Craig a Chwm

Nant Ffrancon Nant y Benglog Bwlch y Brecan Cwm Bual Carreg y Gath Clogwyn yr Heliwr

Nant Ffrancon

Edrych i lawr Nant Ffrancon o Graig y Benglog

Nant Ffrancon yw’r dyffryn eithaf cul sy’n ymestyn o Graig y Benglog ar ben deheuol Llyn Ogwen i lawr at gyffiniau Pont y Twr sydd yng nghwr uchaf, dwyreiniol Bethesda. Fe’i cysgodir ar un ochr gan fynyddoedd mwyaf deheuol y Carneddau, sef Pen yr Ole Wen, Braich Ty Du, a Braichmelyn, ac ar yr ochr arall gan y rhes o fynyddoedd sy’n ymestyn o’r Glyder Fawr i’r Fronllwyd. Trwy’r nant fe red afon Ogwan, gyda’r A5, a adeiladwyd gan Telford yn ail hanner ail ddegawd y 19eg ganrif, ar un ochr iddi, a’r hen ffordd ar yr ochr arall. Er mai fel Y Ffordd Rufeinig yr adwaenir honno yn lleol, mewn gwirionedd, nid yw ond ychydig flynyddoedd yn hyn na ffordd Telford, gan mai rhwng 1802 ac 1806 yr adeiladwyd hi, a hynny gan The Capel Curig Turnpike Trust, o dan arweniad Benjamin Wyatt, Asiant y Penrhyn, ar sail anghenion ei feistr. Mae’r enw lleol arall arni, Lôn Lord, yn llawer mwy addas iddi. Heddiw, mae’r lôn hon yn gwyro, gan groesi Ogwan dros Bont Ceunant, ac ymuno â’r A5 yn Nhyn y Maes, ond, yn wreiddiol, roedd yn rhedeg yn gydangwbl ar ochr ddeheuol Ogwan, ond mae ei rhan isaf bellach o dan domen y chwarel, er fod y llwybr diweddar, Lôn Las Ogwan, wedi atgyfodi peth o’i llwybr gwreiddiol. Penderfynnodd Telford adeiladu ei ffordd ar yr ochr ogleddol i Ogwan oherwydd yr allt enbyd ar Lôn Lord ym Mlaen y Nant, allt oedd yn peri dychryn ac arswyd i deithwyr, yn ewedig i’r rheiny oedd mewn cerbyd , neu goets, a dynnid gan geffylau, a pharhaodd ar lwybr nad oedd yn croesi’r afon ond ym Mhont y Pandy, rhyw filltir, neu lai, o aber yr afon Ogwan.

Am ‘nant’

O safbwynt Ffrancon, roedd Syr Ifor Williams yn gweld y gair ‘ffranc’, sydd yn Ffrainc yno, sef y bobl a enwyd oherwydd eu bod yn filwyr cyflog, a gwelodd ef filwyr cyflog i ryw bennaeth Cymreig y gwersylla yn y dyffryn. Yn ei gyfrol Enwau Lleoedd, dywed

Yn Nant Ffrancon ( enw a geir yn Llyfr Taliesin,1275, mewn cân ganrifoedd yn hyn ), cedwir yr enw ‘ffranc’ a ddefnyddid yn y nawfed ganrif am filwr cyflogedig yn llys pennaeth Cymreig…… Ffrancon oedd yr enw lluosog ar y rhai cynnar ( cf Brython, Saeson)….. hawdd tybio mai yno y plannwyd milwyr cyflogedig un o benaethiaid Arllechwedd.

Erbyn heddiw, credir mai ystyr arall sydd i’r enw, a bod ‘Ffrancon’yn deillio o air Hen Saesneg am ‘waywffon;, sef ‘franca’. Awgrymir fod hyn yn disgrifio nodweddion daearyddol yn y nant, gyda rhai yn awgrymu fod y ffrydiau o ddwr sy’n llifo i lawr llethrau serth y mynyddoedd o bobtu’r nant ar dywydd gwlyb, tra bod eraill yn awgrymu mai’r hyn sydd yn yr enw yw creigiau ysgithrog Craig Ty Du yn rhan uchaf ochr ddeheuol y nant, a’u bod yn ymdebygu i lafnau gwaywffyn. Er nad oes sicrwydd am unrhyw ystyr, yr wyf i yn gwyro tua’r olaf, gan eu bod yn nodweddion parhaol, tra bod y ffrydiau ond yn ysbeidiol, a thros dro, ac, er cymaint ysgolheictod a grym gwybodaeth Syr Ifor, dydy’r milwyr cyflog Tewtonig o Ewrob yn gwersylla yn Arllechwedd Uchaf ddim yn taro deuddeg rhywsut. Craig Ty Du amdani i mi, felly!

I’r cychwyn

Nant y Benglog

Dyma’r enw ar y dyffryn rhwng Tryfan a’r Carneddau, ac sy’n ymestyn o Lyn Ogwan draw am Gapel Curig. Yma mae’r wahanfa ddwr yn digwydd, gan fod afon Llugwy yn llifo i’r dwyrain cyn ymuno efo Conwy ym Metws y Coed. Mae’n sicr i’r nant gymryd ei henw oddi wrth Graig y Benglog oedd ym mhen deheuol Llyn Ogwan. Roedd hon yn rhwystr i dramwyo’r dyffryn. Bu raid i’r ffordd dyrpeg trwy’r nant i Gapel Curig yn 1802, ei hosgoi trwy fynd yn ei blaen, ac i lawr ochr ddeheuol y nant, ond fe’i chwalwyd pan luniodd Telford ei ffordd ef o 1816/17 ymlaen oherwydd ei fod am i’r ffordd ddilyn ochr ogleddol y nant. Dangosir Craig y Benglog fel rhan 102 acer o dir Blaen Nant.

Rhan o fap Arolwg 1768 ( APB PENRA 2004) yn dangos tir Blaen Nant. Dangosir Llyn Idwal, a Llyn Ogwan, gyda’r Graig yn codi ar lethr Pen yr Ole Wen. Mae ffordd Telford yn mynd yn syth o geg y llyn trwy waelod y Graig

Dydy ‘penglog’ ddim yn unigryw mewn enwau lleoedd, ceir Pen y Benglog, ac Allt y Benglog ar Aran Benllyn, rhwng Bala a Dolgellau, a Nant y Benglog, sy’n fferm ger Capel Seion yng Ngheredigion. Wrth drafod yr enw, mae Syr Ifor Williams yn nodi‘ Y Glog’ , ‘craig’, cf Gwyddeleg ‘cloch’ ‘maen, carreg’. Penglog yw’r asgwrn sydd fel carreg galed o gwmpas y meddalwch a elwir yn ymennydd. Ni wn beth yw yn Nant y Benglog; efallai nad yw ond yn gyfrystyr â phencraig, ond gall fod rhywun wedi ei enwi oddi wrth benglog dynol, neu garreg ar ddelw’r cyfryw’.

Dyna’r dewis, felly. Diddorol yw nodi fod nodwedd ddaearyddol ar dir Cilfodan ar lethrau Moel Faban uwchben Carneddi sy’n cael ei alw’n lleol yn ‘ Pen cloc’; nid ‘cloc’ o unrhyw fath sydd yma, ond calediad llafar o ‘pen clog’, sef ‘pen y graig’, neu ‘glogwyn’. Mae nodweddion hwnnw, fel nodweddion hynny sydd ar ôl o’r graig ger llyn Ogwan, yn awgrymu ‘clogwyn’.

i‘r cychwyn

Bwlch y Brecan

Bwlch y Brecan yw’r bwlch uchel sy’n gwahanu copa’r Foel Goch a Mynydd Perfedd, ac sy’n cysylltu Bwlch Marchlyn a Nant Ffrancon. Mae ‘brecan’ yn hen air am flanced o ddeunydd garw, neu frethyn brith; mae’n debyg fod yr ansoddair cyffredin ‘brych/ brech ‘ yn dod o’r un gwraidd. Mae ‘brych’ yn golygu rhywbeth tebyg i ‘brith’, cymysgedd o wahanol liwiau brown, fel yn ‘brychni’( S. freckles). Buwch ‘frech’ yw buwch sy’n gymysgedd o liwiau brown, golau a thywyll, tra bod unrhyw ‘frech’ yn creu brychni ar y croen. Mae’n debyg, felly, fod y ‘brecan’ yn y bwlch o’r enw yn cario’r enw oherwydd lliw’r ddaear, sy’n frychni i gyd.

i’r cychwyn

Cwm Bual

Daw Cwm Bual i lawr llethrau gogleddol Foel Goch, rhwng ffermdy Maes Caradog a ffermdy Pentre yn Nant Ffrancon. Mae ‘bual’ yn hen air Cymraeg am ych gwyllt, yn benodol ‘bison’, neu ‘buffalo’, ond gellir ei dderbyn yn syml fel ych gwyllt, ond, hefyd, gall olygu carw. ‘Corn bual’ mewn oes a fu oedd corn yfed, a enwid oherwydd o gorn yr anifail y gwneid y corn yfed. Gallai’r enw ddod o’r ffaith fod un o’r anifeiliaid a nodir , ryw oes, yn gyffredin yno, neu anifail penodol yno, neu’n dir lle byddid yn cadw ychen.

i’r cychwyn

Carreg y Gath

Ar lethrau isaf Foel Grach ychydig yn uwch na’r llwybr sy’n mynd i fyny am Gwm Caseg. Mae’n amlwg fod a wnelo rhyw gath wyllt â’r enw. Roedd y gath wyllt, oedd yn fwy na’r gath ddof, gyffredin, yn gyffredin yng Nghymru hyd at ail hanner y 19eg ganrif; fe laddwyd yr olaf y gwyddom amdani yn Abermiwl, Powys, yn 1862. Mae’n sicr iddi oroesi’n hwy yn yr ardaloedd anghysbell ym mynydd-dir Eryri a chanolbarth Cymru, nag yn y mannau mwy poblog. Erys y gath wyllt o hyd ym mynydd-dir yr Alban, er ei bod yn brin iawn yno hefyd. Efallai fod y ‘garreg’ hon yn ardal i gath wyllt arbennig, neu’n un o’r rhai olaf yn yr ardal, neu’n un o’r rhai olaf a laddwyd yno; pwy a wyr erbyn hyn? Ond fe fu cath wyllt yno rywdro. I fynd ar grwydr am eiliad; mae’r ‘gath’ mewn enwau llefydd yn aml iawn, oherwydd awydd ‘esbonwyr’ gwerin i weld brwydr, celanedd, a bedd mewn unrhyw enw, yn cael ei newid yn ‘gad’ ( brwydr ), gyda’r canlyniad i fwy nag un Rhos y Gath droi’n Rhos y Gad, gan droi cynefin y gath wyllt yn lleoliad rhyw frwydr waedlyd. Mae hynny’n wir am ddau ym Môn, Rhos y Gad yn Llanfairpwll, a’r Rhos y Gad rhwng Pentraeth a Llanbedrgoch. Mae’n hynod o ddiddorol i’r olaf gadw ei ystyr gwreiddiol ar lafar trigolion lleol, sydd, yn ddieithriad, yn ynganu’r enw fel ‘Rhosgath’. Cadwodd ei ystyr wreiddiol yng Nghwm Caseg, ac ni ddychmygwyd unrhyw frwydr yn ardal y gath

i’r cychwyn

Clogwyn yr Heliwr

Mae’r graig hon ar ochr ddeheuol Foel Grach, uwchben yr ardal ble mae’r Waun Lydan yn cyrraedd Cwm Caseg. Mae’n amlwg fod gwreiddiau’r enw mewn rhyw heliwr neu’i gilydd, boed hwnnw’n heliwr dynol, neu’n anifail o heliwr, ac yn heliwr hanesyddol, neu’n chwedlonol. Efallai, ar ryw adeg, fod anifail rheibus, neu aderyn ysglyfaethus yn gysylltiedig gyda’r clogwyn, a bod yr anifail hwnnw yn un arbennig a phenodol. Gall y dychymyg fynd yn wyllt gyda gwahanol ‘esboniadau’, ond rhaid cofio mai’r mynydd ar draws y dyffryn gyferbyn â Chlogwyn yr Heliwr yw’r Elain, ac mae Carnedd y Filiast ar draws y dyffryn.

i’r cychwyn

%d bloggers like this: