Enwau Dyffryn Ogwen

Nant Ffrancon o Ben Llyn

( MAE’R SAFLE HON WRTHI’N CAEL EI DATBLYGU. BYDDWCH YN AMYNEDDGAR, OS GWELWCH YN DDA)

 Bydd y safle hon yn edrych ar ystyron a hanes nifer o enwau yn ardal Dyffryn Ogwen. Mae Dyffryn Ogwen yn cynnwys y ddau blwyf, Llanllechid a Llandygai, yn yr hen Sir Gaernarfon, y Wynedd bresennol. Mae’r ddau blwyf gyda’r mwyaf yn y sir, gydag un bob ochr i’r afon Ogwen hyd at y llyn o’r un enw, ac yna o boptu’r Llugwy i Gapel Curig. Er fod Dyffryn Ogwen yn darfod yn dechnegol wrth y llyn, gyda Nant y Benglog a Bwlch Oleuni y tu hwnt, bydd y safle hon yn edrych ar enwau yn y ddau blwyf cyfan.

Mae Bethesda a’r pentrefi o’i gwmpas yn newydd, ond mae Llanllechid a Llandygai yn hen, ac mae nifer o’r enwau yn hen. Yn ogystal a thrafod enwau sy’n bodoli yn yr ardal heddiw, byddaf yn edrych ar nifer o enwau sydd bellach wedi diflannu, un ai oherwydd ad-drefnu ar ddaliadau yn yr ardal dros y blynyddoedd, neu i diroedd ddiflannu o dan y cannoedd o dai a adeiladwyd gyda thwf Chwarel Braich y Cafn, a diwydiannau eraill, yn enwedig o 1860 ymlaen. Bydd yr enwau yn cael eu trafod yn fanwl mewn gwahanol adrannau, megis plwyfi a phentrefi, neu ardaloedd penodol, ffermydd, tyddynnod, daliadau llai, neu ddaliadau heb dai arnynt, a chaeau unigol. Bydd yr enwau,gydag ystyron noeth, yn ymddangos yn nhref y wyddor mewn un dalen benodol.

Y gobaith ydy trafod ychydig o enwau bob wythnos.

Y bardd o’r gororau, John Donne, a ddywedodd yn yr 17eg ganrif nad yw’r un dyn yn ynys, a gwir iawn yw hynny yn fy achos i. Rydw i yn sefyll ar ysgwyddau cewri a aeth o’m blaen wrth geisio egluro enwau lleoedd, ac yn defnyddio llawer ar eu gwaith hwy wrth egluro’r enwau. Rhaid cydnabod gwaith Syr Ifor Williams,o Dregarth, Yr Athro Melville Richards, Yr Athro Bedwyr Lewis Jones, Thomas Roberts, a Glenda Carr, yn bennaf. Ni fyddwn yn dod i ben i gydnabod pob dyled yn unigol bob tro, felly ni fyddaf yn gwneud. Digon yw dweud fod erail wedi bod yn aredig a braenaru’r tir o’m blaen, ac mai o’u herwydd hwy, yn bennaf, yr wyf i’n medi.

Dafydd Fôn

Os bydd gennych sylwadau, gadewch hwy yn y blwch perthnasol. Yn ogystal, gellir fy ebostio ar

deifon@yahoo.co.uk  neu deifon@enwaudyffrynogwen,com

MAE DWY SAFWE ARALL Y GELLIR CAEL MWY O WYBODAETH AM HANES DYFFRYN OGWEN, OS OES DIDDORDEB GENNYCH.

1. SAFWE RAGOROL Dr JOHN LLYWELYN WILLIAMS A LOWRI WILLIAMS   HANES DYFFRYN OGWEN

2. SAFWE SYDD YN CAEL EI DATBLYGU AR HANES FFERMIO YN NYFFRYN OGWEN GAN DAFYDD FÔN

Cysylltu – Ffermio ym Mhlwyf Llanllechid

Enwau a drafodwyd hyd yn hyn

EWCH I’R DDALEN HON AM YSTYRON SYML ENWAU PLWYFI LLANLLECHID A LLANDYGAI,A HYNNY YN NHREFN Y WYDDOR.

Enwau’r ardal ac ystyron syml

OS HOFFECH EGLURHAD MWY MANWL AR ENW, YNGHYD A PHETH HANES Y LLE, AMBELL DRO, EWCH AR HYD UN O’R DOLENNAU ISOD

Enwau cyffredin/ generig

Enwau sy’n cychwyn efo

A    B

C  D

E   F    FF

G   H

LL  M   N   O

P    R   H

S    T

U  W  Y

Enwau ambell gae

GOBEITHIO Y MWYNHEWCH Y PORI