio gair anghyfarwydd i eirfa gyfoes sydd yma. Efallai fod yr ystyr wreiddiol wedi mynd ar ddifancoll, yn union fel yr aeth y fferm hithau. Pwy a wyr erbyn heddiw?
Enw ar gae 36 acer ar fferm Glanllugwy yn Nant y Benglog, yn ol Arolwg 1768 o diroedd y Penrhyn. Mae ‘dôl’, fel y nodir mewn man arall ar y wefan, yn gyfystyr â dolen, ac yn cyfleu tir gwastad sy’n gorwedd yn y ffurf hanner cylch ( neu fwy na hanner ) a gylchir gan dro afon. Fel arfer, oherwydd gwaddodion yr afon a ollyngir yno ar lifogydd, mae’n dir ffrwythlon. Am y ‘Brydain’, yn sicr, nid oes ganddo ddim i’w wneud â Phrydain, sef yr enw ar yr ynysoedd hyn; yr hyn nad yw mor sicr yw beth yn union ydyw. Mae enghraifft arall, heb fod ymhell, o lurgunio gair Cymraeg yn yr un modd. Yr enw ar un o’r pontydd sy’n croesi’r Fenai yw Pont Brittania, fe enwyd honno oherwydd mai’r graig y saif colofn ganol y bont arni yw Carreg y Frydan. Camddehonglwyd yr enw fel Prydain, a’r cam naturiol nesaf oedd ei Seisnigeiddio yn Brittania. Mae Glenda Carr ( Hen Enwau o Ynys Môn t 99) yn nodi ei bod yn debyg fod ‘brydan’ yn deillio o’r ansoddair ‘brwd’, ac yn disgrifio’r dwr yn ffyrnig o gwmpas y graig; y broblem yma yw’r terfyniad ‘an’ sydd, fel arfer, yn cyfleu bachigol, neu fenywaidd, ac nid yw’r un o’r ddau yn briodol i ddisgrifio llif chwyrn y Fenai. Yn ei gyfrol Enwau Afonydd a Nentydd Cymru ( t44) mae R J Thomas yn nodi Nant Brydan fel nant fechan yn rhedeg heibio i Lanbrydan i ymuno efo Teifi ger Llandeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin. Mae yntau yn nodi y tebygrwydd i’r gair ddeilio o brwd, ond yn ffafrio’r ystyr o ‘wres;, sef dwr cynhesach na’r arfer ( Cymharer Afon Cenllysg, am ddwr oer ). i gefnogi’r ystyr hwn mae’n cyfeirio at enwau cyffelyb, megis Twymyn, a’r Nant Boeth, ac mae’n cyfeirio at fwy nag un nant yn yr Alban sy’n cymryd ei henw o’r ffurf Gaeleg ‘broth’ – brwd. Byddai’n ‘-an’ ar derfyn y gair yn dynodi bachigol, sef afon fechan gynnes. Oherwydd lleoliad Dôl Brydain, ac eglurhâd RJ Thomas, byddwn yn cynnig mai Dôl Frydan yw ffurf wreiddol enw ‘r cae yng Nglan Llugwy, a bod Brydan yn enw ar un o’r lliaws nentydd sydd yn y cyffiniau, fyddai’n rhagnant i afon Llugwy ei hun.
Dologwen
Dyma un arall o’r daliadau yn Nyffryn Ogwen nad oes pwrpas mynd i chwilio amdani; y mae wedi mynd ers blynyddoedd lawer. Bu yn hendref Llanllechid , hyd nes iddi ddiflannu, am ganrifoedd ar lannau’r Ogwen rhwng Talybont a’r aber, cyn diflannu i’r Parc,pan ehangwyd hwnnw yn yr 1830au – nid yw’n ymddangos ar restr yr Arolwg Degwm 1838-40. Roedd hi yma cyn belled yn ôl ag 1426/7, oherwydd mewn dogfen o’r adeg hynny nodir
‘ten vigrates of arable land in a place called dologfaen in the township of bodfaio’
Hen fesur tir oedd ‘vigrate‘, ond nid oes sicrwyddfaint yn union ydoedd. Mae un ffynhonnell ganoloesol yn nodi mai 24 acer oedd ‘vigrate’. Diffiniad ‘acer’ oedd yr arwynebedd o dir y gellid ei aredig mewn un diwrnod gyda gwedd o ychen,ac roedd hynny’n fras yn cyfateb i faint yr acer gyfoes, er fod amrywiadau mawr mewn gwahanol rannau o Brydain. Os gellir rhoi coel ar yr unig ddiffiniad a geir, roedd Dologwen yn dir âr sylweddol o tua 250 acer, sy’n faint sylweddol o dir da yn y Canol Oesoedd. Erbyn Arolwg 1768, dim ond 76 acer oedd daliadau Talybont a Dolgwen efo’i gilydd ( Roeddynt yn cael eu gosod ar y cyd ). Yr hyn sydd wedi digwydd, mae’n sicr yw fod y ddôl, oedd yn llawer mwy na’r daliad, wedi ei rhannu i greu gwahanol ddaliadau.
Mae ‘dôl’ a ‘dolen’ yn perthyn yn agos i’w gilydd o ran ystyr; ‘dolen’ yw cylch, megis y mae sawl dolen mewn cadwyn, pob un ynghlwm wrth ei gilydd. Dyna yw sail y gair ‘dôl, hefyd; ‘dôl’ yw’r tir gwastad, fel arfer ar lawr gwlad, neu ddyffryn llydan, sy’n cael ei amgau gan dro mewn afon. Dim ond mewn tiroedd o’r fath y mae afon yn llifo’n ddigon araf i fedru ymdroelli. Mae’r ddôl, oherwydd ei safle, yn aml yn cael ei gorlifo gan yr afon pan fo llif uchel yn honno, a chanlyniad hynny yw fod y tir yn ffrwythlon. Mae’r gair ‘dolydd’ bob amser yn creu darlun o dir da, ffrwythlon yn ein meddyliau. Tir felly oedd tir Dologwen