Ambell gae

Awdur: Dafydd Fôn  Mai 2020 ymlaen

Enwau a drafodir

(YR) allt enbyd,  Cae Batin, Cae Crug, Bryn Byrddau, Buarth, Buarth Lletpai,  Cablyd, Caeau Cyd, Clwt, Dalar Bengam Cae Deintur, Cae’n Drws, CAE’r Eos, CAE GWALCHMAI, Cae Maes y Goten, Dryll, Dryll y geifr, Eisinach, Erw, Gallt y geifr, Cae Glover, Gwadan Clocsan, Cae Gwndwn, Gweirglodd yr Wlff  Gwrli, Cae Pistyll yr Eurych, Hopyard,  Lodge, Llain,   Llathen, Maes y Cwning  Pant y to, Pedair Pladur, Pwll Pryfaid, Cae Pys, Cae Pysgoty. Ysgythre

Cyflwyniad

Mae’r adran hon wedi ei seilio yn bennaf ar yr arolwg manwl a wnaed o diroedd Stâd y Penrhyn yn 1768, pan oedd Yr Arglwydd Penrhyn cyntaf am weld beth oedd hyd a lled y tiroedd yr oedd wedi eu hetifeddu y flwyddyn gynt. Mae’r arolwg, a wnaed gan y syrfeiwr R Leigh, o Loegr, yn hynod o fanwl, yn enwi pob cae, a darn o dir, ac yn nodi eu hunion fesur. Ac yr oedd llawer iawn o gaeau,gyda nifer yn fychan iawn. Yn ogystal, roedd nifer o gaeau wedi eu cymysgu blith-draphlith drwy’i gilydd o safbwynt perchnogaeth, gydag ambell gae yn perthyn i un daliad yng nghanol caeau daliad arall. Olion dulliau ffermio a dal tiroedd canrifoedd cynt, rhai cyn belled yn ôl â’r Canol Oesoedd, oedd yn gyfrifol am y nodweddion hyn.

Ardal Cororion

Rhan fechan o ardal bresennol Tregarth yn 1768, yn dangos caeau niferus y cyfnod. Archifdy Prifysgol Bangor PENRA 2009

Mae pob daliad a phob cae ym mhlwyf Llandygai yn yr arolwg, oherwydd mai eiddo’r Penrhyn oedd y plwyf cyfan, ond nid felly plwyf Llanllechid, gan fod sawl daliad yno oedd yn eiddo i dirfeddiannwyr eraill. Cafwyd hyd i enwau rhai caeau ar y daliadau hyn, hefyd, ac fe ymdrinnir ag ambell un o’r rheiny. Y trueni mawr yw na ddangoswyd yr un manylder gan y sawl a fu’n gyfrifol am lunio ymateb i Arolwg Degwm 1838-40. Pwrpas yr arolwg cenedlaethol hwn oedd ymateb i Ddeddf y Degwm 1836, oedd yn cymudo’r degwm blynyddol o gynnyrch i arian. I’r pwrpas hwn, roedd angen gweld gwerth ardrethol pob daliad yn y wlad. Gyda llawer o Gymru, fe fu’r ymatebwyr yn hynod o gydwybodol, gan nodi enw a maint pob cae ar bob daliad. Fodd bynnag, nid dyna wnaed yn Nyffryn Ogwen gan na chafwyd ond enwau, maint, a pherchnogion pob daliad unigol, a dim sôn am gaeau unigol. Swyddogion Stâd y Penrhyn wnaeth y gwaith, a’u hymateb ffwrdd-a-hi hwy sy’n gyfrifol nad yw’r ffynhonnell gyfoethog hon gennym ni yma.

Yn ôl at Arolwg Leagh 1768. O ddadansoddi’r cynnwys, gwelir rhai tueddiadau amlwg

  1. Y mae nifer helaeth o gaeau gydag enwau cyffredin iawn, megis cae mawr, cae bach, cae canol, cae pella, cae cefn ty, ac yn y blaen. Am resymau amlwg, ni fyddir yn sôn dim am y rhain yn yr adran hon
  2. Mae nifer helaeth eto yn nodweddion daearyddol, megis pant, cae’r graig, cae bryn. Unwaith eto, ni fyddwn yn sôn am y rhan fwyaf o’r rhain, gan mor syml yw’r ystyr
  3. Mae nifer helaeth o gaeau yn disgrifio cnwd neu anifeiliaid, ac ni sonnir am yrhain ychwaith, os nad ydynt yn anghyffredin, neu’n ddiddorol am ryw reswm.
  4. Mae rhai yn enwau anghyffredin, a’r rheiny, gan mwyaf, a drafodir yn yr adran hon.

Wrth graffu’n fanwl ar y rhestr o gaeau, mae un peth yn taro rhywun. Er fod nifer fawr o’r enwau caeau’n amlwg yn ddilys, mae nifer yn peri peth amheuaeth am eu dilysrwydd fel enwau parhaol o ganhedlaeth i genhedlaeth. Gan mwyaf, y rhain yw caeau gydag enwau anifeiliaid, ac, yn arbennig, cnydau. Er fod amaeth yn yr ardal hon, fel yn llawer o Gymru, yn enwedig y gorllewin, yn hynod o geidwadol a hen ffasiwn, ni ellir derbyn nad oedd ychydig o gylchdroi cnydau, hyd yn oed ym mhlwyfi Llanllechid a Llandygai. Mae gweld enwau megis cae gwenith, cae ceirch, neu cae’r lloiau, cae defaid, yn codi’r amheuaeth mai enwi’r cae ar y funud a wnaed gyda’r caeau hyn, oherwydd yr hyn oedd ynddynt ar y pryd. Ni ellir profi, wrth reswm, ac nid wyf yn siwr a yw’n bwysig.

Gyda’r caeau, ymdrinnir â hwy yn nhrefn yr wyddor ar sail yr enw, ac nid yn ôl ‘cae’ e.e byddai ‘cae hir’ yn ymddangos o dan H, tra byddai ‘cae mawr’ yn ymddangos o dan M

Dafydd Fôn    Mai 2020

Yr Allt Enbyd

Os ydych yn teithio ar yr A5 o Fethesda, ar ôl croesi Pont y Pandy rydych yn dod at ran o’r ffordd sydd wedi ei thorri i ochr serth am oddeutu canllath, nes dod allan i dir mwy agored cyn cyrraedd Tyddyn Iolyn. Mae’r ochr serth hon yn rhan o dir Tyddyn Dicwm, ac yn disgyn i lawr at Afon Ogwen. Yn Arolwg 1768 yr enw ar y tir hwn oedd Yr Allt Enbyd, yn syml allt serth ofnadwy, a dyna ydyw. Pan adeiladodd Telford yr A5 yn yr 1820, gan groesi Ogwen torrodd lwybr trwy’r allt hon. Fodd bynnag, ni wnaeth hynny heb gynsail, gan mai dyma ardal llwybr tramffordd gynharaf Chwarel Braich y Cafn, oedd yn cludo llechi i Abercegin.  Roedd honno’n  dod i lawr Lôn Dinas, ar hyd glan ogleddol Ogwen am rhyw ddau ganllath, ac ar hyd rhan uchaf, llai serth,  yr Allt Enbyd, ychydig yn uwch i fyny na’r llwybr y dewisodd  Telford ei dorri trwy’r allt; erys llwybr troed i ddangos ôl y rhan hon o’r dramffordd.

Batin, cae

Yn 1768 roedd daliad gwreiddiol Aberogwen wedi ei rhannu’n ddau, un yn 62 acer, a’r llall yn 35. Ar y fwyaf yr oedd cae un acer gyda’r enw dieithr Cae Batin. I ddeall yr enw, rhaid inni edrych ar arferion ffermio, ac arferion gwrteithio yn benodol.

Yn nechrau’r 19eg ganrif cynhaliwyd arolwg manwl o amaeth yng Nghymru gan Y Parch Walter Davies ( Gwallter Mechain ). Yn 1815 cyhoeddwyd yr adran olaf General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales . Dydy’r adroddiad ddim yn ganmoladwy iawn o’r sefyllfa gyffredinol. Cafwyd sylwadau negyddol am ffermio yn Aber a Llanllechid, a dyma ddywed Gwallter

They ( ffermwyr )  raised a continued succession of white crops( cnydau yd) for many years without manure. The writer of this report went to examine such a curious phenomenon in tillage, and found the soil to be a light, pebbly loam, the crops scanty, and over-run with weeds.

Elfennol iawn oedd y gwrtaith yr oedd ffermwyr yn ei roi ar y tir – tail anifeiliaid, tywod, a thywyrch wedi eu llosgi. A dyna beth ydy ‘batin’, tywyrch wedi eu codi, a’u llosgi.Yr arfer oedd torri tywyrch ym Mehefin, eu rhoi mewn tomennydd, a’u mudlosgi.Defnyddid y lludw ym Medi, pan oedd rhyg yn cael ei hau. Roedd mwyafrif yr awdurdodau yn nodi nad oedd yn wrtaith effeithiol, ond yn dal i’w gynhyrchu a’i ddefnyddio a wnai ffermwyr.

Roedd ‘cae batin’ yn Aberogwen yn gae y defnyddid ei dywyrch i’w llosgi, gan ddefnyddio’r llwch fel gwrtaith. Mae’n dod o’r Saesneg ‘betting’, sy’n hen air am dywyrch ( turf ).(Ydych chi wedi meddwl erioed pam mai ‘turf accountant’ yw person sy’n selio efo betio yn Saesneg?) Mae’n enw reit gyffredin ar gaeau a ffermydd yng Nghymru – Caerfyrddin, Llangyfelach, Gyffylliog, Llangoed. Ac roedd cae arall o’r un enw yn Nyffryn Ogwen, sef ar dir Brynllys, sydd bellach o dan domen y chwarel.

Cae Batin Brynbyrddau Gwrli

Rhan o fap Arolwg 1768 yn dangos Cae Batin ar dir Brynllys, yn ogystal â Gwrli, a Bryn Byrddau, ( trafodir yn yr adran hon ), a Llyn Meurig. Mae'r mannau hyn i gyd o dan domen y chwarel ers blynyddoedd. 
[Archifdy Prifysgol Bangor PENRA 2009]

Bryn Byrddau

Cae 8 acer ar dir fferm Ty Hen; mae’r cae a’r fferm o dan domen y chwarel ers canol y 19eg ganrif. Yr oedd y cae yn bur agos at Lyn Meurig, ond nid ar ei lannau. [Gweler map o’r ardal yn nodyn Cae Batin]. Mae Hugh Derfel Hughes, Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid,  yn nodi mai enw’r eglwys a gladdwyd dan y domen, ac yr adeiladwyd St Anne’s yn ei lle, oedd Eglwys Bryn Byrddau, felly, mae’n bur debyg mai ar y cae hwn y safai’r hen eglwys. Mae damcaniaeth ddiddorol am Fryn Byrddau, ac ysgrifennais yn helaeth ar hynny ar y safwe Hanes Dyffryn Ogwen.

Am union ystyr yr enw, nid oes gennyf syniad beth yw’r ‘byrddau’, os nad yw’n cyfeirio at rhyw nodweddion ddaearyddol ar y bryn.

Bryn Dillad

Cae 3 acer ar demesne y Penrhyn yn ôl Arolwg 1768. Lleolid ef wrth ochr yr hen blasty, rhwng y berllan a thir bychan Gardd Bryn Dillad. Mae’n enw rhyfedd, ond tybed ai ei leoliad yw’r allwedd i’w enw. Hyd at yn weddol ddiweddar nid ar lein ddillad y rhoddid dillad i’w sychu ar ôl eu golchi; nid ymddangosodd y geiriau yn y Saesneg tan 1830, ac ni ddaeth yn ddull cyffredin o sychu dillad tan ar ôl hynny. Cyn hynny, taenid dillad wedi eu golchi ar lwyni a choed bychain i sychu. Tybed mai dyma sut y cafodd Bryn Dillad ei enw, am mai yno, ar lwyni wrth ochr y plasdy, y rhoddwyd dillad i’w sychu?

Bryn Dillad

Bryn Dillad, wrth ochr y plasdy [ Map Arolwg 1768 Archifdy Prifysgol Bangor PENRA 2009]

Buarth

Cyn gwneud astudiaeth o gaeau’r Penrhyn yn 1765, roeddwn yn ymwybodol o ddau ystyr i’r gair ‘buarth’.

Yn gyntaf mae’n air am ‘y libart o flaen ffermdy’, gyda’r amrywiadau mewn gwahanol rannau o’r wlad ‘cowt’, ‘rhewl’, ‘iard’, ‘ffald’, ‘clôs’. Mae’r gair yn dod o’r hen air   ‘bu’ (‘gwartheg’), a’ garth’ ( ‘rhywle wedi ei amgáu’).

Roedd ail ystyr iddo, yn arbennig yn Eryri, sef’ corlan’, a gelwir llawer o’r corlannau casglu ar lethrau’r Carneddau yn ‘fuarthau’. Ar lethrau Cwm Nanafan mae Buarth Merched Mafan, lle, yn ôl yr hanes, yr oedd merched, neu forynion, y tirfeddiannwr a roes ei enw i’r cwm a’r nant, Mafan, yn godro’r gwartheg yn yr haf, pan oedd yr anifeiliaid i gyd wedi eu gyrru i’r mynyddoedd dros yr haf.

Fodd bynnag, mae’n amlwg fod ystyr arall iddo ar un adeg, yn ardal Dyffryn Ogwen, o leiaf, oherwydd ei ddefnydd mewn enwau caeau.

Yn 1768, ym mhlwyf Llanllechid ( hyd at gymer Caseg – Ogwen ), roedd 93 o gaeau efo’r enw ‘buarth’, roedd 10 yn Nant Ffrancon ( o gymer Caseg – Ogwen, a Chwarel Cae i Gapel Curig) roedd 10, ac ym mhlwyf Llandygai roedd 43, sy’n rhoi cyfanswm o 146 ‘buarth’ yn Nyffryn Ogwen. Ymhellach, roedd 11 buarth ar ddaliad 76 acer Talybont – Dologwen, bron i draean y caeau ar y fferm, tra’r oedd 5 o 18 cae fferm 35 acer Aberogwen yn fuarthau. Mae hyn, yn amlwg, yn ormod o gorlannau a iardiau i un fferm. Ar ben hyn oll mae maint y caeau. Er fod nifer ohonynt yn llai nag acer, fel y disgwylid o gorlan neu iard, mae nifer helaeth yn acer a mwy na hynny. Er enghraifft, roedd Buarthau Cae’r Ffynnon y Gerlan yn 3 acer, roedd dau fuarth yn Nhan yr Allt yn 2 a 4 acer yr un, roedd buarth Pencoed ar dir Cefnfaes yn 3 acer, ac roedd Buarth y Lloiau wedi ei rannu rhwng dwy Waen Gwiail, ac yn ddwy acer yr un. 61 acer oedd maint un o’r ddwy Aberogwen, ac roedd 11 o’r aceri hynny yn fuarthau.

Y canlyniad anochel y deuwn iddo yw nad iard na chorlannau yw ‘buarth’ yn y rhan fwyaf o achosion yn Nyffryn Ogwen. Nid oes unrhyw ddiffiniad o’r gair yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn rhoi unrhyw ystyr gwahanol i’r gair, ond mae’n amlwg fod ystyr ehangach i’r gair ‘buarth’, yn yr ardal yma, o leiaf. Mae’r hynny yn dod yn fwy rhesymol pan ystyriwn fod gair Gwyddeleg ‘gort’ ( o’r Gelteg ), yn golygu ‘cae’.

Dim ond i daflu ychydig mwy o huddyg i’r potas, beth am y cae 1 acer ar dir Pentrefelin sy’n cario’r enw Buarthgae? Ac roedd na gae 1 acer o’r un enw ar dir Tyddyn Elis ap Dafydd yn Nhregarth, ac un 3 acer ar dir Coedhywel. Fyddai dim synnwyr yn yr enw ‘cae cae’! Ai cae wedi ei amgau gyda wal gerrig yw ‘buarth’ yn y cyswllt lleol hwn?

Gellir mynd i un cyfeiriad arall, trwy sôn am ‘fuarth baban’, y ceir cyfeiriad ato mewn llenyddiaeth canoloesol. ‘Buarth baban’ oedd cylch o dân, oedd yn cael ei ffurfio gan dân ar flaen darn o bren, fel arfer, a hwnnw’n cael ei droi i ffurfio cylch, i dynnu sylw, a diddori plentyn. Nid yw’n swnio’n beth arbennig o ddiogel i’w wneud efo baban! Gallai hynny arwain i ‘fuarth’ olygu ‘ cae crwn’. Felly awgrymaf fod trydydd ystyr i’r gair ‘buarth’, sef ‘cae bychan wedi ei amgau’ ( EFALLAI yn rhyw grwn ei ffurf )

Buarth Lletpai

Enw diddorol ar gae bychan o un acer ar dir un o’r tair Cilgeraint yn 1765. I gael at yr ystyr, rhaid inni droi at Syr Ifor Williams, oedd wedi treulio blynyddoedd yn meddwl am ambell enw ym Mangor. Un o’r enwau hynny nad oedd yn meddwl llawer amdano oedd  Caellepa, sef yr ardal honno o dir serth iawn sydd yn codi o ran uchaf y Stryd Fawr, yn yr ardal honno ble mae hen safle Coleg y Santes Fair. Dywed Syr Ifor ( Enwau Lleoedd 1945)

”Fe’m dysgwyd i, a dysgais innau genedlaethau, mai ystyr yr enw hwn yw Cae ar Lepan y Mynydd, a bod ‘llepan’ yn ffurf ar ‘ledpen’, ‘ochr pen’. Medrwn brofi fod ‘dp’ yn troi’n ‘p’, bod ‘-en’ yn troi’n -an’ yn Arfon, …. a bod ‘n’ yn diflannu weithiau ar ddiwedd gair, megis ‘yma’ < ‘yman’, a ‘felly’ < ‘fel hyn”. Felly, meddai Syr Ifor, aeth Caelledpen yn ‘Caellepa’. ‘ cae ar ochr y mynydd’.

Ond yna darganfu Thomas Richards, Llyfrgellydd Prifysgol Bangor, hen ddogfen gyda’r enw ‘Cae Lletpai’, oedd yn profi mai hynny oedd yr enw cywir. Roedd ‘lletpai’ yn hen air anghofiedig yn golygu ‘serth’, ‘llethr’, ‘ tuag at i lawr’, felly cae ar lethr serth yw ‘Caellepa’.Roedd, hefyd, yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr o ‘wyro i un ochr‘ ; byddai angen i farnwr mewn dyddiau a fu fod yn ‘ddi-letpai’, sef heb fod yn gwyro tuag at un ochr, heb fod yn ffafrio neb, a dywed Syr Ifor mai ‘lletpai’ y gelwid y bias mewn peli bowlio, sy’n eu gwneud i wyro i un ochr. Gallai ‘cae llepa’ felly fod yn gae sydd ar hyd llethr,ac yn gwyro tuag at un o’r ochrau. Dywed Syr Ifor iddo ddarganfod ‘Cae Lleppa hefyd yn Llyfr Degwm Plwy Clynnog, Arfon’. Mae’n amlwg nad oedd wedi gweld Arolwg y Penrhyn 1768, neu fe fyddai wedi gweld Buarth Lletpai ar dir Cilgeraint, ac yn ei adnabod fel ‘cae bychan ar lethr serth‘,  neu’n ‘gae bychan sy’n gwyro i un ochr’.

Cablyd

Roedd dau gae ar dir demesne y Penrhyn gyda’r enwau Cablyd Mawr a Cablyd Bach; yn ddigon rhyfedd, roedd y Bach yn 4 acer, ac yn fwy na’r Mawr, nad oedd ond tair acer.

Mae ‘cablyd’ yn air gyda chysylltiadau eglwysig,ac yn dod, yn y pen draw, o air o’r Hen Wyddeleg ( a ddaeth, yn ei dro, o air Lladin) sy’n golygu ‘torri gwallt’ , neu ‘eillio’r pen’. Roedd mynachod yr Oesoedd Canol gyda chorun, neu, weitgiau, bennau wedi eu heillio. Roedd hynny yn adlewyrchu’r hanes yn y Testament Newydd lle torrodd Crist wallt ei ddisgyblion, a golchi eu traed ar y diwrnod cyn iddo gael ei groeshoelio, sef y dydd Iau cyn Gwener y Groglith. Daeth yn arfer yn yr eglwys Gristnogol gynnar i dorri gwallt, neu eillio pen, offeiriaid a mynaich ar y diwrnod hwn, a galwyd ef yn Ddydd Iau Cablyd. Ar yr un diwrnod, hefyd, arferid rhoi rhoddion o arian i’r tlodion, a gelwid hyn yn ‘arian cablyd’.

Mae sawl enghtaifft o dir yng Nghymru yn cael ei alw’n cablyd; mae dwy fferm o’r enw ym Meirionydd, Tyn y Cablyd ym Mhowys, Maes Cablyd yn Nyffryn Ceiriog, tir y cablyd yn Sir Ddinbych, Tyddyn Cablyd yn Llanfor. Ni wyddys i sicrwydd pam y gewlid tir wrth yr enw, ond awgrym Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yw y gellid bod yr arian o’r tir – ei rent neu ei gynnyrch – yn cael ei roi fel arian cablyd i’r tlodion. Os felly, dyna fwriad y 7 acer o gaeau ar dir y Penrhyn, a’r rheswm am eu henw.

Cae Crug

Cae 30 acer ar fferm Gellimynach yn Nant y Benglog. Mae crug’ yn air eithaf cyffredin; yn ôl GPC mae nifer o ystyron tebyg i’w gilydd iddo

a  Bryncyn, ponc, twmpath; carnedd, tomen; pentwr, twr, crynswth; tas, mwdwl; grŵp, clwstwr, cwmni; lliaws, nifer mawr:

Mae’n digwydd mewn mwy nag un enw lle yng Nghymru – Yr Wyddgrug a Gwyddgrug ( Sir Gaerfyrddin). Yn ôl Hywel Owen, mae’n debyg fod y ‘gwydd’ yr yn ag sydd yn yr ymadrodd ‘ yn eich gwydd’ ( Ti a arlywaist ford ger fy mron yng ngwydd fy ngwrthwynebwyr ), a byddai’r enw yn golygu ‘bryn amlwg’. Mae ‘Eisingrug’, ym Meirionnydd, wedyn, yn cyfeirio at domen o eisin, sef croen caled grawn, a adewir wedi’r ffustio/ dyrnu. Mae Bryncrug, wedyn, yn yr un ardal,yn ymddangos yn gyfuniad o ddwy elfen gyfystyr, ond gallai’r ‘crug’ gyfeirio at bentwr o gerrig, neu gyffelyb, ar gopa’r bryn. Yn achos Cae’r Crug ar dir Gellimynach, gellid fod bryn amlwg, neu dwmpath mawr o gerrig, ar y cae, er na fyddai’r un o’r ddau yn rhywbeth eithriadol iawn yn yr ardal hon.

Caeau Cyd

Pedwar cae yn terfynu ar ei gilydd ar dir Llwyncelyn, sy’n awgrymu mai un cae oedd yno’n wreiddiol. Mae’n cael yr enw oherwydd, rhyw oes, roedd yn cael ei ddal gan fwy nag un person – ei ddal ‘ar y cyd’.

Cyflechid

Cae pedair acer ar dir fferm Gerlan oedd hwn. Nid oes y fath air yn bod, ac mae’n debyg mai llygriad o air cyffelyb yw. Mae’n ddigon posib mai’r gair gwreiddiol oed ‘cilfechydd’, sef ‘man cysgodol’, o’r gair cyffredin ‘cilfach’. O gofio lleoliad Gerlan ar y llethrau agored, byddai man cysgodol yn lle i’w groesawu. Yn ogystal, rhaid cymryd i ystyriaeth y gair ‘cil’ sydd mewn sawl enw lle ar lethrau’r dyffryn, gan gynnwys Ciltreflys,oedd ar derfyn Gerlan.

Clwt

Darn bach o frethyn yw ‘clwt’, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu mewn enwau caeau, neu diroedd, sef darn bychan o dir, ac mae’n air sy’n parhau ar lafar. Roedd 18 ‘clwt’ yn Llandygai, gan gynnwys Clwt Cerrig,( Tyddyn Iolyn), Clwt y Ffynnon ( Cilgeraint), a Chlwt y Mawn ( Garth Uchaf ). 7 clwt oedd yn Llanllechid, yn cynnwys Clwt Crwn ( Cochwillan), Clwt y Merddyn (Penybryn – Bethesda), a Chlwt Glas ( Talybont/Dologwen). Er fod maint y clytiau yn amrywio, gydag un yn 4 acer, at ei gilydd, acer neu lai yw’r mwyafrif llethol ohonynt, fel y byddid yn ei ddisgwyl.

Ac roedd ambell ddaliad cyfan yn yr ardal yn dwyn yr enw, megis Tyn Clwt yn Llandygai, a Chlwt y Felin yn Llanllechid.

Dalar Bengam

Cae oedd hwn ar dyddyn bychan Pentre ( ar y ffordd i Aberogwen heddiw) . Roedd tir y tyddyn yn nodweddiadol o ffermydd bychan y cyfnod,yn 10 acer o ddaliad gydag 8 cae ynddo.

O ran enw’r cae rhaid edrych am ystyr ychydig lletach i’r geiriau na’r ystyr llythrennol.

‘Talar’ yw’r rhan o gae âr nad yw’n cael ei aredig, sef y rhan ym mhob pen o’r cae lle mae’r aradr, a beth bynnag sy’n ei thynnu, yn troi cyn cychwyn y gwys nesaf. Am resymau amlwg, mae’r dalar cyn guled ag sy’n bosib, oherwydd nad yw yn dir cynhyrchiol, ac, felly’n cael ei golli. Ar yr wyneb, cae bychan oedd hwn, felly,ac yn gae bychan cul.

Fodd bynnag, gellid ystyr gwahanol, gan fod ystyron ychydig yn lletach i’r gair. Un o’r rheiny yw ‘pen draw’, yn union fel mae’r dalar ym mhen draw’r cae. Mae ystyr arall wedi ei gyfyngu i Arfon, gan fod GPC yn nodi’r dywediad ‘pant a thalar’ yno, i olygu ‘pobman’, yn union fel mae ‘ y byd a’r betws ‘ yn golygu ‘pawb’. Mae hynny’n rhoi’r ystyr o ‘fryncyn‘ i ‘talar’, i wrthgyferbynnu efo ‘pant’.

Oherwydd hyn gallai’r cae bychan hwn ar dir Pentre fod yn ‘gul’, ‘yn y pen draw’, neu’n ‘fryncyn’,

Am y ‘pengam’ wedyn, gellir cael mwy nag un ystyr i’r gair hwn, hefyd. Yr un symlaf yw ‘pen cam’, felly byddai’r cae cul efo un pen iddo ar dro.

Fodd bynnag,mae ystyr lletach i’r gair hwn, hefyd, sef ‘hanner cylch‘, megis ffurf bagl ffon, neu leuad newydd; gelwir cleddyf ar ffurf hanner cylch ( scimitar) yn ‘gleddyf pengam’. Os mai dyma’r ystyr yn enw’r cae yma, yna mae’r holl gae yn ‘gul, ac ar ffurf hanner cylch’.

Eto mae ystyr lletach eto, gan fod ‘pengam’, yn gallu golygu ‘ styfnig’, ‘anodd ei drin’, yn benodol am berson. Os defnyddid ef am dir, yna tir ‘anodd ei drin fyddai.

Does dim posibl dweud yn union pam y galwyd y cae hwn wrth yr enw arbennig a gafodd, ond mae’r ateb rywle yn yr ystyron a nodwyd.

Deintur, cae; deintur bach, cae

Roedd y cyntaf yn gae 2 acer ar dir Pandy, Llanllechid ( Melin Cochwillan ), a’r llall yn 2 acer ar dir Pandy,Tregarth. Mae’r ateb i ystyr yr enw yn eu lleoliad, sef y pandy.

Wedi i’r brethyn gael ei wehyddu, roedd yn dal i gynnwys baw ac olew o’r cnu. Roedd gwaith yn awr i‘r pannwr lanhau’r brethyn, ac roedd yn gwneud hyn yn y pandy. Wedi ei olchi, byddai raid bod hynod ofalus wrth ei sychu, rhag iddo grebachu.Er mwyn gwneud hyn byddai’r pannwr yn rhoi’r brethyn ar ffrâm bren fawr, y ‘deintur’, a’i adael allan i sychu yn yr awyr agored. I ddal y brethyn yr oedd rhesi o fachau ar wyneb y ffrâm; y rhain yn y Saesneg oedd y ‘tenterhooks

 

Y deintur gyda brethyn arno

A dyna oedd y ddau gae gyda’r enw hwn yn Nyffryn Ogwen, caeau lle’r oedd y deintur gyda’r brethyn yn sychu arno. Gyda llaw, gyda’r cae yn y Pandy, Tregarth, dydw i ddim yn gwybod ai’r cae, neu’r deintur, oedd yn fach; mae’r ddau yn gwneud synnwyr.

Cae’r Eos

Dyma enw cae mwyaf fferm y Gerlan, yn 9 acer o faint, ac mae’n enw diddorol iawn ar gae yn yr ardal.

Er fod yr enw yn gyfarwydd iawn, iawn i bawb, mae’n sicr mai ychydig iawn yng Nghymru sydd wedi ei weld na’i glywed, gan nad yw Cymru yn rhan o’i diriogaeth. Mae pawb yn gwybod beth yw eos, ac am ei enwogrwydd fel canwr, ac mae llawer wedi clywed am gantorion o bobl sydd wedi cymryd yr enw llwyfan “eos’, rhywbeth neu’i gilydd, ond does fawr neb ohonom all ddisgrifio’r aderyn.

eos

Mae’r eos yn aderyn bychan, ychydig yn fwy na’r robin, sydd o liw digon cyffredin, ond yn enwog iawn am ei gân swynol, ac mae’n arbennig, hefyd, oherwydd ei fod, yn wahanol i’r mwyafrif helaeth o adar, yn canu yn y nos yn ogystal â’r dydd. Mae’n aderyn mudol, gyda’r ychydig o filoedd o barau sy’n dod i ynysoedd Prydain yn nythu yn ne ddwyrain Lloegr. Er fod yr enw yn bodoli yn y Gymraeg ers o leiaf y 14eg ganrif, a bod ei diriogaeth wedi crebachu dros y blynyddoedd, mae’n sicr na fu’n gyffredin iawn erioed ond yn rhannau deheuol Cymru. Tystia dosbarthiad enwau llefydd sy’n cynnwys yr enw ‘eos’ fod y mwyafrif llethol ohonynt yn ne’r wlad, gyda’r 11 Llwyn yr Eos, sydd wedi eu cofnodi, yng Ngheredigion, Caerfyrddin, a Brycheiniog. Ychydig iawn o enghreifftiau o’r enw sydd yn y gogledd, ac un ohonynt yw Cae’r Eos ar dir y Gerlan. Roedd ‘na Gae’r Eos arall yn Sir Ddinbych. Efallai i’r cae gael yr enw oherwydd i un eos, rywdro, grwydro o’i gynefin, a chael ei weld, neu ei glywed, yn y cae, neu i un eos ddod yn ôl fwy nag unwaith i’w hen gynefin. Beth bynnag y rheswm, yr oedd bodolaeth yr aderyn mewn cae yn y Gerlan rywdro yn ddigon anghyffredin i’r cae gael ei enwi oherwydd iddo fod yno

Fel ôl nodyn, fel petai, rhaid cydnabod y posibilrwydd y gallai ‘eos’, yn syml, fod yn enw trosiadol ar berson ( Cofier Eos y Pentan yn Straeon yr Henllys Fawr), ac mai cof am y person hwnnw sydd yn yr enw Cae’r Eos. Pwy a wyr, erbyn hyn?

Maes y Goten; cae

Cae 18 acer ar dir y fwyaf o’r ddwy Dy Hen, sydd bellach o dan domen y chwarel. Roedd y ddwy fferm yn uned  62 acer i’r de ddwyrain o Lyn Meurig, a Chae Maes y Goten oedd cae mwyaf y fferm; roedd dau gae sylweddol arall, un yn 10 acer, a’r llall yn 15 acer, a’r ddau yn cario’r enw Cae Newydd, gyda’r tri yn terfynu ar ei gilydd. Mae’r ffaith honno, a’r enwau, yngyd â’r ffaith nad oes unrhyw gyfeiriad arall at ‘Faes y Goten’, yn awgrymu mai’r tri chae hyn oedd wedi eu ffurfio o’r ‘maes’ mwy. Er fod ‘cae maes’ yn ddau ddarn o dir gwahanol, yr awgrym yn yr enw yw fod y ‘cae’ yn perthyn i, neu’n rhan o’r ‘maes’.A ‘y goten’, mae tri ystyr i’r gair hwnnw yn cael ei nodi yn GPC.1. Gair tafodieithol am roi cweir i rywun; gan mai yn nhafodiaith y De mae’n digwydd, nid yw’n debygol mai dyma’r ystyr yn enw’r cae hwn. Mae GPC yn nodi ei fod ar lafarf  yn Llyn hefyd, ond mae’n sicr mai -AN fyddai’r terfyniad tafodieithol yn hwnnw, ac nid -EN. Nid yw’r ystyr, ychwaith, yn gwneud llawer o reswm mewn enw cae2. Nodir ‘coten’ fel ffurf arall ar ‘gotwm’. Ni chredir fod llawer o hanes o dyfu cotwm yn Nyffryn Ogwen, ac ni fyddai ffermwr hanner hirben yn ystyried y byddai’n gnwd addas yn yr hinsawdd hwn.Ni chredir, felly, fod llawer o synnwyr gweld yr ystyr hwn yn enw’r cae.3. Mae gair arall ‘coten’, sy’n golygu hwch ifanc, neu anner ifanc, wedi ei sbaddu. Byddid yn sbaddu anifeiliaid er mwyn eu paratoi ar gyfer cig, nid ar gyfer cenhedlu. Mae’n fwy na thebyg mai dyma’r ystyr yn yr enw hwn, sef maes a enwyd ar ôl rhyw anner benodol,neu stori am anifail felly.

Maes y Goten

Map Arolwg 1768 yn dangos Cae Maes y Goten ar dir Ty Hen. Yn y cynllun, hefyd, gwelir y chwarel, 14 mlynedd cyn ei hagor fel un gwaith, a Llyn Meurig.    ( APC PENRA 2009)

Mae map Arolwg 1768 yn dangos fod Cae Maes y Goten yn terfynu ar Gae Braich y Cafn, ac yn dangos bodolaeth ‘Slate Quarry’ yn y fan honno, sef y gweithiau bychain, unigol a weithid gan unigolion a phartneriaid cyn i Richard Pennant eu huno yn 1782. Mae safle’r cae mor agos i’r chwarel yn  dangos nad oes dyfodol hir iddo. Roedd yr un peth yn wir am yr hen fferm ei hun. Oherwydd ei bod mor agos i’r chwarel fe gododd tai i’r gweithwyr ar ei thir. Yn ôl Cyfrifiad 1841 mae 11 ty yno, gyda 51 o bobl yn byw yno, y dynion oll yn chwarelwyr. Fodd bynnag, gwelir y domen yn dod a llyncu; erbyn 1851, 7 ty oedd yno, gyda 43 o drigolion, yn 1861 roedd y tai wedi gostwng i 2, gydag 11 yn byw ynddynt, ac erbyn Cyfrifiad 1871, doedd yr un o dai Ty Hen yn bod, na thir y fferm, mae’n debyg. Cyfrifir Ty Hen, ar lafar y Dyffryn, fel un o’r ‘Pum Treflan’ sydd wedi eu claddu dan y domen.

Ty Hen

Map o 1841 yn dangos clwstwr o dai ar dir Ty Hen. Ar y cynllun, hefyd, gwelir eglwys wreiddiol St Anne's (Eglwys Bryn y Byrddau yn ôl Hugh Derfel ). Sylwer fel mae tomen y chwarel yn prysur ddynesu; byddai'r eglwys wedi diflannu o fewn 5 mlynedd, a'r holl dai mewn chwarter canrif wedi hyn ( Arch Prif Bang PFA/6/157)

Drws; cae’n

Mae nifer helaeth o gaeau gyda’r enw hwn, neu amrywiad arno, megis Cae Drws, Cae’r Drws, yn y dyffryn yn 1765. Yn Llandygai, ceir cae gydag un o’r enwau hyn yn Nhyddyn y Clawdd, Brynllys, Bryncul, Penylan, Siambre Gwynion, Nant Gwreiddiog, Tyddyn Isaf, ac Abercegin, tra yn Llanllechid ceir un ar dir Talybont/Dologwen, Cefnfaes, Winllan, Sychnant, Powls, Bryn Eithin, Tyddyn y Fertos, Corbri, a Thyddyn Ceiliog. Ar un o’r tair Corbri ceir tri chae o’r un enw, yn 3, 3, a 9 acer, wrth ochrau’i gilydd, sy’n awgrymu un cae wedi ei rannu’n dri, tra ar un  Aberogwen ceir cae o’r enw Cae Drws Dologwen, sef y daliad oedd yn terfynu gydag Aberogwen.Un peth na ddyid ei wneud yw meddwl am fferm yn 1765 yn nhermau fferm gyfoes, yn enwedig o safbwynt adeiladau. Y tir oedd yn bwysig; doedd y ty a’r adeiladau ond eilbethau, ac roedd adeiladau ffermydd, os yn bod o gwbl, yn rhai gwael dros ben. Bychain oedd y tai; yn ôl ewyllys Owen Ellis, Cefnfaes, 1802, un o’r ffermydd gorau, o sfbwynt tir,  yn Llanllechid, nodir dodrefn mewn ‘cegin, siambar, a llofft’ yn unig. Doedd ond un drws i’r ty, dim buarth, na chowt, ac eid o’r ty yn syth i un o’r caeau. Y cae hwnnw, fel arfer, fyddai’r Cae’n Drws, sef y cae y byddech yn mynd iddo wrth fynd trwy’r drws. a dyna yw’r rhain ar ffermydd Dyffryn Ogwen

Cae'n drws

Dau Gae’n Drws yn Llanllechid, un o flaen ty Corbri, a’r llall o flaen ty Bryn Eithin; mae eu lleoliad yn dangos yn glir darddiad yr enw ( APG PENRA 2009 ) 

Dryll

Roedd nifer o gaeau yn yr ardal efo ‘dryll’ yn eu henwau   Dryll yr Aber 1 acer ar dir Aberogwen, Dryll y Person 1 acer ar dir Tan yr Allt,    Dryll Gwlyb 1 acer ar dir Rhos Uchaf,  Dryll y Neuadd  1 acer ar dir Cae’r Wern,   Dryll y Geifr  5 acer ar dir Cororion, Dryll y Gwreiddiau  3 acer ar dir Perthi Corniog.    I gael ystyr y gair, meddylier am y ferf ‘dryllio’, a’r ansoddair ‘candryll’. Mae’r ferf yn golygu ‘malu’. yn fwy manwl ‘malu’n rhacs’, ac os yw rhywbeth yn ‘gandryll’ mae wedi malu’n ddarnau mân, yn ‘gant o ddarnau’ yn llythrennol. Fe ellwch ‘wylltio’n gandryll’, sy’n golygu eich bod wedi gwylltio’n ofnadwy – wedi chwalu’n ddarnau mân.A dyna beth oedd ‘dryll, sef darn bychan o dir. Mae dau o’r drylliau yn Nyffryn Ogwen yn eithaf mawr i’ddryll’, ond acer yw’r lleill, sef darnau bychan o dir.Mae nifer o enghrefftiau o’r enw ar gael, ond, yn ôl Archif Melville Richards, maent i gyd ym Mhowys a Gogledd Cymru, sy’n awgrymu mai gair gogleddol yw, yn ei hanfod. yn yr ystyr ‘darn o dir’.

Dryll y Geifr

Cae 5 acer ar dir Cororion Gweler Dryll   a Gallt y Geifr 

Cae Gwalchmai

Roedd hwn yn gae mawr o 19 acer ar dir Coed y Parc yn y rhan o blwyf Llandygai sydd yn ymyl Chwarel Cae Braich y Cafn. Yn ôl map Arolwg Leagh 1768 o diroedd Penrhyn, dangosir Cae Gwalchmai yn rhan uchaf y fferm, yn gae cul hir yn ymestyn ar hyd glan dwyreiniol Caledffrwd, ac yn terfynu ar y mynydd. Mae daliad presennol Bryn Gwalchmai yn cadw cof o’r enw ac o’r cae.

Rhan o fap Arolwg 1768, yn dangos ardal Coed y Parc a Chilgeraint. Gwelir Cae Gwalchmai yn ymestyn ar hyd glan afon Caledffrwd ( Yr Ocar ). Tir Cilgeraint sydd yr ochr arall i’r afon ( APG PENRA 2009 )

Er fod Gwalchmai yn enw personol amlwg, nid yw’n un cyffredin. Dau enghraifft yn unig sydd ohono, a’r rheiny’n rhai amlwg iawn. Y cyntaf oedd y Gwalchmai oedd yn un o farchogion Arthur tra mai’r ail oedd Gwalchmai fab Meilyr, bardd llys Owain Gwynedd, a’i deulu, yn y 12fed ganrif. Fe gafodd ef dir ym Môn gan y tywysog, a dyna ddechrau Trewalchmai a Gwalchmai, a chafodd un ai ei dad neu ei fab, y ddau gyda’r enw Meilyr, dir a ddaeth yn Drefeilir. Eto ni welir Gwalchmai yn enw ar berson arall mewn cofnodion. Wrth gwrs, nid yw hynny’n dweud dim, gan na chofnodwyd enwau y mwyafrif helaeth o bobl y Canol Oesoedd, na wnaethant ddim ond byw eu bywydau’n ddigofnod, neu a gofnodwyd am ryw reswm ar y mwyafrif llethol o gofnodion a gollwyd.

Gellir dweud dau beth yn bendant am y cae; yn gyntaf, roedd ar un adeg yn eiddo i, neu yn nhenantiaeth, dyn o’r enw Gwalchmai; yn ail, nid y Gwalchmai oedd yn nheulu’r brenin Arthur oedd y perchennog, gan mai chwedlonol yw hwnnw. Dydw i ddim yn rhy barod i weld y bardd Gwalchmai yn yr enw ychwaith, gan nad wyf yn rhyw barod i gysylltu person hanesyddol enwog, yn enwedig ymhell yn ôl mewn hanes, gydag enw lle, os nad oes tystiolaeth gadarn i hynny. Rhywbeth ffansïol yw hynny. Eto, mae rhyw hanes yn sicr yn yr ardal hon o Ddyffryn Ogwen, fel y gwelir yn fy sylwadau ar Tyddyn y Twr, Bryn Byrddau, Tan y Castell, Brynllys, a Parc, ond nid yw hynny’n dystiolaeth sicr o dir oedd yma yn eiddo i Walchmai ab Meilyr. Yn absenoldeb y dystiolaeth sicr, mae’n rhaid meddwl fod enghreifftiau o’r enw Gwalchmai yn yr Oesoedd Canol sydd heb eu cofnodi, neu wedi eu cofnodi mewn dogfennau na oroesodd. O ystyried hynny,mae’n haws gen i gredu mai ar ôl rhyw ddyn arall o’r enw Gwalchmai yr enwyd y cae ar dir Coed y Parc

Eisinach

 Cae bychan, llai nag acer, ar dir Tyddyn y Clawdd, Tregarth. Nid oes y fath air ag’eisinach’, ond gall fod ddod o un o ddau air tebyg.Yn gyntaf,gallai ddod o’r gair ‘eisin’, ac mae hwnnw’n golygu ‘ plisgyn caled allanol grawn yr yd’. Mae sawl lle yng Nghymru gyda’r enw ‘Eisingrug’, gan gynnwys un yn Llanrug; yr ‘eisingrug’ fyddai tomen ( ‘crug’) o’r plisgyn called hwn, yn aml y tu allan i felin. Annhebygol iawn ydyw mai hyn sydd yn enw’r cae yn Nhyddyn y Clawdd.Yn ail, gallai ddod o’r gair ‘sinach’, a hawdd iawn yw gweld  Y Sinach yn mynd yn ‘eisinach’, ac yn cael ei gofnodi fel enw mwy ‘ffurfiol yn 1767. Mae’r gair ‘sinach’ yn mynd â ni yn ôl i’r Canol Oesoedd, pan oedd y ffermio ar diroedd agored,di-gloddiau yn aml,  ac mewn lleiniau ( Gweler ‘llain‘ isod ). Er mwyn gwahanu rhwng un llain a’r nesaf ati, yr arfer oedd gadael rhimyn cul o dir heb ei drin; oherwydd fod hyn yn golygu colli tir âr, roedd yn hanfodol fod y sinach mor gul â phosib. Gan nad oedd y sinach yn cynhyrchu dim, lledodd ei ystyr i olygu ‘tir diffaith, anghynhyrchiol’, ac wedyn yn ‘dir sych mewn cors’. Lledodd ymhellach, ar lafar mewn ambell ardal, i ddisgrifio dyn cul, annifyr, cas.Felly, mae’n fwy na thebyg fod yr enw yn disgrifio cae bychan cul, diddim ar dir Tyddyn y Clawdd; gallai, hefyd, fod yn dir diffaith, neu fe allai fod yn dir sych yn y gors ( roedd  Cors y Dref yn gae dwy acer ar yr un tyddyn.Yr oedd cae o’r un enw ar dir dwy o’r tair Gwaun Gwiail, hefyd. Mae’r ffaith fod y ddau yn 2 acer yn cadarnhau’r ffaith i gae 4 acer gael ei rannu rhwng y ddau ddaliad. Y broblem ydy fod y cae gwreiddiol yn 4 acer, nad yw’n cydfynd gyda’r ystyr o ddarn bychan o dir.  Roedd Cae Eisinach, a Gallt Cae Eisinach ar dir Penylan yn Llandygai, hefyd, ac roedd y cae hwnnw yn 3 acer, er fod yr allt yn llai nag acer.

Erw

Cae 3 acer ar dir Tyddyn Canol, Llandygai. Mae nifer o gaeau yn Nyffryn Ogwen yn cynnwys ‘erw‘ fel rhan o’u henw.Erbyn heddiw, mae’r gair ‘erw’ wedi mynd yn gyfystyr ag ‘acer’, a sonnir am hyn-a-hyn o erwau, ond nid felly’r oedd pethau. Mae’n wir mai mesur oedd ‘erw‘, a hwnnw’n fesur tir, ond yr hyn oedd yn arbennig amdano oedd ei fod yn amrywiol iawn ei faint. Roedd wedi ei seilio ar wialen Hywel Dda, a byddai un wialen yn mesur oddeutu pum llath a hanner. Byddai hyn a hyn o’r rheiny yn mesur ‘erw’. Mae’r hen system fesur Saesneg, gyda ‘rood‘ a ‘perch‘ yn adlewyrchu’r dull hwn o fesur. Gellid, hefyd, seilio’r mesur  ar yr iau a ddefnyddid i ieuo pedwar ychen efo’i gilydd ar gyfer aredig; byddai iau hwnnw tua’r un hyd, sef rhyw un troedfedd ar bymtheg a hanner. Roedd yr ‘erw’ yn cyfateb i bedwar ‘cyfar’ yng Ngwynedd, gyda ‘chyfar’ yn golygu’r tir y gellid ei aredig ar y cyd ( cyf + âr ); byddai pedwar cyfar rhwng pymtheg ac ugain acer. Mewn ambell ran o Wynedd gallai ‘erw’ olygu y tir y gellid ei aredig, gan hyn a hyn o aradrau, mewn diwrnod.Mae’n anodd gweld sut yr aeth gair a olygai fesur o hyd at ugain acer i olygu un acer, ond dyna sydd wedi digwydd. I gymhlethu pethau ymhellach, nid yw’r un o’r caeau sy’n cario’r enw yn Nyffryn Ogwen yn agos i ugain acer; yn wir, mae’r rhan fwyaf o faintioli gwahanol!  Erw’r Clochydd – cae dwy acer ar dir Ty Newydd, Llandygai. Fel yn achos Cae’r Clochydd, roedd y tir hwn, rywdro, un ai yn nhenantiaeth y clochydd, neu fod ei rent, neu ei gynnyrch yn mynd i gynnal y clochydd. Mae’n amhosibl gwybod ai clochydd eglwys Llandygai, ai clochydd yr Eglwys Gadeiriol gyfagos ym Mangor oedd y clochydd dan sylw.Erw Drwm – cae 3 acer ar dir Talybont/ Dologwen. Mae’n amlwg fod hwn yn dir anodd ei aredig, yn dir trwm; tir cleiog sydd, fel arfer, yn dir ‘trwm’. Un peth sy’n ddiddorol am yr enw hwn yw fod Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi fod ‘erw’ yn enw benywaidd, ond mae’n amlwg mai gwrywaidd yw yma, neu fe geid ‘erw drom’. Mae ambell air yn y Gymraeg yn ddeuryw – sef yn wrywaidd, neu’n fenywaidd, yn aml yn ôl ardal – mae ‘cwch’ yn un – ac mae ambell air yn newid ei ryw dros y canrifoedd. Tybed a yw ‘erw’ yn un o’r rhain?Erw Cochion – tri chae bychan o lai nag acer yr un ar dir pob un o’r tair Ciltwllan, Gerlan. Mae’n amlwg fod un cae wedi ei rannu pa rannwyd y daliad gwreiddiol. Fodd bynnag, ni fyddai’r cae cyfan yn fwy na rhyw acer a hanner, ymhell o’r hen erw Gymreig. Yr hyn sy’n ddiddorol am yr enw hwn yw fod ansoddair lluosog yn dilyn enw unigol. Fyddai hynny fyth wedi digwydd. Yr unig esbonioad posibl yw fod enw lluosog yn wreiddiol rhwng yr ‘erw’ a’r ‘cochion’, ond fod hwnnw wedi ei golli dros amser.Enghreifftiau eraill o’r gair mewn enwau caeau yn Llanllechid a Llandygai yw ( nifer aceri mewn cromfachau)   

Erw Fawr (4 ), Erw Uchaf (3)              Nant Gwreiddiog  

Erw Wen (2)  Erw Gam ( 1)  Tyn Lôn

Erw Fain (2)  Erw Isaf (2)  Erw Uchaf (2)     Tan Rhiw

Erw Wen  (2)       Perthi Corniog

Erw Fawr  ( 6 )       Penybryn Isaf

Pen yr Erw ( llai nag 1)    Pant y Gwair 

Gallt y Geifr  

Cae 4 acer ar dir Braich Ty Du yn Nant Ffrancon. Hyd at yr 16eg ganrif mae’n bosibl fod mwy o eifr yng Nghymru, yn enwedig yn y mynydd-dir, nag oedd o ddefaid a gwartheg, Yn 1188. dywed Gerallt Gymro fod mwy o eifr yn Eryri nag oedd o ddefaid. Gwneid caws o’u llefrith, canhwyllau o’u braster, a sychid eu cig, a elwid yn “coch yr wden”, ar gyfer y gaeaf. Trwy bori’r creigleoedd cadwai’r geifr y gwartheg o leoedd peryglus. Roedd cadw geifr wedi lleihau gyda dirywiad y drefn ‘hafod a hendre’ yn yr 16eg ganrif, a lleihaodd ymhellach gyda chau’r tiroedd comin.Yn y 18ed ganrif gwelwyd gwerth defaid, gyda’r angen mawr am wlân i greu brethyn ar gyfer y gweithwyr yn y trefi a’r dinasoedd newydd oedd yn tyfu fel madarch, a llanwyd y mynyddoedd gyda defaid. Diflannodd y geifr o fynyddoedd Eryri. Dyma ddywed Hugh Derfel Hughes yn 1866

'yr oedd o fewn cof ddeadelloedd barfog o eifr yn pori rhwng Coetmor a'r Ogwen, y rhai oherwydd eu dinystr ar goed, a ddilewyd ar gais Arglwydd Penrhyn, fel erbyn ein hamser ni, yr oedd aml ddyn wedi tyfu i'w cyflawn faint heb weled gafr na bwch erioed, hyd oni welwyd hwy yn canlyn Byddin y Gwirfoddolwyr'

Wrth edrych ar ewyllysiau ffermwyr o Ddyffryn Ogwen rhwng 1750 ac 1864, dim ond mewn dwy y gwelwyd cyfeiriad at eifr; fe adawodd Ellis Owen, Cilhafoden, 10 gafr yn ei ewyllys, tra’r oedd 6 gafr yn ewyllys Alice Williams, Talybraich, yn 1785.Diflannodd y geifr o ffermydd Dyffryn Ogwen, ond mae eu disgynyddion yn prysur hawlio’r mynyddoedd yn eu holau! 

Glover, cae

Roedd pump o gaeau yn Nyffryn Ogwen yn cynnwys y gair ‘ glover/ glofar’ yn yr enw, tri yn Llanllechid -Buarth Glover yng Nghae Mawr, Cae Glover yn Wern, Buarth Glover yn Groeslon – a dau yn Llandygai – Glofer Bach ar dir Ty Newydd, a Clover Bach ar dir Cororion. Mae’n rhyfedd meddwl fod enw Cymraeg cynhenid ar y planhigyn gwyllt ‘clover’, sef ‘meillion’; (pedair meillionen wen a dyfai yn ôl troed Olwen,merch Ysbaddaden Bencawr, yn chwedl Culhwch ac Olwen), ond, pan ddaeth yr un planhigyn, wedi ei addasu a’i ddofi, i Gymru, cadwodd ei enw Saesneg, ac ni chollodd ef hyd heddiw! Gwendid mwyaf amaethyddiaeth hyd yr oes fodern oedd tynnu o’r pridd, a pheidio rhoi digon yn ôl iddo, yn enwedig yr elfen hanfodol ‘nitrogen’, sy’n dod yn bennaf o dyfiant gwyrdd. Roedd ffermwyr Groeg a Rhufain yn defnyddio planhigion megis pys ar gyfer hynny, a pharhaodd hynny am dros ddwy fil o flynyddoedd yn Ewrop, yn enwedig yng Nghymru.  Roedd yr Arabiaid wedi gweld gwerth mawr meillion ar gyfer rhoi nitrogen i’r prudd, ac wedi ei ddofi yn y ddegfed ganrif, ond araf iawn y treiddiodd y planhigyn, na’i ddefnydd, trwy wledydd Ewrop. Ble bynnag y lledodd, fe ddaeth yn rhan hanfodol o gylchdroi cnydau er mwyn cynnal ffrwythlondeb y tir.Yr arfer oedd tyfu’r cnwd clofer , a’i aredig i mewn i’r pridd er mwyn rhoi nitrogen yn ôl i’r ddaear, gan wneud hynny gyda phob rhan o’r fferm unwaith bob pedair blynedd. Tua 1620 y mewnforiwyd hadau’r planhigyn i Loegr am y tro cyntaf, ac, mae’n sicr iddo gymryd degawdau lawer i gyrraedd yr ardaloedd hyn.Roedd yr hen arfer canol-oesol o gylchdroi tri, ac nid pedwar, cnwd, yn parhau mewn rhannau helaeth o orllewin Cymru, ac, yn sicr, yn Nyffryn Ogwen, hyd at ganol y 19eg ganrif. Mae’r ffaith fod cyn lleied o gaeau gyda’r enw yn Llanllechid a Llandegai yn 1768 yn dangos nad oedd yn arfer cyffredin ei dyfu yma hyd yn oed ganrif a hanner wedi iddo gyrraedd Lloegr, ac yn brawf mai hen ffasiwn iawn oedd amaeth yng ngogledd orllewin Cymru yn y cyfnod.Un nodyn arall am yr enw. Nodwyd ar ddechrau’r adran hon yr amheuaeth nad oedd gan nifer o’r caeau enw parhaol, a bod yr enw a nodwyd yn yr arolwg yn adlewyrchu’r cnwd ar y pryd yn unig. Gall yr enw ‘cae glofer’ atgyfnerthu hynny, oherwydd mai rhan o gylchdroi cnydau oedd glofer, fel y nodwyd, ac, felly, ni fyddid yn tyfu’r un cnwd yn y cae bob blwyddyn. A fyddid yn galw cae yn ‘Gae Glofer’ os na fyddid yn tyfu’r cnwd ond unwaith pob pedair blynedd ynddo, ac y tyfid glofer mewn caeau eraill mewn blynyddoedd eraill. Fodd bynnag, ni ddylid diystyrru’r posibilrwydd mai’r arfer oedd tyfu cnwd meillion yn yr un darn o dir, gan ei gario i gaeau eraill i wrteithio’r rheiny. Nid oes gennym dystiolaeth gyfoes am yr arfer.

Gwadan Clocsan

Cae ar dir Pant y Cyff. Mae’n debyg fod y gair ‘clocsan’ yn anhysbys i nifer helaeth heddiw, ond, ers talwm roedd yn air cyffredin iawn, gan mai clocsiau a wisgai’r rhan fwyaf o bobol am eu traed. Roeddynt yn hawdd iawn eu gwneud, gan nad oedd angen ond pren ( ffawydd, fel arfer, am ei fod yn wydn ac yn hyblyg), ac ychydig o ledr, ac felly’n rhad. Mae enw’r cae yn drosiadol, yn cyfeirio  at gae bychan iawn – ac roedd y cae hwn yn llai nag acer.

Gwadan Clocsan

Cae bychan Gwadan Clocsan ar fap Arolwg 1768 ( APC PENRA 2009 )
Gweirglodd yr Wlff

Cae 3 acer ar hen ddaliad diflanedig Tyddyn y Ceiliog yn hendref Llanllechid. Gair Saesneg yw ‘wlff’, ond gair a ddaeth i’r Gymraeg, er bod gennym air ardderchog a chyffredin amdano ers canrifoedd cyn ei ddod, a gair, er ei fenthyg, nad enillodd ei blwyf – a diolch am hynny. ‘Wlff’ yw’r benthyciad o’r Saesneg ‘wolf’, sef ‘blaidd’.Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru nodir yr enghraifft cyntaf o’r gair mewn cwpled gan y bardd Rhys Nanmor ( bl 1480 – 1513), ond, chwarae teg i Rys, chwilio am odl efo ‘Ercwlff’ ydoedd wrth ddefnyddio’r gair, felly fe ymddengys mai benthyciad bwriadol ydyw, nid benthyciad naturiol. Dim ond dau enghraifft arall o’i ddefnydd a nodir yn GPC, ac mae’n amlwg nad enillodd ei dir, a chadwyd ‘blaidd’.Gan fod ‘blaidd’ yn air cyffredin ar lafar, a bod ‘wlff’ yn amlwg yn ystumiad i bwrpas, sut y daeth gweirglodd yn hendref Llanllechid i gael ei henwi ar ôl blaidd. Ac os mai’r anifail sydd yn yr enw, mae’n amlwg yn enw cynnar. Er fod bleiddiaid yn gyffredin iawn yng Nghymru hyd at ddiwedd y  Canol Oesoedd ( Gweler Galwad y Blaidd,  Cledwyn Fychan, am ymdriniaeth lawn a chynhwysfawr o’r blaidd yng Nghymru ), fe laddwyd yr olaf yma rywdro yn nechrau’r 16eg ganrif,ac mae Cledwyn Fychan yn dadlau mai ym Môn y bu hynny. A gafodd y weirglodd ei henw rywdro cyn hynny oherwydd rhyw flaidd a fu yno, neu, efallai, oherwydd blaidd a laddwyd yno? Eto, rydw i’n amau hynny, gan fod fy ngreddf yn dweud wrthyf, os mai anifail sydd yn yr enw, yna’r enw cyffredin ‘blaidd’ a fyddid wedi ei ddefnyddio.Ond, efallai, nad yr anifail sydd yn y weirglodd! Roedd rhoi’r blasenw ‘blaidd’ ar berson, yn enwedig ymladdwr ffyrnig, yn bur gyffredin yn yr oesoedd cynnar ( o ‘blaidd’ a ‘dyn’ y daw’r enw cyffredin Bleddyn), ac mae Wolf  yn enw Almaenig hynod o gyffredin, fel enw bedydd, ac enw teuluol, ac fel elfen o enw. Beth am Wolfgang Amadeus Mozart? Mae’n haws gen i feddwl mai person oedd yr ‘wlff’ oedd yn enw’r weirglodd, ac mai rhywun estron, gyda’r enw, neu lysenw ,Wolf, oedd ar un adeg yn berchen y weirglodd. Mae nifer o weirgloddiau, caeau, a daliadau yn yr ardal, yn enwedig yn yr hendref, wedi eu henwi ar ôl personau, fel bod hynny’n ddigon tebygol. Cofier, hefyd, fod estron yn dod i’r ardal gyda theulu’r Penrhyn – fe geir  enghraifft yn Gweirglodd Needham. Mae’r fannod ‘yr’ yn awgrymu mai llysenw, yn hytrach nag enw, oedd, os mai person sydd yma. Fyddwn ni fyth yn gwybod i sicrwydd pam y galwyd y weirglodd 3 acer ar dir Tyddyn y Ceiliog yn Weirglodd yr Wlff; gallai fod ar ôl yr anifail, a gallai, yn fwy tebygol, fod wedi ei enwi ar ôl rhyw berchennog, neu denant, gyda’r enw, neu lysenw, ‘Wolf’.

Gwndwn ; cae

Er fod y cae arbennig hwn ar dir daliad diflanedig Tyddyn Sachre, roedd mwy nag un cae yn y dyffryn o’r enw ‘gwndwn’. Mae’n derm amaethyddol, gan mai disgrifiad o dir ydyw. Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, ystyr gwyndwn yw ‘ Tir heb ei droi ers blynyddoedd, hendir,’ yn ogystal â ‘tondir, gweirdir; lle agored, gwastadedd’ . Pan fo’r gair mewn enw cae, mae’n golygu tir sydd wedi ei adael heb ei aredig am flynyddoedd, yn aml, am ei fod yn dir gwael, ac yn dir nad oedd llawer o bwrpas ei aredig, am ei fod yn aml yn dir sur. Defyddid y cae fel porfa cyffredinol. Mae’n arwyddocaol fod gwndwn yn enw, neu’n rhan o enw, sawl darn o dir yn Nant Ffrancon a Nant y Benglog, gan fod y tir yn yr ardaloedd hyn yn dir gwael, addas i borfa yn unig. Defnyddid y gair, hefyd, i ddisgrifio tir oedd yn gorffwys am flwyddyn, neu ddwy, yn unig, hynny yw, yn y cynllun cylchdroi cnydau – tri thymor cyn y 19eg ganrif, pedwar tymor wedi gwelliannau mewn amaeth – byddid yn gadael cae i orffwys, heb ei aredig i godi cnydau, am un flwyddyn. Fodd bynnag, ni fyddai cae yn cael yr enw, os nad enw’r funud, ac nid enw parhaol, fyddai. A derbyn fod yr enw ar gae Tyddyn Sachre yn un parhaol, cae nad oedd yn cael ei aredig ydoedd, am ei fod yn dir gwael.Mae nifer helaeth o enghreifftiau o’r gair ‘gwndwn‘ mewn enwau lleoedd yng Nghymru, ar ei ben ei hun, neu mewn cyfuniad, megis Tyn Gwndwn

Gwrli

Roedd cae o’r enw ar dir Dolawen ym mhen isaf Nant Ffrancon, a cheir darn o dir gyda’r enw ar dir Cororion. Aeth dau gae gyda’r enw o dan y domen ers dros ganrif a hanner, ond gan fod y ddau ar diroedd y ddau ddaliad bychan a eliwd Ty Du, mae’n amlwg mai un cae ar un daliad ydoedd yn wreiddiol. Er fod y gair yn edrych yn un doniol, ac yn ymddangos yn air Saesneg, gair cynhenid Cymraeg ydyw, sef ynganiad llafar o’r gair ‘gorlif’. Mae’n amlwg mai cae sydd yn gorsiog, ac yn gorlifo ar dywydd gwlyb ydoedd hwn. Mae Glenda Carr ‘Hen Enwau o Ynys Môn’ yn cyfeirio at gae o’r un enw ger Llyn Alaw, tra bod Yr Athro Bedwyr Lewis Jones yn sôn am gae o’r enw ‘gwrli’ar dir Tregarnedd Bach ger Llangefni. Gan fod y môr, ar lanw uchel, yn cyrraedd Llangefni cyn adeiladu Cob Malltraeth, mae’n debyg y byddai’r tir hwn o dan ddwr ar lanw o’r fath. Mae’n arwyddocaol fod y ddau gae Gwrli ar dir Ty Du ar lannau Llyn Meurig, ac un arall ar lan Llyn Cororion, mae’r enw yn amlwg am gaeau  y mae’r llynnoedd hynny yn eu gorlifo ar dywydd gwlyb. Mwy anodd yw deall yr enw ar y tir yn Nant Ffrancon, gan fod hwnnw ar y llethrau, ac heb fod yn agos iawn i afon Ogwan.

Gwrli Cororion

Cae Gwrli ger llyn Cororion

Gwrli Meurig

Cae Gwrli ar lan Llyn Meurig

Hopyard 

Roedd pedwar cae yn Nyffryn Ogwen gyda’r enw Saesneg hwn, dau ar dir demesne y Penrhyn, a dau ar ddaliad bychan Sychnant yn Llanllechid. Yr un enw oedd i’r ddau yn Sychnant, sef ‘Hopyard bach’, gyda’r ddau yn llai nag acer o faint. Fodd bynnag, ar y demesne, roedd Hopyard Uchaf yn acer, tra’r oedd Hopyard Isaf gymaint â 7 acer.Nid ‘iard’ yw gwir ystyr y gair Saesneg yma, ond ‘cae’. a ‘hopyard’ oedd ‘cae i dyfu ‘hopys’, ( hops, yn Saesneg) sef elfen hanfodol ar gyfer bragu cwrw. Olion o’r bragu hwnnw yn lleol sydd yn enwau’r caeau dan sylw. Nid oes syndod o gwbl gweld hopys yn cael eu tyfu yn yr ardal, gan fod bragu cwrw yn elfen hanfodol o fywyd gwledig hyd at hanner cyntaf y 19eg ganrif. Hyd at flynyddoedd cyntaf y ganrif honno, cwrw oedd y ddiod gyffredin, yn enwedig gan y werin. Yr oedd dwr heb ei ferwi yn beryg bywyd, yn cario pob math o glefydau a heintiau, megis y geri farwol a theiffoid, ac osgoid ei yfed. Ni ddaeth te a choffi yn boblogaidd tan y 18fed ganrif, ac yn hwyrach na hynny yng Nghymru, ac roedd y ddau rhy ddrud i’r werin ( Roedd treth drom ar de yng Nghymru tan 1774). Felly cwrw amdani; ac roedd pawb yn yfed cwrw, gan gynnwys plant. Yn wir, ceid ‘cwrw’r achos ’, lle’r oedd cwrw yn cael ei sicrhau ar gyfer pregethwyr pan ddeuent i bregethu – roedd ‘baco’r achos’ ar gael iddynt, hefyd! Y mudiad Dirwest yn ail hanner y 19eg ganrif roddodd derfyn ( i raddau! ) ar yfed cwrw fel diod gyffredin, ond, erbyn hynny, roedd te a choffi wedi dod o fewn cyrraedd y werin.Ym mhob ardal roedd llawer o ffermydd unigol yn bragu eu cwrw eu hunain, a cheid unigolion eraill yn bragu ac yn gwerthu cwrw i rai nad oeddynt yn bragu eu hunain. Ar gyfer hyn yr oedd y caeau a enwid yn Nyffryn Ogwen, un ai ar gyfer defnydd y ffermwr ei hun, neu ei werthu i eraill er mwyn bragu. Am gaeau ‘hopyard’ y demesne, roedd llawer, yn sicr, at ddefnydd y plas a gweithwyr y stâd.

Hopyard

Mae’n arwyddocaol mai coed sy’n tyfu yn Hopyard, yn ôl map 1768. Ai planhigion hopys yw’r rhain?

Lodge, Gweirglodd y Lodge

Dau gae 1 acer yr un, a gweirglodd 5 acer ar dyddyn Tafarnau, sydd bellach ym Mharc Penrhyn. Oherwydd ei gysylltiad gyda’r tyddyn Tafarnau, mae tuedd naturiol i weld lle i aros yma, gan gofio am y geiriau Saesneg, wedi eu Cymreigio ers talwm, i ‘lojio’, a ‘lojar’. Eto, mae ystyr o aros dros gyfnod hir, nid dros nos, fel petai, yn ‘lojio’; yng Nghyfrifiadau’r 19eg ganrif, gwelir enghreifftiau niferus o ‘lodger’ yn cael ei nodi; yn aml, dynion sengl fyddai’r rhain, wedi eu denu i’r ardal gan waith yn y chwarel, ac heb, eto, fwrw gwreiddiau. Does dim enghreifftiau o ddefnyddio ‘loj’ yn y Gymraeg cyn 1834, ac, er fod un enghraifft o ‘lodsio’ yn 1547, nid oes un arall wedyn. Ymhellach, doedd ‘lojio’fel y cyfryw, ddim yn derm cyffredin nes y byddai’r Chwyldro Diwydiannol wedi denu dynion i weithfeydd newydd y trefi newydd. Mae’r Dr John Llywelyn Williams wedi cyflwyno dadl gref fod enwau caeau tyddyn cyfagos Capel Ogwen, sef pob un gyda’r un enw Cae’r ychain’, ynghyd ag enw’r tyddyn Tafarnau, a Chae’r Efail yn awgrymu fod gwartheg yn cael eu casglu yma gan y porthmyn cyn eu gyrru i Loegr. Tybed a fyddai’r ‘Lodge’ yn rhan o’r un hanes? Ond a fyddai’r llety mewn adeilad gwahanol i’r tafarnau, megis rhyw Dravel Lodge cyfoes? A pham ‘lodge’ pan oedd ‘llety’ yn air byw mewn ardal Gymraeg? Eto, efallai y gellir ystyried ystyr arall. Mae ‘lodge’ yn gallu golygu’r adeilad sydd ger porth plasdy; mae rhai o hyd ar gegau’r gwahanol ffyrdd i Gastell Penrhyn. Roedd cael porthor yn gwarchod mynediad i lys yn hen arfer; mae gan y brenin Arthur un yn Chwedl Culhwch ac Olwen, ac ef sy’n holi Culhwch beth yw ei neges gydag Arthur. Fel y datblygodd stadau’r uchelwyr, roedd porthor wedi symud o borth y Neuad, neu borth y llys, wrth bob mynediad i’r tir, ac fel y Seisnigodd yr uchelwyr, aeth y ‘porth’ ac adeilad y porthor yn ‘lodge’. Rwan, roedd Tafarnau yn terfynu ar Lôn Domas, yr hen ffordd o Fangor am Gonwy, ac roedd yn terfynu gyda ‘demesne‘ y Penrhyn. A oedd ffordd o Lôn Domas at yr hen Neuadd yn y fan hyn, gyda Lodge ar geg y ffordd. Mae’n rhesymol, ond, heddiw, gyda phopeth wedi ei chwalu a newid yn llwyr ers bron i 200 mlynedd, mae’n amhosibl dweud i sicrwydd. Un peth diddorol i sylwi arno yw mai enwau dau o gaeau’r demesne ( oedd yn terfynu ar ei gilydd ) oedd Gweirglodd Tafarnau a Lodge, sy’n dangos fod Tafarnau a Lodge ( caeau) yn terfynu ar dir y demesne, sy’n cryfhau’r posibilrwydd mai ‘lodge’ ar lwybr i’r plas oedd yma. Yn erbyn hyn, mae map 1768 yn dangos fod Cae Lodge ar ymyl Lôn Domas, ond mae rhyw ddau gae i ffwrdd oddi wrth y ffordd o’r lôn honno i’r plas. Efallai mai rhan o ddadl y Dr John Llywelyn yw wedi’r cyfan

Lodge

Map 1768 yn dangos Lodge ar ochr yr hen Lôn Domas o Fangor; mae'r lôn i'r plas rhyw ddau gae i ffwrdd, gyferbyn â Chae Tafarnau

Llain

Roedd 26 o gaeau ym mhlwyf Llanllechid, a 62 ym mhlwyf Llandygai, yn cynnwys yr enw hwn fel elfen. Mae’n sicr mai’r rheswm fod llawer mwy yn Llandygai yw oherwydd natur ddaearyddol wahanol y tirwedd, sy’n llawer mwy ponciog a chreigiog.  Mae’n hen enw, ac yn golygu darn bach iawn o dir, yn aml yn hir a chul. Mae’n perthyn yn ieithyddol i’r gair ‘llafn’, sef y rhan hirgul, miniog o gyllell, neu gleddyf, neu arf tebyg, a dyna ffurf y tir a elwir ‘llain’. Gyda llaw, mae’n perthyn hefyd, yn iethyddol, i benrhyn Llyn, a Leinster yn Iwerddon, gan mai llwyth y Lein, a elwid yn ‘wyr y cyllyll hirion’ ddaeth o’r ardal honno yn Iwerddon i wladychu’r penrhyn yng Nghymru rywdro yn y bedwaredd neu’r bumed ganrif.

Yn null y canol oesoedd o ffermio, y llain oedd y darn lleiaf o dir âr oedd yn cael ei drin. Fel y nodwyd, roedd sawl llain yn Nyffryn Ogwen ac mae hynny’n adlewyrchu hynafiaeth y ffermio yn yr ardal, yn ogystal â daearyddiaeth ardal fynyddig.. Mae, hefyd, yng ngwaelodion y dyffryn, yn adlewyrchu tirwedd yr ardal cyn ad-drefnu gan y Penrhyn 1840 -1860. Dyma eiriau Gwallter Mechain ( Y Parch Walter Davies ) awdur yr adroddiad General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales 1815,am diroedd llawr gwlad y dyffryn

Fields belonging to different farms are here very much intermingled, and are moreover too small and irregular in their shape.

Llathen

Dwy lathen , Tair llathen (2), Pedair llathen, Clwt pedair llathen, Chwe llathen

 Roedd 6 chae yn yr ardal yn cynnwys y gair ‘llathen’; nid oedd y gair ‘cae’ yn rhan o’r un o’r enwau

Dwy lathen – Pen y Bronnydd    ( llai nag acer ) 

Tair llathen – Rhos Uchaf,( llai nag acer )  Cae’r Wern   ( acer)

Pedair llathen – Tyddyn Iolyn  ( acer )

Clwt Pedair Llathen – Cilgeraint  ( acer )

Chwe llathen – Tyddyn y Bartle ( rhwng Gelli a Felin Hen). ( acer )

Efallai mai un o brif nodweddion ffermydd Llanllechid a Llandygai yn 1765 oedd cymaint o gaeau bychain oedd iddynt. 12 acer oedd Llwyncelyn, er enghraifft, ond roedd 9 cae yno, gyda chyfartaledd o 1.3 acer yr un.

Llwyn Celyn

Llwyncelyn 1765, 12 acer, 9 cae,mewn dau ran

Roedd y rhan fwyaf o ddaliadau llawr gwlad yn debyg. Yn 1815 cyhoeddodd Gwallter Mechain ( Y Parch Walter Davies ) adroddiad gynhwysfawr ar amaethyddiaeth Gogledd Cymru, ac wrth sôn am ardal Abergwyngregyn a Llanllechid dywed fod y caeau‘ moreover too small and irregular in their shape’. Eto doedd yr ardal hon ddim gwahanol i unrhyw ardal o ffermydd cymysg, gan fod caeau bychain, wedi eu hamgau, yn ddull bwriadol hwylus i gadw gwahanol anifeiliaid ar wahân, a thyfu amrywiol gnydau.   Er gwaethaf hynny, mae cael caeau o ddwy neu dair llathen yn mynd i dir gwiriondeb ac anghrediniaeth.

Onibai fod ‘llath’ yn golygu rhywbeth gwahanol erbyn heddiw.

Heddiw mae ‘llath’ yn golygu mesur penodol, sef tair troedfedd, neu 36 modfedd. Mae’n wir fod y caeau a enwir yn fychan, ond pe byddai darn o dir ond dwy lathen byddai bron yn rhy fychan i un ddafad droi ynddo!

Fodd bynnag, mae ystyr ‘llath’ wedi newid dros yr oesoedd. Er mwyn ei ddeall, meddylier am y gair ‘hudlath – ystyr honno ydy ‘gwialen hud’, neu ‘ffon hud’, a dyna ydy ‘llath’ – ‘gwialen’. Yn wreiddiol roedd hithau’n wialen fesur, o tua 18 troedfedd, i fesur tir. Oherwydd mai peth diweddar yw cysondeb mesuriadau a phwysau ar draws gwlad, roedd y llath yn amrywio o le i le yng Nghymru, o tua 18 troedfedd i tua 24 troedfedd, gyda chysondeb ond y tu mewn i un dalaith; er enghraifft, roedd llath Gwynedd yr un ar draws Gwynedd, ond yn wahanol i lath Gwent. Yn ogystal, doedd troedfedd y cyfnod cynnar ddim yn union yr un faint â throedfedd heddiw, gyda’r canlyniad fod 18 troedfedd y ‘llath’ wreiddiol yn cyfateb i fesur rhwng 13.5 troedfedd a 18 troedfedd heddiw. Roedd angen y cysondeb lleol  hwn mewn mesuriadau a phwysau ar gyfer pethau pob dydd, megis mesur tir,ac, yn fwy na dim, wrth brynu a gwerthu mewn ffeiriau ac ati. Roedd angen sicrwydd fod pob pwys o fenyn yr un pwysau mewn ffair, a bod llathen o frethyn yr un hyd. Doedd yr union fesur ddim yn bwysig, dim ond y cysondeb lleol oedd yn bwysig. Dyna pam yr oedd amrywiaeth rhwng rhannau o’r wlad. Dros amser daeth cysondeb ar draws gwlad yn bwysicach, a dyna pryd y dechreuwyd cysoni mesuriadau a phwysau.

Byddai cae ‘dwy lathen’ felly, yn fychan iawn –ond nid mor fychan ag y byddem ni’n feddwl – tua 12 llathen ein dyddiau ni ar ei draws. Byddai ‘chwe llathen’, wedyn, dros 30 llathen heddiw ar ei draws.

Un peth sy’n ddiddorol am y caeau hyn gyda’r enw ‘llathen’; maent oll ym mhlwyf Llandygai, gyda’r un ohonynt yr ochr draw i Ogwen. Ymhellach, maent i gyd mewn ardal gyfyng; mae llai na milltir rhwng Rhos a Chilgeraint, ac mae’r pedwar arall yn y canol rhyngddynt, o fewn tafliad carreg i’w gilydd. Does gen i mo’r syniad lleiaf beth yw arwyddocad hyn, ond mae’n dweud rhywbeth, efallai am oroesiad hen air, hen fesur, mewn un ardal gyfyng

Maes y Cwning

Roedd dau gae o’r enw, un yn 14 acer, a’r llall yn 8 acer,  yn terfynu ar ei gilydd ar dir Ty Newydd, daliad sylweddol o 297 acer ger plasty’r Penrhyn; yn wir, roedd 181 acer o’r 297 yn rhan o’r demesne a heb fod yn rhan atebol o rent Ty Newydd. Yr oedd Maes y Cwning yn y tir hwn.

Nid yw’r gwningen yn gynhenid i ynysoedd Prydain. Er iddynt ddod yma gyda’r Rhufeiniaid, ymddengys iddynt farw o’r tir yn dilyn ymadawiad y rheiny. Cawsant eu hailgyflwyno i Brydain gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Gan nad oeddynt yn gynhenid i’r wlad, ac yn ysglyfaeth hawdd i greaduriaid cynhenid, roedd rhaid eu cau i mewn gyda waliau neu ffens rhag iddynt ddianc. Oherwydd hynny, a’r ffaith eu bod yn brin, ystyrid eu cig yn amheuthun,a defnyddid eu ffwr fel addurn ar ddillad. Yn y 13eg ganrif roedd gwerth un gwningen yn fwy na chyflog dyddiol gweithiwr. Oherwydd hynny, fe’u cedwid ar stadau uchelwyr cyfoethog, ac yn mynachdai. Roedd ‘parc cwning’ yn llys Owain Glyndwr yn Sycharth, yn ôl Iolo Goch yn ei gywydd enwog,

Parc cwning meistr pôr cenedl

ac mae’n amlwg fod un ar dir y Penrhyn, ar gyfer bwrdd cegin y plas, a dillad y teulu.

Pant y To

Gan fod hwn yn ddau gae o’r un enw, a hynny ar ddau ddaliad o’r un enw, hefyd ( Ty Hen) mae’n sicr ei fod yn un cae gwreiddiol, neu, yn fwy tebygol, yn enw ar y lle y safai’r ddau gae. ( Cymharer Pant Dreiniog, Pant Ffrydlas, Pant y Cledr, Pant y Cyff, a sawl pant arall mewn ardal fyyddig fel Dyffryn Ogwen

Mae’r enw yn perthyn i’r enwau hynny sy’n ymddangos yn syml, ond , mewn gwirionedd, yn un anodd ei egluro.

Mae’r ‘pant’ yn hawdd, sef rhyw bowlen o dir rhwng bryniau, neu godiadau tir.

Y ‘to’ yna sy’n peri problem. Mae’n amlwg ei fod yn disgrifio rhyw nodwedd ddaearyddol, ond sut un, tybed? Ydy o‘n wastad? Ydy o’n llethrog, neu ar oleddf, fel to? Mae hynny’n swnio’n rhesymol, ond, wedyn, dydy ‘pant’ ddim yn oleddf, nag ar lethr? Gallai fod yn bant mewn llethr, neu’n llethr mewn pant.  Dydy’r geiriaduron ddim ond yn nodi y diffiniad arferol o ’to’, ar wahân i’r ‘to mawr’,sef y farblen fawr honno roedd rhywun yn chwarae efo hi ers talwm; ond dydw i ddim yn gweld marblen fawr ar dir yn Nyffryn Ogwen!

Roedd fferm fechan o’r enw Tyddyn To ym Mhorthaethwy; mae stâd o dai o’r un enw arni ers blynyddoedd. Nid yw’r unig ymdrech i egluro’r enw hwnnw o fawr werth, gan nad yw ond yn nodi iddo gymryd ei enw o ryw hen dafarn gyfagos, ond heb egluro sut y cafodd y dafarn ei henw. ( Enwau Lleoedd Môn Thomas Roberts ) Yr unig beth o ddefnydd, efallai, yw fod tir y tyddyn hwn ar lethr serth, hefyd, yn ddigon tebyg i do ty. Byddai hynny’n rhesymol yma hefyd, o gofio fod Ty Hen ar lethrau’r Fronllwyd. Y broblem fawr yw penderfynu ai’r ‘pant’ sydd yn y ‘to’, ai’r ‘to’ sydd yn y ‘pant’, ond, heb inni glirio tomen y chwarel, mae arnaf ofn mai heb ei ateb y bydd y cwestiwn hwnnw!

Roedd na ddau gae ( un, efallai, yn wreiddiol), ar dir y demesne yn Llandygai, gyda’r enwau Gwern y To, a Gwern y To Uchaf. Dydy’r rhain o ddim cymorth i egluro’r enw, ond maent yn dangos fod ‘to’ yn amlwg yn derm daearyddol ar fath arbennig o nodwedd yn yr ardal.

Pedair pladur

Enw diddorol, yn hytrach nag un anodd ei egluro. Roedd yn gae 3 acer ar dir Tai’r Meibion, ac mae’r enw yn golygu ‘cae y mae angen cael pedwar pladurwr i’w dorri mewn un diwrnod’. Mae ei faint yn dweud wrthym faint allai pladurwr da ei dorri mewn diwrnod, sef tua tri chwarter acer

Gyda llaw, mae’n amlwg fod pladurwyr Llandygai, yr ochr draw i Ogwen, yn well, a chynt, pladurwyr na rhai hendre Llanllechid – ddwywaith yn gynt, a dweud y gwir – gan fod cae ar dir Cororion, oedd hefyd yn 3 acer, a Gweirglodd Dwy Bladur oedd enw hwn!!

Pladurio

Gyda llaw, crymanu y mae’r rhain, nid pladurio!

Penelin

Cae 16 acer ar lethrau deheuol tir Pentre yn Nant Ffrancon yn ôl rhestr Arolwg 1786, ond yn y map sy’n cydfynd â’r arolwg, mae’n ddau gae. Mae defnyddio nodweddion corfforol fel enw ar nodwedd ddaearyddol yn eithaf cyffredin, gwelir sawl braich, troed, coes, braich, ac ati yn rhan o enwau llefydd, ond mae ‘penelin’ yn anghyffredin. Fel arfer, defnyddir enw rhan o’r corff oherwydd lleoliad y nodwedd ddaearyddol, neu fod ei ffurf yn atgoffa rhywun o ffurf rhan o’r corff, er enghraifft, troed y mynydd, llygad y ffynnon, braich o dir. Mae’n debyg mai dyna’r rheswm am alw cae yn ‘benelin’, hefyd. O edrych ar fap 1786 fe ellid dadlau fod rhyw ffurf tebyg i fraich i’r cae lleiaf, ond, o gymryd ffurf y ddau gyda’i gilydd, byddai angen dychymyg pur fyw i weld tebygrwydd. Fodd bynnag, rhaid cofio nad ffurf ar fap sy’n gyfrifol am enwau, ond rhyw debygrwydd ar lawr gwlad, ac, mae’n sicr fod rhyw nodwedd ynglyn â’r cae sy’n  cyfiawnhau ei enw

Blaen Nant Ffrancon 1768

Rhan o fap Arolwg 1768 ( APB PENRA 2004) yn dangos Cae Penelin; mae’r lleiaf ar y llethr yn union y tu ôl i ffermdy Pentre

i’r cychwyn

Pistyll yr Eurych, cae

Cae dwy acer ar dir Moelyci oedd hwn. Ystyr  llythrennol ‘eurych’ ydy ‘gof aur’, sef person sy’n trin aur. Mae’n anodd meddwl am naill ai’r angen am grefftwr o’r fath yn ucheldir Llandygai, na’r metel iddo weithio gydag ef. Mae enghreifftiau o’r enw mewn ambell enw ar Ynys Môn, hefyd. Mae awgrym wedi ei wneud y gallai ‘eurych’, mewn amgylchiadau llai cyfoethog, fod yn sgleinio byclau ar esigidiau, beltiau, ac offer, ond ni welir llawer iawn o waith felly, ychwaith, yng nghefn gwlad tlawd llethrau Moelyci. Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn nodi’r ystyr o ‘dincer’ i ‘eurych’, sef person fyddai’n mynd o gwmpas y wlad yn gwerthu, ac yn trwsio, llestri tun, ac mae awgrym fod ’eurych’, efallai, ychydig yn uwch o ran ei grefft na thincer. Dyma i chi William Williams, Llandygai, yn ei gyfrol ‘Observations on the Snowdon Mountains’,1802, yn cyfeirio at hafn o’r enw Cwter yr Euriachod, uwchben ffermdy Maes Caradog, yn Nant Ffrancon, 

‘...the name points out that it was once a mine work, though the word Euriachod …….. means Itinerant Tinkers, or Sowgelders’.

“Pistyll yr eurych’, felly, fyddai ffrwd o ddwr wedi ei galw felly oherwydd rhyw gysylltiad gyda rhyw dincer neu’i gilydd; ni wyddom o gwbl beth yw’r cysylltiad hwnnw, ac ni ddown fyth i wybod. Digon yw dweud mai ffansi llwyr fyddai gweld ‘gof yn trin aur’ yn gwneud bywoliaeth yn yr ardal hon erioed!

Pwll Pryfaid

Efallai mai cae oedd hwn, oedd yn rhan un acer o dir Garneddwen, efallai mai pwll, efallai mai tir glwyb, pwy a wyr erbyn hyn; yr enw sy’n ddiddorol. Ar y wyneb yn syml gallai’r pwll fod wedi cael ei enwi oherwydd fod nifer o bryfed yn crynhoi yno; byddai hynny, yn enwedig mewn oes a fu, yn gallu achosi haint ar dywydd poeth: mewn pyllau llonydd o’r fath y mae’r mosgito, sy’n gyfrifol am filoedd ar filoedd o farwolaethau mewn gwledydd trofannol. Eto, efallai, nad pryfed felly oedd yn y pwll, gan fod ‘pryf/pryfed’ yn golygu gwahanol bethau yn y Gymraeg. Gall fod yn gynrhon, eto yn peri afiechyd, a gallai hynny ddweud yr un peth am y pwll hwn, sef fod rhyw fath o bryfed ynddo oedd yn creu afiechyd i ddyn neu anifail. Ond mae ‘pryfed, hefyd, yn gallu golygu ymusgiaid, neu nadredd; efallai mai dyna oedd yma. sef tir gwlyb efo nadredd ynddo – mae’r rheiny yn hoffi ynysoedd sychion mewn corsydd. Ond mae ystyr arall eto i ‘pryf’, sef anifail bychan sy’n cael ei hela, neu unrhyw anifail bychan gwyllt; mae ‘pry mawr’ yn enw llafar ar ysgyfarnog. Gallai hwn fod yn bwll y mae anifeiliaid gwylltion bychain yn dod yno i yfed. Erbyn hyn does wybod pa ‘bryfaid’ oedd ar y rhan hwn o dir Garneddwen, ond mae’n enw diddorol.

Pys, cae

Roedd dau gae gyda’r enw hwn yn Nyffryn Ogwen, un 4 acer ar hen fferm Maes y Penbwl ( sydd wedi diflannu i Barc y Penrhyn ers yr 1840au), ac un 1 acer ar fferm Tan Rhiw ym mhlwyf Llandygai. Roedd pys a ffa yn rhan bwysig iawn o fwydlen pobl yn yr Oesoedd Canol, ond, erbyn y 18eg ganrif, roedd y llysiau hyn ond yn rhan o ddeiet tlodion ac anifeiliaid. Yn ogystal, roedd eu gwlydd yn cael ei aredig yn ôl i’r tir fel gwrtaith.

Pysgoty; cae

Cae 3 acer ar dir Tyddyn Canol; roedd Tyddyn Canol ar derfyn Abercegin, ar lan Traeth Lafan; bellach mae wedi diflannu, gydag Abercegin, i’r parc. Nodwyd yn y nodyn ym Maes Cwning, fod cwningod yn rhan o fwyd llys uchelwr; roedd pysgod, hefyd, yn rhan o’r fwydlen. Yn ogystal â dal pysgod, byddai rhai yn cael eu cadw mewn llynnoedd ar y tir. Yn ôl Iolo Goch, roedd ‘pysgodlyn, cuddyglyn, cau’ yn llys Owain Glyndwr yn Sycharth; yn wir, mae ffotograffau o safle’r llys o’r awyr heddiw yn dangos olion y llynnoedd hyn. Mewn llefydd arfordirol roedd modd dal pysgod. Gwneid hynny gyda choredau, sef fframwaith, neu fframweithiau, o goed a gwiail yn y dwr. Pan fyddai’r llanw yn treio, delid pysgod yn y fframwaith, ac fe’u cesglid pan fyddai’r llanw allan. Roedd sawl cored ar y Fenai – yr enwocaf yw’r Gored Goch, ger yr ynys o’r un enw rhwng y ddwy bont. Ar Draeth Lafan, heb fod ymhell o Abercegin, roedd Cored Gwenllian. Mae map Arolwg 1768 yn dangos Cae’r Pysgoty ar lan y mor, gyda chored yn ymestyn allan i’r môr wrth ei ymy;. Mae’n debyg mai yn y pysgoty, yn y cae hwn, y cedwid y pysgod a ddaliwyd yn y gored, ac y triniwyd hwy ar gyfer eu cadw. Y dull traddodiadol cynharaf oedd sychu’r pysgod trwy eu hongian, un ai allan, neu mewn adeilad pwrpasol. Dull traddodiadol arall oedd eu mygu – dull o’u sychu oedd hwnnw, hefyd – a gwneid hynny mewn adeilad pwrpasol. Byddai sychu neu fygu yn golygu y byddai’r pysgod yn cadw am flynyddoedd  Yn y 17eg ganrif daeth halen yn ddigon rhad i’w ddefnyddio i halltu pysgod. Roedd dau fath o bysgod ar gyfer bwrdd uchelwr, felly, sef un ffres o bwll pysgod y neuadd, a physgod wedi eu sychu. Mae’n sicr mai trin pysgod ar gyfer eu cadw  a wneid yn yr adeilad yn Cae Pysgoty.

Cae'r Pysgoty

Rhif 9 ar y map hwn yw Cae’r Pysgoty. Mae’n sicr mai’r hyn sy’n ymestyn allan i’r môr yw un o’r coredau ar Draeth Lafan, efallai Cored Gwenllian. Dangosir dau lwybr yn mynd i lawr at y traeth yn y fan hon.

Ysgythre

Yn ôl Arolwg 1768 dau gae oedd i Nant Heilyn, sef Ysgythre Uchaf ac Ysgythre Uchaf, y ddau yn 4 acer yr un. Ystyr ‘ysgythr’ yw dant hir, miniog, megis un eliffant. Fel ansoddair, gall ‘ysgythrog’, felly, olygu ‘garw’, gyda chreigiau miniog.     Dyma ichi’r bardd Gerallt Lloyd Owen yn dweud mewn englyn i Ifan Roberts Y Gistfaen

                        O groth y ddaear greithiog – y’i bwriwyd               Ar y Berwyn sgithrog

sef mynydd garw, creigiog

Dydy enwau’r caeau  ddim yn dweud llawer am ffrwythlondeb tir Nant Heilyn!

%d bloggers like this: