Awdur: Dafydd Fôn Mai 2020 ymlaen
Enwau a drafodir yma
Llanllechid Llandygai Llain y Ffwlbart Llety Llidiart y Gwenyn Llwyn Penddu Llyn Celanedd Maes y Groes Maes y Penbwl Meysyn Glasog Mignant Nant Gwreiddiog Nant y Ty
LLANLLECHID


EGLWYS LLANLLECHID
Mae plwyf Llanllechid yn un o’r rhai mwyaf yng Ngwynedd, yn 12.5 milltir o hyd, o Draeth Lafan i Gapel Curig, ac yn dair milltir o led o Ogwan i ganol y Carneddau. Ers rhai canrifoedd, bellach, mae ‘Llanllechid’, fel enw, yn gyfystyr a’r plwyf eglwysig cyfan, ac, ers pum canrif, yn uned leyg weinyddol. Am ganrifoedd cyn hynny yr uned weinyddol oedd yn cyfateb i’r Llanllechid presennol oedd trefgordd Bodfeio, oedd yn rhan o gantref Arllechwedd Uchaf. Digwyddodd y newid o Fodfeio i Lanllechid yn ystod yr 16ed ganrif, ond fe gymrodd hyd at ganrif i gael ei dderbyn yng nghefn gwlad geidwadol Cymru. Mae dogfennau cyfreithiol yn dangos y newid hwn yn yr uned weinyddol, o’r drefgordd i’r plwyf
e.e. 1519 Lease for 4 years on messuages and tenements … in the township of Bodvayo
ac yn 1616 tenements … and meadow in the township of Bodfayo
ond yn 1676 gwelir y newid yn digwydd ‘ Lease of 7 years on a messuage …. in the township of Bodfayo and parish of Llanllechid’
tra flwyddyn ynghynt, yn 1675, roedd enw’r plwyf yn ddigon pan roddwyd les 17 mlynedd ar chwarter ‘ Cefnfaes in the parish of Llanllechid.
Beth am yr enw, Llanllechid’?
Heddiw, un eglwys sydd ym mhob plwyf, a honno, yn aml, sydd wedi rhoi ei henw i’r plwyf. Ond yn y cyfnod pan oedd ‘llan’ yn cario’i wir ystyr, doedd dim yn rhwystro sefyllfa lle ceid nifer o lannau yn yr un ardal. Ac roedd hynny’n wir ym Modfeio. Roedd, o leiaf, dri llan o fewn rhyw filltir i’w gilydd. Yn ôl Huw Derfel Hughes yn 1866, roedd ‘ dwy golofn yn aros eto’ o hen eglwys Ciltwllan, er nad oes olion ohoni heddiw. Yn ôl ei ŵyr, Syr Ifor Williams, ‘llan’ yw’r elfen olaf yn yr enw hwn. Yn ail, roedd hen eglwys Llanyrchyn, neu Llanyrchi/ Llanylchi, lai na hanner milltir o lan Llechid, ar Waen Bryn, ger Bwlch Molchi. Yn ôl Huw Derfel eto, roedd na o leiaf un eglwys arall yn yr ardal, sef ar dir Tŷ Gwyn, Nant Ffrancon, ac roedd cerrig honno wedi eu cario i ffwrdd mewn trol ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ac roedd na gapeli, hefyd, yn yr ardal, gan fod na o leiaf ddau gae yn y plwyf sy’n cario’r enw Cae Capel, un ar dir Plas Uchaf, ac un ar dir Cochwillan. Atgof am Gapel Llechid sydd yn y cyntaf, ond ni wyddys wreiddiau’r ail. Yn y byd Pabyddol a fodolai yng Nghymru hyd 1536, roedd dau fath o gapel, a’r un ohonynt yn debyg i’n capeli heddiw. Ceid ‘capel’ y tu mewn i’r fam eglwys, neu i ffwrdd oddi wrthi.Yn achos y cyntaf, ystafell fechan fyddai fel arfer, wedi ei gwaddoli yn ariannol mewn ewyllys i gynnal gweddiau am enaid uchelwr lleol wedi ei farw. Weithiau, yn enwedig yn yr eglwysi mawr, cyfoethog, roedd y gwaddoliad yn gyfrifol am gynnal offeiriad i weddio, hefyd. Yn y capel a fyddai bellter oddi wrth y fam eglwys, ei brif bwrpas fyddai rhoi lle i bobl weddio heb fynd i’r fam eglwys, weithiau oherwydd pellter, dro arall am reswm gwahanol. Dyma oedd swyddogaeth y ddau gapel ym Modfeio. Yn achos Capel Llechid, ar dir Plas Uchaf, mae’n arwyddocaol ei fod ar y prif lwybr canoloesol oedd yn dod o Gaerhun dros Fwlch y Ddeufaen , a throsodd am Gaernarfon. Mae’n bur debyg mai capel ar gyfer fforddolion ydoedd. gan ei fod yn rhy agos i’r fam eglwys i fod ar gyfer trigolion yr ardal.
Mae erthygl arbennig John Llywelyn yn rhoi hanes eglwys Llanllechid yn fanwl a chlir, ac nid fy mwriad yw ail-adrodd hynny, ond, yn hytrach, ddilyn ambell drywydd gwahanol. Nodir fod adeilad presennol yr eglwys, sydd bellach wedi cau ers rhai blynyddoedd, yn perthyn i 1845, ond bu, o leiaf, dri adeilad blaenorol ( mwy, mae’n sicr, o gofio iddi fodoli am 1500 o flynyddoedd). Noda Baring-Gould and Fisher chwedl leol am adeiladu’r eglwys o gerrig yr hen Gapel Llechid, gyda’r cerrig yn dychwelyd i’w lleoliad gwreiddiol bob nos. Chwedl yn unig ydy honno, gan fod cerrig yn symud yn ol i’w lleoliad gwreiddiol yn ystod y nos yn elfen gyffredin mewn llen gwerin. Yn ogystal, byddai llan Llechid, o reidrwydd, yn bodoli cyn y gellid cael capel Llechid, gan, fel y nodwyd, fod ‘capel’ yn ddieithriad yn gangen o fam eglwys. Cymysgu sydd yn y chwedl, mae’n debyg, oherwydd i adeilad 1845 gael ei adeiladu ychydig i’r gorllewin o’r hen eglwys, ( ond yn dal y tu mewn i waliau’r fynwent bresennol ) ac i gerrig yr hen eglwys honno gael eu defnyddio i godi rhannau o’r adeilad newydd.
Os oedd mwy nag un llan ym Modfeio, cyfyd y cwestiwn pam mai eglwys Llechid a roes ei henw i’r plwyf, yn hytrach nag un o’r lleill. Efallai mai hi oedd y bwysicaf, neu’r fwyaf, ohonynt, ond mae awgrym arall i’w ystyried. Yn gyffredinol, fe wyddom ble’r oedd canolfan weinyddol y rhan fwyaf o’r hen drefgordd Cymreig, gan ei bod wedi parhau yn enw ar fferm go sylweddol. Er enghraifft, mae’n weddol sicr mai ble mae fferm Cororion heddiw yr oedd canolfan y drefgordd o’r un enw. Yn achos Bodfeio, nid oes fferm o’r enw wedi goroesi, ac mae hynny wedi peri i rai awgrymu mai canolfan weinyddol y drefgordd, hyd yn oed cyn i’r plwyf ddod yn uned weinyddol leyg, oedd eglwys Llechid.
Bid a fo am hynny, beth am y Llechid yn yr enw? Y gred boblogaidd yw mai enw’r sant a sefydlodd y llan yn wreiddiol yw’r ail elfen yn y gair yn y mwyafrif helaeth o enwau o’r fath. Y broblem fawr yw fod sefydlu’r llannau ac Oes y Seintiau ymhell, bell yn ôl yn niwloedd y gorffennol. Mewn cyfnodau pan oedd pwysau ar yr eglwysi brodorol, yn enwedig cyfnod goresgyniad y Normaniaid yn yr 11ganrif, a hanner cyntaf y 12fed, roedd angen gwrthsefyll y pwysau trwy bwysleisio hynafiaeth, a phwysigrwydd, pob eglwys a phob sant. Oherwydd hyn, ‘ crewyd’ hanes i’r ‘sefydlydd’, hanes sydd, oherwydd natur cyfnod y creu, y Canol Oesoedd cynnar, yn aml yn hynod o wantan. Yn y Canol Oesoedd, yn wir, hyd at lai na dwy ganrif yn ol, roedd hanes a chwedloniaeth bron yr un peth.
Ni ellir, felly, rhoi coel ar y ddau beth, sef fod ail elfen pob llan yn enw sant, ac, yn sicr, fod ‘hanes’ ei fywyd yn hanes.
Yn gyffredinol mae pum math o enw sy’n gallu dilyn yr elfen ‘llan’.
Yn gyntaf, mae’n gallu bod yn enw’r sylfaenydd.
Yn ail, gall fod yn llan a sefydlwyd yn enw, ond nid yn bersonol gan, arweinydd crefyddol amlwg yn ei gyfnod. Mae sawl Llanddewi, er enghraifft..
Gyda’r trydydd dosbarth rydym yn camu i dir mwy sigledig. Mae lle cryf i gredu y byddai’r llan weithiau yn cael ei enwi ar ôl y pennaeth lleol fyddai wedi rhoi’r tir ar ei gyfer, neu aelod o’i deulu, fel arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad..
Yn bedwerydd, mae’r llannau hynny sy’n cario disgrifiad o’u lleoliad. Mae’n amlwg ble’r oedd y ‘llan’ yn Llangoed, er mai Cawrdaf yw’r sant, ac roedd eglwys gyfagos Llanfaes yn amlwg mewn lle agored.
Yn olaf, mae’r llannau rheiny sy’n cario enwau seintiau tramor, cymeriadau o’r Beibl, fel arfer. Daeth y rhain i Gymru gyda’r Normaniaid, gan ddisodli hen seintiau brodorol o’u heglwysi, neu wrth godi eglwysi newydd. Dyna sy’n gyfrifol am bob Llanfair, Llanbedr, Llanfihangel, ac yn y blaen. A hyn sy’n gyfrifol, i raddau helaeth, am y bywgraffiadau a grewyd i bob ‘sant’ brodorol.
Yn ôl yr ‘hanes’, santes oedd Llechid, merch y brenin Ithel Hael o Lydaw, a ddaeth i’r ardal yma yn y chweched ganrif, gyda’i brodyr, Tegai, Trillo, Baglan, Rhychwyn, a Thwrog, gyda phob un yn sefydlu llan. Mae’r cyfeiriad cynharaf sydd gennym ati yn dod o farddoniaeth Lewys Glyn Cothi yn y bymthegfed ganrif, pan yw’n sôn am ‘fedd Llechid’. Er mai gwr o Ddyfed oedd Lewys, nid yw hynny’n golygu fod gwybodaeth am Llechid yn genedlaethol, gan fod lle i gredu i Lewys, ynghyd ag Owain ap Gruffydd ap Niclas, fod ar herw yng Ngwynedd am gyfnod yn dilyn brwydr Mortimer’s Cross. Yn ogystal roedd Lewys yn crwydro Cymru gyfan ar ei deithiau clera ( fel bardd ), ac mae tystiolaeth ei fod yn hoff iawn o’r gogledd-orllewin, Mon, yn arbennig. Mae cyfeiriad Lewys at Llechid naw canrif, a’r rheiny’n ganrifoedd niwlog iawn, wedi cyfnod sefydlu llan Llechid; mae Lewys dair canrif a hanner yn nes atom ni heddiw, nag oedd ‘Llechid’ at Lewys. Mae’r ‘hanes’ am ei bywyd a’i brodyr yn dod o gyfnod diweddarach, o gyfnod, fel y soniwyd, ble nad oedd ffin rhwng hanes a chwedl. Fe ddisgrifiodd William Williams, Llandygai, ddyfodiad Llechid a’i brodyr i’r ardal o Lydaw, ac fe’i dilynwyd gan bawb wedi hynny. Ond rhaid cofio fod Williams yn ysgrifennu yn yr un ganrif ag y cyhoeddodd Theophilus Evans ‘ Ddrych y Prif Oesoedd’, cyfrol o ‘hanes’ Cymru sy’n cymryd fel ei sail, chwedloniaeth bur, ac yn ei adrodd fel pe bai’n efengyl. Yn wir, roedd cyfrol Williams, ‘Prydnawngwaith y Cymry’, (cwblhawyd 1804, cyhoeddwyd 1822,) i fod, yn ol y broliant, yn ddilyniant i gyfrol Theophilus Evans. Er ei fod yn ceisio bod yn fwy gwyddonol ei ymdrechion, rhaid cydnabod mai yn y cyd-destun hwn y dylid ystyried cyfraniadau William Williams. Roedd yn alluog iawn mewn sawl maes, yn bolimath, a dweud y gwir, ond nid oedd yn hanesydd, dim ond yn ddyn ei gyfnod. Dydy’r ffaith fod Lewis Glyn Cothi, a William Williams yn cyfeirio at santes Llechid, ddim yn rhoi unrhyw sicrwydd i hynny – o bell ffordd!
Rwan, rydw i am awgrymu posibilrwydd arall i’r ‘llechid’. Byddai’r cynnig yn symud yr enw ‘Llanllechid’ o’r dosbarth cyntaf o lannau i’r trydydd, sef y llannau sy’n cael eu dilyn gan nodwedd ddaearyddol y llan. Fel y nodwyd, mae’r cwmwd yn Arllechwedd, ac mae’r llan ar y llechwedd. Tybed mai ‘llech’ /‘llechwedd’, sydd y tu ôl i’r ail elfen yn yr enw, ond, i’r gair lleoliadol droi, dros amser, yn enw person, ac i honno gael hanes. Mae darn o dir mynyddig ym Mannau Brycheiniog, ger Pontsenni, o’r enw Cefn Llechid: nid oes neb erioed wedi awgrymu mai cefn santes, nag unrhyw berson, a dweud y gwir, yw ystyr hwnnw, ac nid oes neb wedi amau mai ‘llechwedd’yw gwreiddyn yr enw. Mae’n sicr fod datblygu enw elfen ddaearyddol yn enw priod yn digwydd; fe ddigwyddodd, mae’n weddol sicr, mewn achos llawer mwy enwog, pan droes’ y llan yn y twyni’ yn Llanddwyn, ac y daeth y ‘twyni’ yn ‘Dwynwen’, ac iddi hithau gael hanes, cymaint o hanes, yn wir, fel y bu iddi dyfu’n nawddsant cariadon Cymru! Yn sgil hynny, daeth â llawer o gyfoeth i’r eglwys honno yn y Canol Oesoedd, gan bererinion a chariadon, gannoedd ohonynt. Does dim cyfoeth mewn twyn tywod, ond mae Dwynwen yn fwynglawdd!
Ac, os ydy eglwys gyfagos i Lanllechid, a adeiladwyd yn 1892, yn cael ei thadogi i ryw St Cross bondigrybwyll, er iddi gael ei chodi ar Faes y Groes ( sef ‘croesffordd’ ), yna hawdd credu mai’r eglwys ar y llechwedd yw’r llan a sefydlwyd 1500 can mlynedd yn ol yn ucheldir yr un drefgordd
Ffynhonellau
Eglwys Llanllechid John Llywelyn Gwefan Hanes Dyffryn Ogwen Ionawr 2017
Atlas Sir Gaernarfon Bassett a Davies 1977
Hanes Plwyfi Llanllechid a Llandygai Hugh Derfel Hughes
Lloffion o Hanes Llanllechid a Llandygai A Jones
The lives of the British Saints by Baring-Gould, S. Fisher (Sabine), 1908
Hanes Eglwys Llanllechid Hugh J Williams Bangor 1910
Llandygai

Plwyf hir a chul yw Llandygai, yn ymestyn o aberoedd yr afonydd Cegin ac Ogwen hyd at Fetws y Coed. Mae’n cyfateb, fwy neu lai, i dri gafael canoloesol ( sef rhannau o dir ), gyda’i ganolfan weinyddol yng Nghororion. Mae sôn am Gororion yn y Mabinogi, sy’n cael eu dyddio, fel cyfanwaith, yn ôl o leiaf i ganol yr 11 ganrif. Mae’n sicr fod llawer o ddeunydd y chwedlau yn mynd gryn dipyn ymhellach yn ol na hynny.
Manylwyd ar yr elfen ‘llan ‘ yn y sylwadau am Llanllechid, ac yn y drafodaeth ar ‘llan’ yn Enwau Cyffredin. Am yr ail elfen, mae dwy safbwynt amdano, er fod cytundeb mai enw person ydyw. Mynn rhai mai ‘Tegai’ yw’r enw, yn deillio o’r ansoddair ‘teg’, tra bod eraill yr un mor bendant mai’r elfen gywir yw ‘Tygai’, gyda’r enw Cai yn sylfaen iddo. Barn yr awdurdod mawr ar enwau llefydd, Syr Ifor Williams, oedd mae Tygai a roes ei enw i’r eglwys, gyda’r ‘ty’ yn golygu ‘annwyl’, neu ‘sanctaidd’, ac mae’n cymharu’r enw i Twrog, sef yr un elfen ‘ty’ a’r enw personol Mwrog, fyddai’n golygu ‘Mwrog sanctaidd/ annwyl’. Mae gennym Landwrog a Maentwrog, ac, ym Môn, mae Llanfwrog, hefyd, sy’n dystiolaeth o’r ddau enw. Byddai esboniad Syr Ifor, wedyn, yn golygu mai enw sylfaenol y sant fyddai Cai, gyda’r ‘ty’ yn dod fel rhagddodiad diweddarach i nodi ei santeiddrwydd.
Nodir fod Tygai yn frawd i Llechid, Rhychwyn, Twrog, Trillo, a Baglan, plant Ithel Hael o Lydaw, ac iddynt ddod i’r ardal anghysbell hon i efengylu yn y chweched ganrif, gan sefydlu llannau sy’n cario eu henwau hyd heddiw. Nodwyd yr amheuon am hanesion seintiau fel hyn Llanllechid. Eto, nid oes sail i gredu mai sefydlydd yr eglwys oedd person o’r enw Tygai, neu i’r eglwys gael eithadogi ar berson o’r enw
Yn y drafodaeth ar ‘LLAN’ nodir fod rhai seintiau, fel Dewi, a Beuno, yn ddigon pwysig i gael eglwysi wedi eu tadogi iddynt, er na fuont ar gyfyl yr eglwys erioed. Fel mae’n digwydd, yr oedd sant enwog o’r enw Cai. Yn ol hanes ei fywyd, a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi ei farwolaeth, roedd Cai, yn fab i’r brenin Lleuddun Lwyddog o deyrnas Lleuddin ( Lothian ), yn yr Hen Ogledd, ac roedd yn esgob yn yr ardal honno. Teithiodd i lawr i Gymru, yna i Gernyw a Dyfnaint, gan orffen ei fywyd yn Llydaw. Yr oedd ei gwlt yn boblogaidd yng Nghymru a De Orllewin Prydain. Sefydlwyd sawl eglwys yn cario ei enw. Yng Nyfnaint mae Llangai ( heddiw Landkey ). O’n safbwynt ni diddorol yw sylwi ar hen enw pentref Street yng Ngwlad yr Haf; ceir cofnod o’r enw ‘ lantukkai’, a ‘lantokey’, sef yr un enw a Llandygai. Roedd yr enw wedi ei golli cyn llyfr Domesday 1086, pan gofnodwyd ‘Strete’ fel enw’r pentref. Ni ellir profi dim, wrth reswm, ond mae’n hawdd deall sut y byddai dilynwyr cwlt un sant yn sefydlu gwahanol eglwysi mewn gwahanol rannau o’r wlad. Gyda llaw, mae Cai yn dod yn rhan o’r chwedl Arthur Ewropeaidd, ac mae’n sicr fod cymysgu yma rhwng y Cai sydd yn y chwedl Gymraeg a’r Cai sy’n sant.
Mae eglwys bresennol Llandygai yn un ddiddorol. Nodwyd mewn un erthygl fod llawysgrif o 1575-6 fod yr eglwys yr adeg hynny yn Cae Meusyn Glasawg, dau saethiad bwa o’r safle bresennol. Yn 1966/67 gwnaed archwiliad archaeolegol dri chwarter milltir o safle’r eglwys bresennol lle tybid fod yr eglwys wreiddiol. Yn ddiddorol iawn, canfuwyd olion nifer o gladdfeydd o Oes y Cerrig Diweddar ac Oes y Pres. Byddai hynny’n cydfynd ag arfer y ‘seintiau’ Cymreig i ddefnyddio safleoedd hanesyddol oedd wedi eu gadael i godi eu heglwysi ynddynt. Digwyddodd hynny, er enghraifft, mewn adfeilion Rhufeinig yng Nghaergybi, Caerleon, a Chaerwent, ac mewn sawl lle arall. Yn achos safle Llandygai, darganfuwyd, hefyd, drigain rhes o feddau Cristnogol, sy’n awgrymu canolfan grefyddol o bwys, neu, efallai, ganolfan boblogaeth. Yn ogystal, cafwyd hyd i amlinell eglwys o’r chweched ganrif, gyda thwll wedi ei amgylchynu gan bolion pren, fyddai, fwy na thebyg, yn ysgrin, neu’n feddrod, i’r sefydlydd, neu’r un y sefydlwyd yr eglwys yn ei enw.
Beth bynnag y rheswm am ei symud, dyna a wnaed. Efallai fod dylanwad y Penrhyn ar y symud. Yn sicr, roedd eu dylanwad ar y ffaith fod eglwys Llandygai yn un o chwe eglwys yn unig yn yr hen Sir Gaernarfon ar ddechrau’r 19 ganrif oedd yn berchen ar dŵr. Ymhellach, hi yw’r unig eglwys gyda thŵr yn ei chanol.
Ffynhonellau
Ciltwllan John Llywelyn Hanes Dyffryn Ogwen
Trafodion Hanes Sir Gaernarfon Cyf 23 1962
Saints, Seaways, and Settlements E G Bowen
Street Wikipedia
Llain y Ffwlbart
Ty yw Llain y Ffwlbart heddiw, ger Tan y Lôn, ger cyffordd yr A5/A55.
Yn Arolwg 1768 dangosir Llain y Ffwlbart fel cae 1 acer ar dir Cae Gwyn ( Ty Gwyn ) yn hendref Llanllechid. Erbyn yr Arolwg Degwm, 1838-40, mae’r cae wedi troi’n ddaliad 1 acer, gyda thy arno, ac arhosodd fel daliad pan unwyd tiroedd Cae/Ty gwyn gyda thiroedd eraill i greu fferm newydd Tyn Hendre
Ffwlbart – enw ar anifail o’r un teulu â’r carlwm, y mochyn daear, a’r ffured. O ran maint, mae’n fwy na’r ffured, ac yn dduach ei flew. Fel llawer o greaduriaid cafodd ei erlid yn ddidrugaredd, bron hyd at ddifancoll, yn benodol gan giperiaid y stadau mawrion oedd yn difa popeth a beryglai adar gêm eu meistri. Erbyn hyn, darfu’r rhan fwyaf o erlid, ac adenillodd y ffwlbart lawer o’i libart, gan ddod yn fwy cyffredin yn y wlad.

Y ffwlbart – del a drewllyd
Mewn enwau lleoedd,yn amlach na heb, mae defnyddio enw creadur unigol, yn enwedig pan fo’r fannod yn ei wneud yn benodol, yn awgrymu rhyw stori am greadur penodol. Gallai rhyw ffwlbart arbennig fod wedi trigo yma, neu fod stori am un arbennig yma, neu fod un wedi cael ei ddal, neu ei weld, yn y llain arbennig hon. Mae posibilrwydd arall. Mae hi’n arfer cyffredin yn y Gymraeg roi enw anifail, neu greadur, ar berson, yn benodol oherwydd ei fod yn arddangos rhyw nodwedd sy’n amlygu’r greadur hwnnw. Mae ’mochyn’ yn drosiad am ddyn budr, ‘ceffyl’ am ddyn cryf, ac yn y blaen, ac roedd yn arfer gan feirdd y Canol Oesoedd alw tywysog, neu filwr, yn ‘llew’, yn ‘eryr’, neu’n ‘arth’; mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae gennym, yn y Gymraeg hen ddywediad sy’n dweud ‘drewi fel ffwlbart’, a hynny yn cyfeirio at un o arfau amddiffyn y creadur, sef chwistrellu hylif drewllyd i gyfeiriad unrhyw elyn sy’n ei fygwth. Byddai llysenwi person yn ‘ffwlbart’, wedyn, yn cyfeirio at ei ddrewdod. Dylem gadw mewn cof, hefyd, fod Tyddyn y Ceiliog o fewn tafliad carreg i Lain y Ffwlbart, ac mae hwnnw, yn weddol sicr, wediei enwi ar ôl person.
Nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod yr union darddiad heddiw, ai dyn, ai anifail penodol, ond erys ei enw yn y ty sy’n dal yma
Llety
Yn ôl arolwg o diroedd Stâd y Penrhyn 1768 un o’r daliadau nesaf i’r tir comin ar lethrau Moelyci, ar derfyn tir Pandy, oedd tyddyn bychan 4 acer o’r enw Llety’r Bwgan. Cafodd ei enw oherwydd rhyw gred mewn rhyw oes fod bwgan yn y ty, gan mai ‘llety’ yw lle mae rhywun yn aros. Dydy enw lle efo bwgan ynddo ddim yn anghyffredin; mae Allt Cadair Bwgan ger Llannerchymedd, gyda Thwll y Bwgan yn yr un plwyf, a Phant y Bwgan yn Llaneilian. Erbyn Cyfrifiad 1841, mae dau newid wedi digwydd i Lety’r Bwgan; mae’r bwgan wedi gadael y ty, ac mae dau dy yno, y ddau, erbyn hyn, yn Llety. A Llety a fu ers hynny. Mae ei enw presennol yn llawer mwy croesawgar heb y bwgan; dim ond gobeithio na ddaw’n ôl!
LLIDIART Y GWENYN
Mae ambell enw yn cael ei newid trwy arfer lleol, nes ei fod yn ymddangos yn enw hollol wahanol i’r hyn oedd yn wreiddiol. Mae gwahanol resymau am y newid hwn.
Weithiau mae’n fwriadol er mwyn gwneud enw yn fwy parchus. Yn ymyl Llanrwst mae pentref Pandy Tudur, sy’n awgrymu fod y pandy yn perthyn i ryw Tudur rywdro, ond wedi parchuso mae’r enw, oherwydd mai Pandy Budur oedd y lle’n wreiddiol, Does neb eisiau byw mewn lle budr! Yn Ne Cymru, wedyn, mae lle gyda’r enw bendigedig Cwm Rhyd y Ceirw; nid mor fendigedig i ddirwestwyr y 19eg ganrif oedd yr enw gwreiddiol, Cwm Rhyd y Cwrw, am fod dwr yr afon mor bur roedd yn cael ei ddefnyddio i fragu cwrw.
Dro arall mae enw, sydd wedi mynd braidd yn anghyfarwydd, yn cael ei newid yn air cyfarwydd, gan golli’r ystyr wreiddiol, ac, yn aml, yn gwneud enw heb ystyr go iawn. Aeth Tyddyn Sabel ( Isabel ) yn Tyddyn Stabal, Aeth Ciltreflys yn Ciltrefnus, aeth Tanysgafell ( dan y silff o dir ) yn Tanysgrafell (dan y crib i gribo rhawn ceffyl! )
Rhywbeth tebyg sydd wedi digwydd yn achos Llidiart y Gwenyn, enw sy’n ymddangos mor rhamantus. Nid mor rhamantus yr enw gwreiddiol, sef Llidiart y Gweunydd, sef yr adwy, neu’r giât i’r mynydd.
Ystyr ‘gweunydd’ yn ôl Geiriadur y Brifysgol yw Gwastatir uchel gwlyb a brwynog, ucheldir neu fynydd-dir agored, gweundir, rhos, tir grugog
Yma, felly, yn y cyfnod pan oedd Dyffryn Ogwen yn ardal amaethyddol, ac heb ddatblygu’n ddiwydiannol, yr oedd yn llidiart i’r mynydd agored.
Roedd yr enw gwreiddiol wedi newid i’r ffurf bresennol cyn 1841, o leiaf. Oherwydd erbyn hynny cafwyd datblygiad cynnar o dai bychain yma, gyda’r enw Llidiart y Gwenyn. Yn ôl Cyfrifiad 1841, yr oedd 41 o dai yno, gyda 185 o bobl yn byw ynddynt.Yr unig dai sydd ar ôl erbyn hyn yw’r ddau neu dri yn Stryd Cymro. Mae’r enw hwnnw, gyda llaw, yn awgrymu mai ar dir Cae Ifan Gymro y’u codwyd, ond nid yw hyn yn gywir, gan mai ar un o gaeau Cilfodan, ‘y Llain tu ucha i’r ffordd’, y codwyd rhai ohonynt, beth bynnag
Llwyn Penddu
Ni thrafodir unrhyw enw arall yn yr ardal sy’n cynnwys y gair ‘llwyn’, onibai ei fod yn anghyffredin
Mewn map o ddaliadau hendre a llethrau Llanllechid, a wnaed yn 1822, nodir enw’r daliad fel ‘Llwyn y Pandy’, ond dyna’r unig enghraifft o hynny, ac mae’n amlwg mai ymdrech i droi enw yn un mwy dealladwy oedd hynny. ‘Llwyn (y) penddu yw’r enw ym mhob cofnod arall.
Mae ‘llwyn’ yn elfen gyffredin iawn mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e Llwyn Helyg, Llwyngwril, Llwynhendy, Llwynhudol, Llwyndyrys, ac yn y blaen. Mae mwy nag un yn Nyffryn Ogwen, hefyd. Er fod ‘llwyn’ heddiw yn golygu nifer o goed yn tyfu efo’i gilydd, neu yn air Cymraeg am ‘bush‘, roedd, hefyd, yn gallu golygu fod nifer o goed ( cyffelyb, gan amlaf, yn tyfu yn y cylch. Mae’r ystyr, mewn enwau lleoedd, felly, yn gallu amrywio yn ôl y cyd-destun, a’r gair sy’n dilyn ‘llwyn’; er enghraifft, byddai Llwynhelyg yn golygu amlder o goed helyg yn y cylch, tra byddai Llwyndyrys yn cyfeirio at lwyn o goed yr oedd yn anodd darganfod llwybr trwyddynt, oherwydd eu bod yn agos i’w gilydd. Ymhellach, byddai Llwyn Bleddyn yn cyfeirio at berchnogaeth y coed, boed yn tyfu efo’i gilydd neu beidio.
Daliad 55 acer ar lethrau plwyf Llanllechid oedd Llwyn Penddu; erbyn 1851, mae’n ddwy fferm o 24 acer yr un. Mae’n hen ddaliad, gan fod sôn amdano yng Nghofnodion Llys Chwarterol Caernarfon yn 1552, oherwydd i un o’r enw William ap Maredudd, of Castell ( plwyf Llandygai, mae’n debyg ), ac eraill wthio eu ffordd i’r ty trwy drais, a thaflu’r perchennog a’i deulu allan, gan feddiannu’r lle.
Mae ‘llwyn’ yn gyffredinol yn golygu tyfiant llai na choed, ond mae hynny’n ymddangos braidd yn annisgwyl mewn enwau llefydd. Fodd bynnag, mae’r gair ‘llwyn’, hefyd, yn gallu golygu ‘coedlan fechan’, ‘cyfair o goed’, fel sydd yn amlwg yn Llwynhelyg (uchod ).Mae plwyf Llanllechid yn gyffredinol, ar wahân i’r llethrau isel, yn dir moel, disgysgod. Dyna pam mai prif gynllun gwella yr Arglwydd Penthyn ar diroedd ei stâd oedd plannu coed, ac fe blannodd filoedd ar filoedd ohonynt yn ystod ei oes. Mewn ardal foel, agored, mae angen chwilio am gysgod rhag brath y gwynt. Pan ddaeth Edmund Hyde Hall ar ei daith trwy’r ardal yn 1809-11, dyma a ddywed
‘Most of the farmhouses, both in the plain, and on the sides of the hills, are protected by groups of trees, which give great gaiety and richness to the landscape’
Tybed ai’r ‘llwyn’ yn yr achos arbennig hwn yn Nyffryn Ogwen yw cyfeiriad at y coed a blennid o gwmpas ffermdy ac adeiladau i roi cysgod iddo?
Am ‘penddu’, y cyfeiriad yn 1552 yw ‘lloyn y penddy’, sy’n dangos mai rhywun gyda’r blasenw ‘penddu’ sydd yn yr enw,felly ‘llwyn yn perthyn i’r penddu’.
Cyn gadael yr enw, mae’n ddiddorol sylwi mai mewn dwylo preifat y bu’r fferm am ganrifoedd, ac nid yn rhan o unrhyw stâd. I’r rhai ohonom sy’n gresynu yn yr arfer heddiw o werthu tai cefn gwlad i estron, beth am ddarllen sut yr oedd Gwerthwr Eiddo yn hysbysebu Llwyn Penddu, pan aeth ar werth yn 1822
‘For sale by Auction
This farm is pleasantly situated within a small distance of the Turnpike Road – it commands an extensive view of Beaumaris bay, and is capable of great improvement at a small expense. It is an eligible place for a gentle man desirous of having a cottage in this part of the country …. Several lakes and rivers abundantly stocked with fine trout.
The value of real property increases most rapidly in the neighbourhood from the influx of company by steam packets, and otherwise the speedy prospect of the wonderful Menai bridge completed, and the improvements at Bangor, Caernarvon, and Beaumaris in public baths and eligible buildings’
Cychwyn y farchnad dai haf, efallai? Ond does dim rhaid poeni; yn ôl Arolwg Degwm 1838-40, rhyw 16 mlynedd wedi’r hysbyseb uchod, dau ddyn lleol, Hugh Griffith, a David Griffith oedd biau’r fferm, ac roeddynt yn ei rhentu, ond erbyn 1851, roedd yn ddau yn ffermio’r ddau ddaliad gyda’u teuluoedd. Ni throwyd Llwyn y Penddu yn ‘gentleman’s residence’
Maes y Groes ( Tyddyn )
Dau dyddyn o’r un enw, un yn 18 acer, a’r llall yn 7 acer, ar y safle ble mae’r tai presennol, ble mae ffordd Llanllechid a Lôn Coed yn uno. Er nad oes unrhyw anhawster ynglyn â’r enw, y mae peth amwysedd gyda’r ddwy elfen.
Cymrwn ‘y groes’ yna’n gyntaf. Mae dau ystyr i’r gair ‘croes’ mewn enwau llefydd; sef croes lythrennol o garreg neu o bren, a chroesfan, sef ble mae dau lwybr neu ddwy ffordd yn croesi.
Mae’r rhamantydd yn gweld croes lythrennol yn mhob enw sy’n cynnwys y gair, ac yn dychmygu croes ar y safle, felly, fel rhamantydd da, ymdriniaf â hynny yn hyntaf. Mae’n wir fod croesau o gerrig, weithiau o bren, yn niferus trwy’r wlad yn y canol oesoedd, rhai, yn wir, ers y 5ed ganrif. Roedd rhai yn hollol seciwlar, er enghraifft, mewn pentrefi ,neu drefi, i nodi man lle cynhelid ffeiriau a marchnadoedd; ble cynhelid marchnad y tu allan i bentref, nodid hynny, hefyd, gyda chroes. Roedd ambell groes gynnar wedi ei chodi i goffau ble lladdwyd, neu y merthyrwyd, ambell Gristion enwog; dyna sut yr enwyd Croesoswallt, ble lladdwyd y Brenin Oswallt o Northumbria. Codwyd croesau cerrig eraill mewn ardaloedd diarffordd, ble nad oedd eglwys, er mwyn i offeiriaid neu fynachod, teithiol, allu pregethu wrthynt. Fe allai fod un o’r rhain ym Maes y Groes, meddai’r rhamantydd ynof.
Fodd bynnag, mae’r realydd ynof yn pwyso i ochr llawer mwy ymarferol y gair ‘croes’, sef ble mae dau lwybr, neu ddwy ffordd yn croesi.Dyna sydd yn ‘croesffordd’, a ‘croeslon’, a dyna ddylid chwilio amdano gyntaf ym mhob enghraifft o’r enw. Roedd dau lybr yn croesi yma, sef y llwybr o eglwys Lanllechid a’r llwybr o Gochwillan a Lôn Coed, a dyna pam y ‘groes’, mae’n debyg. Roedd Cae’r Groes ar dir Talysarn yn 5 cae o 35 acer yn 1765, ond yn sicr yn olion un cae o’r un faint. Byddai llwybr yr hen ffordd ( heibio Plas Hwfa a Than y Bwlch yn ffurfio croes efo’r Lôn Goed heibio Talysarn ar y cae, ac yn teilyngu’r enw. Yn yr un modd, mae’n debyg, enwyd Rhyd y Groes, ym mhlwyf Pentir ar ffin plwyf Llandygai, oherwydd ei bod yn croesi’r ffrwd yn ymyl ble’r oedd yr hen lwybr o Ddyffryn Ogwen yn cyrraedd y llwybr o Landygai. ( er y gellid fod croes yn arwydd o’r rhyd yn y fan hon, ond rhamantu eto, mae’n debyg.)
Am y ‘maes’ mae’n sicr mai’r un maes yw hwn ag sydd yn ‘Cefnfaes’, a bod yr hendref i gyd, oherwydd ei natur, yn un maes. Un peth diddorol, yn yr 17eg ganrif, ceir yn nodyn canlynol ‘Cevnvaes, alias grose‘ , sy’n dangos mai enw gwreiddiol Cefnfaes oedd Y Groes, er ei fod gryn hanner milltir o Faes y Groes. Pam newid ei enw, tybed? Ai am mai perthyn i’r Groes yr oedd y ‘maes’ rhyw oes? Pwy a wyr erbyn hyn?
Pan adeiladwyd eglwys newydd yn y rhan hon o’r plwyf yn 1894, galwyd hi yn Eglwys Maes y Groes, a rhoddwyd nawddsant, yn Saesneg, iddi oedd yn gyfieithiad o’i safle,ac Eglwys St Cross ydyw. Mae’n debyg mai dyma’r unig enghraifft yn y byd Cristnogol o groesffordd yn cael ei phersonoli, ac, ymhellach, yn cael ei gwneud yn sant. Rhyfedd o fyd!
Maes y Penbwl
Nid oes pwrpas i neb chwilio na map na chof am Faes y Penbwl, oherwydd mae’r daliad, a’r fferm, wedi diflannu ers tua 180 o flynyddoedd. Fodd bynnag, am fwy na hynny, bu’n fferm sylweddol o 82 acer ger Talybont. Mae sôn am y lle yn 1674, pan gyfeirir at ‘Tyddyn Robert Albertus, alias y ty mawr ym maes y penbwl’. Cyn ehangu’r parc yn yr 1840au, nid oedd yn ymestyn i’r dwyrain o Ogwen, ac roedd dwy ffordd yn mynd i lawr at Aberogwen sef y ffordd bresennol o’r Groeslon, a’r ffordd sydd, heddiw, yn waharddedig i giaridyms, y tu draw i ddorau’r parc, gyferbyn â’r lôn i bentref Talybont.; arweiniai’r ffordd hon i un o ddwy fferm Aberogwen. Ymddengys fod tir Maes y Penbwl wedi ei leoli y ddwy ochr i’r ffordd i lawr i Aberogwen sydd bellach yn y parc, ac mewn dau barsel gwahanol. Pan ehangwyd y parc i’w waliau diadlam presennol oddeutu 1840, fe lyncwyd y rhan llawer o’r fferm ganddo, a diflannodd Maes y Penbwl o ymwybyddiaeth trigolion yr ardal.

Dyma fel y mae Hugh Derfel yn ymateb i’r ad-drefnu mawr a fu yn yr ardal hon yn yr ugain mlynedd cyn iddo gyhoeddi ei Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid yn 1866
Am ystyr yr enw, gweler
Am yr ail elfen, roedd hi’n gyffredin iawn rhoi llysenw i berson, a hynny ganrifoedd cyn i hynny ddigwydd mewn ardaloedd diwydiannol. Yr un mor gyffredin oedd i lysenw sefyll ar ei ben ei hun fel enw, trwy roi’r fannod o’i flaen. Yn aml, ceir ‘ y mawr’, y cochyn, yr hyll, y mochyn, ac ati. Mae’n fwy na thebyg mai llysenw perchennog y ‘maes ‘ mewn rhyw oes gynnar oedd ‘y penbwl’. Gallai hynny fod oherwydd fod ganddo ben mawr ar gorff eiddil, neu’n fwy tebygol oherwydd ei fod yn dipyn o lembo, gan fod ‘penbwl. yn drosiad cyffredin iawn am berson dwl, neu lembo. Mae llysenwau eraill wedi eu cadw yn yr ardal, megis Y ceiliod, ac ‘Y Penddu’, ac ni fyddai dim ynod mewn cadw’r ‘penbwl’ ychwaith
Meysyn Glasog
Ar ei safwe Hanes Dyffryn Ogwen, mae Dr John Llywelyn Williams yn nodi
‘Mewn llawysgrif sy’n dyddio o 1575-6 cofnodir y sefydlwyd yr eglwys gynharaf Llandygái yn ‘Cae Meusyn Glasog’ a oedd hyd at ddau saethiad bwa o’r eglwys bresennol, ond heb nodi i ba gyfeiriad.’
Mae Hugh Derfel Hughes yn tynnu sylw at gyfeiriadau gan Lewis Morris at ffynhonellau sy’n nodi fod Tygai yn trigo ym Maes y Llan, ac, ymhellach, ‘Maes Llanglasawg’.
Ymhellach, mae’r Dr Williams yn cofnodi
‘Yn yr archwiliadau archeolegol a wnaed i’r gorllewin o bentref Llandygái yn 1966-7 darganfuwyd mynwent o fwy na 57 bedd wedi’u trefnu ar echel i’r gogledd o’r dwyrain i gyfateb â chodiad yr haul ar ŵyl y Pasg.’
Yn eu cyfrol gynhwysfawr Lives of the British Saint, yn 1913, mae Gould a Baring yn nodi’r canlynol
“TEGAI, in Maes Llan Glassog, in Arllechwedd,” 3 In one pedigree 4 he
is entered as” Tygai y Meisyn glassog” ; whilst others .5 give” Tegai
Glassawc yn Maes ythlan,” and “Tygai Glasawc ym Maeslan”. Llandegai is intended by these various readings;.
Tegai is the patron of Llandegai, in Carnarvonshire, which adjoins-
Llanllechid. Tradition says that he lived there at a tenement called
Maes y Llan, latterly Tan y Fynwent, near a place called Meusyn (or·
Maes yn) Glassog, a little to the north of the church, but which now
forms part of Penrhyn Park.
( tud 215 )
Rwan, mae sawl peth yn cymysgu yma, sef ‘Tygai y Meisyn Glassog’, ‘Tegai Glassawc ymn Maes ythlan,’ ‘Maes y Llan, latterly Tan y Fynwent.’ Os ceisiwn eu datgymalu, efallai y gallwn ddweud fod ardal o’r enw Meysyn Glasog yn fras ychydig i’r gogledd-orllewin o bentref presennol Llandygai, y tu mewn i’r parc presennol. Mae Hugh Derfel yn nodi fod Meysyn Glasog ar lan Ogwan, ond ni fyddai hynny’n cydfynd gyda lleoliad Gould a Baring, gan mai i’r dwyrain o’r eglwys y mae’r afon. Beth bynnag, ar y tir hwn roedd tir o’r enw Maes y Llan, wedi ei enwi ar ôl yr eglwys; mae’n debyg mai’r eglwys wreiddiol, nid yr un bresennol, oedd honno. Yna, fe ail-enwyd y tir yn Tan y Fynwent, ac yma mae’r dyfalu yn troi’n ffaith. Yn Arolwg Leagh yn 1768, yr oedd daliad bychan Tan y Fynwent yn cael ei gofnodi, yn 6 acer, yn cynnwys 6 chae; un o’r caeau hyn oedd Cae Tan y Fynwent, ac mae’n ddiddorol mai un arall oedd Cae’r Ddeiol. Gan ei bod yn arfer, mewn oes diglociau, i gael deiol ym mynwent y plwyf i sicrhau’r amser, mae’n debyg fod y cae hwn yn terfynu ar y rhan o’r fynwent ble’r oedd y ddeiol. Gallai fod yn arwyddocaol, hefyd, mai enw un cae oedd Cae Glas, o gofio’r ‘glassog’ yn yr hen enw. Mae’n ddiddorol, hefyd, mai dau gae ar ddaliad cyffiniol dienw i Dan y Fynwent oedd Cae Glas Uchaf a Chae Glas Isaf. Cyfyd yr ansicrwydd o dan pa fynwent yr oedd y daliad; byddai lleoliad HDH yn gosod y daliad rhwng y fynwent bresennol a’r afon, tra byddai un G a B yn ei gosod uwchben y fynwent honno. I gydfynd â’r hyn a ddywed Gould a Baring, mae cynllun Penrhyn 1768 yn dangos yn glir nad yw’r daliad yn ffinio gydag Ogwan, gan ei bod yn arfer diwyro ar y cynllun hwnnw i ddangos pob ffordd ac afon sy’n ffinio gyda, neu’m mynd trwy, unrhyw ddaliad.
Am yr enw ‘Maes Glesyn’, ymddengys yn syml, ond nid yw mor ofnadwy o syml â hynny. Gwelwyd fwy nag unwaith ( Maes, Cefnfaes Tyn y Maes) fod maes yn dir agored, pur eang, yn aml yn dir âr, ac yn dir gweddol wastad ar lawr gwlad, neu ar lawr dyffryn. Ymhellach, nid oes unrhyw gofnod yn unlle fod enw bachigol iddo, ac nid ymddengys y gair ‘meysyn’ yn GPC, sy’n dystiolaeth pur sicr nad yw’r fath air yn bod, ac nad ‘maes bychan’ sydd yma. O ran ‘glasog’, rydym yn awr yn symud i dir dyfalu, ac edrychwn ar yr enghreifftiau a roir gan Gould a Baring. Efallai mai rhywbeth megis Maes Llanglassog oedd yma’n wreiddiol, neu Maes yn Glassog, a bod hynny wedi cywasgu’n llafar dros amser yn rhywbeth tebyg i Meysyn. Am ‘glasog’, mae hwnnw’n bodoli fel gair, er nad yw’n gyffredin iawn, ac mae’n golygu ‘arlliw o las’, tir ag arlliw glas iddo. Fodd, wedi dweud hynny, mae arlliw o las i bob tir, ond mae’n debyg y gellid gwahaniaethu rhwng glas a glas, a bod ‘glasog’ yn fath penodol o’r lliw ‘glas’. . O ddyfalu ymhellach mae gair cytras yn yr Hen Wyddeleg ‘clas’, sy’n gallu golygu’r lliw, ond, hefyd, yn golygu ‘afonig’ – gwelir y gair mewn geiriau Cymraeg megis Dulas, camlas, ac ati. Efallai fod ffrydiau yn y tir ‘glasog’ hwn. Pwy a wyr erbyn heddiw? Cyn gadael yr enw, rhaid inni gyfeirio at ffurf arall anghyffredin ar y gair ‘glas’ sydd yn yn y pentref agos at Feysyn Glasog, sef elfen gyntaf yr enw ‘Glasinfryn’, sy’n gyfuniad o ‘glesin fryn’. Mae GPC yn nodi dau ystyr i’r gair ‘glesin’, sef ‘llannerch las, agored’, a llysieuyn ( borage ), ac mae’r glas yn y ddau.
i’r cychwyn
Mignant
Daliad bychan yw Mignant ar lethrau Llanllechid, heb fod ymhell o eglwys y plwyf, ac mae enwau dau o’i gaeau yn 1765 – Tir yr Eglwys Uchaf, a Thir yr Eglwys Isaf – yn ein hatgoffa o hynny.
Am ystyr yr enw Mignant , rhaid inni feddwl am y rhostir a’r mawndir llwm hwnnw sy’n ymestyn am filltiroedd rhwng Ffestiniog ac Ysbyty Ifan – y Migneint – gan mai’r un gair ydyw’r ddau, a bod nodweddion y mynydd-dir hwnnw yn egluro’r enw.
Yn ôl Geiriadur y Brifysgol ‘Tir gwlyb meddal, cors, gwern, siglen, lle lleidiog’ yw ‘mign’, ac ychwanegir fod ‘migwyn’ yn golygu ‘mwsog y gors’, sef y tyfiant mwsoglyd hwnnw sydd ar dir meddal, corslyd.
Ail elfen yr enw ydy ‘nant’. Er ein bod yn gyfarwydd gyda ‘nant y mynydd’ fel afonig fechan, mae nant, hefyd, yn golygu dyffryn, glyn cul, hafn, ceunant, fel yn Nant Ffrancon, neu Nant y Benglog. Felly, ‘mignant’ yw ‘glyn cul efo tir corslyd ynddo’, sy’n air addas iawn i ddisgrifio llawer o dir mynyddig y Carneddau a’u llethrau
Llyn Celanedd

Rhan o hendref Llanllechid yn 1820, yn dangos cwrs yr afon Ogwen trwy Lyn Celanedd
Os ewch chi i lawr i Aberogwen, rhyw ychydig cyn cyrraedd yr aber, a Thraeth Lafan, fe welwch lyn ar yr ochr chwith i’r ffordd fechan, ac arwyddion sy’n cyhoeddi fod yma warchodfa natur. Ar yr arwyddion, nodir enw’r warchodfa fel ‘The Spinneys’. Fodd bynnag, yr enw gwreiddiol ar y corff hwn oedd Llyn Celanedd, ac, er mai marddwr llonydd yw heddiw, yr oedd, hyd 30au’r 19eg ganrif, yn rhan o afon Ogwen, a thrwy’r llyn hwn y llifai Ogwen i’r môr. Cyn 1820 yr oedd Ogwan yn troelli’n araf trwy Ddologwen, a thrwy’r llyn. Rhwng 1820 ac 1824, fel rhan o greu’r parc newydd, gan ei ymestyn i’r gogledd-ddwyrain o Ogwen, fe ailgyfeiriwyd yr afon, gyda’r rheswm ymddangosiadol o gael llifcyflymach ar gyfer yr eogiaid wrth fudo. Fe yrrwyd yr afon yn syth i Draeth Lafan cyn cyrraedd y llyn, lle’i gwelir heddiw yn llifo o dan pont fechan i’r aber. Gadawyd Llyn Celanedd yn farddwr llonydd, sydd, bellach yn gartref i lu o wahanol adar y dwr.
Mae dirgelwch amlwg yn yr enw, gan ei fod yn cyfeirio at gyrff marw ( celanedd). Mae Ieuan Wyn wedi gwneud awgrym diddorol y gallai’r enw fod wedi dod i fodolaeth oherwydd fod cyrff anifeiliaid a fyddai wedi boddi mewn llif yn dod i lawr yr afon, ac yn crynhoi yn y llyn, oedd yn llonydd o’i gymharu â lli chwyrn yr afon a lifai trwyddo, neu trwy ran onono.
Beth bynnag am hanes yr enw, onid yw’n enw digon arbennig adennill ei le, a disodli’r ‘spinneys’ bondigrybwyll, neu, o leiaf, sefyll ochr yn ochr ag ef.
I’r cychwyn#cartref
Nant Gwreiddiog
Yn ôl Aolwg 1768 roedd Nant Gwreiddiog yn ddaliad 24 acer o 11 cae ym mhlwyf Llandygai. Roedd yn yr ardal hono o’r plwyf ble mae pentref Llandygai heddiw, rhwng afon Ogwen, a’r hen A5, ac yn terfynu ar hen ddaliad Tan y Fynwent, Ty Newydd, Bryn Dymchwel, a Phenylan. Gellir dweud ei fod yn yr ardal sydd heddiw o’r Bryn i lawr i’r afon, ac yn cynnwys yr ardal y rhed ffordd Conwy i lawr at y bont, y rheilffordd, ac ardal ble’r oedd iard y Cyngor Sir. Roedd ffordd drol o’r A5 yn mynd i lawr at dy yr hen ddaliad ychydig o Landygai na chyffordd yr hen ffordd i Gaernarfon. Mae Tre’r Felin, sy’n cadw enw Melin Isa, ar dir Nant Gwreiddiog. Erbyn hyn mae peth o dir yr hen ddaliad, ynghyd à holl gaeau Tan y Fynwent, o dan goed trwchus, rhai ohonynt yn goedlannau oedd yn rhan o’r 600,000 honedig o goed a blannwyd gan yr Benjamin Wyatt, Asiant y Penrhyn, ar dir y stâd cyn 1800, a’r miloedd a blannwyd gan ei fab, James, o 1820 ymlaen, wrth lunio’r parc newydd. Mae llawer o weddill yr hen Nant Gwreiddiog o dan adeiladau a iardiau gwaith sydd rhwng Bryn a’r afon, tra’r unwyd y gweddill gyda peth o dir cyfagos Penylan, er mwyn creu daliad Llwyn Onn. O’r herwydd roedd Nant Gwreiddiog wedi diflannu fel daliad cyn yr Arolwg Degwm yn 1838-40.
O safbwynt yr enw, mae’n eithaf clir mai glyn cul, gyda llawer o wreiddiau yn y tir oedd yr ardal. Roedd na ‘Dryll y Gwreiddiau ar dir Perthi Corniog, hefyd. Nid oes afon na ffrwd yma, felly mae’n ddiddorol dwyn i gof awgrym Thomas Roberts fod ‘nant’ benywaidd, ( gyda threiglad yn ei ddolyn ), yn golygu ffrwd, neu afonig, tra bod nant gwrywaidd ,( heb dreiglad dilynol ), yn golygu nodwedd yn y tir, megis ‘glyn’, ‘dyffryn cul’. Oherwydd y diffyg treiglad yn yr enw, y nodwedd ddaearyddol fyddai yma, yn unol â damcaniaeth Thomas Roberts.
Nant y Ty
Ty a thir uwchben Gerlan yw Nant y Ty, ar y ffordd i Dan y Garth a’r Parc Newydd.Yn Arolwg Tiroedd y Penrhyn 1765 nodir dau gae 1 acer a 4 acer o’r enw Nant Du ar dir Cymysgmai. Nid oes sôn am y lle ar Arolwg Degwm 1838-40, gan mai Cymsygmai sydd yn yr arolwg hwnnw, ac ni ddangosir unrhyw adeilad yn ardal bresennol y ty ar y map cysylltiedig â’r Arolwg. Mae’r cyfeiriad cyntaf at aelwyd o’r enw Nant y Ty yng Nghyfrifiad 1851. Y mae adfail hen dy ar draws y ffordd i’r Nant y Ty presennol, ond ni wyddys i sicrwydd ai hwnnw oedd y Nant y Ty gwreiddiol ai peidio, gan fod annedd o’r enw Llys Gwynt, hefyd, yn yr ardal hon, wedi ei leoli rhwng Freithwen a Phenceunant, ac fe allai’r ty presennol fod yn un o’r ddau.
Er fod yr enw presennol ( sy’n bod ers o leiaf 1851 ) yn swnio’n naturiol, sef y ‘nant ble mae ty’, fe ddylid ystyried yn ddwys y dystiolaeth gynharaf sydd gennym, sef ‘nant du’. Byddai hynny’n golygu ‘nant/ ceunant dywyll’, ac mae’r afon Ffrydlas yn y fan hon mewn ceunant dwfn, pur dywyll. Mae Thomas Roberts yn awgrymu fod y ffurfiau ‘nant du’ a ‘nant ddu’ yn ddull o wahaniaethu rhwng y nant sy’n golygu cwm, neu geunant, a’r ‘nant’ sy’n golygu afon, a chyfeiria at Nant Du ger Abergele, a Nant Ddu ym Mrycheiniog, ac ym Maesyfed. Byddai adeiladu ty yn y ceunant yn nes ymlaen yn hwyluso newid yr ystyr i Nant y Ty