Afon a Llyn

Dafydd Fôn Chwefror 2021

Cymerir yma’r ardal sy’n cynnwys plwyfi Llandygai a Llanllechid, ynghyd â’r mynyddoedd cyffiniol. Efallai nad yw ambell lyn, neu afon, yn union yn Nyffryn Ogwen, ond maent o fewn tafliad carreg ( neu bluen enwair!) i’r dyffryn, ac yn ddigon agos i gael eu cynnwys yma. Os nad oes eglurhâd ar enw penodol, yna heb ei gyrraedd yr wyf! Amynedd, amynedd, fe ddaw, fe ddaw!

AFONYDD A NENTYDD

Mewn oes a fu yr oedd i bob afon, afonig, ffrwd, nant, a rhagnant ei henw, a hynny oherwydd eu bod yn hynod o bwysig, ac nid yn unig oherwydd fod dwr yn sanctaidd, oherwydd ei fod yn hanfodol i fywyd, gyda nifer o afonydd yn gysylltiedig â duwiesau ( gweler Caseg ). Yn ogystal, mewn oes di-fap yr oedd afonydd, a nentydd, o bob maint yn gweithredu fel terfynau a ffiniau; yn wahanol i gerrig neu choed yr oeddynt yn sefydlog ac yn oesol, ac yn gallu diffinio ffin neu derfyn am byth. Gallai’r ffiniau hynny fod rhwng teyrnasoedd, cantrefi, cymydau, esgobaethau,gwelygorddau, tiroedd teuluol neu unigolyn, llannau, neu unrhyw dir ar gyfer unrhyw bwrpas, megis rhodd, neu ewyllys. Meddylier am Gwynedd uwch Conwy, ac Is Conwy, Uwch Gwyrfai ac Gwyrfai, er enghraifft. Rhwng 1220-40 fe luniwyd Llyfr Llandaf, oherwydd anghydfod gyda dwy esgobaeth gyffiniol Tyddewi a Henffordd parthed ffiniau’r esgobaeth. Mae’r llawysgrif honno yn cynnwys siarteri o ganrifoedd cynt ( hyd at y 5ed, ond tua 60% o’r 8ed a’r 9ed ganrif). Er nad yw pob un yn ddilys, nodir enw sawl ffrwd a nant ynddynt, gyda’r rheiny yn ffin rhyw dir a roddwyd rywdro yn rhodd i esgobaeth Llandaf. Rydym yn gwybod ble mae rhai o’r nentydd hyn heddiw, gan eu bod wedi cadw’r un enw, ond nid felly y cyfan, hynny oherwydd fod eu henwau wedi newid, neu nad yw ei henwau wedi goroesi. Eto mae’r nant yno o hyd, yn dyst i’r ffaith eu bod yn gweithredu fel ffin da.

Gan mai dyffryn gyda llethrau serth yng nghanol mynyddoedd uchel yw Dyffryn Ogwen, mae’n dilyn fod llawer o afonydd, nentydd, a ffrydiau yn yr ardal. Oherwydd natur yr ardal, maent i gyd yn ffurfio gwe sy’n undod cysylltiedig i ddraenio’r dyffryn. Natur yr ardal sy’n gyfrifol am natur y we, wrth reswm. Os ydym yn ystyried yr ardal fel y ddau blwyf, Llandygai a Llanllechid, yna mae’n ymestyn o Gapel Curig i Aberogwen, ac mae hynny’n rhoi dau ddraeniad inni. Y rheswm am hynny yw fod daearyddiaeth yr ardal yn golygu fod cefndeuddwr o gwmpas ble mae Capel Nant y Benglog a Gwern y Gof, gydag Afon Dena ac Afon Lloer, a nifer o fân nentydd yn bwydo Llyn Ogwen, ac yna Afon Ogwen yn ffurfio’r asgwrn cefn y draeniad ar ei thaith o oddeutu wyth i naw milltir o’r llyn i’r mor. Yr ochr arall i’r cefndeuddwr Afon Llugwy yw asgwrn cefn draeniad yr ardal i’r de i lawr i Fetws y Coed, ble mae’r afn yn llifo i’r Conwy.

Daearyddiaeth y mynyddoedd o boptu iddi sy’n gyfrifol am natur yr afonydd sy’n bwydo Gwen ar ei thaith. Mae Nant Ffrancon yn gul, gydw llethrau serth, ac ysgrithrog mewn mannau, a bwydir Ogwen gan fân nentydd, sy’n llawn llif cyflym a brochus ar dywydd garw, ond bron, os nad yn, sych weddill y flwyddyn. Nid oes gan y nentydd ochr deheuol yr afon enw penodol, ar wahân i enw eu tarddell, ee Cywion, Bual, Perfedd, ond y mae un sydd, oherwydd natur arda ei draeniad, ychydig yn fwy sylweddol ar y llethrau gogleddol, sef Afon Berthan, sy’n llifo i Ogwen yn ardal Tyn y Maes. Pan yw’r afon yn llifo trwy Fethesda, mae tair o afonydd mwy yn llifo iddi; y fwyaf o gryn dipyn yw Afon Caseg, sydd wedi cymeru efo Llafar ( hithau wedi cymeru efo Cenllysg ) rhyw hanner milltir cyn iddi afael yr yr Ogwen. Nid yw’n syndod fod Caseg yn afon sylweddol, gan ei bod hi yn ganlyniad traeniad ardal sylweddol iawn llethrau Cwm Caseg a Chwm Pen Llafar, sef ochrau de-orllewin y Carneddau o Fraich Ty Du i Gyrn Wigau. Mae rhesymau daearegol yn golygu fod afon Caseg yn hollti’n ddwy rhyw ganllath o Ogwen, gan lifo iddi mewn dau gymer ( er nad oes dwr ond mewn un ohonynt ar dywydd sych). Rhyw ddau ganllath yn is i lawr Ogwen, fe lifa’r Ffrydlas iddi, sydd yn llai na Chaseg, a hynny am fod ardal ei thraeniad, sef yr ardal rhwng Gyrn Wigau a Moel Faban, dipyn yn llai. Lai na hanner milltir i lawr Ogwen llifa iddi’r unig afon weddol sylweddol sy’n ei bwydo o’r de; hon yw Caledffrwd, ( ar lafar Afon Rocar ), ac mae’n fwy sylweddol oherwydd fod llethrau serth y grib sy’n ffurfio ochr ddeheuol Nant Ffrancon o’r Fronllwyd i’r Glyderau bellach wedi lledu’n weundir agored. Y gweundir hwn, Gwaen Gynfi, a’r llethrau at Ogwen, yw ardal traeniad Caledffrwd. Does ond dwy afon ar ôl i ymuno efo’r Ogwen cyn iddi gyrraedd y môr, a’r ddwy ohonynt yn dod iddi ar ei glan gogleddol; y rhain yw Afon Llan, sy’n ymuno â hi ger Pont y Pandy, ac Afon Cae Du ( sy’n fwy o nant, neu ffrwd, nag o afon!) sy’n dod iddi ger Talybont. Yn y ddalen hon byddwn yn edrych ar yr holl afonydd, a nentydd, sy’n rhan o batrwm traeniad yr ardal a elwir yn Ddyffryn, ynghyd â’r afonydd, a’r nentydd, hynny, sy’n gyfrifol am ddraenio rhan ddwyreiniol Nant y Benglog y tu mewn i’r ddau blwyf a nodwyd. Pan fydd nant wedi cymryd ei henw o’r man mae’n llifo ohono, ni fyddir yn ei hystyried ar y ddalen hon

Berthan Afon Boles Afon Bwlch Goleuni Afon Ddôl Afon Dena Afon Llan Caseg Cegin Cenllysg Ffrydlas Ffos Rhufeiniaid Ffos Foelgraig Ffos Pantyrychen Ffrwd Goch Llugwy

Berthan

Afon fer sy’n tarddu ar lethrau uchaf Carnedd Dafydd, ac yn llifo trwy Fwlch Pen Taran rhwng Braich Ty Du a Foelgraig, gan draenio’r ardal ddeheuol i’r cefnddwr sy’n rhedeg o Fraich ty Du i Fraichmelyn. Ar waelod Braich Ty Du mae’n cymryd tro sydyn ac yn rhuthro ar i waered am Dynymaes, gan lifo i Ogwen ger Pont Ceunant.

Mae’r terfyniad -an yn digwydd mewn nifer helaeth o fân afonydd a nentydd trwy Gymru, megis Afan, Swtan, Baglan, Carfan, Cellan, ac yn y blaen, a cheir ef mewn enwau eraill, megis Yr Aran, Cymyran, Bwlan, Gogerddan, ac ati. Mae iddo’r ystyr o ‘bychan’. O ran ‘berth’, nid yw hwnnw’n dod o’r gair cyffredin ‘perth’, am lwyn, neu goeden fechan; yn hytrach, mae’n dod o’r gair ‘berth’, sy’n golygu, ymhlith ystyron eraill, ‘hardd’, ‘prydferth’, ‘disglair’. Mae’n weddol sicr mai’r olaf sydd yn enw’r afon hon, sef afon â’i dwr yn ddisglair.Mae’r afon yn llygaid yr haul ar hyd ei chwrs byr i gyd, a gallai ‘berth’ gyfeirio at hynny, sef fod ei dwr yn disgleirio yn y golau. Wrth gwrs, gallai ei dwr fod yn glir a disglair am ei fod yn lân, hefyd.

I’r cychwyn

Afon Boles

Nant fechan, fer sy’n llifo i lawr llethrau deheuol Bera Bach, ac yn llifo i afon Gaseg ychydig yn uwch i fyny’r cwm na Chwarel Doctor Huws. Collwyd yr ‘e’ ar ddechrau’r gair ‘eboles’ ar lafar, ac mae ystyr yr enw yn hollol glir o gofio ei bod yn ragnant i Caseg.

I’r cychwyn

Afon Bwlch Goleuni

Nant fechan, fer sy’n tarddu ar lethrau Gallt yr Ogof, ac yn llifo i Lugwy rhwng Gwern y Gof a Dol-llech yn Nant y Benglog. Y rheswm am ei henw yw ei bod yn rhedeg trwy weundir eang i’r gorllewin o Gapel Cerig a elwir yn Bwlch Oleuni. Yn Arolwg 1765 o diroedd y Penrhyn roedd tir Bwlch Oleuni ar diroedd ffermydd Gelli Mynach a thir Tyddyn Capel y Curig, ac yn gyfanswm o 463 acer. Tybed a gafodd y bwlch ei enw oherwydd ei fod yn wynebu’r dwyrain, a chodiad haul?

I’r cychwyn

Afon Cae Du

Afon nad yw’n cael ei henwi ar fap, ond mae’n uniad nifer o fân nentydd sy’n draenio’r Sychnant o lethrau’r Gyrn i lawr trwy Faesygroes ac yn llifo i Ogwen yn Nhalybont. Yr oedd ‘cae du’ a ‘blaen y cae du’ yn enwau ar ddau gae 2 acer ac 1 acer ar fferm fechan Sychnant, tra’r oedd un o gaeau Tyddyn Maesygroes yn dwyn yr enw ‘cae du’. Mae’r nant/ nentydd yn llifo trwy diroedd y ddau ddaliad hyn ( neu ‘roedd’ yn achos yr olaf, gan iddo ddiflannu yn yr 1840 gydag ad-drefnu’r tir). Mae’n amlwg i’r nant gymryd ei henw o’r tir y rhedai trwyddo am ran o’i chwrs.

I’r cychwyn

Caseg

Afon Caseg ym Mhont Waun

Afon Caseg yw’r afon sy’n casglu holl ddyfroedd llethrau gogledd-orllewinol y Carneddau, trwy dderbyn rhwydwaith o ragnentydd, nentydd, ac afonydd cyn llifo i Ogwen, wedi hollti’n ddau ychydig cyn y cymer. Mae’n tarddu yn Ffynnon Caseg, sydd mewn cwm uchel o’r un enw yng nghesail yr Elain a Charnedd Llywelyn, ac yn llifo i lawr trwy Gwm Afon Caseg, heibio troed yr Elain, cyn ymuno efo Llafar ger Pont Waun Gwiail, ac yna llifo trwy Abercaseg i gymeru efo Ogwen. Hi yw’r fwyaf o ddigon o’r afonydd sy’n llifo i Ogwen, fel byddai rhywun yn disgwyl o faint a natur ei thraeniad. Er nad yw’n afon hir – llai na dwy filltir, y mae’n afon rymus, yn enwedig pan ar lif, ac yn afon sylweddol wedi iddi uno efo Llafar.

O safbwynt yr enw gallai hwnnw fod wedi dod o’r ffaith ei bod yn gyflym a grymus, yn union fel caseg. Efallai ei fod yn cyfeirio at yr ewyn gwyn sydd ar ddwr yr afon pan mewn llif, yn atgoffa rhywun o fwng caseg. Pam nad ceffyl, meddech chi? Efallai, yn hollol syml, am mai benywaidd yw ‘afon’. Eto, efallai fod rheswm arall. Roedd dwr o unrhyw fath yn sanctaidd i bob cymdeithas gynnar, a hynny oherwydd mai dwr yw rhoddwr bywyd. Yr oedd pobl yn gorfod byw yn agos o ddwr, er mwyn diod ac er mwyn dyfrio’u cnydau. O’r herwydd, yn enwedig mewn cymdeithasau Celtaidd, roedd llynnoedd, ffynhonnau, ac afonydd yn sanctaidd, a datblygasant yn drigfannau duwiau, neu’n amlach, dduwiesau. Mae sawl afon wedi ei henwi ar ôl y dduwies y tubid oedd yn trigo yn ei dyfroedd, er enghraifft, yn Iwerddon, Boyne (y dduwies Bóinn), Shannon (Sionnan), yn Ffrainc, Seine ( Sequona), Marne ( Matrona), ac, yng Nghymru, Hafren ( Sabrina), a Braint ym Môn ( Brigantia). Yn wir mae ‘dwy’ mewn enw afon yn golygu duwies, gyda Dyfrdwy yn golygu ‘duwies y dwr’, a ‘dwy’ yn syml sydd yn Dwyfach a Dwyfor ( y fach a’r fawr ). Yn ogystal roedd duwies Geltaidd ar ffurf caseg, sef Epona, ac mae hi iddi hi gysylltiadau penodol gyda ffrwythlondeb, fel sydd gyda dwr, hefyd. Mae un awdurdod ar enwau lleoedd wedi awgrymu y gallai enwau anifeiliaid ar afonydd, weithiau, fod yn gysylltiedig gyda duw’r afon honno, yn hytrach na bod yr afon yn atgoffa rhywun o ymddygiad anifail. Gallai hyn fod yn wir yn achos afon Gaseg, sef fod cysylltiad rhwng yr afon â duwies benodol, megis Epona; ar y llaw arall, efallai mai ei hymddygiad gwyllt, cyflym, a chadarn yn unig sy’n gyfrifol am ei henw. Oherwydd ei bod yn amhosibl inni ddweud gyda sicrwydd, fel y gellir dweud am Hafren a Braint, er enghraifft, byddai’n rhyfygus a ffôl inni gythru i’r eglurhâd rhamantus, dim ond gadael pob drws yn gil-gored

I’r cychwyn

Cegin

Afon Cegin ger Maesgeirchen

Mae Cegin yn codi yn Ffynnon Cegin Arthur ar dir fferm Yr Hendref ym mhlwyf Llanddeiniolen i’r de-orllewin o Ddinas Dinorwig, ac mae’n rhedeg heibio pentrefi Pentir a Glasinfryn gan redeg i’r môr yn Abercegin ( Porth Penrhyn ), gyda rhan isaf ei chwrs yn nodi’r ffin rhwng plwyf Llandygai a Bangor. Mae llwybr Lôn Las Ogwen yn rhedeg yn gyfochrog â’r afon o Lasinfryn i’r môr.

Er fod ambell un wedi gweld ‘cegid’ yn yr enw, yn hytrach na ‘chegin’, ar y sail fod y planhigyn hwnnw yn tyfu mewn tir gwlyb, mae’n anodd gweld dim byd ond ‘cegin’ mewn afon sy’n codi o Ffynnon Cegin Arthur. ‘Chegin‘ ydy’r ffurf yn y 15ed ganrif, ‘Avon Gegyn‘, ac ‘Aber Gegyne‘ gan Leyland yn 1536-39,ac ‘Aber Geggin‘ yn 1622. Yr un ‘cegin’ sydd yma ag sydd yn yr ystafell ‘goginio’, ac fe ddaeth yr enw oherwydd fod dwr coch yn y ffynnon ei hun, ac ame’n byrlymu i fyny’n gryf. Datblygodd y gred gan drigolion lleol mai braster y cig a ferwid yn y gegin islaw’r wyneb oedd y rhwd coch a nofiai ar wyneb y dwr; mae’n weddol sicr mai’r arfer i gysylltu’r Brenin Arthur gyda phob nodwedd bosibl sy’n gyfrifol am enw’r ffynnon.

Mae’n bur amlwg, yn yr achos hwn, fod yr afon wedi cymryd ei henw oddi ar y ffynnon, a rhaid gofyn, felly, ai dyna’r achos bob tro. A yw Ffynnon Caseg, er enghraifft, yn golygu Llyn Caseg, gyda’r afon yn cymryd ei henw oherwydd ei bod yn llifo o’r llyn, neu’r llyn yn cymryd ei enw oherwydd fod yr afon Gaseg yn llifo ohono? Mae’r un peth yn wir am afon/ Ffynnon Lloer, Llugwy, ac eraill, er fod ystyr ‘Llugwy’ yn dangos mai’r afon yw’r enw cysefin. Ddown ni fyth i wybod yr ateb, ond mae’n cymhlethu pethau ymhellach mewn maes sy’n ddigon cymhleth i gychwyn!

I’r cychwyn

Cenllysg

Afon sy’n draenio y rhan honno o lethrau deheuol Carnedd Dafydd a’r Ysgolion Duon, a’r ochr ogleddol y gwahanddwr sy’n rhedeg i lawr o’r Foelgraig trwy Gefn yr Orsedd i Fraichmelyn. Mae’n cael ei ffurfio gan nentydd a rhagnentydd, ac yn cymeru efo Llafar ger Ty Slates. Afon fer ydyw, ond, oherwydd natur a lleoliad ei draeniad, mae’n afon gref ar lif. Nid yw Huw Derfel Hughes Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid yn cydnabod ei bodolaeth, ond yn amlwg yn cymryd mai Afon Foelgraig ydyw.

Er mai afon yw afon i’r rhan fwyaf ohonom, a dwr yw dwr, mae’n amlwg, i rheiny hynny oedd yn fanwl gyfarwydd gyda’r byd o’u cwmpas mewn oes a fu, yr oedd gwahaniaethau bychain rhwng popeth. Un o’r gwahaniaethau hynny, mae’n amlwg, oedd natur dwr a dwr. Pan oedd dwr afon ychydig yn fwy claear na’r arfer ceid afon Twymyn, er enghraifft, yn Nyffryn Dyfi, ac roedd y Nant Boeth yn rhedeg i’r Afan.Os dwr cynhesach, roedd yn naturiol y ceid dwr oerach na’r cyffredin mewn ambell afon neu nant Cefnder T H Parry Williams oedd Wil Yr Oerddwr, uwchben Beddgelert, ac fe ganodd Iorwerth Peate am Nant yr Eira, rhwng Llanbrynmair a Llangadfan ym Mhowys. Math o eira yw ‘cenllysg’, yr hyn a elwir yn y de yn ‘cesair’, a cheir Nant Cesair ym Morgannwg.

Afon Cenllysg, felly, yw afon sydd a’i dwr yn oerach na’r cyffredin

I’r cychwyn

Ddôl, afon Dilyner y ddolen i’r adran berthnasol yn Enwau Dyffryn Ogwen

Dena, afon

Afon fechan sy’n sy’n rhedeg o dir Bodesi trwy dir Tal Llyn Ogwen i Lyn Ogwen. Mae’r enw yn ei egluro ei hun, gan mai afon gul ydyw

Afon Dena

I’r cychwyn

Ffos Coetmor – gweler safwe Hanes Dyffryn Ogwen

Ffos Foelgraig – yn rhedeg o’r Foelgraig ar lethr gogledd-orllewinol Carnedd Dafydd, i uno efo Ffos Pantyrychen i ffurfio afon Cenllysg. Mae ystyr yr enw yn amlwg, er fod ‘ffos’ yn aml o wneuthuriaid dyn, rhywbeth sy’n bell o fod yn wir am hon, oherwydd ei lleoliad. Wedi ei henwi oherwydd ei bod mor fychan a chul. Yn ei restr o afonydd Llanllechid yn Hanes Llandegai a Llanllechid, mae Huw Derfel Hughes yn amlwg yn cymryd mai hon, o dan yr enw ‘Afon Foelgraig’, yw Ffos Pantyrychen ( mae’n nodi ei bod yn llifo trwy Bantyrychen ) a Chenllysg

I’r cychwyn

Ffos Pantyrychen – yn rhedeg o’r Mynydd Du, yr ochr ddeheuol i Ysgolion Duon ac yn uno efo Ffos Foelgraig i ffufio afon Cenllysg. Er nad yw’n cael ei nodi ar fap, mae’n amlwg mai’r tir y rhed y ffrwd trwyddo yw ‘pant yr ychen’, sef ‘pant ble mae’r/ roedd ychen ( bustych’) yn pori/ cysgodi/ casglu’, neu rhyw gysylltiad arall gydag ychen. Roedd yr enw yn hollol gyfarwydd i Huw Derfel Hughes, er nad yw’n sôn am y nant, ond, yn hytrach yn dweud fod ‘afon Foelgraig’ yn llifo trwy Bantyrychen.

I’r cychwyn

Ffos Rhufeiniaid – yn rhedeg ar hyd llethr ddwyreiniol Moel Faban i lawr i ardal Rachub. Roedd yn rhedeg o lethrau’r Gyrn heibio pen dwyreiniol Bwlch Molchi, ac ar hyd llethrau dwyreiniol y Foel, cyn troi i’r de-orllewin am Rachub . Gan fod y Bwlch Molchi yn cael ei alw wrth enw arall, sef Bwlch y Rhufeiniaid, gan y trigolion lleol, gallai fod wedi cymryd ei henw oddi wrth hwnnw. ( Gweler Bwlch Molchi). Doedd gan y Rhufeiniaid affliw o ddim i’w wneud â’r Bwlch, ac yn sicr nid gyda’r ffos,gan mai ffos ydyw a gloddiwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif er mwyn cludo dwr o’r afon Ffrydlas i nifer o fân chwareli yn ardal Caellwyngrydd, er mwyn gyrru peiriannau yn y rheiny. Mae gan y ffos un nodwedd ryfeddol, sef ei bod yn ymddangos mewn rhannau fel petai’r dwr yn llifo i fyny’r allt.

I’r cychwyn

Ffrwd Goch

Nant fechan sy’n rhedeg ar lethrau isaf Pen Llithrig y Wrach i Lugwy ger Dol-llech yn Mwlch Goleuni ym mhen dwyreiniol Nant y Benglog. Mae cael lliw mewn enw afon yn eithaf cyffredin, megis Afon Goch, Nant Ddu, Gwenffrwd, ac yn y blaen. Fel arfer, disgrifio’r lliw yn y dwr mae’r enw, er y gall hynny fod yn arlliw yn hytrach na lliw cryf. Gall y lliw fod oherwydd mineralau, organebau, neu blanhigion arbennig yn lliwio’r dwr. Dylid cofio, hefyd, nad oes raid i ‘goch’ fod yn ‘goch’; gall fod yn wahanol arlliw o frown, megis yn yr enw ‘Lôn Goch’, sy’n lôn o bridd, yn hytrach na lôn o wair, fyddai’n ‘lôn las’. Gallai dwr afon fod yn goch oherwydd fod mineralau, megis copr, neu haearn, yn y pridd y mae’n rhedeg trwyddo – mae Afon Goch ar Fynydd Parys – ond gall fod yn syml yn bridd, neu glai. Beth bynnag yw yn yr achos yma, mae’r arlliw coch neu frown wedi rhoi ei henw i’r ffrwd.

I’r cychwyn

Ffrydlas

Afon fynyddig sy’n tarddu o nifer o fân nentydd yn yr ucheldir sydd rhwng Y Gryrn a Gyrn Wigau, gan ddraenio’r gweunydd rheiny sydd rhwng Gyrn Wigau, Llefn a Moel Faban, ac yn llifo’n gyflym i lawr o dan y bont yn y Bontuchaf, ac i Ogwen yng nghwr dwyreiniol Bethesda. (Mae Huw Derfel Hughes yn nodi lleoliad manwl i’w tharddiad, sef Foty’r Famaeth yng nghwr uchaf Wauncwysmai.) Gan ei bod yn llifo i lawr llethrau serth, mae’n afon gyflym, a chryf pan mewn llif, gyda’r canlyniad ei bod, dros y miloedd blynyddoedd, wedi naddu ceunant ddofn fwy neu lai am ei chwrs cyfan.

Er bod ei henw yn ymddangos yn syml, ac yn rhesymol, sef ‘ffrwd’ a ‘glas’, sef afon fechan glas ei dwr, mae amheuaeth am yr enw. Ar wahân i’r ffaith nad yw dwr nant gyflym yn las, fel mae’r môr, er enghraifft, yn las, mae ‘glas’ yn y Gymraeg, pan fo’n cyfeirio at natur, yn golygu ‘gwyrdd’, fel yn ‘glaswellt’, ‘glasgoed’, ac ati. Nid ‘glas’ fyddai’r dwr wedyn, ond ‘gwyrdd’, ac mewn marddwr, nid mewn afon gyflym ei llif mae’r dwr yn wyrdd.

Mae amheuaeth yn codi am y ffurf ei hun, ‘Ffrydlas’, gan fod mwy nag un ffynhonnel gynnar yn nodi ‘ffriddlas’. Yn 1765 nodir enw’r fferm Pant Ffrydlas yn ‘Pant Ffriddlas’, ac ar ddogfennau Treth Tir 1775, a ‘Phant y Ffriddlas’ a geir yn Arolwg Degwm 1838-40 hefyd. Ceir enw daliad ‘Ffriddlas’ yn Llyfrau Rhent y Penrhyn yn 1798, a nodir enw’r afon yn ‘Ffriddlas’ ar fap OS 1888. Fodd bynnag, am nad yw egluro enw yn aml yn waith syml, nodir ‘Glanffrydlas’ ar ddogfennaeth Treth Tir 1793, a cheir ‘Ffrydlas’ yn 1818.

Petai’r enw gwreiddiol yn ‘Ffriddlas’, byddai’n cymryd enw’r tir y mae’n rhedeg trwyddo; nid yw hynny’n beth anghyffredin, petaem ond yn cymryd Afon Llan fel un enghraifft lleol. Er mai rhwng ffriddoedd Cilfodan a Chymysgmai y mae cwrs llawer o’r afon yn y mynydd, ni wyddom a oedd yr holl dir, ar adeg cynharach, yn dwyn yr enw ‘Ffridd Las’. Mae’n enw hollol resymol, sef ‘ffridd â mwy o borfa na’r cyffredin arni; roedd ffridd o’r enw hwnnw ar dir Bronnydd, yr ochr arall i Llefn, ac roedd Ffridd Goch ar dir Corbri.

Beth bynnag fo’r ystyr, ai iaith lafar wedi caledu ‘ffriddlas’ yn ‘ffrydlas’, ai ‘ffrydlas’ yn newid trwy ffansi bwriadol yn ‘ffriddlas’, bodlonwn ar dderbyn y ffurf sydd ar enw’r afon heddiw

I’r cychwyn

Llafar

Afon fynyddig, gyflym, sy’n tarddu yn Nant y Gilfach Felen yng nghysgod yr Ysgolion Duon, yn y gesail rhwng Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn, a’r Elain, gan lifo i lawr trwy Gwm Pen Llafar a. Yn wahanol i nifer o afonydd, nid yw Llafar yn tarddu o ffynnon, neu lyn, ond, yn hytrach, o uniad nifer o nentydd bychain. Mae’n llifo’n gyflym i lawr y llethrau, gydag afon Cenllysg yn ymuno gyda hi ger Ty Slates, ac mae hithau’n cymeru gyda Chaseg ger Pont Waun Gwiail, cyn llifo i Ogwen rhyw hanner milltir yn is. O edrych ar y cymer, y syndod yw mai Caseg yw enw’r afon o’r fan hon i Ogwen, gan ei bod yn hollol amlwg mai Caseg sy’n llifo i Lafar, ac nid fel arall. Beth bynnag am hynny, fel afonydd mynyddig eraill, mae’n afon gyflym iawn ei llif, yn enwedig ar dywydd gwlyb, ac yn llifo’n swnllyd iawn dros y cerrig a’r creigiau. Ac yna mae ystyr ei henw, sef afon sy’n gwneud swn uchel, afon siaradus, barablus, yn perthyn i’r gair ‘llefaru’. Mae’n dod o’r gair Celtaidd *labaro- sy’n sail i nifer o enwau afonydd a ffrydiau ym Mhrydain ac Ewrop. Ceir Laver, Levern, a Lowran yn yr Alban, Laver yn Swydd Efrog, Laber yn yr Almaen, ac yn yr hen Gaul, a cheir Llafar arall rhwng Llanuwchllyn a Llanycil ym Meirionydd. Does ond rhaid ichi sefyll ar Bont Ty Slates pan fo’r afon yn ei llif i ddeall pam y cafodd yr afon ei henw.

Y llif sy’n llenwi Llafar

I’r cychwyn

Llan, afon

Afon Llan ger ei chymer ger Pandy

Nant fechan yw Afon Llan gyda’i tharddiad ar lethrau isel Moel Faban ( mewn pant a elwir gan Hugh Derfel Hughes yn ‘Cwm Ocwm’, ac yn rhedeg trwy diroedd Corbri a Chochwillan, cyn llifo i Ogwen ger y Pandy. Mae mân ragnentydd eraill yn llifo iddi.

Mae’r enw yn ymddangos yn syml, sef ‘afon Llanllechid’, a gellid mai hynny ydyw’r ystyr. Fodd bynnag, mae’n swnio’n od iddi hi gael yr enw hwn, gan fod sawl afon fwy na hi ym mhlwyf Llanllechid. Er ei bod yn llifo trwy bentref bychan Llanllechid, ag y gellid mai dyna’r rheswm am yr enw, byddai’r enw yno cyn y tai; os mai’r pentref roes ei enw i’r afon, mae’n sicr fod ganddi enw gwahanol cynt, a bod hwnnw wedi mynd ar goll. Does dim yn anghyffredin iawn yn hynny yn enwedig mewn afonydd bychain, gan fod nifer o enghreifftiau o hynny’n digwydd. Rydym yn gwybod, er enghraifft, mai enw gwreiddiol afon Adda, sy’n llifo trwy, ( ac o dan, erbyn hyn), dinas Bangor oedd Tarannen ( yn gwneud twrw fel taran pan mewn llif. Y tai sydd ym mhen deheuol Coed Mawr yw Toronnen, sef llygriad o’r enw gwreiddiol). Yn anffodus, peth hawdd yw newid enw – dim ond arferiad ydyw – mae Caellwyngrydd bron wedi diflannu o gof yn Nyffryn Ogwen bellach, a Rachub yw’r holl bentref heddiw.

Eto fe allai fod ystyr arall i enw Afon Llan. Mae’r nant yn llifo heibio eglwys a mynwent Llanllechid. Heddiw mae ‘llan’ yn golygu ‘plwy’, ond, yn wreiddiol, y ‘llan’ oedd y tir oedd o amgylch yr eglwys, a’r eglwys ei hun. ( Gweler Llan) Os nad yw afon Llan wedi newid ei henw, gallai mai’r ystyr yw ‘afon yr eglwys’/ ‘yr afon sy’n llifo heibio’r eglwys’. Efallai ei bod yn arwyddocaol mai’r enw ar fap OS 1887, a mapiau dilynol, yw ‘Afon y llan’, fel pe byddid yn cyfeirio at ‘yr eglwys’. Roedd cyfarwyddyd i lunwyr mapiau OS, wrth wneud eu hymchwil yn y 19eg ganrif, holi croesdoriad helaeth o bobl leol, yn arbennig y rhai dysgedig, er mwyn cael y ffurf leol gywir. Mae hyn yn awgrymu mai’r enw lleol oedd ‘Afon y llan’, fyddai’n awgrymu ‘eglwys’ yn hytrach na phentref neu blwyf.

I’r cychwyn

Lloer, afon

Llugwy

Trafodir yr afon hon yn fanwl yn y nodyn ar Glan Llugwy

I’r cychwyn

Nant Ddu – Cwm Pen Llafar

Nant Fach – Cwm Pen Llafar

Nant y Graig – Cwm Pen Llafar

Nant Gwern Gof

Nant yr Ogof – yn llifo ar hyd ochr ogleddol Craig yr Ogof ar hyd Gwern Cwm Gof i afon Llugwy

Ocar/ Caledffrwd

Ogwen

Ogwen yn Nant Ffrancon

Wen, afon – ar lethrau deheuol Garnedd Uchaf, yn llifo i afon Caseg

LLYNNOEDD

Llyn Bochlwyd

Llyn Caseg Fraith

Llyn Clyd

Llyn Cwn

Llyn Idwal

Ffynnon Lloer

Ffynnon Llyffant

Llyn Cywion

Marchlyn