Awdur: Dafydd Fôn Mai 2020 ymlaen
Foty’r Famaeth Ffridd y Deon Freithwen Ffynnon Ffidlar
Foty’r Famaeth
Lleolir adfeilion ( prin ) yr adeilad hwn ger tarddiad afon Ffrydlas yn y gwastatir uchel i’r dwyrain o Foel Faban, rhwng honno, Llefn, a Gyrn Wigau. Ni ellir honni unrhyw ddyddiad penodol iddo; gallai fod yn perthyn yn wreiddiol i’r cyfnod hwnnw o ganrifoedd pan oedd y drefn hafod-a-hendref yn rhan o drefn flynyddol bywyd a byd amaeth, cyfnod oedd wedi dod i ben yn y rhan fwyaf o ardaloedd Arfon erbyn yr 16eg ganrif. Ar y llaw arall, gallai fod o gyfnod wedi hynny, ond yr enw yn cadw cof am yr hen arfer, oherwydd fod yr adeilad ar y mynydd, does wybod erbyn hyn.
Am ‘foty’ gweler Hafoty.
Am y ‘famaeth’, mae hwnnw’n golygu ‘ mam oedd wedi magu rhywun’. Yn yr oesoedd cynnar roedd yn derm penodol am fam oedd wedi cymryd plentyn i’w fagu. Roedd plant tywysogion, ac uchelwyr pwysig, yn cael eu cymryd oddi wrth eu mamau yn fuan wedi eu geni a’u rhoi i wraig oedd newydd gael plentyn, gan fod ganddi laeth i’r plentyn. Gelwid honno yn ‘fam faeth’, sy’n cyfateb i’r term ‘wet nurse’ yn y Saesneg. Ymhellach ymlaen, roedd y meibion yn cael eu gyrru o’r llys i’w magu gyda theuluoedd uchelwrol, ac ni fyddent yn dychwelyd i’r llys nes cyrraedd oedran gwr, yn 14 oed. Y teulu oedd yn eu magu oedd eu ‘teulu maeth’, a cheid tadmaeth, mamaeth, a brawdmaeth ( ond nid ‘chwaerfaeth’, am ryw reswm ). Yn aml iawn, ac yn hollol ddealladwy, roedd teulu maeth yn bwysicach i berson na theulu gwaed, gan iddo gael ei fagu gyda’r teulu maeth, ac roedd ei deulu gwaed yn ddieithriad iddo, ac nid oedd cadwynau teimnladol yn eu cysylltu. Dyna sy’n gyfrifol am y ffaith fod tywysogion y Canol Oesoedd yn gallu bod mor greulon gyda’u teulu eu hunain; mae hanesion am garcharu brodyr am flynyddoedd, am ddallu ac anafu brodyr, ac am ladd brodyr. Ym mrwydr Pentraeth 1170, fe laddwyd Hywel ab Owain Gwynedd gan ei frodyr gwaed, a bu farw pedwar o’i frodyr maeth gydag ef. Aeth ‘mamaeth’ i olygu ‘ail fam’, ‘ mam oedd yr un mor annwyl â’r fam feiolegol. Mewn ystyr drosiadol, mae Guto’r Glyn ( bl. c1440 – c1490 yn disgrifio Abaty Glyn y Groes fel
Mamaeth im fy myw yma
sef fod yr abaty fel ail fam iddo, oherwydd ei fod yn cael croeso yno, a chafodd ymgeledd yno yn ei henaint, pan oedd yn ddall a musgrell.
Ni honnir o gwbl mai mamaeth i dywysog sydd yn yr enw Foty’r Famaeth, ond mae rhyw fam faeth i rywun wedi rhoi ei henw i’r lle yn wreiddiol. Mae gan Hugh Derfel chwedl leol, nid i egluro’r enw, ond am y lle. Yn ei ôl ef, ( HllaLL t 18 ) dyma fan geni Twm Sion Cati, yn fab i Catti Jones, oedd wedi ei beichiogi gan Syr John Wynn o Wydir. Er mwyn cuddio’r beichiogrwydd, cafodd ei gyrru dros y mynydd o Lanrwst i Wig, ond gorfu iddi droi i mewn i Foty’r Famaeth i roi genedigaeth i’w baban. Roedd hi braidd yn hwyr i guddio’r beichiogrwydd, felly, onid oedd? Mae Twm Sion Cati, er yn berson hanesyddol, yn un o’r cymeriadau enwog hynny sydd wedi dianc oddi wrth eu gwreiddiau mewn man a lle penodol, i droi’n gymeriadau chwedlonol, neu’n lled chwedlonol, sy’n cael ei hawlio gan fwy nag un ardal, a dyna sydd wedi digwydd yma, gan nad oes unrhyw sail hanesyddol i’w leoli yn Nyffryn Ogwan.
Ffridd y Deon
Mae fferm yng ngwaelodion plwyf Llandygai, ar y llethr sy’n rhedeg i lawr i afon Cegin o’r gwahanddwr rhwng y ddwy afon, ac, felly, mae yn Nyffryn Cegin yn hytrach na Dyffryn Ogwen. Pe baech yn cerdded ar hyd Lôn Las Ogwen, yn y rhan fendigedig honno o’r llwybr rhwng Glasinfryn a’r Bont Wen, fe welwch y fferm ar y llaw dde ichi wrth fynd tua Bangor, yn wir, tir y fferm yw’r rhan fwyaf o’r tir ar hyd y rhan hon o’r llwybr hyd nes y cyrhaeddir Lôn Cefn Ty. Yr enw presennol ar y fferm yw Ffridd, ond yr enw gwreiddiol ar ran o’r tir oedd Ffridd y Deon. Yn ôl Arolwg 1768, a’r Arolwg Degwm 1838-40, yr oedd Ffridd y Deon yn ddaliad o 55 acer, ac mae’r enw ‘Ffridd’ yn dangos natur wael y tir. Yr hyn sy’n anarferol yw fod yr enw ‘ffridd’, fel arfer, yn enw ar dir gweddol uchel ar lethrau’r mynyddoedd, yn dir rhwng y tir gweddol dda, neu dda, a’r mynydd gwyllt, oedd yn dir comin. Roedd 13 o gaeau ar y fferm, gydag enwau digon cyffredin iddynt. Diddorol yw’r ddau gae Wern Dywyll( 7 acer ) a Wern Olau ( 2 acer ) gyda’r gyntaf yn amlwg yng nghysgod haul a’r llall yn derbyn mwy o haul, gan wynebu tua’r de. Roedd ‘Ponciau’r Geifr’ yn llai nag acer, ac yn dangos fod rhai o’r creaduriaid hynny yno ar un adeg. Roedd y ffridd ei hun yn 9 acer. Ond mae dirgelwch i’w ddatrys yma. Yn ôl y dogfennau a nodir uchod, yr oedd tri daliad cyfochrog yma yn terfynu ar afon Cegin; o’r de i’r gogledd,Coed Hywel Uchaf, Coed Isaf, a Ffridd y Deon. Erbyn heddiw, dim ond un Coed Hywel sy’n bodoli, sef yr un Uchaf, tra bod adeiladau’r Ffridd bresennol ar safle Coed Hywel Isaf, fel y dangosir hwy ar fap OS 1888-1913. Er gwaethaf y map, mae’r newid wedi digwydd cyn hynny, a gellir ei ddilyn yn y Cyfrifiadau. Mae’r ddwy Coed Hywel, yr Uchaf a’r Isaf, ynghyd â Ffridd yn ymddangos yng Nghyfrifiad 1841, ond nid yw Ffridd yn ymddangos yn y Cyfrifiad nesaf yn 1851. Yn honno mae Coed Hywel Uchaf yn 66 acer, tra bod yr Isaf yn 80 acer. Fel rhan o’i gynllun ad-drefnu, roedd James Wyatt, yn 1843, wedi nodi uno Coed Hywel a Ffridd, ac mae’n amlwg i hynny ddigwydd yn weddol gynnar wedi hynny. Erbyn 1851 nid yw Ffridd yn ymddangos ar y rhestr Cyfrifiad, dim ond y ddwy Goed Hywel. Erbyn 1861 mae Coed Hywel Uchaf wedi cynyddu’n sylweddol, yn 240acer, ( 250 yn 1881) tra bod Coed Hywel Isaf yn 96 acer. Yn sicr yr oedd Ty Gwyn, fferm 76 acer rhwng Coed Hywel a’r Felin Hen, wedi diflannu i dir newydd Coed Hywel, tra’r oedd rhan o dir Cororion ar draws y ffordd o Lys y Gwynt i’r Felin hen, hefyd, wedi ei ymgorffori y y fferm. Am y daliad arall, erbyn 1881, mae Coed Hywel Isaf, fel enw, wedi diflannu, ac mae Ffridd wedi dychwelyd. Mae’n amlwg mai’r un fferm ydyw, gan mai’r un maint ydyw, a’r un teulu sydd wedi ei ffermio ers, o leiaf, 1841, yn wr, wedyn ei wraig, ac yn 1881, y mab; dim ond yr enw sydd wedi newid.
O safbwynt yr enw, mae’n amlwg fod y tir yn perthyn i’r dosbarth hwnnw o diroedd sydd yn cael eu defnyddio i waddoli swyddogion yr eglwys. Fe welir Cae’r Clochydd yn ardal Carneddi, tra bod Llain y Person yn yr hendref. Yn yr achos arbennig hwn gwelir fod yr holl fferm, nid cae yn unig, wedi ei neilltuo ar gyfer gwaddoli un o swyddogion pwysig yr eglwys gadeiriol gyfagos ym Mangor. Y deon yw’r prif offeiriad mewn ardal benodol o’r esgobaeth. Byddai’r tir a neilltuid ar gyfer ei waddoli, un ai yn gwneud hynny trwy ei gynnyrch, ei ddegwm,neu ei rent, neu fod y deon ei hun yn ffermio’r tir. Efallai, hefyd, ei bod yn arwyddocaol, mai perchennog y ddwy fferm gyffiniol ar Ffridd y Deon, Coed Hywel Uchaf ac Isaf ( yn un fferm yn wreiddiol ) yn 1546 oedd Arthur Bulkeley, Esgob Bangor ( un o brif feuluoedd Ynys Môn, Bulkeleys Baron Hill, Biwmares). ( PFA/1/223) A oedd yr Esgob yn berchen ar y tir yn rhinwedd ei swydd, neu oherwydd ei sfale gymdeithasol. Os y cyntaf, gallai’r holl dir yn y cyffiniau hyn fod yn eiddo i’r Gadeirlan ym Manor, felly, byddai Ffridd y Deon, hefyd, yn eiddo mewn rhyw fodd i’r Gadeirlan a’i hamryfal swyddogion. Beth bynnag, erbyn 1768 mae’r Ffridd yn nwylo’r Penrhyn.
Bellach, diflannodd y ‘deon’ o enw’r fferm, a diflannodd ei swyddogaeth fel tir i gynnal y deon.
Freithwen
Ty sy’n uchel uwchben Gerlan ble mae’r ffordd a wynebwyd yn darfod. Ar Fap OS 1888 mae’r lle yn cael ei nodi fel Ffrithwen, sy’n ein harwain i gasgliad digon teg mai ‘Ffridd wen’ yw ystyr yr enw, sef tir uchel, gwael gyda thyfiant golau arni. Hollol resymol! Fodd bynnag, yr ynganiad lleol yw ‘freithwen’, ac, er bod ynganiad lleol yn gallu newid gair ar adegau, pan fydd hynny’n digwydd, newid gair anghyfarwydd yn air cyfarwydd a wneir, ac mae’r gair ‘ffridd’ yn hollol gyfarwydd yn yr ardal fynyddig hon, gyda dau Dyn Ffridd heb fod ymhell. Yn ogystal, yn Arolwg Tiroedd y Penrhyn 1765, nodir dau o gaeau cyffiniol y fferm fynydd Cymysgmai fel ‘Freithwen’.( yn amlwg, un cae wedi ei rannu’n ddau – 4 acer a 5 acer ). Ag ystyried mai’r ddau gae nesaf atynt yn yr Arolwg oedd Ffridd a Ffridd Bach, nid camgymeriad gan rywun nad yw’n deall yw Freithwen.
Beth yw’r enw, felly? Yr hyn sydd yma yw dau ansoddair –‘ braith’, a ‘gwen’, sef ffurfiau benwyaidd ‘brith’ a ‘gwyn’. Mae pawb yn gyfarwydd gyda ‘brith’, ac mae’n golygu, fel arfer, ‘cymysgliw’, yn enwedig cymysgedd o frown, melyn, a du. Er fod ‘torth frith’ yn gymysgedd o gynhwysion, ei lliw amrywiol sy’n ei gwneud yn frith. Mae ‘deryn brith’ wedyn yn gymeriad sy’n gymysgedd o ddrwg a da, tra bod gwallt yn ‘britho ‘fel yr heneiddia rhywun, sef yn gymysgedd o ddu a gwyn. Pan fo’n disgrifio enw benywaidd, mae ‘brith’ yn troi’n ‘fraith’; fe gofiwch i Joseff ennyn dicter ei frodyr oherwydd i’w dad roi ‘siaced fraith’ yn anrheg iddo, sef siaced oedd yn gymysgedd o liwiau. Mae camargraff fod y siaced honno fel yr enfys, ond y tebygrwydd yw mai amrywiaeth ar liwiau sylfaenol fel gwinau a du ydoedd. Beth bynnag, y gair hwnnw sydd yn ‘freithwen’. Pan ychwanegir sillaf at air unsill sy’n cynnwys y ddeusain ‘ai’, mae hynny bob amser yn achosi i’r ‘ai’ droi’n ‘ei’, er enghraifft, ‘cais’ > ‘ceisio’, ‘llais’ > ‘lleisiau’, ‘nain’ > ‘neiniau’, ac ati, felly beth sydd yma yw ‘braith’ a ‘gwen’ > ‘freithwen’.
Mae ansoddair bob amser yn disgrifio enw, ac mae’r ansoddair, fwy neu lai bob amser yn y Gymraeg, yn dilyn yr enw y mae’n ei ddisgrifio. Yr hyn sydd wedi digwydd efo ‘freithwen’ yw fod yr enw oedd yn cael ei ddisgrifio gan ‘fraith’ a ‘wen’ wedi cael ei ollwng dros amser. Yn amlwg, roedd hwn yn enw benywaidd, gan fod yr ansoddeiriau yn dangos hynny, gan fod raid i ansoddair gydweddu gyda’r enw mae’n ei ddisgrifio ( Os yw’r enw’n fenywaidd, rhaid i’r ansoddair fod yn fenywaidd; os yw’r enw’n lluosog, dylai’r ansoddair fod yn lluosog).Beth allai’r enw hwn fod, tybed? Os edrychwn ar y caeau sy’n terfynu arno, hawdd dychmygu mai ‘ffridd’oedd ‘freithwen’, hefyd, ac mai’r enw gwreiddiol oedd ‘Ffridd freithwen’, sef ‘tir uchel gwael yn gymysgedd o liwiau golau’. Mae ‘ffridd’ a’ freith’ mor debyg i’w gilydd fel ei bod yn hawdd deall sut y collwyd y gair ‘ffridd’ o’r enw gwreiddiol.
Efallai nad ‘ffridd’ yw’r gair coll, ond mae’r ffurf bresennol ‘freithwen’ yn dal i gadw cof am enw, a hwnnw’n enw benywaidd, oedd yn wreiddiol yn dod yn ei ffruf wreiddiol, ond fod yr enw hwnnw wedi diflannu cyn 1765, hyd yn oed.
Ffynnon Ffidlar
Mae ffynnon Ffidlar yng nghwm Afon Caseg, ar y tir a elwid yn Waun Lydan, ychydig yn is i lawr y llethr, yn nes at Caseg, na Chwarel Doctor Hughes. Fel llawer o enwau’r llethrau, mae enw a lleoliad y ffynnon yn diflannu o ymwybyddiaeth pobl yr ardal; nid yw’r ffaith fod y ffynnon ei hun yn diflannu i’r sgrwff a’r tyfiant o gymorth i’w chadw ar gof a chadw. Ond nid felly y bu pethau. Yn Y Drych, papur Cymraeg wythnosol Gogledd America, Hydref 1881, mae person a eilw ei hun ond yn JHR, o Scranton, Pennsylvania, yn ysgrifennu i’r papur, wedi ei gythruddo, mae’n amlwg, nad yw rhyw ‘gyfaill Lloyd’, mewn traethawd ar Lên y Werin yn Arfon, na Hugh Derfel Hughes, yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, wedi cyfeirio at Ffynnon Ffidler. Yn ei lythyr dywed
Y mae ffynon Fidler, os wyf yn cofio yn iawn, yn y mynydd yn agos i’r ffordd a basia Giltwllan ac o fewn ychydig ganoedd o droedfeddi i glawdd y mynydd ac yn agos i chwarel lechi. Rhed ei dwfr i’r De fel pob ffynon yn meddu rhinwedd swyngyfareddol, ac y mae ei dwfr yn naturiol, y math oeraf ellir gael. Llifa ei dwfr i afon Gaseg, ac yr oedd yn nodedig am fagu berw y dwfr (water cresses) yn y gors islaw i’r ffynon cyn cyraedd yr afon. Dywedid fod canoedd o binau yn ngwaelod y ffynon, wedi eu taflu yno wrth gyflawni rhyw seremoni grefyddol, gan y pererinion ffyddiog a dramwyasant filltiroedd lawer er ceisio prynu’r dyfodol drwy gymorth y ffynon a’r pinau, i ddatguddio beth oedd ganddo yn nghadw iddynt hwy. Feallai i’r ffynon hefyd fod yn gyrehfan cleifion er ceisio meddyginiaeth. Y mae ymolchi mewn dwfr oer yn ddiau yn un o’r cynghorion meddygol boreuaf. Cynghorai y meddygon eu cleifion i gael gwellhad oddiwrth y cryd-cymalau ac anhwyldebau cyffelyb drwy ymolchi mewn ffynon-au hynod oerion yn fwy cyffredinol er’s canoedd o flynyddoedd yn ol, nag y gwnant hyny yn bresenol. Yn ychwanegol at hyn pan gofir fod mynyddoedd Cymru wedi bod yn lloches i’r Cymry rhag eu gelynion oesau yn ol, tueddir fi i gredu eu bod y pryd hwnw yn fwy cyfarwydd yn hynod bethau y mynyddoedd nag ydyw eu disgynyddion yn yr un wybodaeth y dyddiau hyn. Oddi wrth y pethau hyn casglaf fod ffynon Fidler wedi bod yn wrthrych llawer mwy o sylw a pharch nag ydyw yn bresenol, ao fod y werin yn hyddysg mewn llawer o bethau hynod yn ei chylch. Mae oerni ei dwfr yn ddiarebol. Feallai fod enw arall ar y ffynon, ond dyna’r unig enw a glywodd yr ysgrifenydd.
Y Drych 6 Hyd 1881
Yn ôl Llechidon cafodd y ffynnon ei henw ar ôl person o’r enw
Idris Delynor, a anwyd, fel yr adroddir, yn ardal Ciltwllan, a hynny yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd nid yn unig yn delynor, ond yn ffidler gwych.Dywedir mai odiwrtho ef y cafodd ‘Ffynnon Ffidler yn y Waen Lydan ei henw, ac am y byddai yr hen Idris yn arferol o fyned i Waun Lydan i dynu pabwyr, camgymrwyd ef unwaith gan Herw Heliwr am Geiliog y Mynydd; ond ni chanlynodd y camgymeriad farwolaeth i’r ffidler;
Hanes Llenyddiaeth ac Enwogion Llanllechid a Llandegai 1865 tud 82/83
( Yr wyf yn ddyledus i Myrddin Williams am dynnu fy sylw i’r uchod )